8 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Rwy'n edmygu gwiriondeb cyson ymateb yr Aelod i gwningod, ond edrychwch, o ran y cyfleoedd sydd ynghlwm wrth y darn hwn o dir, rydym wedi bod yn glir pam ein bod wedi bwrw iddi gyda'r pryniant. Rydym hefyd wedi bod yn glir iawn ynghylch y ffaith, fel y…
8 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Diolch am y cwestiwn. Mae diwydrwydd dyladwy ar y cynnig a ddaeth i law gan gynrychiolwyr Green Man yng nghamau olaf yr asesiad. Rwy'n disgwyl cyngor gan swyddogion ar y camau nesaf cyn diwedd mis Mawrth.
8 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Ie, rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf—ac mewn gwirionedd, pan gawsom ddigwyddiad ymgynghori, a fynychais gyda'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, â Chonsortiwm Manwerthu Prydain a Chonsortiwm Manwerthu Cymru, ac yn wir, gydag ochr yr…
8 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Wel, mewn gwirionedd, mae'r pandemig wedi gorfodi nifer o bobl i feddwl am y ffordd y maent yn gweithio, ac mewn gwirionedd, rydym i gyd yn gwybod bod nifer o fusnesau wedi gorfod mynd i mewn i'r byd ar-lein pan nad oeddent yno o reidrwydd. Wedyn roedd yn…
8 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Wel, rwy'n dod yn ôl at hyn: mae hwn yn gyfrifoldeb a gadwyd yn ôl. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am hynny. Rydym yn gweithredu am nad ydym yn credu ei bod hi'n dderbyniol i gefnu ar y bobl hyn. Uchelgais datganedig Llywodraeth y DU yw darparu mynediad i 85…
8 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Edrychwch, nid wyf yn meddwl ei bod yn arbennig o ddefnyddiol nac yn synhwyrol i geisio cymharu mater cwbl wahanol gyda'r ffordd y defnyddiwn gyllidebau Llywodraeth Cymru. Os ydych chi am gael sgwrs am faint a gallu'r lle hwn, gallem wneud hynny. O ran…
8 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Mae mynd i'r afael ag allgáu digidol yn un o brif nodau ein strategaeth, a cheir nifer o elfennau gwahanol. Ceir ein gwaith gyda Llywodraeth y DU ar y cyfrifoldeb a gadwyd yn ôl dros seilwaith. Rwyf wedi cael nifer o gyfarfodydd gyda fy swyddogion, a chyda…
8 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Byddwn i'n hapus iawn pe bai'r Aelod yn ysgrifennu ataf gyda manylion y cynllun y mae wedi'i nodi. Fel y dywedais yn fy ateb cychwynnol, mae gennym amrywiaeth o wasanaethau cymorth ar gael. Busnes Cymru yw'r drws blaen o hyd, felly os oes unrhyw un yn poeni…
8 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Diolch. Mae gwasanaeth entrepreneuriaeth ieuenctid Busnes Cymru yn annog y genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid yng Nghymru. Mae'n cefnogi uchelgais entrepreneuraidd, ac yn rhoi cyngor ymarferol er mwyn iddynt allu bwrw ymlaen â'u syniadau. Ers 2016, mae…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Strategaeth Sgiliau Sero Net
Mae honno'n amcan allweddol i'r hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud a'r cyfleoedd y mae'r Aelod yn eu tanlinellu. Rwyf i wedi dweud yn rheolaidd yn y Siambr hon nad wyf i'n dymuno gweld dim ond datgarboneiddio'r ffordd y mae pŵer yn cael ei gynhyrchu yn unig…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Strategaeth Sgiliau Sero Net
Mae'n rhan o'r pwynt ynglŷn â'r wyth sector allyriadau a'r cynlluniau gweithredu ar gyfer pob un ohonyn nhw, gan sicrhau eu bod nhw'n ymuno â nid yn unig cynllun Cymru Sero Net, ond bod gennym ni rywfaint o gysondeb a dealltwriaeth mewn gwirionedd o fewn y…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Strategaeth Sgiliau Sero Net
Ar y pwynt cyntaf, cafodd strategaeth ei chyhoeddi, mae hi ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Ac nid y camau yn unig sy'n bwysig; rwy'n credu y byddai'r Aelod yn ymddiddori rhywfaint yn yr wyth sector allyriadau, oherwydd adeiladau preswyl yw un ohonyn nhw…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Strategaeth Sgiliau Sero Net
Mae'r pwynt ynglŷn â phontio teg yn rhywbeth sydd, fel rwy'n dweud, ar feddyliau Gweinidogion i raddau helaeth iawn yn y dewisiadau yr ydym ni'n eu gwneud ynglŷn â'r cyfle, ond yr amharu hefyd, wrth i bobl symud i ffordd wahanol o weithio mewn ystod gyfan o…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Strategaeth Sgiliau Sero Net
Diolch i chi am y cwestiynau. Rwy'n credu o ran eich pwynt olaf, mae yna bwynt sy'n mynd y tu hwnt i waith safonau masnach ac sy'n ymwneud yn fwy ag achrediad gweladwy i'r cyhoedd i roi sicrwydd i bobl. Os ydych chi'n meddwl am y ffordd y mae—. Ar eich pwynt…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Strategaeth Sgiliau Sero Net
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gyhoeddi'r cynllun gweithredu sgiliau sero net heddiw. Mae'r cynllun yn gam cyntaf pwysig i ddeall swyddogaeth sgiliau wrth bontio'n deg i sero net. Mae ein huchelgeisiau sero net yn cynnwys dyfodol gwell, tecach a…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Strategaeth Arloesedd
Diolch am y cwestiynau. Eich pwynt am asedau arloesi ac enghraifft GCRE, y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd, yw'r union beth oedd gen i yn fy meddwl, rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i arwain, gwneud dewis a gweld bwlch lle nad oedd…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Strategaeth Arloesedd
Gwych. Diolch. Diolch am y ddau gwestiwn. Rwy'n credu, ar eich pwynt olaf yn gyntaf, bod cydnabyddiaeth nad yw clystyrau yn ddaearyddol yn unig; clystyrau o sectorau diwydiant a sut rydyn ni'n tynnu pobl at ei gilydd a'r cysylltedd rhyngddyn nhw hefyd—…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Strategaeth Arloesedd
Fyddwn i ddim yn dweud y bydd yn tanseilio hyder yn y sector yn angheuol. Dydw i ddim yn meddwl y bydd yn lladd popeth sy'n bodoli, ond bydd yn achosi difrod go iawn—difrod y mae modd ei osgoi hefyd. Ond y broblem yw bod dewisiadau sydd wedi'u gwneud ar lefel…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Strategaeth Arloesedd
Ar eich pwynt olaf, rhan o'n her ni yw bod y tri maes rydych chi'n sôn amdanyn nhw wedi cael syniadau newydd, maen nhw wedi cael cynhadledd o lawer o bobl, ac mae cyfalaf wedyn wedi mynd i lawer o'r syniadau newydd hynny ac mae wedi ei gadw yno. Rhan o'n her…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Strategaeth Arloesedd
Clywais lawer am y Ffindir ddoe, cyfeiriodd arweinydd Plaid Cymru at y Ffindir yn helaeth yn ei gyfraniad, ac wrth gwrs rydyn ni wedi ymddiddori yn y ffordd mae gwledydd eraill, gan gynnwys y Ffindir, wedi defnyddio arloesedd fel arf ar gyfer gwella…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Strategaeth Arloesedd
Diolch am y cwestiynau.
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Strategaeth Arloesedd
Diolch am y cwestiynau a'r sylwadau.
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Strategaeth Arloesedd
Diolch am y gyfres hir o gwestiynau. Wnaf i ddim rhoi prawf ar amynedd y Dirprwy Lywydd drwy roi ateb hir i bob un o, rwy'n credu, y 10 maes gwahanol. Edrychwch, ar y cynllun gweithredu a chyflawni, rwy'n disgwyl y bydd hwnnw'n cael ei ddarparu mewn mater o…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Strategaeth Arloesedd
Rydyn ni'n gwybod nad yw ffynhonnell draddodiadol llawer o fuddsoddiad Cymru mewn ymchwil a datblygu—hen gronfeydd strwythurol yr UE—yn bodoli bellach. Rydyn ni'n gwybod y bydd gennym ni lai o arian i fuddsoddi, a llai o reolaeth dros sut mae'n cael ei…
28 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Strategaeth Arloesedd
Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar 'Cymru'n arloesi', ein strategaeth arloesedd newydd, sydd wedi ei chyd-ddatblygu gyda'r Gweinidogion iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, addysg a'r Gymraeg ac, wrth gwrs…