24 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
A dweud y gwir, mae ein hanes o ran cynhyrchiant a gweithgarwch economaidd drwy gydol y cyfnod datganoli yn un o welliant. Yr her yw bod llawer ar ôl gennym i'w wneud i lenwi'r bwlch. Mae’n her, ac os edrychwch ar yr hyn a ddigwyddodd cyn amser Ken Skates, yn…
24 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Rydym yn asesu pob maes o berfformiad y farchnad lafur fel rhan o'r trefniadau monitro sy'n sail i'n cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau. Rydym yn parhau i gymryd amrywiaeth o gamau i geisio sicrhau bod y cymorth cywir yn cael ei ddarparu mewn modd…
24 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Credaf fod parhau i godi’r mater yma a thu hwnt yn rhan bwysig o hyn. Mae gan y Llywodraeth waith i'w wneud, ond mae'r un peth yn wir am Aelodau, gyda'ch rhwydweithiau a'ch dylanwadau lleol eich hun, a'ch busnesau hefyd. Oherwydd rhan o'r her yw pan fydd…
24 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Dyna gynnig defnyddiol ac adeiladol iawn gan Mr Fox. Edrychwch, byddwn yn dweud mai'r gwir amdani yw, pan fo busnes yn nodi bod cost i ynni a chwyddiant yn gyffredinol, ni ddylai hynny ein synnu. Ond wrth gwrs, mae'r ffigurau a gyhoeddwyd heddiw ar fwyd a…
24 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Diolch am eich sylwadau a'ch cwestiynau. Credaf ei fod yn newyddion da fod y tasglu wedi cyfarfod, gan ddod ynghyd â Llywodraeth Cymru, yr awdurdod lleol, ac yn wir, rheolwyr lleol yr Adran Gwaith a Phensiynau, sydd wedi bod yn adeiladol yn hyn. Credaf ei bod…
24 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Gyda phob parch, ni chredaf fod gradd-brentisiaethau yn berthnasol iawn i'r heriau a wynebir gan Tillery Valley Foods, nac Avara yn wir. Rydym yn meddwl am sector sy'n cael ei effeithio'n uniongyrchol gan amrywiaeth o ffactorau. Mae amodau masnachu'n…
24 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Rwy'n gadarnhaol am ddyfodol rhaglen y Cymoedd Technoleg. Mae'n bwnc rwyf wedi cael nifer o sgyrsiau uniongyrchol yn ei gylch ag Aelod etholaeth Blaenau Gwent ers imi ddechrau yn y swydd hon, am yr hyn rydym yn ei wneud, a sicrhau bod pobl yn meddwl am yr…
24 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Diolch am eich cwestiwn. Mae ein cenhadaeth economaidd, a gyhoeddwyd y llynedd, yn nodi’n glir y gwerthoedd a’r blaenoriaethau sy’n llywio ein penderfyniadau i gefnogi’r economi. Un enghraifft yw’r gwaith rydym wedi’i wneud i hyrwyddo a sicrhau buddsoddiad yn…
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Dyna'n union y buom yn ei wneud, a chawsom sgyrsiau uniongyrchol fel Llywodraeth gyda'r cyngor a chyda Tillery Valley Foods, ac unwaith eto, y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud ynglŷn â'r atebion uniongyrchol sydd eu hangen arnom i sefyllfa ariannol y…
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch am y cwestiwn dilynol. Fel y dywedais wrth ateb Alun Davies, pan fynegodd ei bryder wrthym y llynedd, fe fuom yn ymgysylltu'n uniongyrchol hefyd â'r cyngor, a oedd wedi bod yn ymwneud â'r busnes, er mwyn deall beth allai ddigwydd. Roedd hynny'n…
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Ie. Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn dilynol. Fe ddylwn gydnabod bod hwn yn faes sy'n croesi rhwng dwy adran o'r Llywodraeth wrth gwrs, gan fod yr adran fwyd yn rhan o gyfrifoldeb fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, felly rydym wedi bod yn gweithio ar draws…
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae swyddogion o Lywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent wedi bod yn ymgysylltu'n adeiladol â Tillery Valley Foods ers cryn dipyn o amser. Ein prif amcanion yw sicrhau dyfodol i'r gweithwyr, eu teuluoedd, ac…
26 Ebrill 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Wel, wrth gwrs, bydd yr Aelod wedi clywed am y gost i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i dagfeydd. Mae'n broblem yn fy etholaeth i; mae'n broblem mewn rhannau eraill o Gymru hefyd. Rwy'n credu ei bod yn od dweud ar y naill law eich bod o blaid Deddf aer glân, ac…
26 Ebrill 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Diolch am y cwestiwn, a nodaf ei fod yn debyg i'r cwestiynau a ofynnwyd gan Paul Davies. Yn unol â 'Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru' a'n cynllun cyflawni ar gyfer trafnidiaeth, byddwn yn ystyried cefnogi systemau taliadau teg a chytbwys ar gyfer…
26 Ebrill 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Nid wyf yn credu bod galw am ddatganoli Ystad y Goron yn tynnu oddi ar y cyfleoedd economaidd hynny nac yn eu rhoi mewn unrhyw berygl o gwbl. Wrth gwrs, mae Ystad y Goron wedi'i datganoli yn yr Alban. Rwy'n credu y gallwn ddysgu o'r hyn y mae'r Alban wedi'i…
26 Ebrill 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Dyna'n union—. Yr hyn y mae'r Aelod yn galw amdano yw'r union beth rwyf fi a'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi galw amdano, nid yn unig yn gyhoeddus ar sawl achlysur, ond hefyd yn ein hymgysylltiad uniongyrchol ag Ystad y Goron. Oherwydd mae'r holl gyfleoedd…
26 Ebrill 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Rydym yn credu y byddai'r buddion o Ystad y Goron yn fwy i Gymru pe bai Ystad y Goron wedi'i datganoli. Er ein bod am ei gweld wedi'i datganoli, rydym yn parhau i weithio gydag Ystâd y Goron i sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd presennol i…
26 Ebrill 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Wel, rydym wedi buddsoddi £36 miliwn o arian ychwanegol i geisio cynnal y cynnydd y gallwn ei wneud ar y lefel uchaf bosibl drwy'r cyfnod hwn, ac mae hynny o ganlyniad uniongyrchol i heriau cyllidebol. Rydym hefyd wedi cymryd rhai camau i geisio helpu i…
26 Ebrill 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Rydym wedi bod yn edrych ar weithio gyda nifer o bobl nad ydynt wedi cwblhau'r canlyniadau hynny, yn ogystal â'r darparwyr eu hunain, i ddeall y gwahanol resymau am hynny. Nawr, mae sefyllfaoedd ariannol pobl yn rhan o hynny, ond mae hefyd yn sgwrs, nid yn…
26 Ebrill 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Iawn. Edrychwch, fel bob amser, rydym yn gweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill ar ddyfodol canol trefi. Ond mae'n ymwneud hefyd ag amrywiaeth o feysydd polisi ar draws y Llywodraeth—felly, mabwysiadu agwedd 'canol y dref yn gyntaf' o…
26 Ebrill 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Iawn. Felly, ni allaf roi ymateb uniongyrchol i bob un o'r chwe maes hynny i chi. Rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod i nodi hynny mewn mwy o fanylder—y manylder y credaf y bydd am ei weld. Rydym yn parhau â’n rhaglen buddsoddi mewn trefi—ein rhaglen…
26 Ebrill 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Wel, nid yw'n bosibl cynnal asesiad economaidd o'r cynlluniau am nad oes cynnig llawn i'w asesu, ac yn ogystal â'r effaith ar yr economi, mae angen ichi ystyried y manteision i'r amgylchedd, y manteision cymdeithasol, ac yn wir, y manteision i iechyd y…
26 Ebrill 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Ydw, rwy'n cytuno. Ac mewn gwirionedd, buom yn siarad llawer am ddyfodol yr economi yng Nghymru pan oeddwn ym Mrwsel ddoe, sef y rheswm pam nad oeddwn yn y digwyddiad gydag Airbus, yn anffodus. Ond mae gennyf gysylltiadau da â’r cwmni, ac yn wir, â’r undeb…
26 Ebrill 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Wel, wrth gwrs, roedd y cytundeb masnach â Seland Newydd, fel y cytundebau masnach eraill yn wir, yn cynnwys ystod o feysydd. Ac rydym bob amser wedi bod â safbwynt cytbwys ar y ffaith bod potensial ar gyfer mwy o fasnach a gweithgarwch economaidd. Mae…
26 Ebrill 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Rydym yn gwneud cynnydd cadarn ar gyflawni ein gwarant i bobl ifanc, gyda dros 12,000 o bobl ifanc yn dechrau ar raglenni sgiliau a chyflogadwyedd ers lansio’r warant i bobl ifanc ym mis Tachwedd 2021.