20 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Mae trafodaethau prydles ynghylch dyfodol Fferm Gilestone yn parhau. Nid yw Llywodraeth Cymru yn datgelu manylion trafodaethau masnachol cyfrinachol tra'u bod yn mynd rhagddynt.
20 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Rwy'n credu y bydd y cynllun gweithredu ar gyfer manwerthu yn gwneud gwahaniaeth. Fe'i cynlluniwyd ar y cyd â'r diwydiant a Chonsortiwm Manwerthu Cymru, ynghyd ag undebau llafur, dan arweiniad yr Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol, ac mae…
20 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Diolch am y cwestiwn dilynol. Mae ein huchelgeisiau ar gyfer y stryd fawr yng Nghymru wedi'u nodi yn ein cynllun gweithredu ar gyfer manwerthu ac yn y datganiad sefyllfa ar ganol trefi. Yr hyn a ddylai wneud i ni deimlo'n fwy gobeithiol o ran yr hyn sy'n…
20 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Diolch. Rydym yn gweithio'n galed i ddarparu ein rhaglenni a'n mentrau i gefnogi'r stryd fawr, gan gynnwys yn Islwyn. Er enghraifft, mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi yn darparu £125 miliwn i awdurdodau lleol dros dair blynedd ac mae wedi'i thargedu at fynd…
20 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Wel, gadewch i mi ddechrau drwy ymateb i’r pwynt cyntaf a wnaeth yr Aelod. Ni chredaf fod lladd ar Gaerdydd yn ffordd synhwyrol o fynd ati i geisio tyfu'r economi. Ac mewn gwirionedd, yn fy ymateb, nid am Gaerdydd yn unig y soniais. Mae heriau a chyfleoedd yn…
20 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Ni fu angen inni gael ein deffro, gan ei bod wedi bod yn glir iawn ers imi ddod yn Weinidog yr Economi fod sicrhau bod pobl ifanc yn cynllunio dyfodol llwyddiannus yma yng Nghymru yn rhan o’r genhadaeth economaidd, gan gynnwys pobl ifanc o Gymru a’r bobl…
20 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Fel y gŵyr, rwyf wedi bod ar orymdeithiau yn Llundain yn y gorffennol pan oedd y cwestiwn yn fyw iawn ynghylch dewis arall yn lle rhoi'r fargen ei hun ger bron pobl. [Anghlywadwy.]—wedi helpu pobl i gyrraedd Llundain ar gyfer…
20 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Wel, y man cychwyn yw bod angen i Lywodraeth y DU gydnabod bod hwn yn faes datganoledig. Mae angen iddynt gydnabod nad erfynwyr mohonom. Mae angen iddynt gydnabod bod gennym rôl lle rydym yn gwneud penderfyniadau yn Llywodraeth Cymru, fel sydd gan y Senedd…
20 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Mae'r darlun yn amrywiol. Rhwng yr adeg pan ddeuthum yn Weinidog yr Economi a nawr, mewn rhai meysydd, rydym wedi dod i gasgliadau pragmatig lle rydym wedi gallu dod i gytundeb. Mae porthladdoedd rhydd yn un enghraifft. Fodd bynnag, mewn meysydd eraill, rydym…
20 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Diolch. Er bod y rhaglenni hyn yn gweithredu mewn meysydd datganoledig, gwrthodwyd rôl ystyrlon i Lywodraeth Cymru yn y broses o'u cynllunio a’u rhoi ar waith gan Lywodraeth y DU. Rydym yn gweithio gyda’n rhanddeiliaid yng Nghymru i leihau effaith yr hyn sydd…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Diwydiant Dur
Mae hwn yn bwynt y soniais i amdano yn gynharach mewn ymateb i John Griffiths, rwy'n credu, ond rwy'n hapus i wneud y pwynt unwaith eto. Yn agos at ddechrau fy natganiad, roeddwn i'n cyfeirio at y mannau y caiff dur ei gynhyrchu ynddyn nhw, sut caiff ei…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Diwydiant Dur
Rwy'n fwy na pharod i roi'r ymrwymiad hwnnw, oherwydd yn y sgwrs a gefais gydag ochr yr undeb llafur, y cyfarfod a gefais pan oeddwn i dramor ar y dydd Gwener—cawsom gyfarfod cynnar bryd hynny—a'r cyfarfodydd rwyf wedi'u cael ddoe a heddiw, rydyn ni'n glir…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Diwydiant Dur
Rwy'n cydnabod y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud ac, yn wir, cyfeiriais at effaith bosibl iechyd meddwl digwyddiad diswyddo ar raddfa fawr ac uniongyrchol, a'r hyn y byddai hynny'n anochel yn ei wneud ar draws y boblogaeth o bobl a allai golli eu swyddi…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Diwydiant Dur
Mae'n her allweddol, ac, fel y dywedais i, ein safbwynt ni a'n pwynt terfyn dewisol bob amser yw hyn. Ac, mewn gwirionedd, o ochr yr undeb llafur, maent wedi ymgysylltu'n ystyrlon â sut fyddai pontio teg yn edrych o ran datgarboneiddio'r sector. Maent wedi…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Diwydiant Dur
Rwyf wedi cael y cyfle eisoes i ymweld â Shotton gydag Undeb Unite, a Jack Sargeant yr Aelod dros yr etholaeth. Ein dealltwriaeth gychwynnol yw bod llai o bryder am Shotton nag am gyfleusterau cynhyrchu dur eraill, ond mae angen sicrwydd ar hynny. Bydd cael…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Diwydiant Dur
Diolch. Mae'n bwynt pwysig ynghylch rhai o fanylion y gadwyn gyflenwi ehangach. Ar gyfer Llanwern, ac yn wir Trostre, gyda dur yn cael ei ddarparu ar hyn o bryd o Bort Talbot, nid yw'n glir y gallwch wneud hynny mewn ffordd lwyddiannus ac angenrheidiol drwy'r…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Diwydiant Dur
Rwy'n credu bod dau bwynt i'w gwneud mewn ymateb. Fel yr wyf eisoes wedi dweud ar sawl achlysur, rwy'n cydnabod bod y pryder sydd gan bobl yn real iawn, ac nid yw'n mynd i ddiflannu'n gyflym, oherwydd, mewn gwirionedd, dim ond ar fin dechrau y mae'r…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Diwydiant Dur
Wel, gyda pharch, mae'r Aelod wedi ceisio priodoli barn i mi nad oes gennyf ac nad wyf wedi'i nodi. Rwy'n credu y dylai wrando'n fwy gofalus a chydnabod difrifoldeb y mater. Mae naws ei sylwadau yn siomedig iawn. Mae hwn yn gyhoeddiad cymysg. Mae sicrwydd…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Diwydiant Dur
Rwy'n cydnabod ymrwymiad hirdymor yr Aelod nid yn unig i'r sector yn ei etholaeth, ond y pwyntiau ehangach y mae'n eu gwneud am bwysigrwydd dur i ddyfodol yr economi. Rwyf hefyd yn cydnabod y pwyntiau y mae'n eu gwneud yn rymus am y pryder ynghylch y dyfodol…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Diwydiant Dur
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau, ac rwy'n cytuno â byrdwn eang sylwadau'r Aelod ar ble rydym ni. Byddech yn disgwyl y byddai Aelodau Llafur Cymru, nid Gweinidogion yn unig, yn sefyll mewn undod â'r cymunedau yr ydym yn eu cynrychioli, gyda sector yr ydym…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Diwydiant Dur
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Rwy'n credu mai'r prif bwynt yma yw ein bod yn cydnabod yn Llywodraeth Cymru, fel y mae'r sector yn cydnabod ac, yn wir, mae undebau llafur dur yn cydnabod, yr angen i bontio i ddatgarboneiddio'r ffordd y cynhyrchir dur…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Diwydiant Dur
Llywydd, byddai penderfyniad cynharach wedi caniatáu pontio tecach mewn diwydiant cryf. Rydym wedi bod yn annog Llywodraeth y DU ers tro i ddarparu'r cyd-fuddsoddiad sylweddol sydd ei angen i gefnogi'r symudiad i ddulliau mwy gwyrdd o gynhyrchu dur. Yn erbyn…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Diwydiant Dur
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae angen diwydiant dur llwyddiannus ar economi gref. Mae Llywodraeth Cymru yn uchelgeisiol o ran dur a'r rhan annatod y bydd yn ei chwarae wrth bontio i sero net. Bydd y pontio hwnnw'n cefnogi'r galw cryf a pharhaol am ddur ar gyfer…
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Wel, nid yw'n wir fod gennyf agwedd ddi-hid tuag at arian cyhoeddus. Mae'r Aelod yn gwybod nad yw hynny'n wir, ond unwaith eto, ac nid dyma'r tro cyntaf, mae'n barod i ddweud pethau y mae'n gwybod nad ydynt yn wir. Ar gysylltiadau â phleidiau gwleidyddol a…
12 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Yn 2016, pan ddarparwyd yr adroddiad hwnnw, ymdriniwyd ag ef gan y tîm gweinidogol ar y pryd. Rwyf bellach wedi bod yn ymdrin â'r gwaith o gau'r gronfa, a'r trefniadau sydd gennym ar waith a'r gwersi sydd angen eu dysgu ynglŷn â'r hyn y gallem ei wneud i…