2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Aelod yn iawn—mae'n rhaid cael partneriaeth, partneriaeth rhwng y Llywodraeth, awdurdodau lleol a thrigolion, ac i Cyfoeth Naturiol Cymru chwarae eu rhan yn hyn. Rydym ni wedi cael heriau gwirioneddol o ran ein cyllidebau cyfalaf. Er gwaethaf hynny…
2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, materion i awdurdodau lleol eu datrys yw'r rhain. Rwy'n bryderus o glywed am y digwyddiad y mae'r Aelod yn ei adlewyrchu. Yn amlwg, nid dyna'r holl dystiolaeth yn y mater a dywedodd yr Aelod bod cwyn yn cael ei chodi yn ei gylch. Yr hyn yr ydym ni'n ei…
2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn dilynol, a dim ond nodi bod hon wedi bod yn nodwedd reolaidd mewn cwestiynau gan yr Aelod—rwy'n credu bod chwe chwestiwn llafar a thri chwestiwn ysgrifenedig ar y mater hwn—gan wneud yn siŵr ei fod yn parhau i bwyso'r achos…
2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Os caf i, cyn i mi ymateb, Llywydd, groesawu Jack Sargeant yn ôl o absenoldeb tadolaeth, a llongyfarchiadau ar ddechrau eich taith fel rhiant. Gobeithio bod gennych chi ddigon o gwsg yn y banc. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'n hawdurdodau lleol…
25 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Gwnaf, gallaf roi'r sicrwydd hwnnw i chi. Rwy'n credu bod yna—. Ar eich tri phwynt ehangach—. O ran cyflwyno brechlyn y ffliw, gallwn ni roi'r sicrwydd hwnnw i chi. Rydyn ni'n gwybod bod angen i ni fod â model nad yw'n tanseilio'r hyn y mae gwasanaethau…
25 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Ym mis Chwefror, buddsoddodd Llywodraeth Cymru £20 miliwn mewn gwasanaethau meddygon teulu, ochr yn ochr â buddsoddiad arall y llynedd mewn gwasanaethau gofal sylfaenol ehangach i gefnogi meddygon teulu a'u timau. Bydd cyllid ar gyfer 2024-25 yn cael ei…
25 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch. Hoffwn i longyfarch y South Wales Argus am dynnu sylw at ragoriaeth mewn addysg ac, yn arbennig, yr holl ysgolion a staff hynny a gafodd eu henwebu. Rwy'n gobeithio y byddan nhw'n mwynhau nid yn unig y noson, ond gobeithio y bydd yn parhau i fod yn…
25 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Yn Islwyn mae rhai enghreifftiau gwych o ysgolion yn rhannu arfer gorau i wella dysgu a chyrhaeddiad addysgol. Yn dilyn yr adolygiad diweddar o drefniadau gwella ysgolion, rydyn ni'n datblygu dull newydd a fydd yn rhoi mwy o ddylanwad i arweinwyr ysgolion i…
25 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn ac am dynnu sylw at arolwg costau byw'r Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol. Rwy'n mynd yn ôl at rai pwyntiau y gwnes i yn gynharach: mae prisiau bwyd yn dal i fyny 31 y cant o'u cymharu â thair blynedd yn ôl…
25 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae ymchwil a dadansoddi wedi dangos bod cymunedau ledled Cymru wedi wynebu'r gostyngiad mwyaf mewn safonau byw ers i gofnodion ddechrau o ganlyniad i'r argyfwng costau byw. Mae'r dadansoddiad hwn wedi llywio sut mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu ei…
25 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae dau bwynt. Y cyntaf, fel arfer, yw mai materion landlordiaid a thenantiaid preifat yw'r rhain, ond mae gen i ddiddordeb, yn enwedig os oes gan yr Aelod rai enghreifftiau, o ran sut olwg fyddai ar hynny, fel y gallaf gael trafodaeth â Lesley Griffiths, sef…
25 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu bod angen i ni ddechrau gyda'r cyd-destun cyllido yr ydyn ni'n gweithredu ynddo ac yna edrych ar yr hyn yr ydyn ni'n ei wneud yn rhagweithiol i gefnogi lleoliadau cerddoriaeth. Nid oes modd i chi osgoi—yn enwedig fel Aelod Ceidwadol—y gwirionedd…
25 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae Cymru Greadigol yn canolbwyntio ar y sector cerddoriaeth fasnachol, gan ddarparu cefnogaeth ar gyfer seilwaith fel lleoliadau llawr gwlad hyd at gymorth artistiaid. Mae hyn wedi cynnwys noddi digwyddiadau sy'n cael eu cynnal mewn lleoliadau yng Nghymru a…
25 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu bod yr Aelod yn codi pwynt pwysig. Cyn bywyd yn y lle hwn roeddwn i'n gyfreithiwr cyflogaeth. Fe wnes i gynnal achosion ar gyfer chwythwyr chwiban. Diwygiodd Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 hawliau cyflogaeth; rhoddodd hawliau i chwythu'r…
25 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r ddeddfwriaeth sy'n amddiffyn gweithwyr sy'n chwythu'r chwiban yn fater a gedwir yn ôl. Rydym ni'n gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol i hyrwyddo arferion da. Mae ein cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol yn gofyn i sefydliadau ymrwymo i bolisi…
25 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch. Rwy'n credu bod dau bwynt i'w gwneud. Y cyntaf yw, pan fyddwch chi'n cyflwyno system newydd, mae bob amser yn bosibl y bydd heriau, ac, wrth gwrs, rydych chi wedi cael profiad uniongyrchol ohono ar y rheng flaen fel aelod o'r cabinet, wrth geisio…
25 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Un o'n llwyddiannau sylweddol yn ystod cyfnod datganoli yw'r gwelliant sylweddol a wnaed o ran ailgylchu. Soniais yn gynharach am y ffaith bod 95 y cant o'n gwastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi ar drothwy datganoli. Mae honno'n system gwbl anghynaliadwy…
25 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur yn dasg hanfodol i'r Llywodraeth hon, heddiw ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rhoddaf dair enghraifft yn unig i'r Aelod o gamau yr ydym ni'n eu cymryd neu yr ydym ni wedi eu cymryd: mae ein gwelliant…
25 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, a dweud y gwir, rwy'n edrych ymlaen at Ganghellor Llafur sy'n rhan o Lywodraeth Lafur nesaf y DU, os bydd pleidleiswyr yn pleidleisio dros y Llywodraeth honno yma yng Nghymru ac ar draws gweddill y Deyrnas Unedig yn wir. Nid yn unig y mesurau…
25 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Eto, pan fyddwch chi'n dychwelyd i ble'r ydym ni, mae lleihau tlodi plant yn rhywbeth y mae gennym ni hanes balch ohono yn ein Llywodraeth Lafur ddiwethaf yn y DU. Cafodd dros 0.5 miliwn o blant eu codi allan o dlodi trwy ddewisiadau bwriadol a wnaed gan…
25 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu bod tri phwynt y byddwn i'n eu gwneud. Y cyntaf yw bod y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn cydnabod bod angen meddwl nid yn unig am drethiant ond twf yn yr economi, sy'n her wirioneddol. Os ydych chi'n mynd i neilltuo cymaint o werth i'r hyn y…
25 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu, wrth edrych ar dystiolaeth, ei bod hi'n bwysig bod y bobl sydd â chyfrifoldeb am wneud hynny yn edrych ar beth bynnag yw'r dystiolaeth, fel y dywedais. Mae angen i'r rheoleiddwyr, ble bynnag y maen nhw, weithredu'n ddiduedd, ar sail y dystiolaeth…
25 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu bod dau neu dri mater yn y fan yna i ymateb iddyn nhw. Y cyntaf yw, ar weithrediad y safle, mae camau'n cael eu cymryd, ac rydych chi'n ymwybodol o hynny o ran Iechyd Cyhoeddus Cymru, y cyngor y maen nhw wedi ei roi, y monitro priodol o'r hyn sy'n…
25 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i'r Aelod am y ddau gwestiwn yna. Mae'n bwysig rhoi un neu ddau o faterion ar y cofnod. Y cyntaf yw i ddychwelyd i'r adeg y gofynnwyd am y datganiad o sicrwydd gan uwch swyddog Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Roedd hynny…
25 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Felly, er mwyn osgoi amheuaeth, rwy'n tynnu sylw eto at fy nghofrestr o fuddiannau. O ran y camau y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu cymryd yn Withyhedge, rwyf i wedi bod yn eglur iawn yn y Siambr hon a thu hwnt bod angen iddyn nhw weithredu fel y…