5 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiadau 90 Eiliad
Diolch, Lywydd. Mae Clwb Rygbi Trebannws yn dathlu ei ben-blwydd yn 125 oed. Yn ystod hanner cyntaf ei hanes hir o fod wrth galon ei gymuned yng Nghwm Tawe, chwaraeodd y clwb ran weithgar mewn cystadlaethau lleol. Cofnodwyd un o'i rowndiau terfynol cwpan…
4 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r newyddion yn peri pryder mawr, wrth gwrs, ac roedd y peth yr ydych chi wedi'i awgrymu yna, yn eich ateb i Tom Giffard, yn ymwneud â'r sioc, ac fe wnaeth arweinydd cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David, hefyd ategu'r sioc honno. Mae'n syndod mawr i mi…
28 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, '60%—Rhoi llais iddyn nhw: Anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y system cyfiawnder ieuenctid'
Chwe deg y cant, ac fel rŷn ni wedi clywed, lleiafswm yw hynny. Mae lleiafswm o 60 y cant o'r plant a phobl ifanc sydd yn y system cyfiawnder troseddol ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, a gall fod cymaint â 90 y cant. Mae'r ystadegyn yma yn ganolog…
27 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Diweddariad ar ddeddfwriaeth amgylchedd bwyd iach
Mae cyfradd uchel gordewdra, yn enwedig ymhlith plant, a’i effaith ar iechyd yn fater o bwys cenedlaethol ac yn achosi straen ar y gwasanaeth iechyd, fel rŷn ni wedi clywed, ond mae angen i'r Llywodraeth fynd i'r afael â gordewdra mewn ffordd holistig, gan…
27 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol
Diolch, Brif Weinidog. Mae'r gair 'tlodi' ar goll o'ch datganiad. Dylai ddileu tlodi bod yn sail i holl raglen y Llywodraeth, neu dŷ ar dywod fydd pob Deddf a Mesur. Mae'r lefelau annerbyniol presennol o dlodi yng Nghymru yn creithio ein plant, ac, yng…
21 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Bydd Plaid Cymru, yn sicr, yn cefnogi’r galwadau hynny ac yn ymuno â chi yn y galwadau hynny i fynd i’r afael â’r anghyfiawnderau hanesyddol hyn. Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am gyflwyno’r cwestiwn pwysig hwn. Yfory, byddaf yn ymuno â Chymdeithas Pobl…
21 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
Diolch, Weinidog. Mae Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan wedi gwneud pwynt mwy cyffredinol am y cynllun—mae'n tynnu sylw at ddiffyg manylder yn y cynllun yn gyffredinol, ac yn cyfeirio at esiampl yr ymrwymiad, er enghraifft, ar gostau gofal plant a…
21 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
Mae Plaid Cymru yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi lansio strategaeth tlodi plant ddiwygiedig yr wythnos hon, rhywbeth rydym wedi bod yn galw amdano ers peth amser, ac mae'n wyth mlynedd ers cyhoeddi'r strategaeth ddiwethaf wrth gwrs. Mae data a…
21 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
Diolch, Llywydd. Prynhawn da, Weinidog.
20 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon
Mae Plaid Cymru wedi lleisio ein condemniad llwyr o'r Bil Mudo Anghyfreithlon hwn lawer gwaith, yn y fan yma ac yn nau dŷ Senedd y DU, ac unwaith eto, byddwn yn honni ei fod yn anghyfreithlon yn sicr, gyda sefydliadau hawliau dynol yn cytuno'n llwyr, fel yr…
20 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil
Hoffwn i ddatgan budd bod fy ngŵr yn gyflogedig gan Brifysgol Abertawe. Diolch am y datganiad, Weinidog. Mae'n destun llawenydd; mae wedi bod yn daith hir nes cyrraedd y pwynt yma, o feddwl y gofynnwyd i'r Athro Hazelkorn gynnal adolygiad o addysg a…
20 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Y Rhaglen Cartrefi Clyd
Fel fy nghyd-Aelodau, dwi wedi bod yn disgwyl yn eiddgar ac yn aros yn llawer rhy hir am y datganiad hwn am raglen Cartref Clyd nesaf y Llywodraeth. Felly, rwy'n ddiolchgar i gael y cyfle byr yma—trueni ein bod ni ddim yn gallu cael mwy o amser i drafod y…
19 Mehefin 2023 , Equality and Social Justice Committee
Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: sesiwn dystiolaeth 6
Diolch. Jest un cwestiwn bach i orffen. Gan feddwl am beth rŷch chi newydd ei ddisgrifio fel natur tymor hir y gwaith yma, a'r deilliannau fydd yn dod o'r gwaith yma, meddwl wedyn am yr addysg rhyw a chydberthynas—mae e mewn ysgolion cynradd a bydd e'n bwnc…
19 Mehefin 2023 , Equality and Social Justice Committee
Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: sesiwn dystiolaeth 6
Ôce. Diolch. Wedyn, o ran meddwl am y Cwricwlwm i Gymru newydd, sydd, wrth gwrs, yn rhoi cyfleoedd newydd i ysgolion integreiddio ymdrechion i atal trais ar sail rhywedd yn y cwricwlwm, wrth gwrs, dyw'r cwricwlwm ddim yn mynd i gael ei gwblhau o ran cael ei…
19 Mehefin 2023 , Equality and Social Justice Committee
Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: sesiwn dystiolaeth 6
Gan bwy?
19 Mehefin 2023 , Equality and Social Justice Committee
Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: sesiwn dystiolaeth 6
Ond mae hyn yn cael ei edrych arno, roeddech chi'n sôn, ie?
19 Mehefin 2023 , Equality and Social Justice Committee
Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: sesiwn dystiolaeth 6
Ac o ran data, pa ddata dylem ni fod yn gofyn i Lywodraeth Cymru ei gasglu a'i gyhoeddi ar drais ar sail rhywedd a fyddai'n gallu ein helpu ni wedyn i olrhain y newidiadau yma dros amser ar lefel ysgol, ar lefel awdurdod lleol, ac ar lefel genedlaethol? A…
19 Mehefin 2023 , Equality and Social Justice Committee
Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: sesiwn dystiolaeth 6
Diolch, Cadeirydd. Ie, dwi eisiau gofyn cwpl mwy o gwestiynau ynglŷn â'r dull ysgol gyfan. Rŷch chi newydd sôn am sut i sefydlu’r diwylliant yna sy'n sylfaen ar gyfer y dull ysgol gyfan. Sut ydyn ni'n gallu sicrhau monitro effeithiol o'r cynnydd yn y dull…
14 Mehefin 2023 , Children, Young People, and Education Committee
Papur i’w nodi
Dwi'n cytuno â'ch sylwadau, Gadeirydd. Hoffwn i ddiolch hefyd i'r bobl sydd wedi ysgrifennu i mewn. Mae'n amlwg bod yna lot o bryder yn y gymuned ymhlith y rhai sy'n dewis addysgu eu plant o adref, a beth oeddwn i'n pryderu ynglŷn â fe wrth ddarllen yr…
14 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg—'Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch'
Hoffwn i ddatgan budd, sef bod fy ngŵr yn gyflogedig gan Brifysgol Abertawe ac yn aelod o UCU. Hoffwn i hefyd adleisio’r diolchiadau sydd wedi cael eu gwneud. Roedd hwn yn ymchwiliad amserol a dadlennol o’r heriau unigryw mae myfyrwyr yn eu hwynebu o ran eu…
14 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)—Ymgyrch Warm This Winter
Hoffwn ddiolch i Hefin am gyflwyno'r ddadl Aelodau a hefyd i Bethan Sayed am ei holl waith—ein cyn gyd-Aelod yma ar feinciau Plaid Cymru wrth gwrs. Ac rwy'n falch o fod yn un o gefnogwyr y cynnig, ac mae Plaid Cymru yn cefnogi'r cynnig yn llwyr, gan ei fod yn…
14 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)—Ymgyrch Warm This Winter
Na. Rwy'n aros amdano.
13 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus
Mae trais yn erbyn menywod yn endemig yng Nghymru a Lloegr ac ar draws y byd. Mae'n werth ailadrodd y ffigurau cywilyddus, brawychus ar bob cyfle, sef bod un o bob tair menyw yn profi trais ar sail rhywedd, a bod 71 y cant o fenywod yn y Deyrnas Gyfunol wedi…
13 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Wythnos Ffoaduriaid, 19-25 Mehefin—Tosturi
Hoffwn ddweud fy mod i, a Phlaid Cymru, yn cytuno'n llwyr â'r sylwadau a wnaed gan y Gweinidog ynglŷn â'r ffaith nad ystadegau na phwnc ar gyfer y cyfryngau yw ceiswyr lloches a ffoaduriaid ond pobl, sydd i gyd wedi cael siwrneiau a phrofiadau anodd. Nhw yw…
12 Mehefin 2023 , Equality and Social Justice Committee
Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: sesiwn dystiolaeth 5
Na, diolch yn fawr. Jest i ddweud 'amen' i'r pwynt diwethaf yna.