10 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Canlyniadau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel mae Plaid Cymru wedi nodi yn flaenorol wrth ymateb i'r canlyniadau PISA diweddaraf, mae’n bwysig inni fyfyrio ar ac ystyried y goblygiadau o ddifrif. Y pwynt canolog i'w gadw mewn cof yw mai nod PISA yw cynorthwyo Llywodraethau i…
10 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Amser rhoi diwedd ar dlodi plant: sut y gall Cymru wneud yn well'
Fe wnaf. Gwnewch y penderfyniadau dewr, beiddgar a radical sy'n anodd yn wleidyddol—gwnewch nhw—os ydych chi am ddileu tlodi plant, yn hytrach na dim ond ei reoli.
10 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Amser rhoi diwedd ar dlodi plant: sut y gall Cymru wneud yn well'
'Nawr, gwn fod Llywodraeth Cymru yn dweud bod ei phwerau'n fwy cyfyngedig na phwerau Senedd yr Alban a Llywodraeth yr Alban, ond os credwn nad oes unrhyw beth y gall Llywodraeth Cymru neu Senedd Cymru ei wneud i leihau tlodi yng Nghymru, buaswn yn rhoi'r…
10 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch, Weinidog. Yr wythnos diwethaf, bu’n rhaid i saith ward yn Ysbyty Treforys gau oherwydd achosion o norofeirws, COVID, ffliw a C. difficile, ac roedd yr heintiau yn lledu i’r fath raddau fel y bu’n rhaid i’r ysbyty gau i ymwelwyr am chwe diwrnod. Dim…
10 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
4. Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod gan bobl sy'n byw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe hyder mewn gwasanaethau iechyd lleol? OQ60457
10 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Diolch, Weinidog. Mae’n dda clywed hynny, gan fod llawer o bobl yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli yn wynebu blwyddyn newydd ofnadwy o anodd. Wrth i’r gweithwyr a gyflogir yn Tata Steel, eu teuluoedd, y rhai yn y dref a’r cymunedau cyfagos edrych tua'r…
10 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog yr Economi
1. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar y posibilrwydd o golli swyddi yn Tata Steel ym Mhort Talbot? OQ60456
9 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Adolygiad Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru o ddiwylliant a gwerthoedd
Mae'n galed darllen yr adroddiad hwn, ac rwy'n gwerthfawrogi'r ymateb di-flewyn-ar-dafod a gawsom ni gan y Llywodraeth heddiw. Mae'r dystiolaeth gan aelodau staff yn dorcalonnus ar adegau, ond maen nhw'n hanfodol wrth dynnu sylw at yr ymddygiadau, arferion a…
13 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil ar reoleiddio casglwyr dyledion
—a'r hyn sydd angen ei sicrhau yw atal y grwpiau hyn rhag syrthio i fagl ddyled yn y lle cyntaf. Mae'n rhaid inni ofyn i'n hunain am faint yn rhagor y gwnawn ni dderbyn y sefyllfa anghynaliadwy yma, yr undeb anghytbwys sy'n achosi bod incwm gormod o bobl yn…
13 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil ar reoleiddio casglwyr dyledion
Rwy'n ddiolchgar i Jack Sargeant am ddod a'r cynnig hwn gerbron y Senedd ac rwy'n gobeithio y bydd yna gefnogaeth unfrydol iddo. Mae Plaid Cymru yn cefnogi'r galwadau hyn er mwyn sicrhau nad yw rhai o bobl fwyaf diamddiffyn ein cymdeithas yn wynebu niwed…
13 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil ar reoleiddio casglwyr dyledion
Rwy'n credu os gallwch ddeddfu bod Rwanda yn wlad ddiogel, mae'n debyg y gallwch ddod o hyd i ffordd o ddeddfu i amddiffyn pobl fregus.
13 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
Diolch, Weinidog. Oes, mae gwaith da yn mynd rhagddo. Gwelsom hynny yn ymchwiliad ein pwyllgor. Ond buom hefyd yn trafod y rheswm pam fod arnom angen targedau a cherrig milltir i fesur cynnydd, i fesur llwyddiant, ac mae’r alwad hon a wnaethom yn ein dadl yr…
13 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
Diolch, Lywydd. Yn ddiweddar, cyflwynodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, yr wyf yn aelod ohono, ei adroddiad ar strategaeth tlodi plant ddrafft y Llywodraeth. Y dyfarniad unfrydol, fwy neu lai, gan y rheini a roddodd dystiolaeth i ni oedd…
12 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Trefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrraeth ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Mae tua 3,500 o fabanod yn cael eu geni yn ardal bwrdd iechyd bae Abertawe, ac mae 95 y cant ohonynt yn cael eu geni yn Singleton, lle cafodd fy nau blentyn eu geni. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan i sicrhau bod gwasanaethau…
6 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Cynyddu'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus: Pam y dylai pobl ifanc gael teithio am ddim
Yn ddiweddar, cysylltodd trigolion o ardal Fairyland yng Nghastell-nedd â mi, i ddweud eu bod wedi colli eu bws ysgol ers dechrau'r flwyddyn academaidd hon. Er nad yw'r pellter rhwng Fairyland ac Ysgol Gyfun Cefn Saeson yn fawr iawn, mae'n serth iawn, i fyny…
6 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Cynyddu'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus: Pam y dylai pobl ifanc gael teithio am ddim
Hoffwn i ddiolch yn fawr i Heledd Fychan am ddod â'r ddadl bwysig hon i'r Senedd. Mae fy nhudalen Facebook i yn llawn o negeseuon gan rieni sy'n poeni am y ffaith nad ydyn nhw'n gallu fforddio trafnidiaeth i'w plant.
6 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Tlodi tanwydd
Nid dyna rwy'n ei ofyn. Nid yw Nyth yr un peth ag iteriad newydd y rhaglen Cartrefi Clyd.
6 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Tlodi tanwydd
A gaf fi gymryd o'r hyn rydych chi newydd ei ddweud eich bod yn rhoi sicrwydd y bydd iteriad newydd y rhaglen Cartrefi Clyd yn weithredol erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf?
6 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Tlodi tanwydd
A wnewch chi dderbyn ymyriad, Weinidog?
6 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Tlodi tanwydd
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
6 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Tlodi tanwydd
Nod cynllun Llywodraeth Cymru 'Trechu tlodi tanwydd 2021 i 2035' yw sicrhau bod nifer yr aelwydydd yng Nghymru sy'n byw mewn tlodi tanwydd yn gostwng i 5 y cant erbyn 2035. Mae'r ffigurau y tynnais sylw atynt yn dangos ein bod yn bell iawn o gyrraedd y nod…
6 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Tlodi tanwydd
Cynigiaf y cynnig. Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n meddwl bod pawb yn y Siambr hon yn gytûn na ddylai neb yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain fod mewn sefyllfa lle mae cadw eu cartref yn dwym yn rhywbeth anfforddiadwy, ond dyma'r realiti ar gyfer bron i hanner…
5 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl
Un o amcanion diwrnod rhyngwladol pobl anabl yw ystyried sut y dylid cefnogi urddas, hawliau a llesiant pobl anabl. Mae nodi'r diwrnod i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo cynhwysiant ym mhob agwedd ar fywyd yn dal i fod mor bwysig, degawdau ers lansio'r diwrnod…
5 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Canlyniadau PISA 2022
Diolch am roi datganiad, Gweinidog. Un pwynt o eglurder: mi wnaethoch chi sôn wrth Heledd Fychan, yn eich ateb iddi hi, nad dyma’r perfformiad gwaethaf o ran canlyniadau PISA, er bod y BBC yn adrodd hynny, a'r ffigurau’n dweud hynny, o ran maths a darllen a…
4 Rhagfyr 2023 , Equality and Social Justice Committee
Ymchwiliad i weithrediad 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol': Sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog
Diolch, Gadeirydd.