14 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Hoffwn i ofyn am ddatganiad am y Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol ym Mhlas Menai yn fy etholaeth i, os gwelwch yn dda. Bron 18 mis yn ôl, mi wnes i godi pryderon wrth i reolaeth o'r ganolfan bwysig yma gael ei hallanoli. Ers hynny, dwi wedi bod yn tynnu sylw…
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Trafnidiaeth Cymru
Dy ferch, etholwyr di-rif yn dod ataf i yn dweud hynny—eu bod nhw wedi cael profiadau mor ddiflas na fyddan nhw'n mentro mynd ar y trên eto. Dwi'n dal ati. Dwi'n ffyddiog bod pethau yn mynd i wella, ond mae angen gwirioneddol rŵan rhoi'r ymdrech fawr yna i…
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Trafnidiaeth Cymru
Iawn.
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Trafnidiaeth Cymru
Mae trenau wedi bod yn rhan o fy mywyd i erioed, o wneud cacennau mwd wrth y lein oedd yn mynd reit drwy ganol fy mhentref, i deithio ar y trên olaf aeth ar y lein honno ar ddiwedd y 1960au, pan ddaeth bwyell Beeching. Camgymeriad enfawr oedd gweithred…
18 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mi gefais i gyfarfod efo meddygon a staff meddygfa Waunfawr i drafod yr oedi efo datblygu’r feddygfa newydd. Maen nhw, fel fi, yn siomedig iawn nad oes unrhyw gynnydd efo’r cynllun hwn, sydd, fel y gwyddoch chi, ar y gweill ers blynyddoedd. Roedd o’n un o’r…
18 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol meddygfa Waunfawr yn Arfon? OQ60097
17 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae adroddiad y grŵp arbenigol ar yr argyfwng costau byw yn cynnwys argymhellion pwysig ac ymarferol ar gyfer lliniaru tlodi plant, mater sy'n effeithio pob cymuned yn Arfon ac un o'r materion ddylai fod yn gyrru gwaith pob gwleidydd sy'n blaenoriaethu…
17 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
7. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y bydd y Llywodraeth yn ymateb i adroddiad y grwp arbenigol ar yr argyfwng costau byw o safbwynt lliniaru tlodi yn Arfon? OQ60096
11 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Cyllid canlyniadol HS2
Hoffwn i gymryd y cyfle heddiw i siarad ar ran pobl Arfon. Mae'r etholaeth dwi'n freintiedig iawn i'w chynrychioli'n dioddef yn fawr oherwydd cysylltiadau trafnidiaeth annigonol, ac mae'r un peth yn wir am etholaethau ar draws Cymru: mae diffyg opsiynau…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Am y tro cyntaf erioed, mae modd gwneud cais ar gyfer cwrs is-raddedig yn ysgol feddygol newydd Prifysgol Bangor—newyddion ardderchog a fydd yn arwain maes o law at wella gwasanaethau iechyd yn y gogledd. Mae cynlluniau ar waith i greu ysgol fferylliaeth ym…
4 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
10. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog yn eu cael efo’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am gynlluniau datblygu’r gweithlu iechyd yn Arfon? OQ60015
27 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Asedau cymunedol
Yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhen Llŷn, fe lansiwyd Cymunedoli Cyf, sef rhwydwaith cymunedol newydd efo'r bwriad o ysbrydoli a chynnig cyngor i unrhyw un sydd am weithredu ar lefel gymunedol. Yn ei hanfod, y nod ydy grymuso cymunedau, annog a chefnogi…
13 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
Mae yr adroddiad gan y Sefydliad Bevan, a gomisiynwyd gan yr Aelod Seneddol Hywel Williams, Plaid Cymru Arfon, mae o'n cyfeirio at y ffaith bod yna bremiwm costau byw yn bodoli i bobl mewn cymunedau gwledig yn Arfon. Hynny ydy bod y sefyllfa sydd yn anodd…
13 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
6. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddelio efo’r premiwm costau byw sy’n wynebu trigolion mewn cymunedau gwledig yn Arfon, fel sydd wedi ei amlygu mewn adroddiad diweddar gan Sefydliad Bevan? OQ59879
5 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch yn fawr. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn hybu teithio llesol i ysgolion gan ddisgyblion sy'n byw mewn cartrefi gwledig, lle mae cyrraedd yr ysgol ar droed neu ar feic yn rhy beryg oherwydd fod y ffyrdd yn gul ac yn anaddas ar gyfer eu lledu ac ar…
5 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
7. Pa gefnogaeth sydd ar gael i ysgolion gwledig yn Arfon sydd yn ceisio annog mwy o deithio llesol i’r ysgol? OQ59803
14 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiadau 90 Eiliad
'Chi oedd ein tywysoges olaf, ond nid ein tywysoges a gollwyd. / Mae eich olion traed ar ein llwybr creigiog o hyd. / Goroesi yw sgil arbennig ein cenedl, / A dim ond hogi ein balchder ystyfnig y mae amser.'
14 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiadau 90 Eiliad
Yr wythnos yma, rydym ni'n nodi marwolaeth y Dywysoges Gwenllian. Fe'i ganwyd yn 1282, blwyddyn bwysig iawn yn hanes Cymru. Pan oedd hi ond ychydig fisoedd oed, fe laddwyd ei thad, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog olaf Cymru, gan fyddin Edward I o Loegr. Roedd…
14 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Diolch yn fawr. Mae swyddfeydd y Llywodraeth ym Mhenrallt yn wag ers dwy flynedd, ac mae'r cyngor a chymdeithas dai leol yn awyddus i ddefnyddio'r adeilad ar gyfer cynnig llety dros dro i bobl sy'n cyflwyno eu hunain yn ddigartref. Ym mis Mai, fe gyflwynodd…
14 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
2. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am adeiladau gwag sydd ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru yng Nghaernarfon? OQ59634
9 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'ch Llywodraeth chi'n parhau i wrthod darparu cynllun ar gyfer y rhai yn Arfon sydd ddim yn gallu gwneud hawliad i gontractwr na gwarantwr, ac mae hyn er gwaethaf y ffaith bod eu cartrefi nhw wedi cael eu gadael mewn gwaeth cyflwr ar ôl cymryd rhan yng…
9 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
6. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am y problemau yn Arfon sydd wedi deillio o'r cynllun Arbed? OQ59492
3 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Roeddwn i'n falch o glywed ddoe mewn datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol fod camau ar droed i wella'r amseroedd aros am asesiad cyflyrau niwroddatblygiadol. Mae yna nifer cynyddol o etholwyr yn Arfon yn cysylltu efo fi yn cwyno am yr…
3 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith yr oedi mewn cwblhau asesiadau niwroddatblygiadaol ar ddatblygiad addysgol disgyblion yr Arfon? OQ59421
2 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr. Dwi'n cytuno efo'r dadansoddiad yna. Ond, ym Mangor, mae un o'r gorsafoedd trenau prysuraf yn y gogledd, ac mae yna gynlluniau ar droed i wella'r cyfleusterau. Ond y gwelliant mwyaf pellgyrhaeddol allai ddigwydd, er lles teithwyr y trên yn…