16 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Ers ychydig oriau, does gan eich Llywodraeth chi ddim Ysgrifennydd Cabinet gyda chyfrifoldeb dros dai, a byddwch chithau yn sefyll lawr. Ar lefel bersonol, dwi'n dymuno'n dda i chi. Ond mae anrhefn y Blaid Lafur dros y ddau fis diwethaf yn hollol anfaddeuol…
16 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
1. Sut mae’r Llywodraeth yn bwriadu taclo’r argyfwng tai yng Nghymru? OQ61473
10 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24
Diolch yn fawr, a dwi, dwi'n siŵr ar ran pawb sydd yma yn y Siambr, yn llongyfarch Hannah ar y ffordd mae hi wedi meistroli’r Gymraeg, a hynny mewn cyfnod byr iawn. Felly, llongyfarchiadau mawr. Hoffwn i longyfarch y Comisiynydd am roi ffocws a phwyslais clir…
10 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
Diolch yn fawr. Dwi'n pryderu braidd na wnes i ddim eich clywed chi'n sôn yn fanna am y Papur Gwyn ar yr hawl i gartref digonol, sydd yn waith sydd ar y gweill. Rŵan, un ai efallai dydych chi ddim yn ymwybodol o'r gwaith yna, neu—dwi yn poeni—efallai fod yna…
10 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
Mae hwnna'n swnio fel swm mawr o arian, ond cymharol fechan o ran canran o gyllideb y Llywodraeth hon, yn wir. Yn sylfaenol, dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni newid ein ffordd o feddwl am gartrefi, gan ddechrau eu gweld nhw fel hawl. Mae angen ymrwymiad…
10 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
Diolch, Llywydd. Dyma'r tro cyntaf imi ofyn cwestiynau fel y llefarydd tai. Mi hoffwn i ddiolch i Julie James am ei chydweithio adeiladol tra roedd y ddwy ohonom ni'n rhan o'r cytundeb cydweithio, ac i chithau hefyd yn yr un modd. Dwi'n siŵr ein bod ni i gyd…
9 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol
Mae yna bedwar Bil yn eich rhaglen ddeddfwriaethol sydd o ddiddordeb penodol i mi fel llefarydd tai newydd Plaid Cymru, so dwi’n edrych ymlaen at weld y Bil digartrefedd a’r Bil diogelwch adeiladu. Dwi yn sylwi bod yna enw newydd ar y Bil cofrestru a…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Diogelu'r croen: Rôl ysgolion wrth atal canser y croen
Mae canser yn neu wedi cyffwrdd bron bob teulu yng Nghymru. Pum mlynedd ar hugain yn ôl, bu farw fy ngŵr i, Dafydd, ar ôl cael diagnosis o ganser y croen, melanoma. Roedd yn 47 oed ac roedd yn dad i bedwar o blant bach, gyda'r ieuengaf ond tair oed. Bryd…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Hyfforddiant deintyddol
Diolch yn fawr iawn. Diolch hefyd i Jane Dodds, sydd wedi cydgyflwyno'r cynnig, ond mae hi'n ymddiheuro ei bod hi'n methu bod yma heddiw. A diolch i Sam Rowlands, sydd yn gydgyflwynydd mewn egwyddor os nad yn dechnegol. Diolch i Carolyn am ei chyfraniad hi, a…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Hyfforddiant deintyddol
Rŵan, fe fyddai rhywun yn dychmygu mai mater o synnwyr cyffredin, felly—synnwyr cyffredin eithaf sylfaenol—fyddai cynyddu'r lleoedd hyfforddi sydd ar gael yng Nghymru er mwyn meithrin gweithlu i ddarparu'r gwasanaeth deintyddol cyhoeddus sydd mawr ei angen…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Hyfforddiant deintyddol
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae diffyg gwasanaeth deintyddol drwy’r NHS yn bwnc sy’n cael ei godi’n gyson ar lawr y Senedd yma ac yn sicr mae o'n fater sy’n pryderi fy etholwyr i yn Arfon. O’r chwe deintydd NHS yn Arfon, pan wnaethon ni eu ffonio nhw ym mis…
3 Gorffennaf 2024 , Local Government and Housing Committee
Cyflenwad tai cymdeithasol: Sesiwn dystiolaeth 10
Diolch.
3 Gorffennaf 2024 , Local Government and Housing Committee
Cyflenwad tai cymdeithasol: Sesiwn dystiolaeth 10
Diolch am fynd ar ôl hwnna, John. Ond o ran y gwaith dŷch chi'n ei wneud, onid ydy hi efallai yn fwy realistig—mewn sefyllfaoedd cymunedau llai ac efo capeli, yn enwedig, efallai—i fod yn meddwl am weithio efo'r gymuned, yn hytrach nag efo'r RSL? Ydych chi'n…
3 Gorffennaf 2024 , Local Government and Housing Committee
Cyflenwad tai cymdeithasol: Sesiwn dystiolaeth 10
Yes, thank you.
3 Gorffennaf 2024 , Local Government and Housing Committee
Cyflenwad tai cymdeithasol: Sesiwn dystiolaeth 10
Yn dilyn o hynny, fedrwch chi jest egluro yr unedau yma? Mae 117 uned, ond pa fath o unedau ydyn nhw, neu ydy adeiladau, eglwysi a neuaddau ac yn y blaen, yn fwy addas ar gyfer rhai mathau o gymysgedd o dai cymdeithasol? A hefyd, eglwysi dŷch chi'n edrych…
3 Gorffennaf 2024 , Local Government and Housing Committee
Cyflenwad tai cymdeithasol: Sesiwn dystiolaeth 10
Iawn.
3 Gorffennaf 2024 , Local Government and Housing Committee
Cyflenwad tai cymdeithasol: Sesiwn dystiolaeth 10
Yes, I know.
3 Gorffennaf 2024 , Local Government and Housing Committee
Cyflenwad tai cymdeithasol: Sesiwn dystiolaeth 10
Ond o gymryd, efallai, na fydd yna ddim mwy o arian, beth ellid ei wneud i oresgyn y broblem yna, o ran cadw at safonau ond efallai ystyried wedyn, 'Ocê, sut ydyn ni'n cadw at safonau efo cyllideb sydd ddim, mae'n debyg, yn mynd i fod yn tyfu rhyw lawer tuag…
3 Gorffennaf 2024 , Local Government and Housing Committee
Cyflenwad tai cymdeithasol: Sesiwn dystiolaeth 10
Ydy'r gost, oherwydd y safonau ansawdd, yn rhan o'r broblem pam nad yw rhai o'r datblygiadau yma'n digwydd? Dwi'n rhyfeddu at yr enghraifft olaf yna, a dweud y gwir—dydy hynny ddim yn gwneud lot o sens i fi. Ond mae'r gost yn gallu bod yn anodd iawn, ac ydyn…
3 Gorffennaf 2024 , Local Government and Housing Committee
Cyflenwad tai cymdeithasol: Sesiwn dystiolaeth 10
Diolch yn fawr. O ran safon ansawdd tai Cymru a gofynion ansawdd datblygu Cymru ar gyfer caffaeliadau ac ailfodelu adeiladau presennol, yn amlwg mae'n rhaid i ni gael safonau, ond ydych chi'n meddwl efallai fod angen mwy o hyblygrwydd o ran hynny?
3 Gorffennaf 2024 , Local Government and Housing Committee
Cyflenwad tai cymdeithasol: Sesiwn dystiolaeth 9
Ie, oherwydd dyna'r broblem, mewn ffordd: bod yna ormod o bobl mewn tai mawr ond dim digon o lefydd iddyn nhw symud allan iddyn nhw. Mae hwnna'n rhan o'r broblem, ond, yn sicr, mae angen mwy o gyflenwad ar gyfer un person beth bynnag. Ond mae'r…
3 Gorffennaf 2024 , Local Government and Housing Committee
Cyflenwad tai cymdeithasol: Sesiwn dystiolaeth 9
Diolch yn fawr iawn. Allem ni jest ofyn am un nodyn pellach gennych chi ar y revolving fund yn Denmarc—ynglŷn â sut y mae hwnna yn gweithio? Byddai gen i ddiddordeb mewn clywed mwy am hwnna, ond ddim rŵan. Gan symud rŵan at aelwydydd un person, mae'n amlwg…
3 Gorffennaf 2024 , Local Government and Housing Committee
Cyflenwad tai cymdeithasol: Sesiwn dystiolaeth 9
Bore da, Sorcha. Diolch am ymuno hefo ni. Dŷch chi wedi dechrau sôn ar ddiwedd eich cyflwyniad yn fanna am yr arfer dda sydd yn digwydd mewn rhai gwledydd, er gwaethaf y darlun eithaf du dŷch chi wedi ei beintio. Ond mae yna arfer dda allan yna, onid oes, a…
2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dwi eisiau codi mater difrifol iawn efo chi y prynhawn yma. Mae Neil Foden wedi ei ddedfrydu i 17 mlynedd yn y carchar ar ôl ei gael yn euog o droseddau erchyll yn erbyn plant oedd yn ei ofal yn Ysgol Friars Bangor, yn fy etholaeth i. Mae'r plant a'r…
26 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol
Mae'n hynod siomedig nad oes bwriad gan eich plaid chi i gael gwared ar y cap dau blentyn creulon, fyddai'n gallu codi miloedd ar filoedd o deuluoedd allan o dlodi. Ac mae'n siomedig hefyd nad oes unrhyw sôn am ddatganoli gweinyddu lles i Gymru yn yr ymgyrch…