22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: 'Uchelgais Newydd i Gymru: Rhaglen Lywodraethu 2026-2030'
Dyna pam mae'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg eisoes wedi cyhoeddi cynllun llythrennedd a rhifedd newydd ac wedi gosod disgwyliadau cenedlaethol clir i godi safonau a helpu pob dysgwr i lwyddo.
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: 'Uchelgais Newydd i Gymru: Rhaglen Lywodraethu 2026-2030'
Mae ein huchelgais ar gyfer Cymru yn dibynnu ar economi ffyniannus sy'n hybu ein gwasanaethau cyhoeddus, yn creu swyddi gwerth chweil ac sy'n rhoi boddhad, ac yn darparu sylfaen ar gyfer dyfodol cryfach. Trwy ein cenhadaeth gynhyrchiant, byddwn yn gweithio i…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: 'Uchelgais Newydd i Gymru: Rhaglen Lywodraethu 2026-2030'
Yr wythnos diwethaf, mi wnaeth y Gweinidog Cabinet dros Gyllid gyhoeddi gostyngiad o 30 y cant yn yr ardrethi busnes ar gyfer y sectorau hamdden a lletygarwch. Mae'r penderfyniad yma wedi cael ei groesawu yn eang gan y diwydiant, ac mae e'n adlewyrchu…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: 'Uchelgais Newydd i Gymru: Rhaglen Lywodraethu 2026-2030'
Byddwn yn ailgydbwyso adnoddau tuag at atal salwch, gwell mynediad at wasanaethau a gwell gofal cymdeithasol. Rydym eisiau dyfodol lle mae atal salwch yn cael yr un flaenoriaeth â thrin salwch, lle mae gwasanaethau wedi'u cynllunio o amgylch pobl a…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: 'Uchelgais Newydd i Gymru: Rhaglen Lywodraethu 2026-2030'
Yn ei hanfod, nod y rhaglen yma ydy creu dyfodol gwell i Gymru. Gan ddilyn egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, rydym ni wedi dod â'n hamcanion llesiant a'n rhaglen lywodraethu ynghyd mewn un fframwaith—fframwaith sy'n nodi'r…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: 'Uchelgais Newydd i Gymru: Rhaglen Lywodraethu 2026-2030'
Ddirprwy Lywydd, am gyfnod rhy hir, mae gweithio heb ymwneud ag eraill wedi rhwystro cynnydd. Bydd y Llywodraeth newydd hon yn gweithio ar draws ffiniau traddodiadol i fynd i'r afael â'r heriau mwyaf sy'n wynebu ein cymdeithas. Dyna pam y mae atal…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: 'Uchelgais Newydd i Gymru: Rhaglen Lywodraethu 2026-2030'
Am gyfnod rhy hir, mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei mesur yn ôl nifer y camau gweithredu, nid y canlyniadau. Mae hynny'n newid rŵan. O hyn ymlaen, mi fydd gan bob cam gweithredu bwrpas clir, sef gwella bywydau pobl. Mi fydd blaenoriaethu yn ganolog i'n dull…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: 'Uchelgais Newydd i Gymru: Rhaglen Lywodraethu 2026-2030'
Ym mis Mai, dywedodd pobl Cymru yn glir eu bod eisiau lefel newydd o uchelgais i'n cenedl. Gan weithredu ar y mandad i osod ein golygon yn uwch nag y mae Llywodraethau blaenorol wedi'u gwneud a meithrin dyfodol mwy gobeithiol i Gymru, rwy'n falch heddiw o…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Cwestiwn grawnwin surion yw hwn, Lywydd, rwy'n credu. Rwy'n credu mai cyfeirio y mae at benderfyniad a wnaeth Aelod o'r Senedd hon a welodd ymagwedd newydd tuag at wleidyddiaeth. Plaid yw hon a gamarweiniodd bobl yn y bleidlais Brexit. Mae'n gwybod popeth am…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad a'r Pwyllgor Busnes i sicrhau bod Aelodau y mae eu hymddygiad yn brin iawn o fod yr hyn a ddisgwylir gan gynrychiolwyr etholedig yn cael eu dwyn yn gadarn i gyfrif.
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'n sicr yn ymwneud â gweithio mewn partneriaeth, ac fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda chyflogwyr, yr awdurdodau lleol, darparwyr hyfforddiant ac eraill i sicrhau bod y cyfleoedd hynny ar gael i fenywod yn y sectorau hyn. Rydym ni'n awyddus i ragor o…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Bwriad ein cenhadaeth cynhyrchiant, fel Llywodraeth, yw datgloi doniau'r gweithlu cyfan, a sicrhau bod cyfleoedd economaidd i'w cael ym mhobman a'u bod yn agored i bawb. Ein nod yw gweithio gyda chyflogwyr, darparwyr addysg a hyfforddiant, ac eraill, i…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dyna'n union yr wyf wedi'i ddweud drwy gydol yr amser. Mae hwn yn fater difrifol sy'n golygu ein bod ni'n ei roi ar ben y rhestr o'n blaenoriaethau ni wrth ddod i mewn i'r Llywodraeth. Roedd hynny ar goll braidd yn addewidion Reform ar gyfer y Llywodraeth, pe…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £145 miliwn i helpu'r byrddau iechyd i fyrhau amseroedd aros a hwyluso mynediad at driniaeth. Mae hyn yn cefnogi cyflawni ein cynllun gofal a gynlluniwyd, sy'n nodi dull a arweinir yn glinigol o ran diddymu'r arosiadau…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae hwn yn waith sy'n mynd rhagddo, ac mae'n bwysig iawn fod hynny'n digwydd. Fe wyddom fod llygredd mewn afonydd, llygredd yn y môr, yn rhywbeth sy'n peri pryder gwirioneddol i bobl ledled Cymru, ac yn sicr i minnau. Fe fydd y weledigaeth ar gyfer sector dŵr…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae fy Llywodraeth i'n benderfynol o wella iechyd ein hafonydd. Rydym ni'n ariannu byrddau rheoli maetholion gorllewin Cymru, sy'n cyflawni camau wedi'u targedu ar draws dalgylchoedd afonydd Tywi, Teifi a Chleddau. Rydym ni'n yn sefydlu grŵp effeithlonrwydd a…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae hwn yn fater sy'n achosi malltod mewn llawer o gymunedau ac, fel dywedais i, ni ddylai cymunedau orfod ysgwyddo baich canlyniadau troseddau gwastraff, ac ni ddylai'r trethdalwr chwaith, ac rydym ni wedi ymrwymo i gefnogi rheoleiddwyr i fynd ar drywydd y…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Yn unol â'r egwyddor mai'r llygrydd sy'n talu, y rhai sy'n gyfrifol am weithgarwch anghyfreithlon a ddylai fod yn talu am gostau'r gwaith glanhau. Mae hynny'n wir am ddympio anghyfreithlon heddiw, fel y dylai fod ar gyfer halogiad hanesyddol, os caf i…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydym ni i gyd wedi gweithio gyda Cyngor ar Bopeth, gyda CAB, onid ydym ni, ac yn gwerthfawrogi'r gwaith y maen nhw'n ei wneud ar lawr gwlad ym mhob cwr o Gymru i helpu pobl agored i niwed? Rwy'n cynghori pobl i droi at eich ffrindiau yn CAB. Roedd rhan o'r…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Aelod yn llygad ei le. Mae canlyniadau arolwg blynyddol 2026 Age Cymru gennyf i yma, ac mae mwy na hanner yr ymatebwyr wedi nodi mai pwysau costau byw yw'r her fwyaf sy'n eu hwynebu—ac i rai, fe fydd honno'n her sylweddol. Mae yna bethau y gallwn ni eu…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae cynorthwyo pobl gyda chostau byw, fel yr ydym ni'n gwybod, yn flaenoriaeth wirioneddol i'r Llywodraeth hon. Rydym ni'n sicrhau bod mesurau i fynd i'r afael â thlodi yn adlewyrchu anghenion pobl hŷn ac yn gwneud cymorth i bobl hŷn yn symlach, yn decach a…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
A gaf i dalu teyrnged, Lywydd, i'r gwaith y mae'r Aelod wedi ei wneud yn y maes hwn i geisio cyflwyno darn o ddeddfwriaeth a fyddai'n sail i sector bwyd cadarn ac yn diogelu materion yn ymwneud â chynhyrchu bwyd a maeth ac yn y blaen yng Nghymru? Nid ydym ni…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dydw i ddim wedi clywed unrhyw un yn cyhuddo'r Gweinidog amaethyddiaeth hwn, y Gweinidog gwydnwch gwledig hwn, o gicio unrhyw gan i lawr y ffordd o ran cefnogi'r sector amaethyddiaeth. Clywais ddim byd ond ochenaid o ryddhad gan sector sy'n credu bod ganddyn…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dwi'n falch iawn o gael y cwestiwn yna. Mae’n fodd i egluro mymryn am sut mae’r grŵp yn mynd i fod yn gweithredu. Mae pedwar piler i'r gwaith: un ohonyn nhw yr amgylchedd, un ohonyn nhw yr economi a datblygu gwledig, mae yna elfen diogelwch bwyd, a'r elfen…
22 Medi 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dwi yn falch iawn bod cynnydd sylweddol a chynnar wedi cael ei wneud ar ddatblygu ein strategaeth fwyd genedlaethol newydd ni. Mae gweithgor arbenigol wedi cael ei ffurfio yn barod, a chylch gorchwyl wedi’i gyhoeddi. Mae yna gynlluniau ar waith hefyd i fwrw…