8 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Mi wna i ddatgan budd fel cwsmer i HSBC ac un sydd yn defnyddio y llinell Gymraeg. Yn fy etholaeth i, fel ar draws Cymru, mae banciau, yn cynnwys HSBC, wedi troi eu cefn ar eu cymunedau o ran presenoldeb corfforol. Ond dim ots, meddai’r banciau, mae posib…
8 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Dwi'n derbyn llawer o gyswllt gan ffermwyr yn Ynys Môn sydd mor bryderus ynglŷn â'r cynllun newydd fel eu bod nhw'n ystyried peidio gwneud cais o gwbl. Felly, beth ydy neges y Gweinidog iddyn nhw i'w perswadio nhw fod yna fodd o arbed y cynllun yma? Ond dyma…
7 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Y ffordd o gael penderfyniadau gwariant annibynnol wedi'u gwneud gan Gymru yw cael Trysorlys annibynnol i Gymru, wrth gwrs, ond rwy'n falch bod y Prif Weinidog yn cytuno â mi y dylai Llywodraeth y DU newid y fformiwla ariannu. Ond o gofio, rwy'n tybio, ei fod…
7 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Prif Weinidog yn dirmygu cynllun pum pwynt Plaid Cymru, fel mae'n ei alw. Ar ôl 24 mlynedd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru, mae'n rhaid i rywun fod yn cyflwyno syniadau da. Ond hoffwn ganolbwyntio, os caf i, ar y mater cyllido teg. Dywedodd rhagflaenydd…
7 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Gwelsom yn San Steffan heddiw ymgais anobeithiol braidd i ailgynnau marwor olaf Llywodraeth Geidwadol y DU—gan ddefnyddio mwy o danwydd ffosil i wneud hynny, wrth gwrs. Gwelsom galedu ymrwymiad y Torïaid i wadu'r newid yn yr hinsawdd, ac anwybyddu Cymru yn…
7 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd. Mi fydd y Prif Weinidog, fel finnau, wedi bod yn edrych ymlaen, dwi'n siŵr, i weld beth oedd yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig heddiw, ac, fel finnau, wedi eu siomi.
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Trafnidiaeth Cymru
Taro'r byffer.
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Trafnidiaeth Cymru
Rydym ni mewn cyfnod lle rydym ni yn poeni am niferoedd sy'n defnyddio trenau. Mae o'n bryder go iawn gen i fod y profiad mae pobl yn ei gael ar drenau sy'n rhedeg rhwng y de a'r gogledd, yn gorfod newid yng Nghaer ar siwrneiau syth drwodd, ac ati, yn gwneud…
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Trafnidiaeth Cymru
Fuaset ti'n cymryd ymyriad yn sydyn?
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Trafnidiaeth Cymru
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
25 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Trafnidiaeth Cymru
Rydych yn gwrthwynebu eich dadl eich hun.
24 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu bod y Prif Weinidog yn gwneud esgus eithaf gwael dros fethiant Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â maint y defnydd o staff asiantaeth yn y GIG, oherwydd y raddfa y gwnaethom ni gyfeirio ati. Mae'n ein beio ni am ddod yn ôl dro ar ôl tro yn mynnu…
24 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae angen i ni gael gwybod beth yw'r disgwyliadau hynny fel y gallwn ni ddwyn y Llywodraeth i gyfrif ar ei chynlluniau, wrth gwrs. Yr wythnos diwethaf, gwahoddodd y Prif Weinidog fi a Phlaid Cymru i gyflwyno ein syniadau ar sut i ymdrin â phroblemau systemig…
24 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd. Mewn cyfweliad efo Wales Today ar y BBC yr wythnos diwethaf, mi ddywedodd y Gweinidog iechyd y byddai hi'n amlinellu y diwrnod wedyn y toriadau y byddai disgwyl i fyrddau iechyd eu gwneud. Yn absenoldeb unrhyw ddatganiad, llafar neu…
17 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Staff sy'n esbonio'r gwasanaeth i mi yn y ffordd honno mor aml, a'r diffyg syniadau newydd am sut i wynebu'r problemau anghynaliadwyedd o fewn y gwasanaeth iechyd sy'n peri cymaint o rwystredigaeth i bobl. Rydym ni angen syniadau newydd, ac mae hynny yr un…
17 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Bydd cyfle yn ddiweddarach i ni edrych ar faint o reolaeth sydd gan Lywodraeth Cymru dros ei chyllidebau. Ers yr haf, mae Gweinidogion wedi bod yn tynnu sylw at dwll gwerth £900 miliwn y mae'n debyg oedd wedi ymddangos yn eu cyllid. Ond gyda Chanolfan…
17 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Brif Weinidog. Yn ôl at faterion cartref, rŵan.
17 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'r erchyllterau yn Israel a Gaza yn parhau i'n cyffwrdd ni i gyd dros wythnos ar ôl yr ymosodiadau gan Hamas. Yn yr un modd ag y gwnaethon ni uno i gondemnio’r ymosodiadau cwbl erchyll yna, mae'n rhaid i ni uno rŵan wrth alw…
11 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Cyllid canlyniadol HS2
I gloi, mae o er budd pawb i ddeall natur yr anghyfiawnder sy'n deillio o fethu cael cyfrifoldeb dros ein hisadeiledd trafnidiaeth ein hunain. Mae o'n teimlo'n anghredadwy bod y Llywodraeth Lafur yn ôl yn nyddiau cynnar datganoli wedi gwrthod derbyn…
11 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Cyllid canlyniadol HS2
A ydych chi eisiau dweud wrthyf faint y byddai trydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru—[Torri ar draws.] Fe wyddom yn union faint mae trydaneiddio yn ei gostio o'r arian na chafodd ei wario pan addawyd ei wario ar y rheilffordd o Gaerdydd i Abertawe. Rydym yn…
11 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Cyllid canlyniadol HS2
Gwnaf, wrth gwrs.
11 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Cyllid canlyniadol HS2
Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig atgoffa pobl ei fod yn ymwneud â mwy na'r ffaith na chawsom y biliynau o bunnoedd mewn cyllid canlyniadol a oedd yn ddyledus i ni. Roedd arian a allai fod wedi mynd tuag at brosiectau i wella rheilffyrdd yng Nghymru wedi'i…
11 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Cyllid canlyniadol HS2
Mae yna enghreifftiau eraill, wrth gwrs, fel yr anghyfiawnder o beidio â chael rheolaeth dros adnoddau Ystad y Goron. Mi allwn i sôn am y ffaith ein bod ni heb reolaeth dros ein hadnoddau dŵr fel enghraifft arall. Ond mae HS2 yn crisialu beth sy’n digwydd pan…
11 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Cyllid canlyniadol HS2
Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod saga HS2 yn ymwneud â llu o wahanol bethau. Mae'n dweud popeth rydych chi angen ei wybod ynglŷn â sut i beidio ag ymdrin â rhaglen seilwaith fawr, sut i beidio ag addo gormod a thangyflawni, sut i beidio â throi un gymuned…
11 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Cyllid canlyniadol HS2
A ydych chi'n cytuno â mi ei bod wedi dod yn amlwg ers y cyhoeddiad cefn paced sigaréts hwnnw am reilffordd gogledd Cymru nad oes addewid o'r fath i drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru? Roedd yn ymgais i gael pennawd sydd wedi diflannu ers hynny.