28 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, 'Cysylltiadau Rhyngwladol: Adroddiad Blynyddol 2022-23'
Diolch yn fawr iawn i'r pwyllgor am ei holl waith ar y mater yma. Dwi'n ddiolchgar am y siawns i gael siarad am gysylltiadau rhyngwladol heddiw. Dwi'n falch ein bod ni, drwy waith y pwyllgor yma, wedi gwneud ymdrech i leoli ein hunain yn y byd. Mae ein Senedd…
28 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Mae'r ffaith bod yna gymaint o ffermwyr ac eraill o gefn gwlad y gogledd wedi dod yma i Fae Caerdydd heddiw yn arwydd o gryfder y teimladau sydd yna a'r pryderon ynglŷn â'r cynllun fel ag y mae o. Mae sôn am golli miloedd y swyddi, wrth gwrs, yn codi braw ar…
27 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Ymateb Llywodraeth Cymru i Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru
Diolch i'r Dirprwy Weinidog am y datganiad ac i'r comisiwn am eu gwaith nhw. Dwi am ganolbwyntio fy ychydig gwestiynau ar Ynys Môn a chroesiad y Fenai. Mae'r Dirprwy Weinidog, wrth gwrs, yn gwybod am fy rhwystredigaeth i am y penderfyniad gafodd ei wneud i…
27 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae wedi dod i'r amlwg, yn ystod y dyddiau diwethaf, bod cyd-Aelod o'r Cabinet y Prif Weinidog, sy'n ymgeisydd i'w olynu, wedi derbyn rhodd chwe ffigur gan gwmni sy'n ceisio cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru i adeiladu fferm solar. Nid yw hynny'n…
27 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fy nadl i yn fan hyn ydy bod yna gwestiwn o gyfreithlondeb, ac mi fyddwn ni yn annog Llywodraeth Cymru i fynnu cyngor cyfreithiol, fel rydym ni wedi ei wneud fel plaid, ar p'un ai ydy polisïau presennol yn mynd yn groes i ofynion y Ddeddf amaeth.
27 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dwi’n ddiolchgar am yr ymateb yna ac, yn sicr, mi fyddwn ni yn croesawu adolygiad buan o NVZs, fel rydyn ni wedi bod yn galw amdano fo, ac yn croesawu'r newid o ran TB, rhywbeth sydd yn dod ddiwrnod cyn ein dadl ni yma yn y Senedd. Ond rydyn ni'n chwilio am…
27 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Y neges rydyn ni wedi ei chlywed yn gynyddol gan gefn gwlad Cymru dros y dyddiau a'r wythnosau diwethaf a'r neges cawn ni ei chlywed yn glir iawn yma ym Mae Caerdydd yfory ydy mai digon ydy digon, a dwi yn cytuno efo hynny…
20 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n synnu'n fawr, mae'n rhaid dweud, nad yw'n ymddangos bod y Prif Weinidog yn gresynu nad yw'r rhai sy'n gweithio ar brosiectau grant cymorth tai yn cael eu talu'r cyflog byw gwirioneddol. Efallai fy mod i wedi camddeall yr hyn yr oedd Llafur wedi ei addo…
20 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fe wnaf i ailadrodd y cwestiwn. Beth mae'r Prif Weinidog yn ei wneud i berswadio arweinydd y Blaid Lafur i fynd i'r afael â chyllid teg i Gymru? Bydd ASau Plaid Cymru yn falch o ddwyn Keir Starmer i gyfrif os yw Gweinidogion Llafur Cymru yma yn anfodlon…
20 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd. Cafwyd cadarnhad yr wythnos diwethaf bod economi'r DU wedi mynd i ddirwasgiad. Ond nid yr economi yn unig sy'n mynd tua'n ôl; mae dirywiad diwydiannau hanfodol yng Nghymru a'r cymunedau y maen nhw'n eu cynnal, boed hynny'n amaeth, yn ddur…
7 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rydyn ni'n gweld y problemau sydd yn codi yn sgil heriau recriwtio a chadw meddygon teulu yn benodol yn y creisis sydd yna yn Hwb Iechyd Cybi ar hyn o bryd. Mae'r Gweinidog yn ymwybodol o'r sefyllfa. Dwi'n gwybod bod meddygon wedi ysgrifennu ati hi ac ataf…
7 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Un ffordd o sicrhau gwerth am arian ydy gwneud gwaith ymchwil manwl iawn, trafod efo clinigwyr sy'n mynd i fod yn defnyddio rhyw offer newydd, a gwneud yn siŵr bod y cynnyrch gorau posibl yn cael ei gaffael. A dyna'n union gafodd ei wneud drwy drio dewis…
6 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl: y Diwydiant Dur yng Nghymru
Dim ond gwneud y pwynt ydw i bod mynd i Mumbai yn gwneud achos hyd yn oed cryfach ein bod o ddifrif.
6 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl: y Diwydiant Dur yng Nghymru
A wnewch chi gymryd ymyriad?
6 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Cyllideb Ddrafft 2024-25
Mae hon, Ddirprwy Lywydd, yn gyllideb unwaith eto ar gyfer amseroedd caled, wedi'i gwneud yn galetach gan benderfyniadau Llywodraeth Geidwadol sy'n poeni dim am Gymru. Ond y cwestiwn i Lywodraeth Cymru ydy a ydy hi wedi gwneud popeth o fewn ei gallu i liniaru…
6 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Cyllideb Ddrafft 2024-25
Pan feddyliwch chi am anghyfiawnderau penodol, gadewch iddo dreiddio i'r cof, y byddai'r symiau canlyniadol o HS2, y mae pob Aelod yn y Siambr hon yn cytuno sy'n ddyledus i Gymru, nid yn unig yn gwneud iawn am y toriadau i'r gyllideb, ond byddai hefyd yn…
6 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Cyllideb Ddrafft 2024-25
Nawr, ni ellir gorbwysleisio canlyniadau'r byd go iawn o danariannu Cymru. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi amcangyfrif y bydd incwm cyfartalog aelwydydd yng Nghymru £10,300 yn is erbyn 2027 na phe bai tueddiadau cyn yr argyfwng wedi'u cynnal, ac…
6 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Cyllideb Ddrafft 2024-25
Dwi'n croesawu'r cyfle i graffu ar gyllideb ddrafft y Llywodraeth, ac mae yna lawer iawn wedi digwydd ers cytuno'r gyllideb ddiwethaf, ond mi allwn ni ddadlau bod y cyd-destun yn debyg iawn mewn llawer ffordd. Heb os, mae hon yn gyllideb a wnaed mewn cyfnod…
6 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae pobl eisiau dyfodol. Nawr, rydym ni'n gwybod beth yw'r ofnau: 5,000 o swyddi neu fwy wedi mynd; £200 miliwn yn cael ei gymryd allan o'r sector amaeth. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog materion gwledig yn dweud bod y modelu wedi dyddio. Wel, dewch â'r modelu…
6 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Nid yw hyn yn ymwneud â gwrthod tyfu coed, ac rydym ni yn yr un lle'n sylfaenol ag yr oeddem o ran hynny. Yr hyn rydym ni'n ei ddweud, a'r hyn y mae ffermwyr yn ei ddweud, yw'r goeden iawn yn y lle iawn. Mae ffermwyr eisiau plannu coed, ond cyfrwch y carbon…
6 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i'r Prif Weinidog am ei ymateb. Nid wyf i'n synhwyro gwrthodiad i bontio gan y sector amaeth. Ceir teimlad nad yw'n gyfiawn, yr hyn y gofynnir iddyn nhw ei wneud ar hyn o bryd. Y gwir amdani yw bod teimlad nad yw'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn…
6 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n gobeithio y byddwn ni'n sefyll yn gadarn ar ochr gweithwyr dur y prynhawn yma. Mae ein penderfyniad i godi'r bygythiad o ddinistr i swyddi a'r gymuned ym Mhort Talbot wedi dangos yn eglur yr hyn yr ydym ni wir yn ei olygu pan fyddwn ni'n dweud ein bod…
6 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. A minnau wedi bod i ddigwyddiad i nodi Diwrnod Canser y Byd yma yn y Senedd heddiw, a gaf i ddymuno'n dda i'r Brenin ar ôl ei ddiagnosis o, a dymuno'n dda, wrth gwrs, i bob un sydd yn wynebu ac yn cael eu cyffwrdd gan ganser? Mi…
31 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod dros Flaenau Gwent am gyflwyno’r cwestiwn amserol hwn heddiw, fel y gwnaethom ninnau; mae’n bwysig inni gael cyfle i drafod hyn. A gaf i ddechrau drwy ddweud fy mod innau hefyd ar ran Plaid Cymru yn croesawu'r newyddion fod Plaid yr…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru
Er gwaethaf yr honiadau gan rai ar feinciau'r Ceidwadwyr, nid oes unrhyw beth o gwbl yn ofer ynghylch archwilio ein dyfodol cyffredin mewn ysbryd o fod yn agored, yn wrthrychol a chydweithio. Fe allwn i atgoffa'r Aelodau gyferbyn bod y Blaid Geidwadol wedi…