17 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Ynni niwclear ac economi Cymru'
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
17 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Ynni niwclear ac economi Cymru'
Dim ond ychydig o sylwadau sydd gen i. Dwi'n ddiolchgar am yr adroddiad yma gan y pwyllgor. Dwi ddim yn credu bod yna unrhyw beth annisgwyl yn y canfyddiadau na'r argymhellion. Yn fyr iawn, beth sydd gennym ni ydy sylweddoliad bod yna fudd economaidd yn gallu…
17 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Diolch am yr ymateb yna. Rwyf innau'n llongyfarch yr Ysgrifennydd Cabinet ar ei benodiad. Mi fydd o'n ymwybodol iawn, wrth gwrs, o bwysigrwydd y diwydiant amaeth i fy etholaeth i, ac am y pryderon go iawn sydd yna ymhlith amaethwyr ar Ynys Môn, fel ledled…
17 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu ei gynlluniau ar gyfer cefnogi amaethwyr ar Ynys Môn? OQ60931
16 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Cyflawni blaenoriaethau Cymru
'Mae Jeremy a Vaughan yn colli arni os ydyn nhw'n credu eu bod nhw am gael datganoli cyfiawnder'? Rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn dadlau dros rymuso Cymru a'r Senedd hon, ac yn dangos bod ei flaenoriaethau ef yn cael eu hysgogi gan les ein cymunedau…
16 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Cyflawni blaenoriaethau Cymru
A beth am blismona a chyfiawnder? Gydag etholiadau comisiynwyr heddlu a throsedd ar y gorwel, mae'r meinciau yma wedi ymrwymo'n llwyr i system gyfiawnder i Gymru. Yn ystod y ras arweinyddol, mi ddywedodd y Prif Weinidog ei fod o eisiau mwy o bwerau, ond mae…
16 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Cyflawni blaenoriaethau Cymru
Cafodd arweinydd y Ceidwadwyr ychydig mwy o amser na hyn, pe gallech chi ddal eich gafael am ychydig.
16 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Cyflawni blaenoriaethau Cymru
Rŵan, ym Mhlaid Cymru, rydyn ni'n glir beth fyddwn ni'n ei wneud yn wahanol ac, yn gyntaf, mae'n rhaid rhoi'r gorau i edrych ar bethau drwy'r amser drwy brism San Steffan. Rydyn ni i fod i gredu bod ethol Llywodraeth Lafur am fod fel rhyw fath o ffon hud, er…
16 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Cyflawni blaenoriaethau Cymru
Rwy'n gobeithio y bydd y Senedd yn maddau i mi am fod ychydig yn sinigaidd ar ddechrau'r tymor newydd hwn, ond mae'n teimlo yn rhy gyfarwydd o lawer, bod rhywfaint o newid cadeiriau wedi bod yn y Cabinet, ond fel arall ailwampio, diwygio'r hyn a welwyd o'r…
16 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Cyflawni blaenoriaethau Cymru
Dwi'n croesawu'r datganiad buan yma o flaenoriaethau'r Llywodraeth newydd, ac yn dymuno'n dda iddi hi yn ei gwaith yn ddiffuant. Mae'r heriau sydd o'i blaen hi'n niferus, maen nhw'n sylweddol, maen nhw'n deillio'n rhannol, wrth gwrs, o lymder Ceidwadol San…
16 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n bryderus dros ben nad yw'n poeni mwy, er bod yr arian yn cael ei wneud ar gael ar gyfer amddiffyn ar hyn o bryd, na ellir gwneud yr un addewid i Gymru, gydag angen dybryd am yr arian hwnnw. Nawr, siaradodd y Prif Weinidog ei hun ddoe am ddewisiadau…
16 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n euog fel y cyhuddir o fod ag obsesiwn o fod eisiau cyllid teg gan Lywodraeth y DU o ba bynnag liw. Ac mae'n drueni bod gennym ni Brif Weinidog nad oes ganddo'r un obsesiwn â mynd ar drywydd hynny. Mae'n cwyno digon am y diffyg cyllid sydd ganddo; mae…
16 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Daeth y Prif Weinidog newydd i'r swydd dan gwmwl, ond rydym ni'n gwybod o leiaf bod ganddo ddawn o drosoli arian i mewn ar ôl iddo berswadio un unigolyn i roi £200,000 i'w ymgyrch arweinyddiaeth. Nawr, rwy'n siŵr na fyddai'r Prif Weinidog eisiau i mi atgoffa…
16 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd. Rydym ni'n croesawu'r Prif Weinidog newydd i'w sesiwn gwestiynau wythnosol cyntaf heddiw, ac rydw innau'n estyn fy llongyfarchiadau iddo fo. Ond dwi eisiau gwybod yn syth ganddo fo pa wahaniaeth mae o'n mynd i'w wneud.
20 Mawrth 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Fformiwla Barnett
Diolch i'r Gweinidog a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Nid wyf yn credu bod angen i mi ailadrodd y dadleuon a glywsom—rydym wedi clywed achosion cryf iawn yn cael eu gwneud heddiw ynglŷn â pham mae angen i ni ailedrych yn sylfaenol…
20 Mawrth 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Fformiwla Barnett
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.
20 Mawrth 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Fformiwla Barnett
Diolch am dderbyn yr ymyriad. A ydych yn derbyn y pwynt a wneuthum, serch hynny? Os meddyliwch am gyllid y pen yn ei hanfod, Llundain, yn amlach na pheidio, sy'n cael mwy o gyllid y pen o’r boblogaeth mewn gwirionedd, a dyna pam nad yw’n helpu’r ddadl. Nid…
20 Mawrth 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Fformiwla Barnett
Diolch am y sylwadau yna. Oes, wrth gwrs, mae yna agweddau gwahanol yng ngwahanol ardaloedd o'r ynysoedd yma. Mi wnaf i gyfeirio at hynny wrth i ni edrych ar welliant y Llywodraeth mewn ychydig funudau, os caf i. Roeddwn i ar fin dweud o ystyried record y…
20 Mawrth 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Fformiwla Barnett
Diolch yn fawr iawn, Cadeirydd. Mae sail ein dadl ni heddiw yn un syml iawn, sef y dylai Cymru gael ei hariannu yn deg gan San Steffan, a dwi'n meddwl bod y ffaith ein bod ni'n gorfod dadlau hyn yn y lle cyntaf yn dweud cyfrolau am ein statws ni o fewn yr…
20 Mawrth 2024 , Cyfarfod Llawn
Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8
Rhun ap Iorwerth. [Laughter.]
19 Mawrth 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Datganiad Ymddiswyddo
Gan bawb o grŵp Plaid Cymru, dymuniadau gorau. [Cymeradwyaeth.]
19 Mawrth 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Datganiad Ymddiswyddo
Fel y dywedais i, buodd y Prif Weinidog a minnau'n cyfnewid geiriau eithaf cadarn yn y Siambr hon. Fel rhywun sy'n dwlu ar gaws fy hun, rwy'n gobeithio bod y cyfnewidiadau hynny wedi bod yn llai hallt na'i gaws Caerffili annwyl, ond maen nhw wedi bod yn…
19 Mawrth 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Datganiad Ymddiswyddo
Dwi’n falch iawn o’r hyn mae fy mhlaid i a’i Lywodraeth o wedi'i gyflawni efo’n gilydd—Senedd gryfach ar y ffordd, a pholisïau beiddgar fydd yn newid bywydau er gwell i'r rhai wnaeth ein hethol ni i gyd i'r lle yma. Ac i'r perwyl hwnnw, dwi'n sicr ein bod ni…
19 Mawrth 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Datganiad Ymddiswyddo
'Cefais fy magu yn y Cynulliad, yn swyddfa Rhodri Morgan pan oedd yn Brif Weinidog. Yn yr ystyr hwnnw, roeddwn i eisiau dweud wrth bobl fy mod i'n gwybod sut beth yw bod yn Brif Weinidog, o'r tu mewn.' Nawr, wrth iddo edrych yn ôl, gan wybod yn uniongyrchol…
19 Mawrth 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Datganiad Ymddiswyddo
Pan fydd unrhyw gyfnod gwleidyddol o bwys yn dod i ben, mae o wastad yn werth mynd yn ôl i edrych ar lle ddechreuon ni. Mi ges i fy atgoffa yr wythnos yma o beth gafodd ei ddweud yn ystod yr ornest am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn 2018. Mewn cyfweliad efo'r…