14 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, ac rwyf innau'n ategu geiriau’r Llywydd wrth dalu teyrnged i Owen John Thomas, cymwynaswr ac ymgyrchydd mor frwd dros ei gymuned a dros y Gymraeg a Chymreictod yn y brifddinas. Ac wrth inni gydymdeimlo efo'i anwyliaid a'i deulu heddiw, rydyn ni'n…
8 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Cyfnod 4 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)
Fel y dywedais, yn y Siambr hon, ac ar draws Cymru, mae gennym wahanol ddyheadau ar gyfer ein cenedl, gwahanol lefelau o uchelgais ar gyfer ein cenedl. Y peth allweddol yw ein bod yn rhoi'r arfau i ni ein hunain fel Senedd i wneud y newidiadau hynny drosom…
8 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Cyfnod 4 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)
Gwnaf.
8 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Cyfnod 4 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)
Dywedais yma ddoe fod angen inni weld newid sylweddol mewn datganoli wrth inni fynd i mewn i'w ail chwarter canrif. Mae angen atebion newydd wedi'u targedu i'r heriau sy'n ein hwynebu yn ein heconomi, ar y GIG ac mewn addysg, i drechu tlodi plant o'r diwedd…
8 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Cyfnod 4 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)
Mae hi'n addas iawn ein bod ni yma heddiw i bleidleisio dros roi'r gallu i'n Senedd ni weithredu fel Senedd genedlaethol go iawn, bron i 25 mlynedd i'r diwrnod ers yr etholiadau cyntaf i'r Cynulliad Cenedlaethol. Dwi'n ddiolchgar iawn am y gwaith…
7 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
& 9. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion—cynnig 1, a Chynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion—cynnig 2
Dirprwy Lywydd, dwi'n falch o allu cyfrannu at y ddadl yma, a dwi'n gwneud hynny fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar hemoffilia a gwaed wedi'i heintio ac fel cynrychiolydd hefyd etholwyr i mi yn Ynys Môn sydd wedi dioddef o'r sgandal gwaed wedi'i heintio…
7 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Senedd yn 25
Rŵan, er bod dealltwriaeth o'r lle yma a'i waith o wedi cynyddu, ac, efo hynny, y gefnogaeth o blaid mwy o bwerau i Gymru, mae'n rhaid gochel rhag meddwl nad oes angen parhau i wrthsefyll y grymoedd hynny a fyddai am weld ein Senedd yn diflannu'n gyfan gwbl…
7 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Senedd yn 25
Fe ddylem ni ddathlu, rwy'n credu, y pum mlynedd ar hugain hwn gyda newid gêr, newid o ran y craffu a alluogir gan ddeddfwriaeth ar gyfer diwygio y byddwn ni'n pleidleisio arni yfory, ond newid gêr llywodraethol hefyd. Mae arnom angen Llywodraeth sydd, yn…
7 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Senedd yn 25
Diolch i'r Prif Weinidog am y datganiad heddiw. Roeddwn i am ddechrau drwy ddweud bod gan bob un ohonom ni yn fan hyn ein hatgofion am eni'r Cynulliad Cenedlaethol, tan i fi gofio mai dim ond tair oed oedd Luke Fletcher pan agorodd y Senedd yma ei drysau am y…
7 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Ar y diwrnod hwn o bob diwrnod, 25 mlynedd ers yr etholiadau datganoledig cyntaf, rydym ni eisiau i bobl Cymru fod â ffydd mewn arweinwyr gwleidyddol. Yn anffodus, mae'r Senedd, ar bob mainc, dylwn ddweud, yn colli ffydd yng ngallu'r Prif Weinidog hwn i…
7 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae yn fater difrifol iawn, yn wir. Rydym ni'n hercio o un sgandal i'r nesaf, ac nid yw'n unrhyw ffordd o lywodraethu. A 'po fwyaf y cloddiwch, y lleiaf y gwnewch chi ei ddarganfod'— dyna oedd amddiffyniad Hefin David o'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf…
7 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydym ni'n parhau i ddychwelyd yma at y ffaith ein bod ni eisiau i'n Prif Weinidogion fod yn onest, yn dryloyw ac â chrebwyll da, ac mae'r rhagofynion hynny'n cael eu tanseilio ar hyn o bryd. Yn gyntaf, cafwyd y rhodd o £200,000 gan lygrydd a gafwyd yn euog…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Gaza—Ymateb Cymreig
Ni allwn adael i'r byd anghofio erchyllterau'r rhyfel hwn. Ni allwn anghofio'r rhai a laddwyd ac a gymerwyd yn wystlon ar 7 Hydref, ac rydym yn mynnu eu bod yn cael eu rhyddhau. Ac ni ddylem byth anghofio'r degau o filoedd a laddwyd ac sy'n dal i gael eu…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Gaza—Ymateb Cymreig
Diolch, Peredur, am gyflwyno y ddadl yma heddiw ac am ganiatáu i fi gael gwneud cyfraniad byr hefyd. Y perygl bob amser ydy bod treigl amser yn gwneud i bobl golli ffocws, i ymgynefino efo rhywbeth sy'n digwydd draw fan acw, waeth pa mor erchyll ydy hynny.
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Uchafswm ar roddion gwleidyddol
Rwy'n gwahodd y Ceidwadwyr i ailystyried eu penderfyniad i ymatal. Ar hyn, nid oes penderfyniad yn cael ei wneud ynglŷn â beth ddylai'r cap fod, pa fodel y dylid ei gyflwyno ar gyfer y cap hwnnw. Hoffwn ofyn iddynt ystyried a yw ymatal yn adlewyrchu'n wael…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Uchafswm ar roddion gwleidyddol
Yn syml iawn, dydy'r penderfyniad i dderbyn rhoddion o'r maint yma, heb sôn am ffynhonnell yr arian, dydy'r ffaith bod o'n cael ei ganiatáu o dan y diffyg rheolau presennol ddim yn eistedd yn gyfforddus efo pobl Cymru. Mae o'n creu argraff, hyd yn oed os ydy…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Uchafswm ar roddion gwleidyddol
Gadawaf i'r Aelod farnu a yw'n gymhariaeth deg rhwng swm o arian a adawyd mewn ewyllys i blaid wleidyddol gan rywun sy'n credu mewn democratiaeth a thaliad o £200,000 i ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru gan gwmni a gafwyd yn euog o…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Uchafswm ar roddion gwleidyddol
Ni chlywais hynny'n dda, ond nid wyf yn meddwl bod hynny'n bwysig. Gadawaf i chi fyfyrio a oes cymhariaeth deg i'w gwneud rhwng swm—[Torri ar draws.]—wedi ei adael i blaid wleidyddol mewn ewyllys—
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Uchafswm ar roddion gwleidyddol
Nawr, neu ar ôl i mi ddweud fy ychydig frawddegau nesaf? Ac aeth ymlaen wedyn i wneud ensyniadau ynghylch taliad i fy mhlaid yn yr etholaeth—nid i mi, i fy mhlaid yn yr etholaeth—yn 2013. Yn sicr, ni ellir ystyried bod rhai rhoddion, Hefin David, wedi eu…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Uchafswm ar roddion gwleidyddol
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, yn ei bresenoldeb nawr—fe wnaeth gyrraedd tuag at gamau olaf y ddwy ddadl hon—fy mod yn mynegi wrth y Prif Weinidog y siom go iawn nad oedd yma i glywed, ac yn wir i ymateb i'r dadleuon hyn heddiw…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Uchafswm ar roddion gwleidyddol
Fe wnaf, yn gyflym. Ac mae hyn yn ymwneud yn benodol â hawliau cyflogaeth. Derbyniodd y Prif Weinidog hefyd £25,000 gan gwmni tacsis Veezu sydd wedi bod yn destun cwynion am hawliau cyflogaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Uchafswm ar roddion gwleidyddol
Ond mae hyn yn hollbwysig—
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Uchafswm ar roddion gwleidyddol
Derbyniodd y Prif Weinidog y rhodd hon—tair gwaith y swm a dderbyniwyd gan Blaid Cymru, ar ôl i euogfarnau am droseddau amgylcheddol gael eu nodi. Mae hefyd yn dweud bod y cwestiynau ynghylch rhoddwr Plaid Cymru—
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Uchafswm ar roddion gwleidyddol
Os ydych yn derbyn ymyriad. Rwy’n ddiolchgar ichi am dderbyn ymyriad. Rydych yn tynnu sylw at un rhodd benodol. Mae'n rhaid imi nodi nifer o bethau: (a) rhodd i'r blaid oedd honno yn hytrach na rhodd i unigolyn, sef yr hyn rydym yn sôn amdano heddiw, ac mae'n…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Uchafswm ar roddion gwleidyddol
[Anghlywadwy.]—i ymateb.