20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'n ddrwg gen i, ond y cwbl yr ydym ni wedi ei weld o dan Lywodraethau Llafur yw diffyg twf. Mae'n rhaid i hynny ddod i ben. A'r gwir amdani yw bod Llafur wedi bod yn cuddio y tu ôl i roi'r bai ar y Torïaid ers degawd a mwy, ac nawr nad oes ganddyn nhw fwy…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fe wnaf i ddweud wrthych chi beth mae busnesau yn ei ddweud wrthyf i bob dydd: maen nhw'n dweud eu bod nhw mewn angen taer am gyfeiriad newydd ac arweinyddiaeth newydd. Gadewch i mi roi blas i chi o'r hyn a addawodd y Brif Weinidog hon—dim ond un neu ddau o…
20 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn. Yng ngoleuni'r newyddion bod James Evans wedi colli'r chwip Ceidwadol am fflyrtio gyda phlaid y gwnaeth ei alw ar un adeg yn 'annifrifol', â rhethreg 'beryglus', edrychaf ymlaen at gymryd fy lle fel yr arweinydd gwrthblaid cyntaf i ofyn…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wrth gwrs, dyma Brif Weinidog na all sôn am reilffyrdd, gan fod hon yn Llywodraeth a oedd yn fodlon setlo am swm pitw a roddwyd i Gymru i'w fuddsoddi mewn rheilffyrdd yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, pan lwyddodd Llywodraeth yr Alban i gael mwy o…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Gyda record Llafur, does neb yn credu'r geiriau a lefarwyd gan y Prif Weinidog yn y fan yna. Mae Plaid Cymru yn canmol Cymru; mae Llafur yn bychanu Cymru. Ar yr holl addewidion cyn-etholiad hyn, gwnewch nhw nawr. Dyna'r neges. Os ydych chi mor alluog fel…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Edrychaf ymlaen at gael y ddadl gydag eraill yn y Siambr hon a thu hwnt yn y cyfnod cyn yr etholiad hwn, yn gadarn ac yn barchus. Ond yn gyntaf, hoffwn longyfarch y Prif Weinidog am grynhoi'n berffaith yr hyn sydd yn y fantol ym mis Mai, fel y mae strategaeth…
13 Ionawr 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch. Blwyddyn newydd dda, Llywydd, Brif Weinidog a Senedd. Mewn blwyddyn dyngedfennol i Gymru, dwi’n edrych ymlaen at fynd â chynnig Plaid Cymru at y bobl—cynnig sy'n cynnig atebion go iawn i heriau ein cymunedau ni ac sy'n mynd i ddangos i San Steffan go…
29 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Brexit a'r berthynas â'r UE yn y dyfodol
Diolch. A ydych chi'n cytuno â mi, ymhell o fod yn flanced gysur fel y disgrifiwyd y DU gan arweinydd y Ceidwadwyr, fod Brexit wedi agor y drws i Lywodraeth y DU allu tanseilio Cymru drwy Barnetteiddio'r cyllid ar gyfer amaethyddiaeth?
29 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Brexit a'r berthynas â'r UE yn y dyfodol
Diolch am dderbyn yr ymyriad. Disgrifiwch i mi sut y mae'r marweiddio economaidd y mae Cymru wedi bod yn ei ddioddef fel rhan o'r Deyrnas Unedig neu'r tlodi plant dwfn sydd gennym yng Nghymru fel rhan o'r Deyrnas Unedig yn gwneud hwn yn undeb llwyddiannus i…
29 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Brexit a'r berthynas â'r UE yn y dyfodol
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
22 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Mae'r cadoediad yn Gaza, er ei bod yn hen bryd iddo ddigwydd, yn cynnig gobaith ar ôl y dyddiau tywyllaf. Ni ddylai'r ymateb dyngarol gan y gymuned ryngwladol ailadrodd diffyg gweithredu Llywodraethau ledled y byd ers ymosodiadau brawychus ac erchyll Hamas ar…
22 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
A gaf fi ddechrau, Ddirprwy Lywydd, drwy groesawu datganiad ysgrifenedig y Llywodraeth heddiw y bydd cyfraniad ariannol pellach o £100,000 i ymgyrch ddyngarol DEC yn y dwyrain canol, yn dod â’r cyfanswm ers Hydref y llynedd i £200,000? Mae’r Pwyllgor…
22 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau fydd y Llywodraeth yn eu cymryd i gefnogi'r ymgyrch ddyngarol mewn ymateb i'r cadoediad yn Gaza? TQ1285
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
A gaf i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi’r ddau barc daeareg sydd â statws UNESCO yng Nghymru: parc Fforest Fawr ym Mannau Brycheiniog ac, wrth gwrs, parc GeoMôn yn…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Sôn am bethau a chodi pethau? Nid yw hynny'n gyfystyr â thrafod gyda Llywodraeth y DU. Yr hyn a ddywedwyd mewn ateb ysgrifenedig gan Lywodraeth y DU oedd hyn: 'Nid yw Llywodraeth y DU wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ar ddatganoli Ystad y…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Nid wyf yn siŵr beth mae'r Prif Weinidog yn ei gredu yw natur y sgyrsiau hyn y mae'n eu cael. Fe wnaethom ni ofyn i'r Canghellor pa drafodaethau diweddar yr oedd hi wedi eu cael gyda Llywodraeth Cymru ar ddatganoli rheolaeth Ystad y Goron i Gymru. Yr ateb, a…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mi fydd y Prif Weinidog yn gwybod bod Plaid Cymru wedi galw ers blynyddoedd lawer am ddatganoli Ystad y Goron. Sôn ydyn ni am reoli ac elwa ar ein hadnoddau naturiol. Wrth iddi hi nodi ei 100 diwrnod cyntaf yn ei rôl, mi ddywedodd y Prif Weinidog ei bod hi'n…
8 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Sefydlu ysgol ddeintyddiaeth ym Mangor
Diolch i Siân am ddod â'r ddadl yma o flaen y Senedd eto ac am ei gwaith dros gyfnod o flynyddoedd erbyn hyn yn ymgyrchu dros gael yr ysgol ddeintyddol newydd yn y gogledd. Rydym ni'n gwybod am yr argyfwng, onid ydym, sydd yn wynebu deintyddiaeth yng Nghymru…
8 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Dwi'n ddiolchgar i Janet Finch-Saunders am ofyn y cwestiwn yma heddiw, sy'n ein hatgoffa ni nad dim ond yn Ynys Môn mae'r effaith yn cael ei deimlo; mae'n cael ei deimlo mewn llefydd fel Aberconwy hefyd. Mi gawson ni nifer o atebion pwysig gan yr Ysgrifennydd…
7 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Porthladd Caergybi
Gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad o heddiw? Rydym yn falch ein bod ni wedi gallu bod mewn cyswllt drwy'r cyfnod yma hefyd, ac mi wnaf i nodi fy syndod ein bod ni wedi clywed cyn lleied gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, o ystyried…
7 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Cyflawni dros Gymru
Rydym ni'n dal eisiau gwneud hynny.
7 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Cyflawni dros Gymru
Rwyf i am orffen trwy fyfyrio ar yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog: 'Dim ond dechrau arni ydym ni.' Mae Llafur wedi bod yn arwain Llywodraeth Cymru ers 25 mlynedd. Os yw'r Prif Weinidog o'r farn mai nawr yw'r amser iddyn nhw ddechrau arni hi, yna mae hi'n…
7 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Cyflawni dros Gymru
Llywydd, mae addewidion gwag yn annog pobl i droi at rymoedd sy'n bwydo ar ofnau a rhagfarnau. Mae'n rhaid ennyn ymddiriedaeth yn ein haddewidion. Dyna ydy hanfod delifro: gwneud yr hyn rydyn ni'n dweud ein bod ni am wneud, a hynny er mwyn creu cymdeithas…
7 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Cyflawni dros Gymru
Datganiad llipa gan y Prif Weinidog oedd hwn, gyda'r enw 'cyflawni' arno, ond, yn y bôn, nid oedd yn gwneud dim ond ein hatgoffa ni mai Llywodraeth ddiffygiol yw hon sydd mewn rhigol, yn amddifad o syniadau, yn amddifad o egni, a chyn bo hir, gyda gobaith, fe…
7 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Prif Weinidog yn geg i gyd o ran y bartneriaeth mewn grym. Yn anffodus, nid yw'n gallu cyflawni unrhyw beth, mae'n ymddangos. Un ffordd o fod yn sicr o beidio â chael y £4 biliwn sy'n ddyledus ar HS2 yw rhoi'r gorau i ofyn. Yr un ffordd o fod yn sicr o…