13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Aelod yn disgrifio'r union beth y dylem ni i gyd fod yn ceisio ei gyflawni o ran gwneud trafnidiaeth gyhoeddus mor hygyrch a rhesymol a hawdd ei defnyddio fel bydd hwnnw'n ddewis amlwg. Rydym ni'n dymuno ei gwneud hi'n haws dewis trafnidiaeth gyhoeddus…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydym ni'n cymryd camau ledled Cymru i wella ac integreiddio'r ddarpariaeth ar draws teithio ar fysiau, rheilffyrdd a theithio llesol. Rydym ni'n gweithio yn glòs gyda Trafnidiaeth Cymru a'r awdurdodau lleol, gan gynnwys yn Syr Fynwy Torfaen. Rydym ni'n…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n falch iawn fod yr Aelod wedi tynnu sylw at yr ystadegyn hwnnw am draffig ar gyfer gofal sylfaenol ac i ba gyfeiriad y mae hwnnw'n mynd. Ac mae honno'n ffaith nad oes llawer yn gwybod amdani fod mwy o bobl o Loegr yn dod i Gymru i weld meddyg teulu na'r…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae cleifion yn y gogledd-ddwyrain yn haeddu gofal amserol, sy'n gydgysylltiedig, ni waeth ar ba ochr i'r ffin y mae hwnnw i'w gael. Rydym ni'n cryfhau partneriaethau trawsffiniol, yn symleiddio atgyfeiriadau ac yn gwella'r modd y caiff gwybodaeth ei rhannu…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Aelod yn cyfeirio at yr hyn a elwid yn llwybr du, wrth gwrs. Nid yw hwnnw'n llwybr gwarchodedig erbyn hyn. Pan gafodd y penderfyniad i ganslo'r llwybr arbennig hwnnw ei wneud, fe gafodd y dewis hwnnw ei dynnu oddi ar y bwrdd, neu am amser maith iawn…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae pobl yn iawn i fod yn rhwystredig oherwydd tagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd ac yn dymuno gweld gwelliant, ac felly'r wythnos diwethaf fe wnaethom ni ddod ag eglurder lle bu ansicrwydd, rwy'n credu, ers llawer gormod o amser. Rydym ni wedi gwneud…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, mater a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU yw darpariaeth swyddfa bost ynddo'i hun, ond yn sicr, rwy'n cydnabod pa mor bwysig yw parhad y ddarpariaeth o gangen â gwasanaeth llawn yng nghanol dinas Abertawe, yn enwedig ar gyfer pobl hŷn a phobl anabl…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Llywodraeth yn credu yn nyfodol canol ein trefi a'n dinasoedd. Maen nhw'n ganolog i hunaniaethau lleol, ein diwylliant a'n cymunedau. Rydym ni'n gwrthod derbyn eu dirywiad ac eisiau ailddyfeisio ac ail-bwrpasu'r canol trefi a dinasoedd hynny ar gyfer y…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Nid oes unrhyw amheuaeth bod ymwelwyr iechyd yn cael eu hysgogi gan alwedigaeth. Rwyf i wedi cyfarfod â'r rhai sy'n rhan o'r anghydfod penodol hwn ar hyn o bryd. Maen nhw eisiau dychwelyd i'r gwaith. Dyna graidd hyn o'u safbwynt nhw. Ydym, rydym ni'n sôn am…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Nid yw mor syml â hynny. Mae hwn yn ddatrysiad a all ddod o broses datrys anghydfod rhwng y cyflogwr a'r cyflogai yn unig. Yr hyn y mae angen i ni ei sicrhau, fel y dywedais, yw bod gennym ni eglurder llwyr bellach ar strwythurau cyflog a bandio, fel y mae…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'n anodd i mi wneud sylwadau ar yr hyn a fyddai wedi digwydd yn y dyddiau cynnar, oherwydd roedd hynny o dan Lywodraeth Lafur. A ydw i'n credu y dylem ni rhoi pwyslais trwm ar bartneriaeth gymdeithasol? Ydw, yn sicr. Mae hynny'n dod i ddatrys anghydfodau…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n cytuno ei bod hi'n bwysig bod dealltwriaeth wirioneddol o le mae'r datrysiad i'r anghydfod hwn. Lle mae anghydfodau yn parhau ac yn effeithio ar y ddarpariaeth o wasanaethau, ble bynnag y gallai hynny fod, mae'n rhaid i fyrddau iechyd ddangos sut mae…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae hwn yn anghydfod, fel y mae'r Aelod yn ei nodi'n gywir, a etifeddwyd gan y Llywodraeth hon, a do, fe wnes i ddweud fy mod i eisiau i'r anghydfod hwn gael ei ddatrys yn gyflym iawn. Rwy'n dweud rŵan, hefyd, rŵan fy mod yn y Llywodraeth, fy mod i eisiau i'r…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n cydnabod y rhan hanfodol y mae ymwelwyr iechyd yn ei chwarae yn cynorthwyo plant a theuluoedd ledled Cymru. Y bwrdd iechyd fel y cyflogwr sy'n gyfrifol am eu cyflog, eu gradd a'u cyflogaeth. Ond rydym ni wedi ymgysylltu â'r bwrdd iechyd a'r undeb…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Gallwn gyfeirio at lu o dargedau sydd eisoes ar waith, o'r targed economaidd ystyrlon cyntaf yr ydym ni wedi ei gael ers chwarter canrif efallai, ar haneru'r bwlch cynhyrchiant â gweddill y DU o fewn degawd. Mae hynny'n gosod ein golygon yn uchel, ond mae…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae hon yn rhaglen o waith a roddwyd ar waith gennym ni yn ystod wythnosau cynnar y Llywodraeth newydd hon. Mae'r rhaglen lywodraethu wedi'i hadeiladu ar gyfres o flaenoriaethau. Bydd angen dull Llywodraeth Cymru gyfan i gyflawni'r blaenoriaethau hynny a'r…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, nid yw gwario llai yn golygu chwaith eich bod chi'n fwy effeithlon neu'n fwy effeithiol, dyna fyddai fy ymateb i hynny. Rydych chi'n gwario'r hyn y mae angen i chi ei wario, dim ceiniog yn fwy. Rydych chi'n ysgogi'r effeithlonrwydd hwnnw, rydych chi'n…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae ein rhaglen lywodraethu yn pennu blaenoriaethau eglur. Byddwn ni'n ysgogi effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd drwy ganolbwyntio ar y blaenoriaethau hyn, gan weithio ar y cyd ar draws y Llywodraeth â phwyslais eglur ar ganlyniadau i bobl Cymru. Rydym ni…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dylai cyflog adlewyrchu perfformiad, yn sicr. Ond tynnaf sylw eto at yr eironi yma. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n cael gwerth am arian o'r hyn sydd, ydyn, ar adegau, yn gyflogau uchel yn y sector cyhoeddus. Ond cymharwch tebyg am debyg. Ble'r…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'n rhaid i mi ddweud ar y cychwyn bod yna eironi gwirioneddol yma, onid oes, bod y Ceidwadwyr yn dewis canolbwyntio ar gyflogau uchel pan fo toriadau treth i'r enillwyr uchaf bob amser ymhlith y grymoedd sy'n ysgogi agenda'r Ceidwadwyr, sy'n gwneud dim o…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n sicr yn cytuno â'r sylwadau a wnaed bod ymgyrch ideolegol i wthio trafnidiaeth gyhoeddus i lawr gan feinciau Reform, ac nid yw'n ymddangos bod ots ganddyn nhw ar bwy y mae hynny'n effeithio. Rwy'n credu ein bod ni wedi gweld yn ystod yr wythnosau…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fel y dywedais i yn flaenorol, rwy'n falch iawn ein bod ni wedi dod i gytundeb, a diolchaf i'r rhai a ymgysylltodd yn adeiladol iawn â ni i'n cael ni i bwynt lle mae'r ddau ohonom ni bellach yn gallu cymryd camau i ryddhau arian ar gyfer gwasanaethau…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'n ymddangos bod y cynllun seddi ar yr ochr yna i'r Siambr yn newid bob wythnos. [Chwerthin.] A byddwn yn awgrymu efallai iddi beidio â gwneud ei hun yn rhy gyfforddus lle mae hi chwaith. Mae gennym ni gytundeb ar waith ar y gyllideb atodol ac rwy'n…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Disgrifiais yn y Senedd yr wythnos diwethaf y dull aml-gam yr ydym ni'n ei fabwysiadu o fynd i'r afael â mater y dewisodd gweinyddiaethau blaenorol beidio â mynd i'r afael ag ef. Nid yw peidio â gweithredu, rydym ni wedi penderfynu, yn opsiwn i'r Llywodraeth…
13 Hydref 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu y byddwn i'n cyfeirio'r Aelod at y gwaith diogelu y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud yn gyffredinol, gan wneud yn siŵr ein bod ni'n cryfhau'r darpariaethau yr ydym ni'n eu rhoi ar waith fel Llywodraeth Cymru i ddiogelu dinasyddion Cymru…