16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fod unrhyw benderfyniadau yn rhai y gallwn ni eu rheoli nhw yma yng Nghymru, ac rwy'n gobeithio y byddai'r Aelod yn ymuno â mi i alw am ddatganoli pob prosiect ynni o San Steffan i Gymru, oherwydd nid oes unrhyw…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fe fyddwn ni'n adolygu ein polisïau cynllunio a seilwaith i sicrhau y bydd ystyriaeth briodol yn cael ei rhoi i faint, lleoliad ac effaith gronnol datblygiadau ynni, gan gynnwys seilwaith trosglwyddo a dosbarthu, drwy'r system gynllunio. Fe fydd yr adolygiad…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Aelod yn gywir i ddweud fy mod i, a ni ar y meinciau hyn yn gefnogol i'r ymateb deddfwriaethol hwnnw, ac mae mynd i lawr y llwybr deddfwriaethol yn parhau i fod yn rhywbeth y gellir ei drafod. Mae yna raglen sylweddol o ddeddfwriaeth y mae angen i ni ei…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mewn ffordd, mae'r ateb yn y cwestiwn hefyd, ac mae'r Aelod yn sylweddoli yr her, ac mae cydweithio ar draws Llywodraeth yn rhywbeth dwi'n gobeithio fydd yn dod yn thema y byddwn ni'n dychwelyd ati dro ar ôl tro. Mae gwaith eisoes yn digwydd o fewn y…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydym ni'n ymrwymedig i ddull gweithredu system gyfan o ran niwroamrywiaeth, sy'n adeiladu ar y cod ymarfer awtistiaeth ar gyfer gwella cysondeb, lleihau anghydraddoldebau a chyflawni canlyniadau gwell ledled Cymru. Fe fyddwn ni'n cryfhau hyfforddiant ac…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Y peth pwysig i'w ddweud yw nad yw deallusrwydd artiffisial yn ymwneud â disodli staff, nid yw'n ymwneud â disodli barn glinigol, er enghraifft, mae'n ymwneud â lleihau tasgau gweinyddol fel gall clinigwyr ganolbwyntio ar y rhannau o'r swydd y gellir eu…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae arnaf i ofn nad wyf i'n gallu esbonio na disgrifio pa gyfarpar deallusrwydd artiffisial yn union sy'n cael ei defnyddio. Fe edrychaf i weld a allwn ni ysgrifennu at yr Aelod i roi syniad ynghylch y mathau o gyfarpar sydd ar waith. Ond y peth allweddol yw…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae gennym ni restr yna o ymyriadau technolegol ac sy'n defnyddio deallusrwydd artiffisial posibl a fyddai'n gallu ein helpu ni i drawsnewid y gwasanaeth iechyd yn wirioneddol. Rydym ni wedi ei wneud yn un o bynciau canolog ein cynlluniau ni i wneud gofal…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydym ni'n cefnogi mabwysiadu deallusrwydd artiffisial mewn modd diogel a chyfrifol yn y gwasanaeth iechyd. Mewn partneriaeth â'r GIG, rydym ni'n archwilio sut y gall technolegau o'r fath wella mynediad at wasanaethau i gleifion, ysgafnu'r baich gweinyddol i…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Roedd fy Nirprwy Brif Weinidog yn falch iawn hefyd o fod yn y digwyddiad neithiwr ac am iddo fod wedi gallu rhoi anerchiad yn y fan honno. Unwaith eto, fe hoffwn i ategu geiriau'r Aelod, sy'n arddangos dealltwriaeth eglur unwaith eto o bwysigrwydd arweiniad…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Roedd honna'n ffordd greadigol iawn, Lywydd, o gysylltu ei hun â sylwadau, braidd yn rhy agos, yr Aelod o Reform. O ran gangiau meithrin perthynas amhriodol, rwy'n eithaf eglur bod angen i ni ddeall beth yn union sy'n digwydd. Nid yw plismona wedi'i…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n sicr yn cysylltu fy hun â'r sylwadau hynny ac yn cytuno â nhw, ac yn gwneud y pwynt eto mai ein cyfrifoldeb ni yma yw dangos arweinyddiaeth ar y math o ddadl. Ac mae hwnnw'n un beth cadarnhaol sy'n deillio o hyn, ein bod ni'n gallu dangos arweinyddiaeth…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Yn sicr, ac rwy'n gobeithio fy mod i'n siarad ar ran y Senedd gyfan hon wrth ddweud ein bod ni wedi bod yn falch o allu cynorthwyo pobl a ddaeth yma o Wcráin i ffoi rhag bwledi Putin. Rwy'n cofio'r ffilm a ddangoswyd ar Newyddion ar S4C am ferch a oedd wedi…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n tybio, Lywydd, y bydd yn rhaid i ni ddod i arfer â'r math hwn o gyfraniad, lle ceir ymgais yma i achosi holltau rhwng cymunedau. Ac ni wnaf i, fel Prif Weinidog, a gwn fy mod i'n siarad ar ran fy Llywodraeth, ymateb i hynna gan feinciau Reform. Do, fe…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r dull cenedl noddfa yn hyrwyddo cymunedau mwy diogel a mwy unedig drwy weithio gyda phartneriaid i gefnogi integreiddiad, i ddiogelu pobl agored i niwed ac i nodi a mynd i'r afael â risgiau yn briodol.
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Aelod yn tynnu sylw at y sefyllfa yn ei etholaeth benodol ef, fel y byddwn i'n disgwyl iddo ei wneud. Ac er nad wyf i'n gallu gwneud cymariaethau, gan nad yw'r rhifau gen i yma, rhwng yr hyn sy'n digwydd yn union ar y ffin rhwng un etholaeth a'r nesaf…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydym ni'n amlwg yn rhannu uchelgais cyffredin i dyfu'r busnesau brodorol sydd gennym ni yma yng Nghymru. Mae'r Gweinidog Cabinet dros fenter yn aml yn sôn am yr angen hwnnw i dyfu'r canol coll hwnnw yng Nghymru, a dyna'n union y byddwn ni'n ceisio ei wneud…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r rhwystredigaeth sy'n cael ei leisio gan yr Aelod yn un yr wyf i wedi ei lleisio sawl gwaith hefyd o ran edrych ar wariant caffael ar waith a'r bunt Gymreig yn gadael Cymru yn ddiangen yn llawer rhy aml. Rwy'n falch iawn o gael y cyfle i ail-bwysleisio…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae busnesau lleol yn bwysig i gymunedau yng Ngŵyr Abertawe. Bydd fy Llywodraeth i yn eu cefnogi nhw i arloesi, tyfu a gwella cynhyrchiant. Mae hynny'n golygu cymorth ymarferol trwy'r cymorth busnes a gynigir a chymorth cadwyn gyflenwi leol cryfach. Rydym ni…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n meddwl, mor agos at etholiadau lleol y flwyddyn nesaf, nad wyf i'n meddwl y byddai'n bosibl cyflwyno ffordd newydd o ethol aelodau, er mai penderfyniad i awdurdodau lleol eu hunain fydd hwnnw yn y pen draw. Mae gwaith yn parhau o ran cofrestru…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Ydw, rwy'n meddwl y dylai sicrhau bod y Senedd hon yn gynrychioliadol o'r bobl yr ydym ni'n eu gwasanaethu, yn gyfoethog o ran ei hamrywiaeth, fod yn rhywbeth sy'n bwysig i bob un ohonom ni. Roeddwn i'n sicr yn falch ein bod ni, fel plaid, wedi gallu chwarae…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n meddwl mai'r peth pwysig yma, ac yn sicr yr hyn a fyddai'n fy ysgogi i wrth feddwl beth yw'r system etholiadol orau i ni yng Nghymru, yw, ydy, mae'n gymysgedd o'r hyn y gall pobl ei ddeall mewn cyfnod byr o amser—cael eu haddysgu am sut mae system…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mater i'r Senedd yw penderfynu a ddylid sefydlu'r adolygiad, unwaith y bydd y Llywydd yn cyflwyno'r cynnig sy'n ofynnol o dan y ddeddfwriaeth. O ystyried y newidiadau sylweddol i'r Senedd a'n system etholiadol, gall adolygiad o'r system newydd ei hun gryfhau…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n meddwl bod yr Aelod yn iawn y byddem ni'n disgwyl i Gymru gael cyfran deg. Mae hefyd yr un mor wir i ddweud, os yw Llywodraeth y DU, fel y credir, yn mynd i fod yn gwneud newidiadau i wariant amddiffyn a gwneud hynny ar sail gwariant cyhoeddus sy'n…
16 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Un o fy ymweliadau cyntaf fel Prif Weinidog oedd i weld Valley Veterans a rhannu straeon gyda nhw am eu hamser yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog ac i addo iddyn nhw ein bod yn benderfynol o gyflawni ar y cyfamod sydd mor bwysig i'r rhai sydd wedi gwasanaethu…