30 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Roedd y maniffesto y gwnes i sefyll ar ei sail yn addo rhoi camau ar waith i gymell recriwtio athrawon. Dyna'n union yr ydym ni wedi ei wneud. Mae angen mwy o athrawon arnom ni. Rwy'n gobeithio y gallwn ni gytuno ar hynny. Rydym ni wedi cymryd mesurau drwy…
30 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae cefnogi'r gweithlu addysg yn ganolog i'n cenhadaeth i godi safonau a rhoi'r sylfaen orau i ddysgwyr ar gyfer eu dyfodol. Roeddwn i'n falch o ymuno â'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg ar 11 Mehefin i gyhoeddi ein bod ni wedi cyflawni ein…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Yn ymarferol, mae fy swyddogion i'n gweithio'n agos gyda'r awdurdodau lleol a'r Swyddfa Gartref i sicrhau bod camwybodaeth ynghylch llety lloches, er enghraifft, yn cael ei nodi yn gyflym, ac fe ofynnir i'r Swyddfa Gartref gywiro unrhyw beth sy'n niweidiol ac…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydym ni wedi ymrwymo i frwydro yn erbyn camwybodaeth a thwyllwybodaeth am geiswyr lloches, ffoaduriaid ac ymfudwyr, i gefnogi cymunedau teg, diogel a chytûn. Mae yna broblem gynyddol o ran defnyddio camwybodaeth ynglŷn â cheiswyr lloches, ffoaduriaid ac…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n ymwybodol ac rwy'n nodi'r pryder am y prosiect penodol hwnnw. Wrth gwrs, o ran prosiectau penodol, penderfyniadau i'r awdurdodau lleol eu gwneud ydyn nhw. Rwy'n cydnabod hefyd, wrth gwrs, y pwyntiau ehangach y mae'r Aelod yn eu gwneud o ran sicrhau bod…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fe fydd ein strategaeth ynni genedlaethol yn sicrhau bod prosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru o fudd i Gymru. Fe fyddwn ni'n symud y tu hwnt i fuddion cymunedol gwirfoddol tuag at greu cyfleoedd i gymunedau fod yn berchen ar brosiectau. Mae gennym ni…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fe ddaeth rhai canlyniadau brawychus i'r golwg o ganlyniad i adolygiad Milburn, ac fe ddylem ni i gyd fod yn bryderus iawn am y gyfradd uchel a welwn ni o NEETs, ac mae'r Aelod yn myfyrio ar y sefyllfa arbennig o ddyrys yn ei hetholaeth hi. Yn y pen draw, mae…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mi fyddwn ni'n defnyddio dull cydweithredol, effeithiol, sy'n seiliedig ar lefydd i helpu pobl ifanc ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni i gael hyfforddiant a chyflogaeth. Gan ddefnyddio'n dulliau cymorth ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau, mi wnawn ni ddarparu…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Unwaith eto, fe wyddom ni am y pwysau ym Mhowys, yn sicr, ac mae'r Gweinidog iechyd a'r Gweinidog cyllid, rwy'n gallu eich sicrhau chi, yn ymwybodol iawn o'r pwysau ar draws y system iechyd gyfan yng Nghymru. Fe aeth newidiadau, wrth gwrs, i drefniadau…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Llywodraeth wedi gwneud buddsoddiad sylweddol eisoes yn y cam mawr cyntaf o greu cynaliadwyedd ym maes iechyd a gofal yng Nghymru. Mae hynny'n cynnwys cleifion ym Mhowys y gwyddom ni, yn sgil dadleuon yma yn y Senedd yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n mynd i daflu hynny'n ôl at yr Aelod os caf i, gan awgrymu mai'r hyn y mae ei etholwyr ef yn ei eisiau yw canlyniadau gwell yn hytrach na mwy o arian. Rŵan, efallai y bydd arian—[Torri ar draws.] Wel, nid yw hi'n ymddangos ei fod yn argyhoeddedig o…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Roedd Gweinidog y Cabinet dros Iechyd a Gofal yn nodi blaenoriaethau ar gyfer gofal iechyd yng Nghymru, gan gynnwys ym Mrycheiniog Tawe Nedd, yn ei ddatganiad llafar ar 2 Mehefin. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar wella mynediad, cryfhau gwasanaethau lleol…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fel y cyfeiriais ato yn gynharach, mae fy Llywodraeth i wedi ymrwymo, trwy waith y Gweinidog menter, cysylltedd ac ynni a'r Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, i sicrhau y bydd seilwaith gennym ni sy'n gweithio i ni o ran estyn cyfleoedd economaidd a…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae yna sawl pwynt y gallwn ni ei wneud yma. Rwy'n credu y dylid uno cenedl Cymru, ac rwy'n credu mai ein prifddinas ni yw'r brifddinas i bawb, boed i bobl Penarlâg neu bobl Caergybi neu bobl Merthyr Tudful. Rydym ni'n adeiladu economi sy'n gweithio i ni. Ie…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r gogledd yn amlwg yn rhan allweddol o'n huchelgeisiau economaidd ni yn y Llywodraeth. Fe fyddwn ni'n cryfhau cysylltiadau economaidd gogledd Cymru â gogledd-orllewin Lloegr drwy well cysylltiadau trafnidiaeth, drwy gydweithio trawsffiniol ymarferol, drwy…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n cymryd mai rhoi anogaeth y mae cwestiwn yr Aelod i barhau â'r hyn yr ydym ni wedi dechrau ei wneud yn nyddiau cynnar y Llywodraeth hon, a chynyddu ein hymdrechion. O ran chwalu seilos, fe ddylwn i ddweud bod gwaith ar y gweill eisoes yn y Llywodraeth i…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydym ni'n amlwg yn gytûn yn hyn o beth. Rydym ni'n gallu gweld gwaith da a wnaed yn ddiweddar ynghylch datblygu'r metro yn y de a sut mae hynny wedi trawsnewid y ffordd y mae pobl yn teithio yn eu cymunedau eu hunain ac o un gymuned i'r llall. Rwy'n llawn…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fe wnes i fwynhau fy ymweliad yn ddiweddar â Phont-y-pŵl gyda'r Aelod a, do, fe wnaethom ni ymweld â'r Stryd Fawr a'r farchnad bryd hynny. Mae yna ymdeimlad gwirioneddol o gymuned a dyhead i greu bywyd newydd yno, ac mae yna arwyddion gwirioneddol o'r bywyd…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n cytuno â'r rhwystredigaeth sy'n cael ei leisio gan yr Aelod. Mae hwn yn fater sy'n destun pryder gwirioneddol i mi—sef pan fydd pobl yn gweld canol eu tref, maen nhw'n aml yn meddwl mai canol eu tref nhw yw'r un gwael. Cymerais ran mewn ymchwiliad gan y…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydym ni'n adfywio'r dull o ymdrin â strydoedd mawr, gan gynnwys sefydlu tasglu canol trefi i nodi mesurau ymarferol, fel ardrethi annomestig a diwygiadau cynllunio, i gefnogi strydoedd mawr a busnesau lleol. Rydym ni eisiau i'n strydoedd mawr ffynnu a…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Unwaith eto, mae'r rhain yn enghreifftiau lleol, fel y bydd gan bob Aelod. Dwi'n atgoffa eto mai penderfyniadau i awdurdodau lleol ydy'r rhain yn y pen draw. Mae yna gwestiynau yn codi o ran llwybrau teithio llesol yn y cwestiwn yna. Mae hwnnw, o bosib, yn…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Heb amheuaeth, mae yna enghreifftiau o arfer da ar draws Cymru, ac mi wnes i gyfeirio at y sefyllfa yng Nghaerffili. Mi fydd yr un peth yn wir mewn awdurdodau lleol hefyd. Ond mae hi'n amlwg yn wir fod yna heriau yn wynebu pob awdurdod lleol, yn cynnwys…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae hwn yn un o'r materion yna, fel y dywedodd yr Aelod, lle bydd yna gydweithio yn lleol, dwi'n gobeithio, ar faterion sydd o bryder i rieni. Yr ateb byr i'r cwestiwn yna ydy y byddwn ni yn sicr yn gweithio efo awdurdodau lleol i chwilio am ffyrdd o wella…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Byddwn ni fel Aelodau sy'n cynrychioli etholaethau ym mhob rhan o Gymru, gallaf eich sicrhau chi, yn derbyn gohebiaeth gan rieni ar adegau sydd â phryderon, yn gwbl briodol, am y ddarpariaeth o gludiant i'r ysgol. Mae hyn yn destun pryder iddyn nhw, ond mae'r…
23 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gludiant i'r ysgol, ac rydym ni'n gweithio'n agos â nhw i gefnogi mynediad at addysg. Rwy'n cydnabod pwysigrwydd sicrhau y gall dysgwyr deithio'n ddiogel ac y gallan nhw deithio'n fforddiadwy. Yn rhan o hyn, rydym ni'n…