14 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio fformiwla dyrannu adnoddau i ddosbarthu'r rhan fwyaf o gyllid y GIG yn ôl anghenion iechyd cymharol y boblogaeth syn cael eu gwasanaethau gan bob bwrdd iechyd. Fe gyfeirir at y fformiwla honno'n gyffredin fel fformiwla…
14 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i chi, a llongyfarchiadau i Terry a'r tîm yn Premier Forest Products. Mae'n rhaid i gyflogwyr da ddangos y ffordd hefyd, felly mae fy niolchgarwch i'n ddiffuant iawn i'r tîm yno yng Nghasnewydd. Mae'n rhaid cael llaweroedd o bethau at ei gilydd, onid…
14 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae cefnogi pobl ifanc nad ydyn nhw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Rydym ni'n buddsoddi mewn cymorth sy'n cynorthwyo pobl ifanc i ddatblygu sgiliau, magu hyder a symud i addysg, hyfforddiant, cyflogaeth neu…
14 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am amlygu'r pwysau gwirioneddol sydd yna, wrth gwrs, sy'n cael ei achosi gan gostau gofal plant. Er bod fy mhlant i'n mynd yn hŷn erbyn hyn, dwi'n cofio'n iawn y gost drwm oedd yna o ddarparu gofal plant, ac rydyn ni fel…
14 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, fel y dywedais i'n gynharach, mae’r Llywodraeth yn cyflymu’r broses o gyflwyno 12.5 awr o ofal plant wedi’i ariannu i bob plentyn dwy oed ledled Cymru. Mi ddylai’r cyllid ychwanegol yn y gyllideb atodol alluogi awdurdodau lleol i wneud cynnydd wrth…
14 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, fe wnaf i ymrwymo i ystyried y rhan fwyaf o bethau, oherwydd rydym ni'n chwilio am syniadau da bob amser. Rwy'n gwybod bod y rhwystrau i'r sector cerbydau nwyddau trwm, o ran gyrwyr, yn tarddu o sawl ffynhonnell. Mae'r anhawster gyda chapasiti'r profion…
14 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae busnesau bach a chanolig wrth galon economi Sir Gaerfyrddin. Rydym ni'n eu cefnogi nhw drwy gyfrwng Busnes Cymru, Banc Datblygu Cymru, cymorth Arloesi SMART, rhaglenni adfywio canol trefi, cyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi sy'n gysylltiedig â buddsoddiadau…
14 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fel systemau gofal iechyd eraill, gan gynnwys mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, mae'r gwasanaeth iechyd yma yn wynebu heriau ariannol sylweddol. Dwi'n meddwl bod hynny'n blaen i bawb. Mae angen rhagor o waith yn sicr, a chamau gweithredu, i'w roi o ar…
14 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fel rhan o’n cynllun 100 diwrnod cyntaf, mi ydyn ni’n adolygu’r trefniadau presennol ar gyfer gwerthuso perfformiad ariannol y gwasanaeth iechyd. Mi fydd cryfhau’r dull hwnnw, ynghyd â symud y system yn raddol tuag at atal, yn hanfodol i sicrhau cynaliadwyedd…
14 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n sicr yn cytuno â'r Aelod o ran pwysigrwydd y sector. Rwy'n dweud hynny a minnau'n gyn-aelod gweithredol o'r grŵp trawsbleidiol yn y Senedd ddiwethaf, a'r un blaenorol, ar ofal diwedd oes. O ran mater penodol Ysbyty Cwm Cynon, rwy'n credu mai safbwynt y…
14 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydym ni wedi ymrwymo i gryfhau gofal lliniarol a diwedd oes yn ogystal â datblygu model cynaliadwy i gyllido hosbisau. A ninnau'n Llywodraeth newydd, rydym ni'n adeiladu ar sylfeini pwysig a gafodd eu sefydlu ledled Cymru eisoes, gan gynnwys y datganiad…
14 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Aelod yn gwbl gywir i dynnu sylw at y meysydd heriol hynny. Nid mater o feddwl amdanyn nhw ar wahân yn unig ydyw, mae'n fater o'r ffordd y maen nhw'n cyffwrdd â'i gilydd. Mae'n fater o fabwysiadu'r dull traws-lywodraethol hwnnw. Dyna'r ffordd y mae fy…
14 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Oherwydd rydym ni'n gwybod bod y pwysau'n fawr. Ac yn ysbryd deall y pwysau hwnnw y mae ymgysylltu wedi digwydd yn ystod yr wythnosau diwethaf. Ac, fel y nodais i mewn llythyr at arweinydd y grŵp Llafur ddoe, roeddwn i'n gwerthfawrogi'r penderfyniad a…
14 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Cynaliadwyedd ydy'r peth pwysig yn fan hyn, onid yw e? Dros yr wythnosau diwethaf, mae yna lot o gyfeirio wedi bod at sut rydym ni'n cyrraedd at bwynt lle mae yna gynaliadwyedd. Nid ateb tymor byr ydy hwn; mae angen dull partneriaeth go iawn, onid oes, i…
14 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol a sicrhau system gynaliadwy yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn codi safonau a sicrhau bod y dysgwyr yma'n cael y cymorth maen nhw ei angen i ffynnu. Mi ydym ni wedi…
14 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Hoffwn gysylltu fy hun â'r holl eiriau a lefarwyd gan yr Aelod yn y fan yna. Nid yw hyn yn—. Mae yna elfennau o bolisi yma, ond mae hyn yn ymwneud â gwerthoedd. Mae hyn yn ymwneud â sicrhau, ym mhopeth yr ydym ni'n ei wneud fel Llywodraeth, boed hynny ym…
14 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n siŵr bod yr Aelod yn gwthio terfynau'r hyn y byddai'r Llywydd yn ei ystyried yn dderbyniol yn y Siambr. Mae fy Llywodraeth yn credu mewn cynnig cyfleoedd i bobl mewn ffordd sy'n hybu cyfle cyfartal. Mae'r Aelod yn dewis canolbwyntio ar liw croen. Byddwn…
14 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Yn ei datganiad llafar ar 9 Mehefin, cyflwynodd y Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb ein blaenoriaethau ar gyfer hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol: meithrin parch, undod a thegwch. Rydym ni wedi ymrwymo i…
14 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'n gwestiwn ar wahân, ond mae'n gwestiwn dilys iawn, iawn: sut, pan fydd gwariant amddiffyn yn cael ei wneud, neu pan fydd buddsoddiad mewn amddiffyn yn cael ei wneud, bod tegwch yn y ffordd y mae'r gwariant hwnnw'n cael ei wneud o leiaf. Os edrychwch chi…
14 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Byddwn yn gobeithio bod pob un ohonom ni eisiau gweld gwariant cyfalaf ar ysgolion ac ysbytai. Mae'r rhain yn elfennau pwysig dros ben ar gyfer dyfodol ein cenedl. Fel y dywedais i, y pwynt yma yw nad ydym ni wedi bod yn rhan o unrhyw ran o'r drafodaeth hon…
14 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'n bwynt pwysig iawn. Rydym ni'n cydnabod yn llwyr wyneb newidiol y bygythiadau sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd a'r dadleuon o blaid cryfhau gwariant ar amddiffyn, gan gynnwys yn y sector seiber, lle mae gennym ni arbenigedd gwirioneddol yma yng Nghymru…
14 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mi ydyn ni’n amcangyfrif y bydd gostyngiad o £25 miliwn i £30 miliwn o leiaf yng nghyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru yn y flwyddyn ariannol hon, efo gostyngiadau pellach yn y blynyddoedd i ddod. Mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol hefyd wedi nodi y bydd angen…
14 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Gan fod biniau yn thema yma, rwy'n hoffi'r cynhwysydd sbwriel yn taflu, wrth gwrs, enw da arweinydd Reform ar y domen ar hyn o bryd. Eto, pan fyddwch chi'n sôn am bobl yn gyrru i leoedd i gael gwared ar boteli, wrth wraidd y cynllun dychwelyd ernes, fel…
14 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fe wnaf i, wrth gwrs, yn gyntaf, anfon fy nghydymdeimlad hefyd at anwyliaid Bonnie Tyler, trysor cenedlaethol a oedd yn rhan o fy mywyd cyn belled yn ôl ag y gallaf i gofio. Bydd yn cael ei chofio'n hoffus, hoffus iawn gan bob un ohonom ni yma yng Nghymru ac…
14 Gorffennaf 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wrth gwrs, bydd fy Llywodraeth yn gwneud popeth y gallwn ac rydym ni eisoes wedi gwneud hynny i gynorthwyo'r rhai sydd wedi'u heffeithio gan y tanau hyn. Mae fy niolch i ddechrau yn mynd i'r bobl a ymatebodd iddyn nhw. Mae fy meddyliau gyda'r bobl sy'n cael…