25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Wel, mae’n peri dryswch i mi pam y byddai unrhyw un yn synnu at y cyhoeddiad sydd wedi’i wneud, o ystyried, fel y dywedoch chi, fod ymgysylltu enfawr wedi bod: cafwyd 1,500 o ymatebion gan Gynghrair Twristiaeth Cymru, ac roeddem yn amlwg yn ddiolchgar…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Atebais gwestiwn ar hyn yn ystod y cwestiynau y prynhawn yma. Buom yn ei drafod ychydig wythnosau yn ôl. Dewch.
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Ar 24 Mai, nodais y ddeddfwriaeth sy’n ofynnol i newid y trothwyon hunanddarpar. Roedd hyn yn dilyn fy nghyhoeddiad ar 2 Mawrth ac ymgynghoriad technegol. Bydd y ddeddfwriaeth yn dod i rym ar 14 Mehefin, ond bydd iddi rym ymarferol o 1 Ebrill 2023 ymlaen.
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Fel y disgrifiais mewn ateb blaenorol i un o'ch cyd-Aelodau, cawsom drafodaeth yng nghyfarfod diweddaraf yr is-grŵp cyllid lle y gwnaethom ystyried y fformiwla a dywedasom y byddem yn dod yn ôl ati eto yn ein cyfarfod cyntaf yn dilyn yr etholiadau llywodraeth…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi diwygiadau i wella'r ddarpariaeth a chynyddu cynaliadwyedd y sector gofal cymdeithasol cyfan. Yn 2022-23 yn unig, rydym yn darparu dros £250 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys £180…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Diolch am y cwestiwn. Y llynedd, fe wnaeth ein cronfa gymorth rheoli ansawdd aer lleol roi cymorth i awdurdodau lleol gyflawni prosiectau arloesol a all atal neu liniaru problemau llygredd aer, a llwyddodd ceisiadau gan Gyngor Dinas Casnewydd, yn ogystal â…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Darperir cymorth ar gyfer dyletswyddau ansawdd aer statudol awdurdodau lleol drwy'r setliad blynyddol heb ei neilltuo gwerth £5.1 biliwn. Dyfarnwyd £355,000 mewn grant gennym y llynedd i gynyddu gallu awdurdodau i fynd i'r afael â llygredd aer yn eu…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Wel, dylai cyrff cyhoeddus yng Nghymru fod yn edrych ar bopeth drwy lens Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac yn sicr yn archwilio beth arall y gallant fod yn ei wneud fel sefydliadau i'n helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur. Felly, dylai…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae hwnnw'n gwestiwn diddorol iawn ac rwy'n credu ei fod yn dangos pwysigrwydd ein cynllun gwella'r gyllideb, a gyhoeddais gyntaf yn ôl yn 2018, ond mae wedi dod yn ddogfen dreigl, gan edrych ymlaen dros bum mlynedd ar y ffyrdd yr ydym yn gwella proses y…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae ein dull gweithredu yn parhau i gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ganolog iddo. Ochr yn ochr â'n cyllideb ar gyfer 2022-23 sy'n darparu'r sylfeini ar gyfer Cymru gryfach, decach a gwyrddach, mae'r Ddeddf yn ganolog i'r…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Lywydd, mae hwn mewn gwirionedd yn fater i fy nghyd-Weinidogion, y Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, mewn perthynas â'u cyfrifoldebau cyllidebol, ond efallai y caf ddiweddariad gan fy nghyd-Weinidogion am hyn, oherwydd nid yw'r…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Nodir fy mlaenoriaethau yn ein rhaglen lywodraethu a'r gyllideb ddiweddar ar gyfer 2022-23, sy'n cyflawni ar sail ein gwerthoedd ac yn darparu'r sylfaen ar gyfer Cymru gryfach, decach a gwyrddach.
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Wel, ni allaf ond ailadrodd yr hyn a ddywedodd fy nghyd-Weinidog y Gweinidog Newid Hinsawdd wrthych ym mis Ionawr, sef ein bod, wrth gwrs, yn deall yr anawsterau a achoswyd i'ch etholwyr o ganlyniad i'r gwaith sydd angen ei wneud, ond cyfrifoldeb yr awdurdod…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Er mai mater i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yw hwn, deallaf fod ei swyddogion wedi bod mewn cysylltiad â'r awdurdod lleol, sy'n gyfrifol am gynnal a sicrhau gwytnwch asedau o'r fath. Nid oes cais ffurfiol wedi ei roi gan Gyngor Sir Ddinbych i Lywodraeth…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Ar y cwestiwn cyntaf gennych ynglŷn â bandiau oedran, gofynnwyd i'r is-grŵp dosbarthu edrych ar hynny yn dilyn cwestiynau a godwyd gan eich cyd-Aelod, Sam Rowlands, ar hyn. Felly, bydd y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Ond rhaid imi ddweud bod y mwyafrif llethol…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Byddaf yn parhau i sicrhau cyllid teg i bob awdurdod yng Nghymru drwy fformiwla ddosbarthu dryloyw, deg ac sy'n cael ei chynhyrchu ar y cyd ar gyfer y setliad llywodraeth leol gyda'n partneriaid llywodraeth leol.
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae’n braf iawn gweld bod y cen wedi syrthio oddi ar lygaid arweinydd y Ceidwadwyr mewn perthynas â chyllid HS2, ac rwy'n gobeithio bod ganddo ddatguddiadau tebyg ynghylch yr £1.1 biliwn y mae Cymru wedi'i golli—ac mae hyn yn ffaith—o ganlyniad i ddull…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Byddwn yn synnu’n fawr pe bai awdurdodau lleol yn cyfeirio at ein hymagwedd flaenorol at gyllid rhanbarthol fel 'gorchmynion’ gan Gaerdydd. Byddwn yn synnu’n fawr iawn, gan fod ein hymagwedd bob amser wedi bod yn hynod o gydweithredol. Mae’n ymwneud â cheisio…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Diolch yn fawr iawn am godi hynny, ac am y cynnig y mae Plaid Cymru wedi'i gyflwyno ar gyfer yn nes ymlaen y prynhawn yma, pan gawn archwilio hyn gyda’n gilydd mewn mwy o fanylder. Ond rhannaf y pryder fod hyn, o bosibl, yn gwneud i awdurdodau lleol gystadlu…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Gwnaf. Mae Llywodraeth y DU wedi anwybyddu ein setliad datganoli yn fwriadol, ac yn gweithredu'r gronfa ffyniant bro a’r gronfa ffyniant gyffredin o Lundain. Roedd y cynnig munud olaf o rôl gynghorol yn y gronfa ffyniant gyffredin yn gwbl annigonol ac yn…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Yn sicr, byddwn yn awyddus i archwilio gyda’r llefarydd pa syniadau sydd gennym ar gyfer hybu gwelliant yn y sector, gan y credaf ein bod yn cytuno bod y sector yn gymysg iawn o ran ymarferoldeb y peth ond wedyn hefyd yr hyn y maent yn ei gyflawni. Rwy’n…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Credaf mai fy asesiad fyddai fod yr haen yn gymysg. Byddwn yn dweud bod rhai awdurdodau lleol hynod egnïol—esgusodwch fi, cynghorau tref a chymuned—sy’n gwneud gwaith gwych yn eu cymunedau: maent yn uchelgeisiol, mae ganddynt gynlluniau da i wella’r ardal…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Wel, barn Llywodraeth Cymru yw mai bwriad y newidiadau yw sicrhau bod y busnesau llety hunanddarpar hynny'n gwneud cyfraniad teg i'r economi y maent wedi'u lleoli ynddi. A phan fydd eiddo ar osod ar sail fasnachol am 182 diwrnod neu fwy—dim ond hanner y…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Hoffwn ailadrodd unwaith eto nad wyf yn credu bod hon yn broses araf. A gadewch inni gofio bod y cyfraniad o £150 gan Lywodraeth y DU yn dod ar ddechrau'r flwyddyn ariannol; mae'n dod wrth inni ddechrau symud i mewn i'r gwanwyn a'r haf, pan na fydd biliau a'r…
25 Mai 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Byddwn yn cwestiynu a allem gyfeirio at oedi wrth ddarparu’r arian ai peidio, gan fod hwn yn gymorth sydd wedi’i gynllunio’n gyflym a'i ddarparu'n gyflym i deuluoedd. A gadewch inni gofio ein bod yn sôn am filiwn o aelwydydd yn cael cyllid o'r gronfa hon…