22 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Hoffwn ddechrau drwy dawelu meddwl Rhun ap Iorwerth fod Gweinidog yr Economi yn gweithio'n agos iawn wir gyda'r cyngor ar y mater hwn, ac mae'r tasglu hefyd yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd i sefydlu ffordd ymlaen a hefyd i ddeall y goblygiadau ehangach y…
22 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae Gweinidog yr Economi, gan weithio gyda'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, yn ymgysylltu ar draws y Llywodraeth ac yn gweithio mewn partneriaeth â chyngor Ynys Môn drwy dasglu 2 Sisters. Mae ein ffocws cyfunol hyd yma wedi bod ar gefnogi…
22 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Wel, fe ddywedaf fod Llywodraethau olynol yng Nghymru wedi osgoi peryglon contractau mentrau cyllid preifat yn gyson, ac o ganlyniad i'n dull o weithredu, mae'r rhwymedigaethau sy'n gysylltiedig â'r math hwn o gynllun yng Nghymru yn llai o lawer nag mewn…
22 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Wel, mae'r awdurdodau'n parhau i adolygu eu contractau i benderfynu ar werth am arian, ac nid yw awdurdodau contractio sy'n cynnal adolygiadau i ail-drafod neu i derfynu contract angen cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru i ail-drafod na therfynu'r contract hwnnw…
22 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Bellach, mae 20 o gontractau mentrau cyllid preifat hanesyddol yn weddill yng Nghymru. Yn 2019, dechreuodd y Prif Weinidog adolygiad o gontractau mentrau cyllid preifat, gan annog awdurdodau contractio i ail-drafod neu derfynu contractau mentrau cyllid…
22 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Byddai’r rhain yn faterion i aelodau’r bwrdd pensiynau a’r gronfa bensiwn eu hystyried mewn gwirionedd, o ran y buddsoddiadau y mae’r gronfa’n eu gwneud. Ond wedi dweud hynny, credaf y gall buddsoddiadau pensiwn gwyrdd fod yn fuddsoddiadau da iawn o ystyried…
22 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwy'n cytuno'n llwyr mai cydweithio i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur yw’r unig ffordd y gallwn wneud y gwelliannau y mae’n rhaid eu gwneud. Mae gwir angen i’r system bensiwn gyfan ymateb i’r agenda hon. Mae’n wir, wrth gwrs, y gall awdurdodau pensiwn…
22 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rydym yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr. Bu partneriaeth pensiwn Cymru yn trafod datgarboneiddio pensiynau llywodraeth leol yng Nghyngor Partneriaeth Cymru ym mis Tachwedd. Yn dilyn eich cyfarfod gyda’r Prif Weinidog ym mis Ionawr, mae CLlLC wedi cytuno i…
22 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Credaf ei bod yn bwysig iawn fod awdurdodau lleol—a'r sector cyhoeddus yn fwy cyffredinol—yn manteisio ar gyfleoedd i geisio denu ystod lawer ehangach a mwy amrywiol o bobl i weithio yn eu sectorau. Gallant wneud hynny drwy, er enghraifft, sicrhau bod yr…
22 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Diolch yn fawr iawn am godi’r mater pwysig hwn y prynhawn yma. Rwy'n sicr yn ymuno â chi i gydnabod y rôl hanfodol y mae ein staff llywodraeth leol yn ei chwarae yn gwasanaethu eu cymunedau. Mae'n ddrwg iawn gennyf nad wyf yn gallu cyfarfod â graddedigion…
22 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae awdurdodau lleol yn darparu eu gwasanaethau hanfodol drwy eu staff dawnus. Er bod pob awdurdod lleol yn gyfrifol am eu recriwtio eu hunain, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cymorth drwy raglenni arweinyddiaeth Academi Wales gan gynnwys rhaglen…
22 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwy’n awyddus iawn i bwysleisio'r un ddadl i Lafur y DU ag y buom yn ei gwneud i Drysorlys EF o ran yr hyblygrwydd ariannol sydd ei angen ar Gymru. Nid yw ein pwerau benthyca yn addas i'r diben, mewn gwirionedd, yn yr ystyr fod gennym allu blynyddol mor…
22 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Byddwn yn dweud bod fformiwla Barnett a’r fframwaith cyllidol y cytunwyd arno gan y Prif Weinidog pan oedd yn y rôl hon gyda Llywodraeth y DU yn darparu rhai manteision i Gymru o ran y ffaith bod fformiwla Barnett yn cydnabod angen cymharol. Credaf fod…
22 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos iawn gyda'r sector twristiaeth, ac rydym yn gwrando'n ofalus iawn ar y sylwadau a wnânt ar ran eu haelodau. Credaf y bydd Sam Rowlands yn cydnabod ein bod yn ceisio sicrhau cydbwysedd yma rhwng cefnogi’r diwydiant…
22 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rydym wedi edrych ar yr achos a wnaed gennych chi a chan eraill o ran lle mae eiddo’n cael ei redeg gan elusen, a chredaf y bydd yr amgylchiadau’n dibynnu ar y sefyllfa benodol mewn perthynas â’r eiddo hwnnw. Bydd yr eithriad presennol neu'r eithriad newydd…
22 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio nodi safbwynt lle rydym yn cydnabod y pwysau ar fusnesau, ond hefyd yn credu y dylai perchnogion eiddo fod yn gwneud cyfraniad rhesymol i’r cymunedau y mae’r eiddo hynny wedi’u lleoli ynddynt. Rydym wedi cydnabod bod peth…
22 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Diolch i Russell George am godi’r mater hwn y prynhawn yma. Rwy'n ymwybodol o’r cais penodol y cyfeiria ato, a alwyd i mewn, ac a gafodd ei wrthod wedi hynny. Mae'r rhesymau am hynny wedi'u nodi yn y llythyr penderfyniad, a chan fod hawl gan yr ymgeisydd i…
22 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae awdurdodau lleol yn awdurdodau claddedigaethau ac yn gyfrifol am eu mynwentydd a'u hamlosgfeydd eu hunain. Mater i awdurdodau cynllunio lleol yw nodi safleoedd addas ar gyfer amlosgfeydd newydd. Byddai cynigion ar gyfer amlosgfeydd newydd yn destun…
22 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Hoffwn ddechrau, mewn gwirionedd, drwy ymuno â Mark Isherwood i gydnabod pwysigrwydd cynlluniau mentora. Rwyf wedi bod yn fentor fy hun yn un o’r cynlluniau, a chanfûm fod hynny yr un mor werthfawr i mi ag i’r unigolyn y bûm yn eu mentora, felly byddwn yn…
22 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae ystod o waith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i geisio sicrhau bod gennym grŵp mwy amrywiol o bobl yn sefyll etholiadau, i gynghorau tref a chymuned, a chynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yn y dyfodol. Ac mae’r gwaith hwnnw'n cynnwys adolygu’r…
22 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Croesawaf y camau sy’n cael eu cymryd ledled Cymru i annog unigolion i ymgeisio am swyddi etholedig. Mae amrywiaeth yn sicrhau penderfyniadau gwell a mwy cynhwysol. Cyn etholiadau lleol 2027, mae'r gwaith i annog amrywiaeth yn cynnwys ymrwymiad y rhaglen…
21 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023
Diolch yn fawr iawn i Llyr Gruffydd am y cwestiynau yna y prynhawn yma. Rydym ni wedi ystyried ac ymgynghori ar y diwygiad apelau dros sawl blwyddyn. O ran mynediad at gysylltedd digidol, ni chodwyd hynny fel rhwystr penodol i'n cynigion newydd o ran mynediad…
21 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023
Diolch. Rwy'n cyflwyno'r cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023. Mae'r rheoliadau yn darparu ar gyfer ymestyn platfform digidol a phroses gwirio, herio, apelio Asiantaeth y Swyddfa Brisio, i Gymru. Maen nhw…
14 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2022-23
Diolch. Rwy'n ddiolchgar i gyd-Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl heddiw. Wrth gwrs, mae'r ail gyllideb atodol yn rhan bwysig o'n proses gyllidebol. Bydd ei chymeradwyo yn awdurdodi cynlluniau gwariant diwygiedig Llywodraeth Cymru a'r cyrff hynny a ariennir…
14 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2022-23
Diolch. Mae'r gyllideb atodol hon yn cyflwyno cynlluniau gwariant terfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol. Mae'n cynyddu adnoddau refeniw a chyfalaf cyllid cyffredinol Cymru o £163 miliwn, cynnydd o 0.7 y cant ar y sefyllfa a…