10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Felly, yn amlwg, rydym am sicrhau bod pob awdurdod lleol yn darparu safleoedd digonol ac addas yn ddiwylliannol i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ac fe welwch hynny drwy ein hymrwymiad clir yn ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'. Ar hyn o bryd…
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rôl Swyddfa Archwilio Cymru, Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru yw asesu perfformiad awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael â materion sy'n codi pan fo hynny'n briodol.
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn hwnnw, ac rwy'n bendant yn cytuno mai atal dyled rhag digwydd yn y lle cyntaf fyddai'r lle delfrydol i fod. A hoffwn gyfeirio'r Aelod, a phob cyd-Aelod, at y gwaith pwysig y mae'r gronfa gynghori sengl yn ei wneud wrth fod…
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Ceir arferion adennill amrywiol ar gyfer gwahanol fathau o ddyledion. Mewn perthynas â’r dreth gyngor, rydym wedi defnyddio’r pwerau sydd ar gael i ni i sicrhau bod y gwaith o gasglu ôl-ddyledion yn cael ei reoli mewn ffordd deg a sensitif. Mae pob awdurdod…
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rydym yn cefnogi’r model buddsoddi cydfuddiannol yn llwyr, ond fel y dywedaf, mae'n fodel y trown ato ar ôl inni ddihysbyddu'r holl fathau rhatach o gyfalaf, a'r hyn sydd orau gennym bob amser fyddai cael setliad cyfalaf gwell gan Lywodraeth y DU. Wrth…
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rydym yn parhau i ddefnyddio’r egwyddor sefydledig o ddefnyddio’r math rhataf o gyllid yn gyntaf, sef cyfalaf traddodiadol, ac yna trown at fenthyca a mathau mwy arloesol o fuddsoddi ar ôl hynny, megis y model buddsoddi cydfuddiannol, pan fydd cyfalaf…
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwyf wedi dyrannu dros £8 biliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer y blynyddoedd ariannol 2022-23 i 2024-25, gan gynnwys dros £2.7 biliwn yn 2023-24. Bydd y cyllid hwn yn ei gwneud hi’n bosibl cyflawni amrywiaeth o ymrwymiadau’r rhaglen lywodraethu, gan gynnwys…
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae gennym wasanaeth caffael masnachol Llywodraeth Cymru, ac fel y dywedaf, mae hwnnw’n darparu gwasanaeth rheoli sy’n cynorthwyo 70 a mwy o gwsmeriaid ledled Cymru i gael y gwerth gorau am eu cyflenwad nwy a thrydan, ac mae’r rhan fwyaf o awdurdodau yn prynu…
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Ie. Mae caffael ynni wedi datblygu'n dda ar draws llywodraeth leol. Mae 21 o awdurdodau lleol yn cymryd rhan mewn strategaethau prynu ymlaen llaw i leihau effaith anwadalrwydd y farchnad ar eu biliau ynni. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu gwasanaeth rheoli…
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Un syniad rhagorol, wrth gwrs, o ran y ffordd y bwriadwn ddatganoli pwerau fyddai rhoi gallu i awdurdodau lleol godi ardoll twristiaeth yn y cymunedau lle teimlant ei fod yn beth priodol iddynt ei wneud, a dyna un enghraifft yn unig o sut y byddem yn edrych…
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Wel fe ddechreuaf drwy gydnabod y gwaith a wnaeth Ken Skates pan oedd yn gyfrifol am bortffolio'r economi yn y Senedd ddiwethaf, a arweiniodd at gamau gwirioneddol arwyddocaol ymlaen o ran sbarduno datblygu rhanbarthol yng Nghymru, ac mae ystyriaethau…
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i fod wedi ymrwymo i roi cymorth teg i bob rhanbarth yng Nghymru. Rydym yn parhau i wneud buddsoddiadau ym maes iechyd, addysg, llywodraeth leol a datblygu economaidd rhanbarthol sy'n rhoi sylw i ystyriaethau rhanbarthol.
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Fe ddechreuaf gyda'r pwynt ynglŷn â chamdriniaeth. Yn amlwg, mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom i dynnu sylw at ymddygiad annerbyniol a mabwysiadu ymagwedd dim goddefgarwch at fwlio ac aflonyddu o bob math. Felly, rhoddaf sicrwydd i’r Aelod ein bod yn…
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn nodi fframwaith llywodraethu newydd ar gyfer ein cynghorau. Rwy’n gweithio gyda llywodraeth leol i roi’r ddeddfwriaeth hon ar waith ac yn darparu cyllid i gynyddu amrywiaeth, gwella llywodraethiant a…
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Wel, nid yw’r ddeddfwriaeth ei hun, fel y gŵyr yr Aelod, yn ei gwneud yn ofynnol i gynnal cyfarfodydd mewn fformat penodol, ac fel y dywed, mater i bob awdurdod yw cytuno ar eu trefniadau eu hunain, gan gynnwys sut y gall aelodau gymryd rhan yn y trafodion…
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Gwnaf. Nid yw ein polisi wedi newid. Mae pob cyngor yn gyfrifol am sicrhau bod eu trefniadau ar gyfer cyfarfodydd yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol a nodir yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a'r rheoliadau a'r canllawiau cysylltiedig.
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Lywydd, nid wyf am wneud unrhyw gyhoeddiadau ynglŷn ag unrhyw ddefnydd a wnawn o'r mecanwaith anghydfodau yn y sesiwn gwestiynau. Credaf fod hynny’n rhywbeth y bydd y Prif Weinidog, pan ddaw’r amser, am adrodd arno i’r Senedd. Ac nid yw'n wir fy mod yn rhy…
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Felly, rwyf wedi codi hyn ar sawl achlysur gyda nifer o Brif Ysgrifenyddion y Trysorlys dros y blynyddoedd a'r ffaith ei bod yn amlwg nad yw HS2 yn brosiect Cymru a Lloegr, ac mae’n mynd yn llai felly drwy’r amser, o ran yr uchelgeisiau ar gyfer HS2. Felly…
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Nid wyf yn siŵr o ble y daw’r ansicrwydd hwn gan fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno ei chyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol hon ac fe’i cymeradwywyd eisoes gan y Senedd hon, felly ni ddylai fod unrhyw ansicrwydd, gan ein bod yn darparu lefel sylweddol a…
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Wel, Lywydd, unwaith eto, mae gennym gwestiwn y byddai'n well ei ofyn i'r Gweinidog iechyd yn ôl pob tebyg, gan mai ei chyfrifoldeb hi yw cyfeirio ei chyllideb at y gwasanaethau sy’n mynd i gael yr effaith fwyaf buddiol ar iechyd pobl Cymru. Ond ar y pwynt…
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Wel, hoffwn awgrymu bod hwn yn gwestiwn y dylid ei ofyn i'r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am ofal plant, ond rwy’n fwy na pharod i ddarparu rhywfaint o wybodaeth bellach, yn enwedig yng nghyd-destun datganiad y gwanwyn. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gwario…
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwy’n gwbl ymrwymedig i sicrhau bod y fformiwla'n parhau i gydnabod y dangosyddion sy’n cydnabod yr anawsterau y mae cymunedau penodol yn eu hwynebu, a bydd hynny’n parhau i fod yn wir yn y dyfodol.
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Felly, wrth gwrs, Mynwy a gafodd y cynnydd uchaf o’r holl awdurdodau lleol yn y flwyddyn ariannol hon, ac unwaith eto, mae hynny’n un o ffactorau’r fformiwla sydd ar waith i sicrhau cyllid teg ledled Cymru. Ond yn sicr, rwyf wedi ymrwymo i wella eglurder a…
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Iawn. Felly, y pwynt rwy'n ceisio'i wneud am yr is-grŵp dosbarthu yw nad yw'r fformiwla yn ddigyfnewid. Mae'n esblygu'n gyson, a hyd yn oed yn y diweddariadau eleni, bu sawl newid. Er enghraifft, mae swyddogion yn edrych ar oblygiadau diweddaru'r mesurau…
10 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwy'n gwneud fy ngorau y rhan fwyaf o'r amser. Mae'n anoddach heddiw. [Chwerthin.]