14 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Sicrhau Treth Gyngor Decach
Diolch, Llywydd. Mae ein rhaglen lywodraethu yn ein hymrwymo i ddiwygio'r dreth gyngor er mwyn ei gwneud yn decach, ac mae'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru yn datgan y nod hwnnw o'r newydd. Heddiw, rwy'n lansio ymgynghoriad cam 2, sy'n rhoi'r wybodaeth…
8 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Wel, rwy'n gwybod bod hwn yn faes lle mae'r Aelod yn arddel safbwynt gwahanol iawn ar ddarpariaeth gofal i'r plant mwyaf agored i niwed yng Nghymru, o'i gymharu â Llywodraeth Cymru. Mae arnaf ofn fy mod yn credu unwaith eto y byddai'n fwy priodol gofyn y…
8 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Diolch am y cwestiwn. Rwy'n awyddus iawn i gael copi o'r adroddiad y gwnaethoch chi gyfeirio ato, i'w astudio'n fwy gofalus. Rydych yn sôn am y cynnydd i £5, a oedd yn gynnydd, rwy'n credu, o 11 y cant ar y pryd, ac rydym wedi ymrwymo i adolygu'r gyfradd bob…
8 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Fe wnaethom ddarparu cynnydd o £100 miliwn i gefnogi rhaglenni cyfalaf a refeniw sy'n cefnogi gofal plant a Dechrau'n Deg ar gyfer y cyfnod cyllidebol presennol o dair blynedd. Rwy'n parhau i ymgysylltu'n rheolaidd â'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau…
8 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Credaf fod hwnnw'n fater i'r Gweinidog addysg a'r Gweinidog trafnidiaeth ei drafod; nhw sy'n gyfrifol am y cyllidebau mewn perthynas â'r trafodaethau penodol hyn. Wrth gwrs, rwy'n cael cyfarfodydd unigol gyda fy holl gyd-Aelodau, ac maent yn codi ystod eang o…
8 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn. Nid wyf eisiau camarwain cyd-Aelodau i feddwl bod yna unrhyw gyllid ar gael yn ganolog o fewn Llywodraeth Cymru nawr i allu darparu cyllid ar gyfer pethau newydd—rwy'n derbyn bod hyn yn ymwneud â pharhad menter—nad ydym yn…
8 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Cyflwynwyd gwasanaeth Fflecsi Bwcabus fel menter a ariannwyd gan Ewrop. Yn anffodus, gan nad yw Llywodraeth y DU wedi cynnal ei hymrwymiad i sicrhau arian yn lle'r cyllid hwn, a chan fod cyllidebau'n parhau i fod dan bwysau, ni fyddwn yn gallu cefnogi nifer o…
8 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Credaf fod hwnnw'n gwestiwn mwy priodol i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, sydd â'r cyllid ar gyfer llifogydd yn ei phortffolio. Ond gallaf ddweud ein bod yn darparu £34 miliwn o gyllid cyfalaf i'n hawdurdodau rheoli risg yn ystod y flwyddyn ariannol hon fel rhan…
8 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Buaswn bob amser yn annog awdurdodau lleol i wneud cais am unrhyw un o'n cynlluniau llifogydd os ydynt yn credu y byddai o fudd i'w cymunedau. Ac yna, wrth gwrs, mae gennym y cynllun cymorth ariannol brys, sydd ar gael i awdurdodau lleol pe baent yn profi…
8 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn buddsoddi £75 miliwn fel rhan o'n rhaglen llifogydd ar gyfer 2023-24, gyda £5.25 miliwn o gyllid refeniw ar gael i awdurdodau lleol. Rydym hefyd wedi sicrhau bod £12 miliwn o gyllid cyfalaf ar gael i gefnogi'r gwaith o…
8 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae honno'n ffordd ryfedd iawn o edrych ar sut rydym yn ariannu llywodraeth leol yma yng Nghymru. Rydym yn ariannu llywodraeth leol yma yng Nghymru drwy'r grant cynnal refeniw a thrwy grantiau penodol, ac yna mae awdurdodau lleol hefyd yn codi treth gyngor…
8 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn. Yn amlwg, mae diogelu gwasanaethau cyhoeddus bob amser wrth wraidd popeth y ceisiwn ei wneud, ac yn arbennig felly drwy ein dewisiadau cyllidebol. Fodd bynnag, credaf fod ffyrdd eraill y gallwn helpu awdurdodau lleol…
8 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwy'n trafod cefnogaeth i lywodraeth leol gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet yn rheolaidd, yn fwyaf diweddar fel rhan o'r gwaith o ailflaenoriaethu'r gyllideb yn ystod y flwyddyn ac fel rhan o'r gwaith ar gyllideb Cymru ar gyfer 2024-25.
8 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Credaf fod hwnnw'n gwestiwn i fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Economi, a fydd yn gwneud y dewisiadau hynny, ond rwy'n fwy na pharod i gyflwyno'r achos hwnnw ar eich rhan yn y trafodaethau y byddaf yn eu cael gydag ef. Dylwn sôn hefyd am y gwaith y mae'r…
8 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae Llywodraeth Cymru yn credu yn egwyddor sybsidiaredd, y dylid dyrannu cyfrifoldebau’r Llywodraeth i’r lefel fwyaf lleol y gellir eu cyflawni’n effeithiol ac yn effeithlon. Bydd y Gweinidogion portffolio perthnasol bob amser, felly, yn ystyried unrhyw…
8 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Wel, buaswn yn anghytuno ei fod yn dyblygu swyddogaethau. Yn hytrach, mae'n rhoi'r swyddogaethau hynny mewn strwythur a fframwaith lle mae'r swyddogaethau hynny'n cael eu defnyddio orau. Credaf ei bod yn bwysig rhoi’r gallu i awdurdodau lleol weithio ar draws…
8 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn. Mae fy rôl i mewn perthynas â chyd-bwyllgorau corfforedig yn ymwneud â sefydlu a llywodraethu cyd-bwyllgorau corfforedig, ond wrth gwrs, rwy'n gweithio'n agos iawn gyda fy nghyd-Aelodau sydd â'r diddordebau portffolio…
8 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwy’n parhau i fod yn ddiolchgar i bartneriaid yn yr awdurdodau lleol am eu gwaith a’u cynnydd yn sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig. Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio’n agos gyda chyd-bwyllgorau corfforedig i gefnogi eu gweithrediad parhaus, mewn perthynas…
8 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Diolch am eich cwestiynau. Dim ond i gadarnhau—credaf ichi awgrymu nad oeddem wedi disgwyl hyn, ond nid yw hynny'n wir o gwbl; roeddem wedi gweld hyn yn dod drwy'r ffaith bod pwysau difrifol ar y gyllideb cyn i ni hyd yn oed ddechrau'r flwyddyn ariannol hon…
8 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Credaf ichi ateb y cwestiwn hwnnw yn eich cwestiwn, yn yr ystyr ichi gyfeirio at y Cabinet yn gwneud penderfyniadau a’r Cabinet yn trafod gyda’r bwriad o wneud penderfyniadau. Wel, dyna ddiben y Cabinet. Mae cymaint o gyfarfodydd eraill yn cael eu cynnal y tu…
8 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Wel, y peth y buaswn yn cytuno â chi yn ei gylch yw y bydd effeithiau ariannol hirdymor, a byddwn yn gweld yr effeithiau hynny yn y £93 miliwn y flwyddyn y bydd y GIG yn ei arbed yn ymdrin â chanlyniadau ofnadwy damweiniau ceir. Felly, byddwn yn parhau i weld…
8 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Buaswn yn awyddus iawn i Lywodraeth Geidwadol y DU ateb y cwestiwn hwnnw drwy gynyddu’r cyllid i Gymru yn natganiad yr hydref ar yr ail ar hugain o’r mis hwn, oherwydd, yn y pen draw, dim ond swm cyfyngedig o arian sydd ar gael i ni allu diwallu’r holl…
8 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwy’n ddiolchgar am y cwestiwn, a chredaf mai un o’r pethau pwysig i’w cydnabod yw bod y cytundeb hwnnw wedi’i wneud yn ôl yn 2016. Ond nid yw’r fframwaith a’r datganiad polisi cyllido wedi esblygu i ateb yr heriau hynny ac i gydnabod yr holl newidiadau sydd…
8 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Nid wyf yn mynd i gyfuno mater cronfeydd wrth gefn llywodraeth leol â mater diwygio’r dreth gyngor. Credaf y byddai hynny’n beth peryglus i’w wneud, gan y credaf ei bod yn bwysig cadw’r ddau beth ar wahân. Mewn sawl ffordd, mae cronfeydd wrth gefn awdurdodau…
8 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Fe ddechreuaf drwy ddweud a chydnabod y ffaith ein bod yn gweithio ar brisiadau 2003 ar gyfer eiddo ar hyn o bryd. Ni all hynny fod yn iawn, gweithio ar system sy'n 20 mlwydd oed. Ond wedi dweud hynny, yn Lloegr a'r Alban, maent yn gweithio ar brisiadau sy'n…