28 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
O ganlyniad i'r polisi, bydd meddygon yn gweld rhwng 1,200 a 2,000 yn llai o bobl bob blwyddyn, oherwydd dyna faint o bobl sy'n osgoi anafiadau o ganlyniad i wrthdrawiadau. Rydym yn gwybod y bydd y budd i'r GIG yn £92 miliwn y flwyddyn. Gall pob un ohonom…
28 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae'r manteision o fuddsoddi yn y terfyn cyflymder 20 mya yn glir. Am gost untro amcangyfrifedig o tua £32 miliwn, rydym yn rhagweld arbedion atal anafiadau o hyd at £92 miliwn bob blwyddyn, ynghyd â manteision iechyd ychwanegol i bobl sy'n cerdded a beicio…
28 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn. Gwn fod y Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cael cyfle yng nghyngor partneriaeth Cymru, a gadeirir gennyf i, i siarad am fodel Race to Zero ac annog awdurdodau lleol i archwilio hynny os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny. Rydym…
28 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch cefnogi llywodraeth leol i bontio i sero net. Mae hon yn her ar y cyd ar draws Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.
28 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwyf am ei gwneud yn glir nad yw'r dewisiadau anodd hyn yn unigryw i gyngor Pen-y-bont ar Ogwr. Mae pob awdurdod lleol yn wynebu dewisiadau anodd o ganlyniad i'r sefyllfa rydym yn ei hwynebu yng Nghymru o fethu cael digon o arian i wneud yr holl bethau yr…
28 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Ar gyfer 2024-25, mae'r Llywodraeth yn darparu cyllid refeniw heb ei neilltuo o dros £5.72 biliwn a thros £1 biliwn mewn cyllid grant penodol i gefnogi awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau statudol ac anstatudol. Mater i awdurdodau lleol yw penderfynu ar…
28 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwy'n credu bod yna rai enghreifftiau da iawn o awdurdodau lleol yn caffael ac yn comisiynu gwasanaethau ar y cyd. Mae hynny'n digwydd ledled Cymru, o bethau fel gwasanaethau cymdeithasol i gasglu gwastraff ac yn y blaen. Felly, mae yna enghreifftiau da iawn…
28 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Wel, credaf fod gwaith Archwilio Cymru a hefyd gwaith Dadansoddi Cyllid Cymru wedi bod yn wirioneddol bwysig i helpu awdurdodau lleol i ddeall y pwysau presennol, ond wedyn hefyd i gael y darlun gorau posibl o lefel y pwysau y maent yn debygol o'i wynebu yn y…
28 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol ar weithio gyda llywodraeth leol i nodi meysydd lle ceir biwrocratiaeth ddiangen ac i ddatblygu ffyrdd o'i lleihau. Mae’r gyllideb a gyhoeddais ddoe yn adlewyrchu’r cynnydd a wnaed ar ddadneilltuo a…
28 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwy’n ddiolchgar iawn am eich cwestiynau, a gwn fod y Gweinidog addysg hefyd yn arbennig o ymwybodol o’r mater mewn perthynas â myfyrwyr rhyngwladol a allai fod yn amharod i geisio cymorth ariannol gan brifysgolion, megis cronfeydd caledi, oherwydd y…
28 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Nid oes unrhyw un wedi awgrymu i mi mai cyllid yw'r broblem yn yr achos hwn. Rwy’n ymwybodol o adroddiad Sefydliad Bevan, a gwn y bydd swyddogion y Gweinidog yn edrych ar ba gamau y gellir eu cymryd i helpu rhai heb hawl i gyllid cyhoeddus yng Nghymru, a…
28 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gweithio gydag awdurdodau lleol i gefnogi pobl sy’n wynebu diymgeledd, gan gynnwys pobl heb hawl i gyllid cyhoeddus. Yn 2024-25, bydd awdurdodau lleol yn cael £5.7 biliwn o gyllid drwy’r setliad llywodraeth leol, a…
28 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn. Rwy’n cymryd mai’r cynllun ariannu y cyfeiria'r Aelod ato yw’r un sy’n rhan o gyfrifoldebau’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog. Felly, rwy'n sicr yn fwy na pharod, ar ôl y Cyfarfod Llawn heddiw, i sicrhau…
28 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwy’n ddiolchgar am eich cwestiwn. Gwnaeth Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 gyfranogiad y cyhoedd—wel, fe wnaeth gyfranogiad y cyhoedd yn rhan hollbwysig, os mynnwch, o ran ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gael y strategaethau hynny i…
28 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Cyhoeddais ganllawiau ar ymgysylltu’n effeithiol â’r cyhoedd ar gyfer awdurdodau lleol ym mis Mehefin y llynedd. Fe'i cynhyrchwyd yn dilyn cydweithio agos ag awdurdodau lleol.
28 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwy’n sicr yn credu ichi wneud rhai pwyntiau diddorol yn eich cyfraniad mewn perthynas ag effeithiau’r meysydd hynny lle nad ydym yn cael cyllid canlyniadol ac yn y blaen. Ond credaf mai’r pryder ehangach sydd gennyf mewn perthynas â’r gyllideb sydd ar y…
28 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwy’n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn. Credaf fod llawer o ddyfalu ar hyn o bryd ynghylch yr hyn y gallai Llywodraeth y DU ei wneud ar 6 Mawrth. Fel y gŵyr fy nghyd-Aelodau, nid ydym wedi cael—roeddwn yn mynd i ddweud 'fawr ddim', ond 'dim' ydyw mewn…
28 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Credaf mai’r hyn sy'n peri'r gofid mwyaf am y gyllideb a gyhoeddais ddoe oedd y swm o gyllid sydd ar gael i ni ei ddyrannu. Gwyddom fod pwysau ar yr holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru o hyd—yn y GIG, mewn llywodraeth leol—er gwaethaf y setliad gorau…
28 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwy'n dymuno bod o gymaint â phosibl o gymorth i gyd-Aelodau yn fy atebion, ond fel y nodais, mae fy nghyfrifoldebau mewn perthynas â llywodraeth leol yn rhai cyfansoddiadol, strwythurol, democrataidd ac ariannol. Ond rwy’n awyddus iawn i gydnabod pwysigrwydd…
28 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rwy’n edmygu ymdrechion yr Aelod i gyflwyno cwestiwn sy'n ymwneud â’r cynllun ffermio cynaliadwy i’r cwestiynau cyllid a llywodraeth leol y prynhawn yma, ond hoffwn atgoffa fy nghyd-Aelodau fod fy nghyfrifoldebau mewn perthynas â llywodraeth leol yn ymwneud â…
28 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Credaf fod rhai pethau y mae angen imi eu hateb yno, a’r cyntaf yw nad oedd unrhyw beth yn adweithiol amdano, yn yr ystyr ein bod wedi dechrau gwneud y gwaith hwnnw yn ystod yr haf y llynedd. Felly, mewn gwirionedd, roeddem yn mynd i'r afael â'r pwysau ar y…
28 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Ar ôl cyrraedd diwedd cyfnod adolygu gwariant tair blynedd, nid oes gennym bellach unrhyw gyllidebau wedi’u dyrannu y tu hwnt i 2024-25, felly mae'n anochel fod hyn yn cynyddu ansicrwydd. Ddoe, cynhaliwyd dadl gennym am yr angen am fwy o hyblygrwydd i…
28 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Wel, Lywydd, nid wyf yn mynd i ddechrau trafod polisi, fel y mae’r Aelod yn fy ngwahodd i’w wneud, ond yr hyn y byddwn yn ei ddweud ar y pwynt hwnnw yw y dylai wneud ei sylwadau—a gwn y bydd yn gwneud hynny—drwy'r broses ymgynghori ffurfiol, sy’n mynd rhagddi…
28 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Rydym yn gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr ym maes caffael ac arlwyo mewn awdurdodau lleol, ynghyd â chyflenwyr a chynhyrchwyr, i ymgorffori dulliau gweithredu'r economi sylfaenol mewn gweithgarwch caffael bwyd i gynyddu’r cyflenwad o fwyd cynaliadwy, lleol…
27 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor)
Diolch gyd-Aelodau am siarad yn y ddadl hon, ac yn arbennig i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad am ei waith diwyd ar y mater penodol hwn. Cefais gyfle i gyfarfod â Gweinidog perthnasol Llywodraeth y DU i nodi nad ydym yn derbyn y dylid…