15 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Wel, gallai £350 miliwn fod wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i ni yma yng Nghymru o ran y buddsoddiad y gallwn ei wneud mewn gwasanaethau cyhoeddus. Rwy'n credu y dylai Llywodraeth y DU ddychwelyd yr arian hwnnw i Gymru. Nid oes dadl o gwbl nawr fod prosiect…
15 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Hyd at ddiwedd 2024-25, bydd Cymru wedi colli oddeutu £350 miliwn o ganlyniad i ddosbarthu HS2 yn anghywir fel prosiect i Gymru a Lloegr.
15 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Mae arnaf ofn na allaf ddileu ardrethi annomestig ar gyfer sector mawr iawn o'n heconomi yma yng Nghymru, oherwydd bod ardrethi annomestig—. Gadewch inni gofio pwrpas y trethi annomestig hynny—maent yno i ddarparu cyllid hanfodol i'n gwasanaethau cyhoeddus…
15 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Rwy'n ddiolchgar iawn i Vikki Howells am godi hynny, a gwn ei bod wedi bod yn siarad llawer gyda busnesau yn ei hardal leol, ac maent wedi bod yn mynegi pryderon am y bylchau rhwng ailbrisiadau. Dyna un o'r rhesymau pam ein bod, drwy ein Bil cyllid…
15 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Rydym yn parhau i fod ar y trywydd iawn i gyflawni'r rhaglen ddiwygiadau a nodais ar gyfer tymor y Senedd hon. Mae nifer o welliannau eisoes wedi'u gwneud, gan gynnwys ailbrisio 2023. Drwy'r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru), byddwn yn cyflawni'r ystod o…
15 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Gwyddom fod hyn yn bryder i nifer o gyrff cyhoeddus, a dyna pam ein bod wedi gweithio i ddatblygu pecyn cymorth mewnoli. Gwyddom fod gan nifer o awdurdodau lleol ddiddordeb mawr—awdurdodau lleol, ond fe allech chi gynnwys rhannau eraill o'r sector…
15 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn, ac mae'n fy arwain i feddwl am waith y buom yn ei wneud drwy'r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru mewn perthynas â deall gwariant Cymru yn well o ran caffael. Felly, rydym wedi bod yn edrych ar sut y gallwn gynllunio…
15 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Caffael yw un o'r ysgogiadau pwysicaf sydd gennym i gefnogi Cymru fwy cyfartal, fwy cynaliadwy a mwy ffyniannus. Gall gweithredu polisïau caffael cadarn ein helpu i gyflawni ein dyheadau sero net uchelgeisiol, cefnogi adferiad gwyrdd a chyfrannu at ein…
15 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Y peth cyntaf i'w ddweud yw nad ydym eto wedi datblygu'r contractau y byddwn yn eu defnyddio ar gyfer masnachfreinio, ond bydd ein contractau presennol ar gyfer gwasanaethau TrawsCymru yn cael eu defnyddio fel man cychwyn oherwydd bod ganddynt rai o'r…
15 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Ni allaf ddweud unrhyw beth am y cyllidebau ar gyfer y blynyddoedd nad oes gennym setliad ar eu cyfer ar hyn o bryd. Rwy'n credu bod angen cydnabod ein bod yn darparu cyllid sylweddol eisoes i gefnogi gwasanaethau bysiau ledled Cymru. Ond bydd masnachfreinio…
15 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Bydd penderfyniadau ynghylch y cyllid sydd ar gael ar gyfer masnachfreinio bysiau yn fater i’r broses o osod y gyllideb yn y blynyddoedd priodol, gan nodi’r rhagolygon cyllidol heriol sy’n ein hwynebu.
15 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Rydym yn canolbwyntio ar gyflwyno ein mesurau gofal plant mewn ffordd sydd â ffocws, sydd wedi'i strwythuro ac sydd â chyllideb briodol ar ei chyfer, ac mewn ffordd lle mae'r sector yno'n barod, os mynnwch, i'w chyflawni, ac nid yw hynny'n wir yn Lloegr, gan…
15 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Cefais wybod am y cyllid canlyniadol Barnett i Gymru yn sgil y cyllid gofal plant yn Lloegr mewn galwad gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ar fore cyllideb gwanwyn y DU 2023.
15 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Ni fyddwn yn dweud bod y Senedd neu unrhyw un arall wedi’u synnu gan y gwaith a wnaethom i ymateb i effeithiau chwyddiant ar ein cyllidebau, gan inni fod yn glir iawn. Cawsom ddadleuon ynglŷn â'r mater yn y Llywodraeth, ac yn y pen draw, fe wnaethom…
15 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Wrth gwrs. Credaf fod yr hyn rydych newydd ei ddweud yn cyd-fynd i raddau helaeth â'n hymagwedd at y gyllideb atodol gyntaf, y byddwn yn ei chyhoeddi ym mis Mehefin, yn ôl yr arfer. Mae swyddogion wedi bod yn gweithio drwy oblygiadau’r newidiadau mewn…
15 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Rwy’n cydnabod y pryderon ynghylch yr effaith ar aelwydydd yn ystod yr argyfwng costau byw, ac roedd hynny’n rhan ganolog o’n hystyriaethau wrth inni edrych ar gyflymder y diwygio. Y cyflymder arafach oedd yr ymateb a ffefrid o ran yr ymgynghoriad, felly fe…
15 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Y peth cyntaf i'w ddweud yw y bu llawer iawn o gamadrodd. Rwy’n ymwybodol fod y Ceidwadwyr wedi cael eu ceryddu am ddefnyddio’r ymadrodd 'gwaharddiad cyffredinol’ mewn perthynas â therfynau 20 mya ac ati. Felly, hoffwn annog y Ceidwadwyr i ystyried hynny ac i…
15 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Ni allaf nodi’r manylion hynny heddiw, oherwydd, er bod y cyhoeddiad wedi dweud y bydd yr ailbrisio’n digwydd yn 2028, a byddwn yn diwygio Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) i adlewyrchu hynny, yr hyn nad yw gennym ar hyn o bryd yw'r penderfyniad ynglŷn â…
15 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Rwyf newydd nodi'r ffyrdd y mae'r fframwaith cyllidol yn sicr yn gweithio er ein budd ar hyn o bryd, ac yn enwedig o ran y ffactor anghenion Barnett, lle mae gennym £300 miliwn ychwanegol yn y setliad. Felly, credaf ei bod yn bwysig cydnabod hynny. Mae yna…
15 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Mae arnaf ofn nad wyf yn cydnabod unrhyw ran o'r cyfraniad hwnnw gan ei fod yn cymysgu llwyth o wahanol faterion, gan gynnwys y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol am bensiynau yma yng Nghymru, y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol am…
15 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Ydy, mae'n gwbl wir fod gwerth yr hyblygrwydd sydd gennym wedi erydu er pan y'i pennwyd. Felly, yn y flwyddyn ariannol hon, bydd ein capasiti wrth gefn a hefyd ein pwerau benthyca yn werth 23 y cant yn llai na phan gytunwyd arnynt yn wreiddiol. Felly, rydym…
15 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Gwnaf. Mae’r fframwaith cyllidol yn destun adolygiadau mewnol rheolaidd. Ar y cyfan, mae'n gweithredu'n dda. Fodd bynnag, mae elfennau'n ymwneud â hyblygrwydd cyllidol lle rwyf wedi bod yn dadlau'r achos dros welliannau gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU.
15 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn a'r gydnabyddiaeth glir honno fod trethi eiddo yn drethi sefydlog ond hefyd yn drethi sy'n llawer anos eu hosgoi mewn sawl ffordd. Am y rheswm hwnnw, credwn fod y dreth gyngor yn chwarae rhan bwysig yn ein strwythur…
15 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Wel, rwy'n ddiolchgar am y cyfle i ailddatgan y pwrpas y tu ôl i'r trothwy 182 diwrnod a gyflwynwyd, a hynny gan fod Llywodraeth Cymru yn credu y dylai trigolion a pherchnogion eiddo, boed yn eiddo domestig neu fusnesau, dalu cyfraniadau teg i’r cymunedau y…
15 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Ar ôl gwrando’n ofalus ar farn pobl drwy ein hymgynghoriad, roedd awydd clir am ddiwygiadau, ond wedi’u cyflwyno dros amserlen arafach. Byddaf yn cyflawni rhai gwelliannau i wneud y dreth gyngor yn decach y tymor hwn, ac yn parhau i ymgysylltu ar y diwygiadau…