23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Byddwn yn gwneud y pwyntiau pwysig hynny yn ein trafodaethau gyda HyNet a hefyd gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â phwysigrwydd ymgynghori â barn trigolion yr ardal a rhoi ystyriaeth briodol iddi, ac ynglŷn â gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd i'r ardal drwy…
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Rwy’n ddiolchgar am eich cwestiwn, ac fel y dywedais mewn ymateb i’r cwestiwn blaenorol, rydym yn ymwybodol iawn o’r ffaith bod y Pwyllgor Newid Hinsawdd ac amrywiaeth o sefydliadau eraill wedi dweud y bydd dal a storio carbon o reidrwydd yn rhan o'n taith…
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Fel rwyf wedi'i ddweud eisoes, yn yr wythnosau nesaf, byddaf yn ymgynghori ar safbwynt polisi Llywodraeth Cymru ar sut y gallwn ddefnyddio technoleg dal a storio carbon, ond rydym yn canolbwyntio ar ble y gall wneud cyfraniad clir, mesuradwy a pharhaus at…
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal trafodaethau rheolaidd gyda Llywodraeth y DU ar lefel swyddogol a gweinidogol i sicrhau bod prosiectau dal carbon arfaethedig ledled Cymru yn destun rheolaethau rheoleiddiol cadarn, yn hwyluso datgarboneiddio hirdymor ac yn…
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn. Rydym yn llwyr gydnabod pwysigrwydd prentisiaethau, ac yn gwneud buddsoddiad sylweddol iawn yn ein rhaglen brentisiaethau yma yng Nghymru. Wrth gwrs, mae Medr yn arwain ar hyn bellach, ac mae Jack Sargeant yn…
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Gwnaf. Mae ein cenhadaeth economaidd yn nodi sut rydym yn defnyddio'r ysgogiadau sydd gennym i leihau'r bwlch sgiliau a chefnogi swyddi gwell, gyda'n cynllun ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau yn blaenoriaethu'r rhai sydd fwyaf angen cymorth. Mae hyn yn cynnwys…
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Rwy’n ddiolchgar am y cwestiwn, ac mewn gwirionedd, amser cinio heddiw, roeddwn mewn cyfarfod bwrdd crwn gyda chylchgrawn Building, a daethant â nifer o gynrychiolwyr y diwydiant adeiladu o amgylch y bwrdd yng Nghymru i drafod rhai o’r heriau sy’n ein hwynebu…
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn y prynhawn yma ac am dynnu sylw at bwysigrwydd creu lleoedd mewn perthynas â chanol ein trefi a'n dinasoedd. Ac mae'n bwysig iawn, wrth gwrs, fod unrhyw ddatblygiad newydd yn cael ei gyflawni ar y cyd ac yn unol â'n…
23 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Mae'r llawlyfr cynlluniau datblygu yn rhoi cyngor manwl ar sut i baratoi cynllun datblygu lleol. Mae'n seiliedig ar arferion gorau ac yn nodi'r materion allweddol y mae angen mynd i'r afael â hwy a lefel y dystiolaeth sydd ei hangen i gyflawni CDLl…
16 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil yn ymwneud â phrosesau cynllunio ar gyfer datblygu chwareli
Diolch. Rwy'n dod i ben. Felly, ein safbwynt polisi yw mynd ati i leihau cyfran yr agregau sylfaenol a ddefnyddir o gymharu â deunydd eilaidd, deunydd ailgylchu neu ddeunydd gwastraff, ac rydym yn parhau i wneud cynnydd yn hynny o beth. Yna, yn olaf, mae…
16 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil yn ymwneud â phrosesau cynllunio ar gyfer datblygu chwareli
Fel y dywedais yn fy ymateb i Hefin David, os yw'r dystiolaeth yn awgrymu bod angen i ni adolygu'r pethau hyn, byddwn yn gwneud hynny. Felly, fel y dywedais, byddaf yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r holl gyfraniadau yn y ddadl y prynhawn yma ac yn archwilio…
16 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil yn ymwneud â phrosesau cynllunio ar gyfer datblygu chwareli
Fe archwiliaf y materion a godwyd yn y Siambr y prynhawn yma gyda swyddogion, ac os yw'r dystiolaeth yn awgrymu nad yw'r polisi neu'r cyngor hwnnw'n gyfredol mwyach, byddwn yn sicr yn ystyried adolygu'r canllawiau hynny. Ac unwaith eto, ni fyddai'r math hwnnw…
16 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil yn ymwneud â phrosesau cynllunio ar gyfer datblygu chwareli
Gwnaf.
16 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil yn ymwneud â phrosesau cynllunio ar gyfer datblygu chwareli
Diolch i Heledd Fychan am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol heddiw a'r holl gyd-Aelodau am y gyfres ddiffuant iawn o gyfraniadau a gawsom y prynhawn yma. Rwyf hefyd yn ymwybodol o'r ddeiseb a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Deisebau ar yr un mater, ac rwyf wedi ymateb…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Ynni a’r economi werdd
Rwy'n ddiolchgar iawn am y sylwadau hynny hefyd, a dim ond i ailadrodd o ran Ystad y Goron fy mod i'n credu ein bod ni yn yr un lle, ac mewn gwirionedd fe wnaeth y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru argymell hefyd y dylai gael ei ddatganoli…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Ynni a’r economi werdd
Rwy'n ddiolchgar am y cyfraniad, ond mae angen cydnabod hefyd bod rhan bwysig i'w chwarae ar gyfer y datblygiadau mawr hynny. Felly, gallai'r gwaith o amgylch gwynt arnofiol ar y môr, er enghraifft, fod yn gyffrous iawn yn y môr Celtaidd. Gallai hynny fod yn…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Ynni a’r economi werdd
Diolch yn fawr iawn am y cyfraniad yna. Oes, mae gen i ddiddordeb mawr yng ngwaith y busnes ym Mhencader rydych chi wedi cyfeirio ato, oherwydd mae ein polisi cenedlaethol ar gynllunio yn nodi mai ein safbwynt a ffefrir o ran llinellau trydan newydd yw, lle…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Ynni a’r economi werdd
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiynau. Ar yr un penodol o ran faint o adeiladau'r sector cyhoeddus sydd â theils solar ar y to, nid yw'r ateb yna gennyf, ond fe wnaf geisio ei gael i chi. Ond rwy'n credu bod yna rôl i Ynni Cymru, yn enwedig, o ran cefnogi…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Ynni a’r economi werdd
Byddwn i'n dweud bod solar yn rhan o'r ateb o ran y gymysgedd o ynni adnewyddadwy y bydd ei hangen arnom wrth i ni symud tuag at sero net. Yn amlwg, ni allaf wneud sylw ar y cynlluniau penodol y cyfeiriwyd atynt ond byddaf yn dweud, serch hynny, fod gofyn i…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Ynni a’r economi werdd
Rwy'n credu bod hwn yn bwynt pwysig iawn, ac rwy'n credu ei fod yn un sy'n cael ei adlewyrchu, efallai, orau trwy'r gwaith yr ydym wedi bod yn ei wneud ar ein bargeinion dinesig a thwf, sydd yno i sicrhau bod buddsoddiad cyhoeddus yn cael ei roi i mewn, ond…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Ynni a’r economi werdd
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am y sylwadau yna, yn enwedig y rhai am wella'r buddion cymunedol. Roedd gennym rai enghreifftiau da iawn o bethau y gellid eu hystyried, ac rwy'n credu y bydd y rhain i gyd yn rhan o'n trafodaethau gyda'r diwydiant ynni…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Ynni a’r economi werdd
Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfraniadau yna. Credaf eu bod yn dod o fan cychwyn tebyg yn yr ystyr bod angen i ni gael y budd mwyaf absoliwt i Gymru a hefyd i'r cymunedau sy'n cynnal prosiectau ynni. Rwy'n credu bod y gwaith yr ydym wedi bod yn ei wneud i…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Ynni a’r economi werdd
Diolch yn fawr iawn i Sam Kurtz am ei gyfraniad y prynhawn yma. Os ydw i'n berffaith onest, ychydig iawn sydd yno y byddwn i'n anghytuno ag ef. Rwy'n credu mai'r ffordd gadarnhaol y mae Sam Kurtz wedi nodweddu Cymru fel un sy'n llawn talent a all gyfrannu at…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Ynni a’r economi werdd
Diolch. Yr wythnos diwethaf, nodais ddull gweithredu'r Llywodraeth hon o ran datblygu economaidd, gan weithio mewn partneriaeth i adeiladu ar y cryfderau a'r cyfleoedd unigryw sydd gennym yng Nghymru. Heddiw, rwyf am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am…
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Twf Economaidd
Rwy'n credu mai'r pwynt pwysig yma yw bod Llywodraeth Cymru ar daith tuag at sero net, a bydd ynni adnewyddadwy yn chwarae rhan bwysig o hynny'n sicr, ond mae amrywiaeth o ffynonellau ynni adnewyddadwy. Rydym ni wedi siarad gryn dipyn y prynhawn yma am…