26 Chwefror 2024 , Legislation, Justice and Constitution Committee
Sesiwn graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
I think, probably, as I've said in the past, it's been a fairly rocky road over the Thomas commission recommendations because there was always a very adamant position taken by UK Government, which was basically, 'We don't agree with the devolution of…
21 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Ymchwiliad COVID penodol i Gymru
Rwyf wedi bod yn dilyn hynt ymchwiliad yr Alban hyd at fis Hydref 2022, pan ymddiswyddodd y cadeirydd a phedwar cwnsler o ymchwiliad yr Alban. Yn amlwg, mater i Lywodraeth yr Alban yw darparu esboniad ynghylch eu hymchwiliad a'u blaenoriaethau. Nid wyf wedi…
21 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Ymchwiliad COVID penodol i Gymru
Lywydd, er y bydd yr ymchwiliad yn cael ei gynnal yng Nghymru am yr ychydig wythnosau nesaf, mae'n bwysig nad ydym yn ystyried y gwrandawiadau hyn fel yr unig droeon y bydd digwyddiadau yng Nghymru yn cael eu harchwilio'n agos yn ystod yr ymchwiliad hwn…
21 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Ymchwiliad COVID penodol i Gymru
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi dangos ymrwymiad clir wrth y broses o graffu a dysgu gwersi o bandemig COVID-19. Pan fydd gwrandawiadau ymchwiliad COVID-19 y Deyrnas Unedig yn dod i Gymru yr wythnos nesaf ar gyfer modiwl 2B, mae’n naturiol y bydd mwy o…
21 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, 'Ymchwiliad i lywodraethiant y DU a’r UE'
Os caf droi at yr adroddiad ei hun a chanolbwyntio ar bedair perthynas sydd gan Lywodraeth Cymru, yn gyntaf gyda'r Senedd, yna gyda Llywodraeth y DU a Llywodraethau datganoledig eraill, gyda rhanddeiliaid a chymdeithas sifil, a hefyd gyda'r UE. Yn gyntaf…
21 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, 'Ymchwiliad i lywodraethiant y DU a’r UE'
Gadewch imi sôn yn gyntaf am y cyd-destun ehangach. Mae’r adroddiad yn amlygu nad yw’r gwaith ar berthynas newydd rhwng y DU a’r UE wedi'i gwblhau. O'n rhan ni, yng Nghymru, mae angen inni barhau i ddiogelu ein safonau economaidd, cymdeithasol ac…
21 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, 'Ymchwiliad i lywodraethiant y DU a’r UE'
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar i’r pwyllgor am yr adroddiad pwysig, trwyadl a manwl hwn, ac i’r Aelodau sydd wedi siarad. Byddaf yn ymateb i’r amryfal bwyntiau yn y man. Gadewch imi ddechrau drwy ddweud pa mor falch ydw i fod y pwyllgor yn…
20 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Dwy flynedd ers yr ymosodiad llawn ar Wcráin a diweddariad ar y Genedl Noddfa
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gyfrannu at y datganiad hwn wrth i ni nesáu at ddiwedd yr ail flwyddyn ers yr ymosodiad anghyfreithlon ar Wcráin. Felly, dri diwrnod yn ôl, fe ddychwelais o Kyiv ar ôl bod yn trosglwyddo tri…
6 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
& 9. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) a'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)
Diolch yn fawr, Llywydd. Efallai os dechreuaf gyda rhai o'r pwyntiau a wnaed yn fwyaf diweddar, ac a gaf i ddweud, yn y dechrau'n deg, mae'n amhosibl i mi ateb pob un pwynt sydd wedi'i godi? Ond rwy'n ddiolchgar iawn am yr hyn sy'n gyfres adeiladol iawn o…
6 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
& 9. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) a'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)
Dechreuaf drwy wneud sylwadau ar fater cofrestru awtomatig, oherwydd cofrestru awtomatig a chynlluniau treialu eraill y gellir eu cynnal yn y dyfodol—. Ac rydym yn cytuno â'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynghylch pwysigrwydd amrywiaeth ddaearyddol yn ein…
6 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
& 9. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) a'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)
Rwyf wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid mewn ymateb i'w adroddiad. Rwyf hefyd wedi darparu'r datganiadau o fwriad polisi y gofynnodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad amdanynt ynghylch darpariaethau sy'n ymwneud â phlatfform gwybodaeth a…
6 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
& 9. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) a'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n symud y cynigion. Rwy'n falch o agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) ac i symud y cynnig ar y penderfyniad ariannol. Mae'r Bil yn gam pwysig arall ar ein taith i gyflawni…
31 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch am y pwyntiau hynny. Mae’n debyg mai’r gwir amdani yw y byddwn yn gwybod mwy am y canlyniadau ariannol hynny pan fyddwn yn gwybod mwy am y manylion. Gwn fod rhywfaint o waith eisoes wedi mynd rhagddo. Mae'n amlwg iawn fod rhywfaint o'r swm hwnnw'n…
31 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch am y sylwadau hynny. Mae'n ddrwg gennyf os oeddwn yn swnio fel pe bawn braidd yn galed arno. Credaf ei bod bob amser yn anodd pan fydd cam pwysig iawn yn digwydd, ac yn amlwg, fod iddo oblygiadau, ac na chafwyd yr ymgysylltu hwnnw, ac ymgysylltu a…
31 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Rydych yn llygad eich lle. Ar rywbeth y mae'n amlwg fod ganddo ganlyniadau cyfansoddiadol sylweddol i Gymru, mae'n siomedig iawn na fu unrhyw ymgysylltu â ni ar hynny. Mae’n amlwg fod gennym ddiddordebau penodol iawn yn y materion sy’n cael eu trafod…
31 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch am eich cwestiwn. A gaf fi ddweud fy mod yn siŵr fod pob un ohonom yn croesawu adfer unrhyw ddatganoli yng Ngogledd Iwerddon, os yw pob plaid yn cytuno? Ond dim ond newydd ddarparu manylion y cytundeb y mae Llywodraeth y DU. Bydd angen inni sicrhau bod…
31 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
A gaf i ddiolch i chi am y cwestiwn atodol hwnnw? A gaf i ddiolch i chi hefyd am yr ymroddiad a'r sylw yr ydych wedi'i roi i iechyd meddwl? Wrth gwrs, rwy'n ymwybodol fod gennych bleidlais i gyflwyno Bil Senedd sy'n ymwneud ag iechyd meddwl. Rydych chi wedi…
31 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Wel, diolch yn fawr iawn am y cwestiwn. Deddf Iechyd Meddwl 1983 yw'r ddeddfwriaeth allweddol sy'n ymwneud â gofal a thriniaeth iechyd meddwl. Mae gwasanaethau iechyd meddwl o ansawdd uchel i bawb yng Nghymru yn flaenoriaeth. Ein nod yw darparu gofal yn agos…
31 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Wel, a gaf i ddweud, gan gymryd y pwynt olaf hwnnw yn gyntaf, rwy'n credu bod gan unrhyw blaid sy'n cael mandad ar gyfer y diwygiadau hynny a'r newidiadau hynny hawl i'w gweld yn cael eu rhoi gerbron y bobl? Mae hynny bob amser wedi bod yn wir, yn fy marn i…
31 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Mae egwyddor cydsyniad deddfwriaethol yn ganolog i'r setliadau datganoli ac mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau ers tro byd fod angen diwygio confensiwn Sewel. Rydym yn ystyried argymhellion ystyrlon y comisiwn ar hyn.
31 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch am eich cwestiwn. Wrth gwrs, pan fyddwch chi'n wynebu etholiad cyffredinol, pan fyddwch chi'n dechrau edrych ar y prif faterion, rwy'n deall eich bod eisiau nodi beth yw'r materion pwysicaf a mwyaf uniongyrchol. Ac wrth gwrs, mae yna faterion…
31 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Wel, a gaf i ddweud yn gyntaf fod y clip cyfryngau cymdeithasol y cyfeiriwch ato yn ymateb i glip a ddaeth gan y Gwir Anrhydeddus Robert Buckland, cyn Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder? Y rheswm pam y gwneuthum hynny oedd oherwydd…
31 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Rwy'n credu mai un o'r anawsterau wrth siarad am ddatganoli plismona yw bod yn rhaid inni ddeall y gydberthynas rhwng plismona, sut mae plismona wedi newid dros y blynyddoedd, y ffordd y mae'n rhyngweithio â throseddu ieuenctid, â chymunedau cymdeithasol, â…
31 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch am y cwestiwn. Fel y mae'r Llywydd wedi amlinellu, mae cwestiynau 4, 5 a 6 yn cael eu grwpio. Mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn glir. Rydym yn parhau i gefnogi datganoli plismona a chyfiawnder i Gymru, fel y mae'r comisiwn cyfansoddiadol wedi'i gefnogi…
31 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
A gaf i ddiolch i chi eto am gadw'r mater hwn ar y radar, oherwydd mae'n un pwysig iawn? Mae'n fater sy'n ymddangos hefyd ym Mil Dioddefwyr a Charcharorion Llywodraeth y DU, ac wrth gwrs, un o'r ffyrdd y mae'r Bil hwnnw'n ceisio mynd i'r afael â rhai o…