21 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, diolch i'r Aelod am y pwynt olaf yna. Yn aml mae'n anodd datgysylltu ble mae arian sy'n dod i Gymru drwy gyllideb yn deillio, oherwydd bod arian yn cyrraedd trwy un llinell ariannu ac yn diflannu trwy doriadau mewn llinell arall. Yn y pen draw, Llywydd…
21 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, darperir cyllid ar gyfer pyllau nofio a chanolfannau hamdden i awdurdodau lleol drwy'r setliad llywodraeth leol. Er gwaethaf y sefyllfa ariannol heriol, rydym wedi cytuno ar fuddsoddiad ychwanegol sylweddol i lywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn…
21 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, diolch i'r Aelod, wrth gwrs, am ei chwestiwn atodol. Rwy'n credu y bydd hi'n canfod, mewn gwirionedd, fod tai a gwblhawyd yng Nghymru yn y chwarter diwethaf yn uwch na'r lefelau cyn y pandemig—[Torri ar draws.] Wel, mewn gwirionedd, mi oedden nhw. Na, mi…
21 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i sicrhau bod y lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad cyfalaf ar gael i gynorthwyo gwaith adeiladu tai. Mae'r diwydiant yn wynebu rhwystrau sylweddol o ran chwyddiant costau adeiladu, prinder llafur…
21 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Gadewch i mi ailadrodd rhywbeth a ddywedodd Huw Irranca-Davies yn ei gwestiynau atodol—bod dadansoddiad annibynnol o'r gyllideb yn dweud y bydd yn arwain at y cwymp mwyaf mewn safonau byw ers i gofnodion ddechrau. Ai dyna y mae'r Aelod yn ei olygu wrth ddweud…
21 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Un ffordd neu'r llall, rwyf wedi bod yn gysylltiedig â 23 mlynedd o gyllidebau Llywodraeth y DU, ac rwy'n cytuno â Huw Irranca-Davies—nid wyf i erioed wedi gweld cytundeb gwaeth i Gymru na'r hyn a welsom yr wythnos diwethaf. Mae'n gwbl annealladwy i mi y…
21 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Ni ddarparodd y gyllideb unrhyw gyllid ychwanegol ar gyfer iechyd, gwasanaethau cymdeithasol na chyflogau sector cyhoeddus, a chynigiodd y cymorth ychwanegol lleiaf posibl i bobl a busnesau. Roedd yn blaenoriaethu petrol a thyllau yn y ffordd dros bobl a…
21 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Yn gyntaf oll, Llywydd, rwy'n bendant yn cytuno â Gareth Davies am hanes cyfoethog safle Ysbyty Gogledd Cymru. Cyhoeddodd cyn-gydweithiwr i mi, a oedd yn gweithio ym Mhrifysgol Bangor, Pamela Michael, lyfr gwirioneddol ardderchog yn edrych ar ofal a…
21 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Cyngor Sir Ddinbych a'u datblygwr penodedig sy'n gyfrifol am ddyfodol hirdymor y safle hwn. Mae'r cyngor, fel perchennog y safle, ynghyd â'u contractwyr, yn gwneud cynnydd gyda chymorth sylweddol o gronfeydd bargen twf y gogledd.
21 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu y bydd yr Aelod yn gweld mai ar 7 Mawrth y cyhoeddwyd yr adroddiad mewn gwirionedd, yn hytrach na'r wythnos diwethaf. Mae gan y bwrdd iechyd, o dan y rheolau sydd wedi'u cytuno gydag AGIC, bedair wythnos i roi sicrwydd i AGIC bod y materion sy'n…
21 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae cyllid sylweddol a pharhaus gan Lywodraeth Cymru yn cefnogi gwasanaethau iechyd meddwl yng Ngorllewin De Cymru, o ehangu ymyriadau mynediad uniongyrchol haen 0 a haen 1 i wasanaethau arbenigol, er enghraifft…
21 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
O ran y cwestiwn cyntaf, rydym ni'n parhau i adolygu safbwyntiau'r crwner ac i gymryd cyngor gan y rhai sy'n rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ar y materion hynny. O ran COVID hir, rwy'n credu bod y dystiolaeth yn dal i ddod i'r amlwg. Rwy'n meddwl ei bod hi'n…
21 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, rwy'n credu bod y Barnwr Hallett ei hun wedi dweud droeon bod y rheswm ei bod hi'n dymuno cynnal ei hymchwiliad yn y ffordd y mae hi'n ei wneud—yr oedd arweinydd Plaid Cymru yn feirniadol ohoni yn ei gwestiwn cyntaf—yn union oherwydd ei bod hi…
21 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'n ddrwg gen i, wnes i ddim clywed y cwestiwn yn yr hyn a ofynnodd arweinydd Plaid Cymru i mi, ond rwyf i wedi nodi sawl gwaith y rhesymau pam mai'r ffordd orau o fynd ar drywydd yr atebion y mae teuluoedd yma yng Nghymru yn dymuno eu cael, yn gwbl…
21 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, gall arweinydd yr wrthblaid sloganeiddio cymaint ag y mynno. Rwyf i wedi rhoi'r ffeithiau iddo; y ffeithiau sy'n dweud bod gennym ni yma yng Nghymru gynnig gofal plant llawer mwy hael a chynllun i fod yn fwy hael fyth, y byddwn yn ei ddarparu, gan ein…
21 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dyma ateb syml i arweinydd yr wrthblaid: byddwn yn buddsoddi £70 miliwn mewn buddsoddiad cyfalaf yn y sector hwn, fel y gall dyfu a dwyn mwy o blant i ofal plant. Nid oes ceiniog, dim un geiniog, yng nghyhoeddiad y Canghellor o fuddsoddiad cyfalaf yn y sector…
21 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n gwbl siŵr, yn y sgyrsiau hynny, bod arweinydd yr wrthblaid wedi gallu esbonio i'r bobl hynny mai'r hyn yr ydym ni'n ei weld yw ymgais yn Lloegr i ddal i fyny â gwasanaethau sydd eisoes ar gael yma yng Nghymru. Yn sicr nid yw'r ffordd arall. Y cwbl y…
21 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, diolch i Russell George am y cwestiynau ychwanegol yna. Cefais gyfle i drafod recriwtio ym Mhowys gyda phrif weithredwr bwrdd iechyd prifysgol Powys ddoe. Dywedodd wrthyf mai dim ond un practis a reolir sydd gan Bowys a bod gobaith realistig y bydd…
21 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rydym ni'n gweithio gyda phartneriaid i gadw gweithwyr presennol, i recriwtio'n lleol ac i ddod â chlinigwyr newydd i'r ardal. Er bod heriau yn parhau, ac yn rhai go iawn, mae'r canolbarth yn parhau i fod yn lle deniadol i weithio, byw a hyfforddi…
21 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, mae hanes Llywodraeth Cymru yn siarad drosto'i hun: dros £800 miliwn eisoes wedi'i fuddsoddi mewn datblygiadau metro ledled Cymru, £800 miliwn arall wedi'i fuddsoddi mewn fflydoedd trenau newydd ledled Cymru—trenau sy'n cael eu cynhyrchu yma…
21 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, yn gyntaf oll, mae'r Aelod yn cyfeirio at yr anhawster sylfaenol sydd wrth wraidd yr hyn yr ydym ni wedi ei weld gyda HS2, a bellach, yn wir, efallai gyda Phwerdy Gogledd Lloegr hefyd, sef gallu mympwyol Trysorlys y DU i wneud dosbarthiadau o'r…
21 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Waw. Allech chi ddim ei ddyfeisio, Llywydd, ond mae'n siŵr bod rhywun wedi gwneud hynny ar ran yr Aelod, oherwydd fe'i darllenodd ar lafar i ni. Edrychwch, nid oedd yr hyn yr ydym ni wedi ei glywed, hyd yn oed gyda'r deunydd mwyaf disylwedd, werth amser y…
21 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, diolch i Rhys ab Owen am yr hyn y mae wedi ei ddweud. A bydd yn deall bod yn rhaid i mi fod yn ofalus i beidio â drysu'r cyfrifoldebau sydd gen i fel Aelod o'r Senedd dros Orllewin Caerdydd. Yn rhinwedd y swydd honno, rwy'n gyfarwydd iawn â'r…
21 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, fe gafodd y penderfyniad i ohirio rhannau o'r llinell HS2 ei wneud heb gyfeirio o gwbl at Lywodraeth Cymru na Thrafnidiaeth Cymru. Mae hyn yn chwalu'r myth mai prosiect Cymru a Lloegr yw hwn.
14 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Un o'r ffyrdd y bydd etholwyr yn etholaeth yr Aelod yn cael y gwasanaeth hwnnw yw pan fydd deintyddion mewn ffordd drylwyr yn cyflawni canllawiau NICE. Gofyniad NICE ers 2004 yw na ddylai pobl fyth gael eu galw'n ôl ddwywaith y flwyddyn am archwiliad pan nad…