2 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, mae gan holl gyfranogwyr craidd yr ymchwiliad gyfrifoldebau sy'n dod o fod yn gyfranogwr craidd, ac mae ganddyn nhw hawliau sy'n dod gyda hynny hefyd. Mae hynny yn rhoi hawliau i gyfranogwyr craidd weld dogfennau. Nid wyf i'n credu ei bod hi'n…
2 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae'r asesiad o ba un a oes gan y tystion y mae'r ymchwiliad wedi eu galw hyd yn hyn arbenigedd yn fater o farn, ac mae'r farn y mae Adam Price wedi ei mynegi yn farn iddo ef ei chyfleu. Roedd yn iawn i wneud ei bwyntiau yn uniongyrchol i gadeirydd…
2 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, rwyf eisiau bod yn ofalus yn yr hyn yr wyf i'n ei ddweud, gan fy mod i'n dyst i'r ymchwiliad. Yr hyn a wnes i oedd negodi gyda Llywodraeth y DU ar y pryd i wneud yn siŵr bod gan yr ymchwiliad yr holl bwerau sydd eu hangen arno i allu sicrhau…
2 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, yn gyntaf oll, mae'n amhosib i mi gytuno â'r syniad mai'r ymchwiliad sydd ar fai. Does dim bai yma; penderfyniad gan yr ymchwiliad yw hwn. Dywedodd arweinydd yr wrthblaid mai'r ymchwiliad oedd ar fai—dyna'r term a ddefnyddiodd; gwrandewais arno yn…
2 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu'n llawn ag ymchwiliad y DU. Rydyn ni'n derbyn nifer o geisiadau rheol 9 i Weinidogion ac i uwch swyddogion, a cheir cydymffurfiad â'r ceisiadau rheol 9 lluosog hynny. Dywedodd y cwnsler i'r ymchwiliad yn y…
2 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Yr hyn yr wyf i'n cytuno ag ef oedd y pwynt yr oedd y Gweinidog yn ei wneud mewn gwirionedd, gan ei fod yn cyfeirio at benderfyniad Llywodraeth y DU i gyflwyno dyfodol ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru na all ond fod yn un o ddirywiad a reolir…
2 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dirprwy Lywydd, diolch i Carolyn Thomas am hynna. Mae hi'n gwneud pwynt pwysig iawn. Gwnaed penderfyniad Avanti West Coast i leihau gwasanaethau rhwng y gogledd a Llundain heb unrhyw rybudd ymlaen llaw i Lywodraeth Cymru nac i Trafnidiaeth Cymru, er gwaethaf…
2 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr i Siân Gwenllian am y cwestiynau ychwanegol, Dirprwy Lywydd. A dwi'n cytuno—mae'n rhaid i ni gael y pwerau, y pwerau llawn yn y maes rheilffyrdd, a hefyd y buddsoddiadau sydd yn mynd gyda'r pwerau. Mae rhai pwerau gyda ni yn barod. Rydyn ni…
2 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Siân Gwenllian. Dirprwy Lywydd, cyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw llawer o’r gwasanaethau ar y prif reilffyrdd ar draws gogledd Cymru, ac maen nhw’n cael eu darparu gan Avanti West Coast. Mae perfformiad gwael a lefelau gwasanaeth annigonol…
2 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Dirprwy Lywydd, wrth gwrs mae'r Aelod yn iawn yn ei phwynt ffeithiol syml am y ffordd y pleidleisiodd ASau Ceidwadol ar y mater hwn. Pe bai gwaredu carthion yn cael ei wneud yn anghyfreithlon, yna byddai'r cwestiwn yn codi o ran yr hyn sy'n digwydd pan…
2 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Dirprwy Lywydd, nid wyf i'n credu bod hwn yn faes lle ceir cystadleuaeth rhwng gwahanol wledydd y Deyrnas Unedig. Rwy'n credu bod angen i ni leihau llygredd afonydd yng Nghymru, ac rwy'n eithaf siŵr bod Llywodraeth y DU yn cymryd camau yn Lloegr i wneud…
2 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Dirprwy Lywydd, diolch i Mike Hedges am ei awgrymiadau adeiladol bob tro ynghylch sut y gallem ni fynd i'r afael â melltith llygredd afonydd. Rwy'n credu ein bod ni eisoes wedi cychwyn ar nifer o'r pwyntiau y mae wedi eu crybwyll. O ran gwahanu dŵr ffo…
2 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Mike Hedges, Dirprwy Lywydd, am y cwestiwn yna. Gyda chyd-Weinidogion, rwyf i wedi cadeirio dwy uwchgynhadledd, gan ddod â'r holl gyrff a sefydliadau hynny â chyfrifoldeb i leihau llygredd afonydd at ei gilydd. Mae'r cynllun gweithredu y cytunwyd…
25 Ebrill 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, wrth gwrs fy mod i'n ymwybodol iawn o'r ymgyrch barhaus. Bydd llawer o Aelodau yma wedi derbyn y bwletin diweddaraf y mae John Benson, yr ymgyrchydd hirdymor hwnnw ar ran gweithwyr ASW, wedi anfon at yr holl Aelodau yma. Ac mae'n gwneud y pwynt…
25 Ebrill 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rwyf i wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i wella'r cynllun cymorth ariannol a chynyddu ei chymorth ariannol a'i gwmpas. Mae hwn yn fater a gedwir yn ôl, ac rwy'n siomedig bod Llywodraeth y DU yn methu â sicrhau'r cyfiawnder pensiynau y mae'r…
25 Ebrill 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, wrth gwrs rwy'n cefnogi'r rheoliadau a gafodd eu trafod ar lawr y Senedd hon ar gynnig i ddirymu, a chafodd y cynnig hwnnw ei drechu, felly rwy'n cyflawni polisi'r Senedd etholedig yma yng Nghymru. Nid ydw i'n cytuno â'r Aelod; rwy'n credu y caiff y…
25 Ebrill 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, y rhesymeg dros y trefniadau newydd yw sicrhau bod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg i'w cymunedau lleol. Mae'r dystiolaeth y cafodd ei defnyddio wedi bod ar gael ers dros 12 mis. Cafodd ei chyhoeddi ochr yn ochr â chanlyniad ein…
25 Ebrill 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch iddi hi am roi'r cyfle i mi ailadrodd thema eto yr wyf i wedi ceisio'i datblygu ar lawr y Senedd dros gyfnod estynedig o ran deintyddiaeth, a dyna bwysigrwydd arallgyfeirio'r proffesiwn hwnnw. Deintyddion eu hunain yw'r adnodd mwyaf medrus a drud sydd…
25 Ebrill 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr i Jane Dodds.
25 Ebrill 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, wel rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, o'r datblygiadau yn ysbyty cymunedol Tywyn. Yr hyn y mae'r bwrdd iechyd wedi'i wneud, ar gyfer y tri mis nesaf, yw canolbwyntio ei adnoddau staff sydd ar gael yn Nolgellau fel bod modd cael gwasanaeth yn yr ardal…
25 Ebrill 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn, Llywydd. Mae mwy o staff yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru nag ar unrhyw adeg arall yn ei hanes—hanes sy’n ymestyn dros 75 o flynyddoedd. Pan fydd prinder staff, mae’r byrddau iechyd yn cynnal ymgyrchoedd recriwtio…
25 Ebrill 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, rwy'n difaru'r ffaith nad oes gan Lywodraeth Cymru bwerau i'w gwneud yn ofynnol bod y camau y mae Jenny Rathbone wedi'u nodi yn cael eu gweithredu, oherwydd bod polisi ynni yn fater a gedwir yn ôl a gallan nhw ond cael eu gweithredu gan…
25 Ebrill 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r newidiadau hyn yn wirfoddol ac yn sicr dydyn nhw ddim yn mynd yn ddigon pell. Ein barn ni yw y dylid gwahardd gosod mesuryddion rhagdalu yn orfodol yn llwyr. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn cyfarfod ag Ofgem yfory a bydd yn gwneud y ddadl…
25 Ebrill 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, gadewch i mi ddweud yn gyntaf oll bod Llywodraeth Cymru eisiau gweld yr hyn a ddywedodd adolygiad Cass: gwasanaethau sy'n ddiogel ac yn effeithiol, a'n huchelgais yw dod â mwy o'r gwasanaethau hynny yn agosach at adref. Nid cyfrifoldeb…
25 Ebrill 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae'r cyfrifoldeb hwn yn nwylo Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ac fe'i cyflawnir drwy ei aelodaeth o fwrdd rhaglen GIG Lloegr ar gyfer gwasanaethau dysfforia rhywedd.