16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, oherwydd mae'r rhain yn bwyntiau pwysig. Nid oes yr un ohonom eisiau gweld datblygiadau yn cael eu hoedi lle mae eu hangen nhw, yn yr union ffordd y mae'r Senedd nawr wedi clywed amdanyn nhw, ond nid ydym ychwaith yn barod…
16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wrth gwrs rwy'n ymwybodol o'r sefyllfa yn Wrecsam. Mae'n gyfres ryfeddol o ddigwyddiadau pryd y mae awdurdod lleol yn cymeradwyo ei gynllun ei hun fel un cadarn, yn cyflwyno'r cynllun, sef ei gynllun ef, y mae wedi'i gadarnhau fel un cadarn, i'r arolygiaeth…
16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn. Llywodraeth Cymru sy'n pennu’r fframwaith ar gyfer llunio cynlluniau datblygu lleol. Mater i bob awdurdod cynllunio lleol yw'r ddyletswydd statudol i lunio cynllun datblygu lleol cadarn.
16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Gadewch i mi gywiro'r camsyniad llwyr hwn. Ni fydd unrhyw fusnes yn gorfod cau oherwydd nad yw'n gosod am 182 diwrnod. Yn syml, dydyn nhw ddim yn gallu manteisio ar ryddhad ardrethi busnesau bach a bydd yn rhaid iddyn nhw dalu'r dreth gyngor fel pawb arall…
16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Ken Skates am hynny, a diolch iddo am dynnu sylw at y ffaith mai hon yw Wythnos Twristiaeth Cymru, diwydiant pwysig iawn ym mhob rhan o Gymru. Mae Blwyddyn y Llwybrau wedi'i chynllunio i gyfrannu at ein huchelgais ar gyfer y sector—ein bod yn…
16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Ken Skates am hynna. Dyma Flwyddyn y Llwybrau yng Nghymru. Mae'r thema yn caniatáu i bob cyfranogwr yn y diwydiant twristiaeth arddangos llwybrau sy'n amlygu'r diwylliant, antur a phrofiadau tirwedd gwych sydd i'w cael yn ein gwlad. Roeddwn yn falch…
16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Vikki Howells am hynny, Llywydd, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hi bod gwaith Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn esiampl yn y maes hwn. Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, fe wnaethom ni lwyddo i fwrw ymlaen â thri gwahanol brosiect gyda'r…
16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, yn gyntaf oll, gadewch i mi gytuno â Janet Finch-Saunders ynghylch manteision iechyd meddwl meddu ar randir. Roeddwn i'n ddigon ffodus o fod ar fy rhandir i dros y penwythnos, ynghyd â'r colomennod a'r cwningod a'r gwlithod a phopeth arall sydd…
16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae ein grant cymorth i randiroedd wedi clustnodi £1.3 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf ar draws awdurdodau lleol i helpu i wella a chynyddu'r ddarpariaeth o randiroedd. Yn ogystal â'r gronfa bwrpasol hon, mae rhaglenni eraill, fel y Gwasanaeth…
16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr ynghylch pwysigrwydd darparu gwybodaeth gywir. Y ffordd y byddwn ni'n gwneud hynny yw'r ffordd yr amlinellais yn fy ateb gwreiddiol. Mae'n fater o weithio gyda sefydliadau ar lawr gwlad sydd â mandad democrataidd ac sy'n bodoli…
16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r cyngor cymuned lleol, Cyngor Sir Powys ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i hybu ymgynghori cymunedol adeiladol ar y defnydd o fferm Gilestone yn y dyfodol.
16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae llawer iawn yn yr hyn y mae arweinydd Plaid Cymru wedi ei ddweud y prynhawn yma, Llywydd, yr wyf i'n cytuno'n llwyr ag ef. Mae'n iawn, wrth gwrs: rydym ni'n anghytuno ar lawer o bethau, a dyna ogoniant ein democratiaeth, y gallwn ni wneud hynny, a gallwn…
16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, gaf i ddweud i ddechrau diolch yn fawr i Adam Price am y pethau caredig yn bersonol a ddywedodd e i ddechrau? Mae'n wych i weld y teulu i gyd yma yn y Senedd y prynhawn yma, a braint oedd e i gwrdd unwaith eto â'ch mam ar y ffordd i mewn i'r…
16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, atebais gwestiwn ar hwn wythnos diwethaf gan James Evans ac esboniais fod y cynnig penodol y mae arweinydd Plaid Cymru yn cyfeirio ato yn debygol o gael ei ddynodi yn un o arwyddocâd cenedlaethol. Mae'r broses sy'n dilyn yn cynnwys Gweinidogion Cymru…
16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, diolch i arweinydd Plaid Cymru am ei gwestiwn. Wrth gwrs, daeth e a minnau i gytundeb i archwilio opsiynau i gyflymu'r cynlluniau ar gyfer ffordd osgoi Llandeilo yn ôl ym mis Rhagfyr 2016, pan oedd gan y ddau ohonom gyfrifoldebau gwahanol. Yn…
16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, gadewch i mi wneud tri phwynt wrth ateb arweinydd yr wrthblaid. Yn gyntaf, bydd y camau i'w cymryd o ganlyniad i'r adroddiad yn cael eu cymryd gan y bwrdd. Yn gyfreithiol, nhw sy'n gyfrifol amdano; nhw fydd yn cyflawni'r cyfrifoldebau hynny…
16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, nid yw bwrdd iechyd prifysgol Betsi yn cael ei redeg gan Lywodraeth Cymru. Nid wyf i'n credu ei bod hi'n anodd i arweinydd yr wrthblaid ddeall hyn. Mae'r rhwymedigaethau cyfreithiol am ymddygiad y bwrdd hwnnw, gan gynnwys y rhwymedigaethau…
16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae gennyf i wahanol ddull i arweinydd yr wrthblaid—nid wyf i'n mynd i chwilio am adroddiadau nad ydyn nhw ar gael i mi ar hyn o bryd, pan fydd yr adroddiadau hynny i fod yn cael eu cadw yn gyfrinachol ymhlith y bobl hynny sydd â hawl gyfreithlon i'w…
16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, nid wyf i'n credu ei bod hi'n bosibl dod i gasgliadau cyffredinol o un achos. Wrth gwrs, rydyn ni'n disgwyl i'r dreth gyngor, gan gynnwys premiymau, gael ei gweinyddu yn synhwyrol gan awdurdodau lleol. Ond rwyf i wedi wynebu llawer o gwestiynau yn y…
16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae'r gallu i godi premiymau treth gyngor wedi cael ei groesawu fel mecanwaith i awdurdodau lleol helpu i fynd i'r afael â'r effeithiau y gall ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor eu cael yn eu cymunedau.
16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, yr hyn sydd y tu ôl i'r ffigurau a ddyfynnwyd gan yr Aelod yw'r dewisiadau y gall pobl ifanc eu gwneud. A dyna pam y dywedais i wrth ateb y cwestiwn atodol gwreiddiol fod yn rhaid i hyn fod yn bartneriaeth rhwng y diwydiant ei hun a Llywodraeth Cymru…
16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, diolch i Rhianon Passmore am hynny. Rydyn ni'n sicr yn gwybod beth yw'r presgripsiwn sy'n cael ei gynnig gan Lywodraeth y DU—'gadewch iddyn nhw gasglu ffrwythau'. Dyna oedd neges yr Ysgrifennydd Cartref ddoe. Dywedodd, wrth gwrs, y byddai angen…
16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae chwyddiant allan o reolaeth, tagfeydd cadwyn gyflenwi a phrinder sgiliau i gyd yn wynebu'r diwydiant adeiladu yn Islwyn a ledled Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r sector i fynd i'r afael â'r heriau sylweddol hyn.
10 Mai 2023 , Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
Cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru: craffu ar waith y Prif Weinidog—parhad
Diolch yn fawr. Thank you very much.
10 Mai 2023 , Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee
Cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru: craffu ar waith y Prif Weinidog—parhad
Well, I don't know, but I'll tell you what I think the biggest challenge is that we face, and then if you thought that committee had anything to help, that would be very useful. So, I think the biggest challenge, I think, I face in trying to work with our…