20 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, yn gyntaf oll, Llywydd, gadewch i mi fod yn glir: mae'n nonsens llwyr i unrhyw Weinidog Ceidwadol honni nad ydym ni wedi gofyn yn ffurfiol am y pwerau hynny. Rydym ni wedi bod mewn trafodaethau poenus gyda Llywodraeth y DU ynghylch adroddiad comisiwn…
20 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Yn gyntaf oll, gadewch i mi gytuno ar y pwynt hwn—roedd yn weithred ryfeddol o lwfrdra gwleidyddol neithiwr i Brif Weinidog y DU fethu â chefnogi adroddiad pwyllgor annibynnol yn Nhŷ'r Cyffredin a oedd yn gyfrifol am yr ymchwiliad hwnnw ac am lunio, gyda…
20 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
O ran dyfodol Cymru, ceir llawer yn yr hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth a fyddai'n uchelgais a rennir gan lawer o bobl ar yr ochr yma i'r Siambr. Rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio gydag ef a chydag Aelodau eraill o'i blaid yn rhan o'r cytundeb…
20 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
I ddechrau, Llywydd, croeso’n ôl i Rhun ap Iorwerth at gwestiynau i'r Prif Weinidog, fel roedd arweinydd yr wrthblaid yn ei ddweud. Pob lwc iddo fe yn y swydd newydd mae e wedi ei derbyn.
20 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
—allan o'i ffordd i'w cefnogi yma yng Nghymru dro ar ôl tro?
20 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Nid wyf i'n credu bod record economaidd y Deyrnas Unedig yn rhywbeth i chwerthin yn ei chylch, ac nid wyf i'n credu chwaith, pan fydd arweinydd yr wrthblaid yn cael ei hun ar iâ mor denau, bod gweiddi'n uwch ac yn uwch arnaf i yn ffordd o guddio gwendid ei…
20 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Y peth gorau all ddigwydd i economi Cymru yw i ni gael Llywodraeth Lafur ar lefel y Deyrnas Unedig. Pe bai un cam y gallem ni ei gymryd i wneud yn siŵr bod pobl yma yng Nghymru yn mwynhau'r dyfodol economaidd y maen nhw'n ei haeddu, mae'n rhaid mai'r cam…
20 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, o ystadegau marchnad lafur yr wythnos diwethaf. Mae'r cefndir iddyn nhw yn un difrifol i'r Deyrnas Unedig gyfan. Mae'r Blaid Geidwadol wedi chwalu'r economi, ac rydym ni'n gweld hynny'n datblygu nawr ar ffurf y pwysau yr ydym ni'n…
20 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n cytuno â Jenny Rathbone mai plant yw'r eiriolwyr mwyaf perswadiol gyda'u rhieni eu hunain ynghylch camau y gellir eu cymryd i wella'r amgylchedd o amgylch eu hysgolion eu hunain. Fel pob Aelod yma yn y Senedd, rwy'n siŵr, rwyf i wedi ymweld ag ysgolion…
20 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno, wrth gwrs, y dylem ni ddod o hyd i'r holl ffyrdd y gallwn ni i fanteisio ar yr ymrwymiad angerddol hwnnw y mae pobl ifanc yn ei deimlo at ddyfodol y blaned y byddan nhw'n parhau i fyw arni. Byddwn yn cyfarfod yfory â'r Senedd…
20 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolchaf i Russell George yn fawr am y cwestiwn atodol yna. Mae hwnna yn gyfuniad rhyfeddol o sgiliau datrys problemau i ni ei weld gan y myfyrwyr yn Llanidloes. Rwy'n falch iawn o gytuno y byddwn ni'n dod o hyd i rywun i siarad yn uniongyrchol â'r ysgol, ac…
20 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
A gaf i ddiolch i Russell George am y cwestiwn yna, Llywydd? Ein pobl ifanc yw'r eiriolwyr gorau dros wneud ysgolion yn ecogyfeillgar. Mae llwyddiant y mudiad Eco-Sgolion yng Nghymru yn ffordd effeithiol y gellir troi'r ymrwymiad hwnnw yn weithredu ymarferol.
20 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rwyf i wedi trafod y mater hwn gyda'r Aelod o'r blaen. Nid wyf i'n cytuno â'r pwyntiau y mae hi'n eu gwneud, ond, yn bwysicach o lawer na fy safbwynt i, nid yw'r bobl hynny sy'n gweithio yn y maes chwaith. Cynnig gan Cymwysterau Cymru yw hwn—y bobl…
20 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, diolchaf i Joyce Watson am y pwyntiau hynny, ac rwy'n cytuno â'i chynsail sylfaenol yn fawr iawn mai'r dyfodol yn economi Cymru fydd y gystadleuaeth i weithwyr ymgymryd â'r swyddi sy'n aros i weithwyr eu cyflawni. Ac mae hynny'n golygu yn gwbl…
20 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, diolchaf i Joyce Watson am y cwestiwn yna. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag ysgolion, colegau, cyflogwyr, a gyda modelau rôl, i sicrhau bod merched a menywod ifanc yn cael eu hannog yn gadarnhaol i ddewis cymwysterau a gyrfaoedd sy'n…
13 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Codi Proffil Rhyngwladol Cymru—Diweddariad ar weithgarwch cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru
Wel, Llywydd, hoffwn pe bai gennym fwy o wasanaethau consylaidd yma yng Nghymru. Mewn rhai ffyrdd, mae ein daearyddiaeth ychydig yn ein herbyn ni yma. Rwyf i, fy hun, wedi cyfarfod â dros 20 o lysgenhadon yng Nghymru yn ystod y chwe mis diwethaf. Maen nhw i…
13 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Codi Proffil Rhyngwladol Cymru—Diweddariad ar weithgarwch cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru
Diolch i Alun Davies am y pwyntiau pwysig iawn yna. Soniais yn fyr iawn yn fy natganiad am ein huchelgais i fod yn genedl noddfa, ac nid oes unrhyw beth yn amlygu'n fwy byw ein bod wedi gwireddu'r uchelgais hwnnw yn ystod y 15 mis diwethaf nag ein hymdrechion…
13 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Codi Proffil Rhyngwladol Cymru—Diweddariad ar weithgarwch cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru
Diolch yn fawr i Heledd Fychan am y cwestiwn. Canolbwyntiais i yn y datganiad ar bethau rŷn ni'n eu gwneud tramor, ond wrth gwrs, mae hi'n wir i ddweud mai rhan o'r pethau rhyngwladol rŷn ni'n treial eu gwneud yw hysbysebu beth rŷn ni'n ei wneud yn barod yng…
13 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Codi Proffil Rhyngwladol Cymru—Diweddariad ar weithgarwch cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru
Llywydd, rwy'n bendant yn cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am bwysigrwydd denu ymwelwyr i Gymru a newid rhai o'r patrymau mwy traddodiadol a welsom ni yn y gorffennol. Mae Cymru yn gyrchfan i fordeithiau nawr mewn ffordd nad oedd hi yn y gorffennol, ac er…
13 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Codi Proffil Rhyngwladol Cymru—Diweddariad ar weithgarwch cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru
Llywydd, ni fyddai unrhyw un yma yn y Senedd yn barod i gefnogi'r mathau o gamau a amlinellodd yr Aelod, ac ni ddylid ystyried ymweliad â gwlad yn gymeradwyaeth o safonau'r wlad honno, ac ni chawsant hynny fyth yn ystod ein hymweliad ni â Qatar. Ym mhob…
13 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Codi Proffil Rhyngwladol Cymru—Diweddariad ar weithgarwch cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru
O ran CAF, roeddwn i'n falch iawn, pan oeddwn i yng Ngwlad y Basg, o gwrdd â phennaeth CAF. Maen nhw'n galonogol iawn ynglŷn â'r ffatri a sefydlwyd ganddyn nhw yng Nghymru, gydag ansawdd y gweithlu, y croeso a oedd iddyn nhw yma, y gefnogaeth a gafwyd oddi…
13 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Codi Proffil Rhyngwladol Cymru—Diweddariad ar weithgarwch cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru
O ran y pwynt cyntaf a wna'r Aelod, rwy'n credu bod honno'n ddadl gymhleth ac mae hi'n bosibl i bobl resymol benderfynu arni hi mewn gwahanol ffyrdd. Mae gweithredoedd Llywodraeth Uganda yn gyfan gwbl i'w beirniadu, ac, yn hollol, fe ddylen nhw fod yn atebol…
13 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Codi Proffil Rhyngwladol Cymru—Diweddariad ar weithgarwch cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru
O ran mewnfuddsoddiad, fe fydd y canlyniadau o ran Buddsoddi Uniongyrchol o Dramor ar gyfer 2022-23 yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth y DU naill ai ar ddiwedd y mis hwn neu'n gynnar ym mis Gorffennaf. Rwy'n siŵr y bydd y ffigurau o ddiddordeb i'r Aelod. Maen…
13 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Codi Proffil Rhyngwladol Cymru—Diweddariad ar weithgarwch cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru
Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i arweinydd yr wrthblaid am y cwestiynau yna? Rwy'n diolch iddo am yr hyn a ddywedodd ar ddechrau ei gwestiynau am bwysigrwydd cysylltiadau rhyngwladol i Gymru a hyrwyddo Cymru ledled y byd. Rwy'n awyddus iawn i ddathlu…
13 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Codi Proffil Rhyngwladol Cymru—Diweddariad ar weithgarwch cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru
Mae'r model cydweithredol hwn ynghylch chwaraeon wedi cyflawni cymaint eisoes fel bod Cymru wedi cael gwahoddiad i Gyngres y Byd ar Ddiplomyddiaeth Chwaraeon i arddangos ein model ni yng Ngwlad y Basg yn ddiweddarach eleni, rhan arall o'r byd sydd â…