12 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, mae cyfres faith o bwyntiau i'w cywiro yn y fan yna, Llywydd. Byddwn yn bwrw ymlaen â'r polisi gan fod pobl yng Nghymru wedi pleidleisio dros y polisi mewn etholiad, a gallaf ddweud wrthych chi fod unrhyw newid—unrhyw newid—yn y maes hwn yn aml yn cael…
12 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rydym ni'n cael y sgyrsiau hynny drwy'r amser. Nid wyf i'n credu bod y pryderon hynny'n cael eu rhannu gan y gwasanaethau chwaith. Rwy'n credu na fydd y pryderon hynny yn cael eu cadarnhau yn ymarferol. Mae ein holl wasanaethau golau glas yng Nghymru…
12 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, mae arweinydd yr wrthblaid yn iawn—roedd hwn yn un o ymrwymiadau maniffesto fy mhlaid. Mae wedi bod yn y rhaglen lywodraethu ers cychwyn tymor newydd y Senedd, a bydd y Llywodraeth hon yn cadw ei haddewid i bobl yng Nghymru i gyflawni'r diwygiad…
12 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n cytuno â Darren Millar ei bod hi'n gwbl annerbyniol bod y bwrdd blaenorol wedi goruchwylio'r gordaliad i un o'i aelodau gweithredol ar y raddfa y mae Darren Millar newydd ei amlinellu, gan dorri nid yn unig cyfarwyddiadau'r bwrdd ei hun, ond…
12 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, nid yw Llywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw geisiadau i'r byrddau iechyd leihau'r cyllidebau a wnaed ar gael iddyn nhw gan y Senedd hon yn ein pleidlais ar y gyllideb derfynol. Mae'n rhaid i ni ofyn i fyrddau leihau lefel y gorwariant y maen nhw wedi…
12 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, diolch. Ar ôl dros ddegawd o gyni, mae effaith chwyddiant rhemp wedi lleihau gwerth y gyllideb sydd ar gael i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fel pob corff cyhoeddus arall yng Nghymru. Yn y flwyddyn ariannol hon, mae'r bwrdd yn darogan bwlch…
12 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, rwy'n falch o glywed Russell George yn dweud ei fod yn gobeithio y bydd y polisi yn llwyddo, oherwydd rwy'n credu mai tystiolaeth Sefydliad Iechyd y Byd yw bod y polisi yn cael ei effaith ar yr yfwyr hynny sydd ar ben mwyaf peryglus dibyniaeth…
12 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, y llynedd, daeth y British Liver Trust, gan fanteisio ar gyngor awdurdodol gan Sefydliad Iechyd y Byd, i'r casgliad bod isafbris uned ymhlith y mesurau mwyaf effeithiol y gellir eu cymryd i leihau niwed a achosir gan alcohol. Wrth i'r polisi gael ei…
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru—Cyflawni blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth
Na. Rwy'n dweud gadewch i bobl y Deyrnas Unedig ethol y Llywodraeth Lafur nesaf honno a bydd pobl Cymru yn gwneud y cyfraniad mwyaf i'r Llywodraeth honno o unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Dyna pam rydym ni'n falch o fod yn y blaid rydym ni ynddi ac i fod yn y…
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru—Cyflawni blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth
Felly, mae grym y DU, Llywydd, yn bodoli yn y potensial ar gyfer y Llywodraeth Lafur nesaf honno. Dyna lle roeddwn i'n anghytuno cymaint ag ef. Mae e wedi wfftio'r Llywodraeth Lafur nesaf cyn iddi gael ei hethol hyd yn oed. Mae eisoes yn siomedig ynddi cyn…
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru—Cyflawni blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth
O, gwnaf dderbyn ymyriad, wrth gwrs. [Chwerthin.]
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru—Cyflawni blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth
Bydd y Llywodraeth yn derbyn y gwelliant cyntaf a gynigiwyd yn enw Heledd Fychan y prynhawn yma, Llywydd. Mae'n nodi'r cynnydd rydym ni wedi'i wneud yn y cytundeb cydweithio, ac rydym yn falch o'i gefnogi. Dechreuodd yr ail welliant mor dda hefyd, cyn taflu…
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru—Cyflawni blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth
A gaf i ddweud diolch hefyd i Rhun ap Iorwerth am beth y dywedodd e, am y nodyn positif y gwnaeth e ddechrau arno am y pethau rŷm ni yn rhannu yn y rhaglen deddfwriaethol?
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru—Cyflawni blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth
Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr. A gaf i ddiolch i'm cyd-Aelodau Llafur John Griffiths a Rhianon Passmore am y ffordd y gwnaethon nhw sôn am gyflawniadau'r Llywodraeth Lafur hon, ym maes trafnidiaeth, ailgylchu, tai, iechyd, diogelwch tomenni glo a'r holl…
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru—Cyflawni blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth
Dirprwy Lywydd, mae'r dyfodol yn edrych yn anodd i deuluoedd ac i'r Llywodraeth hon hefyd, ond byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gyflawni'r addewidion a wnaethom i bobl Cymru ac i greu Cymru gryfach, decach a gwyrddach am y dyfodol. Diolch yn…
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru—Cyflawni blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth
Mae ein gwarant arloesol i bobl ifanc yn helpu pobl o dan 25 i sicrhau dyfodol gwell, gan gefnogi mwy na 20,000 o bobl ers ei lansio yn 2021, a darparu mwy na 28,000 o brentisiaethau pob oed ers etholiad diwethaf y Senedd. Dirprwy Lywydd, gadewch i mi droi…
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru—Cyflawni blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth
Rydym wedi datblygu ac ariannu gwersi Cymraeg am ddim i bobl ifanc 16 i 25 oed, wrth i ni barhau i weithio tuag at ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru—Cyflawni blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth
Dirprwy Lywydd, gyda'r cefndir hwn o gyni o'r newydd, rwy'n falch o'r hyn yr ydym ni wedi'i gyflawni yn ail flwyddyn ein rhaglen. Rydym yn parhau i ddatblygu'r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru, a byddwn yn cyhoeddi'r ail adroddiad blynyddol ym mis…
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru—Cyflawni blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth
Mae hynny i gyd yn golygu, Dirprwy Lywydd, bod yn rhaid i mi ddechrau'r prynhawn yma drwy ddweud, er y bu cynnydd yn ail flwyddyn ein rhaglen yn sylweddol, mae'r flwyddyn bresennol eisoes yn llawer anoddach, a bydd y flwyddyn ariannol nesaf yn fwy anodd fyth…
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru—Cyflawni blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth
Dirprwy Lywydd, wythnos diwethaf cyhoeddwyd ail adroddiad blynyddol tymor y Senedd hon, gan nodi'r cynnydd rydym yn parhau i'w wneud tuag at ymrwymiadau'r rhaglen llywodraethu. Roedd yr heriau a wynebwyd yn ystod y flwyddyn diwethaf yn ddigynsail—cyfuniad o…
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Dirprwy Lywydd, fel yr eglurais i'n gynharach, bydd y cynllun bwyd a hwyl yn cyrraedd miloedd yn fwy o blant yr haf hwn na'r haf diwethaf. Dim ond oherwydd awdurdodau lleol y mae'r cynllun bwyd a hwyl yn gweithredu. Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sydd…
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dirprwy Lywydd, yr haf hwn, bydd ystod eang o brosiectau gwyliau ar gael i blant ledled Cymru. Rydym yn darparu bron i £6 miliwn o gyllid i ddarparu'r cynllun bwyd a hwyl, a bydd y prosiect gwyliau Gwaith Chwarae ar gael ym mhob un o'r 22 ardal awdurdod lleol…
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dirprwy Lywydd, eleni, rydyn ni'n dathlu'r ugeinfed flwyddyn o nofio am ddim i blant yma yng Nghymru, a bydd cannoedd o filoedd o bobl ifanc wedi elwa ar hynny dros y cyfnod o 20 mlynedd. Rwyf innau hefyd yn falch iawn o weld, ar draws y chwe chanolfan…
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dirprwy Lywydd, fel sy'n wir am y 21 awdurdod lleol arall ledled Cymru, bydd Cyngor Caerdydd yn cynnig sesiynau nofio am ddim i blant a phobl ifanc drwy gydol gwyliau haf yr ysgolion.
11 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Hefin David am y cwestiynau eraill hynny. Fel y dywedais i, rwy'n credu bod cyngor Caerffili yn gwneud gwaith ardderchog o ran sicrhau bod y bobl ifanc hynny yn y fwrdeistref sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn cael yr hawl honno mor awtomatig…