19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, diolch i Vikki Howells am hynna. Rwy'n gwbl gyfarwydd â gwaith y Resolution Foundation. Tybed a allwn i ganolbwyntio ar un agwedd yn unig ar yr argyfwng costau byw yn fy ymateb. Cyfeiriais yn fy ateb gwreiddiol at effaith cynnydd i gyfraddau…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolchaf i Vikki Howells, Llywydd. Mae'r argyfwng yn parhau i gynhyrchu effeithiau newydd a niweidiol ym mywydau trigolion Cwm Cynon. Mae ffigurau diweddaraf Banc Lloegr, er enghraifft, yn dangos bod ôl-ddyledion morgais wedi cynyddu 13 y cant dros y chwarter…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, cefais fy nharo gan yr hyn a ddywedodd Sam Rowlands wrth agor ei gwestiwn, ein bod ni, wedi'n rhyddhau o'r Undeb Ewropeaidd, bellach yn gallu cymryd bwyell i safonau amgylcheddol yma yn y Deyrnas Unedig. Efallai nad dyna'n union yr hyn a…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, diolch i Sam Rowlands am y cwestiwn yna, ac ailadroddaf y bydd yna ddeddfwriaeth yn ystod tymor y Senedd hon. Disgwylir i Bapur Gwyn gael ei gyhoeddi ym mis Ionawr. Bydd modd ymateb i'r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud yno, oherwydd bydd y…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i'r Aelod, Llywydd, am y cwestiwn yna. Cadarnhaodd y datganiad ar y rhaglen ddeddfwriaethol ar 27 Mehefin y bydd Bil sy'n sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol i Gymru yn cael ei gyflwyno yn ystod tymor y Senedd hon. Yn y cyfamser, rydym ni'n cryfhau…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, allaf i ddim helpu ond meddwl pe bai arweinydd Plaid Cymru wedi gallu cyflawni ei uchelgais o adael y Senedd a gwneud ei ffordd i San Steffan, y byddai wedi cael digon o gyfle i wneud y pwyntiau hyn yn uniongyrchol i Keir Starmer yn hytrach na…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, gadewch i mi ddweud yn gyntaf oll—. Wel, yn gyntaf oll, Llywydd, gadewch i mi gywiro'r peth cyntaf un a ddywedodd arweinydd Plaid Cymru. Rwyf o blaid ailgynllunio'r Deyrnas Unedig; mae ef o blaid ei chwalu. Dyna'r gwahaniaeth rhyngom ni. Rwyf i o blaid…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd arweinydd Plaid Cymru, y bydd y newidiadau yr ydym ni'n bwriadu eu gwneud yn dod â chynrychiolaeth pobl yng Nghymru yn agosach at y gynrychiolaeth y mae rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig eisoes yn ei mwynhau, ac…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, yn gyntaf oll, Llywydd, gadewch i mi ailadrodd mai bwriad popeth yr ydym ni wedi ei wneud dros yr haf hwn yw diogelu'r gwasanaeth iechyd. Felly, os yw ef eisiau ateb ar hynny, mae ganddo. Bwriad popeth yr ydym ni'n ei wneud yw helpu'r gwasanaeth iechyd…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, yn yr achos hwn, rydych chi'n dweud hynny wrthyf i.
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae'n wir bod pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn wynebu heriau gyda'u cyllidebau. Nid yw hynny'n unrhyw syndod i unrhyw un sy'n cydnabod yr effaith ar ein holl wasanaethau cyhoeddus o fwy na degawd o gyni cyllidol Ceidwadol. Dyna'r rheswm y mae byrddau…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, fel yr wyf i'n deall, fe wnaeth y Cwnsler Cyffredinol ddileu'r trydariad ar unwaith ac ers hynny mae wedi cydnabod na fyddai wedi ei fynegi yn y ffordd honno pe bai wedi bod mewn sefyllfa i roi ystyriaeth bellach iddo.
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr i Rhys ab Owen. Beth sydd wedi digwydd yn Guildford Crescent, fel dwi'n ei deall, yw bod y developer wedi symud ymlaen i wneud pethau heb gael y caniatâd gyda Chyngor Caerdydd. So, lan i Gyngor Caerdydd yw e nawr os ydyn nhw'n mynd i wneud…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, diolch i Hefin David. Rwy'n gefnogwr o'r Pwyllgor Deisebau, ac, rwy'n credu, o dan arweinyddiaeth Jack Sargeant yn nhymor y Senedd hon, ei fod wedi bod yn gwneud gwaith eithriadol o ddiddorol. Felly, edrychaf ymlaen at gael y ddadl honno ar lawr y…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, diolch i Joel James am y cwestiwn pwysig yna, ac rwy'n cytuno â phopeth, rwy'n credu, a ddywedodd. Mae'r sector yn un pwysig iawn yma yng Nghymru. Rydym ni'n ddigon ffodus—mae gennym ni dros 30,000 o adeiladau rhestredig yng Nghymru, ac mae Cadw yn…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae'r meini prawf a ddefnyddir i bennu statws adeilad rhestredig o reidrwydd yn llym. Mae'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer rheoli a diogelu adeiladau rhestredig yn cael ei ategu gan reolaethau cynllunio a all…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae'n ymddangos bod arweinydd yr wrthblaid yn credu, trwy barhau i ddweud rhywbeth nad yw'n wir, y gall ei wneud yn wir. Fel yr oedd gan yr holwr y gras o leiaf i ddweud yn ei gwestiwn, terfyn cyflymder diofyn o 20 mya yw hwn, ac yna mae gan…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Felly, gadewch i mi ddweud eto wrtho: nid yw hwn yn waharddiad cyffredinol.
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, gadewch i mi fod yn eglur unwaith eto, Llywydd, oherwydd clywais leisiau ar feinciau'r Ceidwadwyr unwaith eto yn honni mai gwaharddiad cyffredinol yw hwn. Maen nhw'n gwybod—[Torri ar draws.]—maen nhw'n gwybod nad dyna ydyw. Mae'n derfyn cyflymder diofyn…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fyddwn i byth eisiau bod yn y sefyllfa honno, Llywydd. Hoffwn fyfyrio ar y prif bwynt a wnaeth Alun Davies, oherwydd roeddwn i'n meddwl am hyn dros y penwythnos pan ddarllenais stori yr oedd y BBC wedi'i hadrodd am ŵr yn myfyrio ar farwolaeth ei frawd mewn…
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, diolch i Alun Davies am hynna, Llywydd. Mae rhai pobl yn cymryd diwrnod i ffwrdd ar eu pen-blwydd, rwy'n clywed. [Chwerthin.] Edrychwch, rwyf i eisiau myfyrio—
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Na wnaf, Llywydd.
19 Medi 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, bydd fframwaith monitro ar gyfer parthau 20 mya yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Medi. Bydd hwn yn nodi'r dangosyddion perfformiad allweddol. Un o'r rhain fydd amseroedd teithio cerbydau ac amrywiadau amseroedd teithio ar brif lwybrau drwodd.
18 Medi 2023 , Legislation, Justice and Constitution Committee
Sesiwn graffu ar waith y Prif Weinidog
Well, I don't think there is a way of resolving them in principle, because here was a piece of legislation that the Senedd denied consent on two separate occasions, where I could see no compelling case for the United Kingdom insisting on legislating on our…
18 Medi 2023 , Legislation, Justice and Constitution Committee
Sesiwn graffu ar waith y Prif Weinidog
I don't agree with it, Chair. I think I've articulated to you this afternoon what the priorities are. They're set out in our international relations strategy, and I've explained some of the practical ways in which we've taken that forward. I could have…