7 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, diolch am y cwestiwn. Llywydd, polisi Llywodraeth Cymru yw gwneud yn siŵr bod cleifion yn gallu cael mynediad at y tîm gofal sylfaenol ehangach. Mae hyn yn rhan o set gyfoes o ffyrdd i sicrhau bod cleifion yn cael y cymorth cywir yn y ffordd gywir.
7 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, gadewch i mi wneud un pwynt cyn mynd i'r afael â mater Ystâd y Goron. Nid wyf i erioed wedi dadlau na allai Cymru fod yn annibynnol oherwydd na allem ni ei fforddio. Rwy'n credu, os yw pobl yng Nghymru eisiau bod yn annibynnol, yna dyna'r…
7 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, yn sicr dydw i ddim yn synnu o weld nad oes ymrwymiad i ddiwygio Barnett yn Araith y Brenin presennol, ac, wrth gwrs, mae arweinydd Plaid Cymru yn iawn—gwnaeth Joel Barnett ei hun wrthod fformiwla Barnett lawer o weithiau, flynyddoedd lawer ar ôl iddi…
7 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae Araith y Brenin yn ddogfen hynod denau. Rwyf i fy hun yn credu ei bod hi'n ddogfen clirio'r-deciau-cyn-etholiad. A chafodd Cymru mo'i chrybwyll unwaith yn yr araith honno. Rwy'n sôn am hynny'n arbennig, oherwydd soniwyd am Northern Rail ynddi, ac eto ni…
7 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, diolch i Rhun ap Iorwerth, a dwi'n cytuno, wrth gwrs. Roedd y rhaglen ddeddfwriaethol o flaen Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi heddiw. Does dim byd yn y rhaglen sy'n mynd i wneud pethau ym mywydau'r bobl yma yng Nghymru, ac mae'n dangos Llywodraeth…
7 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu mai'r ffordd decach o'i ddweud yw y gallai dileu fod wedi digwydd. Rwy'n gwybod, yn fy achos i, ni fu gen i unrhyw drefniadau dileu ar y ffôn erioed, oherwydd ni fyddai gen i unrhyw syniad sut i wneud iddo ddigwydd. [Chwerthin.] Dydw i ddim yn…
7 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Gadewch i mi wneud tri phwynt os caf i, Llywydd. Yn gyntaf oll, ni wnaeth Llywodraeth Cymru ddibynnu ar ddulliau cyfathrebu anffurfiol er mwyn gwneud penderfyniadau yn ystod cyfnod COVID. Ni allaf feddwl am gyferbyniad cryfach rhwng y ffordd y cafodd busnes…
7 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, nid ydym ni wedi derbyn gorchymyn o'r fath ar hyn o bryd, ond mae hynny oherwydd bod modiwl 2A, sef y modiwl a fydd yn canolbwyntio ar brofiad yr Alban, yn dod cyn modiwl 2B—profiad Cymru—a fydd yn cael ei archwilio gan yr ymchwiliad, rydym ni'n…
7 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
A gaf i ddechrau drwy ddiolch i Jane Dodds am gydnabod yr ymdrechion rhyfeddol y mae staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu gwneud, nid yn unig yn y stormydd diweddaraf, ond pryd bynnag y mae cymunedau mewn perygl. Dyma'r unigolion yr ydych chi'n eu gweld allan…
7 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, diolch i Russell George am hynna, ac rwy'n gwybod bod ganddo ddiddordeb hirsefydlog yn rheolaeth cronfeydd dŵr Clywedog ac Efyrnwy. Rwy'n gwybod ei fod wedi codi rhai o'r union bwyntiau y mae wedi eu codi heddiw yn ôl yn ystod y llifogydd yn 2020. Felly…
7 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Russell George, Llywydd, am hynna. Rydym ni wedi darparu dros £75 miliwn ar gyfer gweithgarwch rheoli perygl llifogydd ledled Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon, gyda £5.25 miliwn mewn refeniw a £12 miliwn o gyllid cyfalaf ar gael i bob awdurdod…
7 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, rwy'n sicr yn cytuno â Delyth Jewell, Llywydd, bod hanes Cymru yn un o ecsbloetio ein hadnoddau naturiol, lle nid yn unig yr echdynnwyd glo ond echdynnwyd cyfoeth ac fe'i cymerwyd ymhell y tu hwnt i lannau Cymru, gan adael y cymunedau a gynhyrchodd y…
7 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, bydd y ddeddfwriaeth honno yn dod gerbron y Senedd y flwyddyn nesaf. Bydd yn mynd yn ehangach na diogelwch tomenni glo gan y bydd yn edrych ar y nifer o fathau eraill o domenni segur sydd, yn anffodus, yn nodweddiadol o gyfranogiad Cymru yn y…
7 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, diolch i Hefin David am y pwyntiau pellach yna. Mae'n iawn, wrth gwrs, bod gan Gaerffili grynodiad penodol o domenni glo segur. Mae gennym ni 40 y cant o'r holl domenni glo segur yn y Deyrnas Unedig yma yng Nghymru—dros 2,500 ohonyn nhw—ac rydyn…
7 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, diolch i Hefin David am y cwestiwn, Llywydd. Rydyn ni’n rhoi rhaglen arolygu a chynnal a chadw ar waith ac yn moderneiddio’r fframwaith deddfwriaethol. Dyma sail ein rhaglen ar gyfer sicrhau diogelwch tomenni glo yng Nghaerffili a ledled Cymru.
24 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, rwy'n croesawu rhai o'r cynigion sydd wedi'u cyflwyno gan yr Ysgrifennydd Gwladol diweddaraf yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac yn sicr, byddwn ni'n ymgysylltu â nhw i weld sut y byddai'r cynigion hynny'n cael effaith yma yng Nghymru. Yng Nghymru…
24 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, Llywodraeth y DU sy'n bennaf gyfrifol am garchardai yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae pwysau llym o ran poblogaeth yn yr ystad carchardai. Barn Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi yw bod carchardai yng Nghymru yn gweithredu'n effeithiol, er…
24 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw, ac rydw i, yn wir, yn ymuno ag ef i longyfarch pawb a oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth gwobrau busnes Powys. Mae Powys yn llawn busnesau a phobl wych sy'n buddsoddi eu hamser a'u hadnoddau eu hunain yn sylweddol i…
24 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae'r camau sydd wedi'u cymryd i dyfu economi'r canolbarth wedi cyfrannu at dwf o 41 y cant mewn enillion wythnosol cyfartalog i oedolion mewn gwaith amser llawn yn yr ardal, ar adeg pan fo twf cyflogau ledled y DU ond yn 28 y cant.
24 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, mae'r gwaith parhaus ar ffordd Blaenau'r Cymoedd wedi cael ei gynnal ers 15 mlynedd. Am wrthgyferbyniad rhwng ein penderfyniad ni i gyflawni'r prosiect hwnnw dros dermau olynol y Senedd o'i gymharu â'r llanastr llwyr o ran gwneud penderfyniadau…
24 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, bydd cwblhau'r A465, ffordd Blaenau'r Cymoedd, yn cynorthwyo busnesau ledled Blaenau Gwent. Yn y cyfamser, fel y nododd yr Aelod ar lawr y Senedd yr wythnos diwethaf, mae 12 o wahanol gwmnïau ym Mlaenau Gwent wedi elwa o raglen gwella cynhyrchiant…
24 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, bydd ynni adnewyddadwy'r dyfodol, gan gynnwys hydrogen a mathau eraill o ynni adnewyddadwy, angen capasiti i storio'r ynni sy'n cael ei gynhyrchu yn y ffordd honno, fel y gellir hwyluso ei ddefnydd wedyn ar draws y llu o ofynion sy'n digwydd…
24 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, diolch i Ken Skates am y cwestiwn pellach yna, ac yn wir rwy'n ymwybodol o'r cais posibl am y cyfleuster ffatri hwnnw, ac am bryderon sy'n cael eu mynegi yn etholaeth yr Aelod ei hun. Mae'n rhaid mai'r mesur diogelwch cyntaf yw ymgysylltu'n…
24 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, yr awdurdod cynllunio lleol sy'n penderfynu ar gynigion ar gyfer cynlluniau storio batri annibynnol. Gellir penderfynu ar gynigion sy'n gysylltiedig â chynlluniau ynni adnewyddadwy mawr trwy ddatblygu proses arwyddocâd cenedlaethol, ac mae hynny…
24 Hydref 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, nid wyf i'n cytuno â'r Aelod ei fod yn gynllun sy'n methu. Mae wedi cael dros 500 o geisiadau, ac nid wyf i'n credu bod amser ymgeisio'r cynllun yn—. Pe bai'n gynllun sy'n methu, pam mae 500, o leiaf, o ffermwyr yn gwneud cais amdano? Nid yw hynny'n…