23 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, fy asesiad i yw bod y cyhoedd eisiau i ffyrdd fod yn ddiogel a chael terfynau cyflymder sy'n helpu i'w cadw'n ddiogel. Maen nhw hefyd yn disgwyl i bolisi Llywodraeth Cymru gael ei weithredu'n gyson a dyna pam y bydd ein hadolygiad yn ymdrin â'r…
23 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n hapus iawn i gadarnhau cefnogaeth Llywodraeth Cymru i bolisi'r Blaid Lafur yma yng Nghymru—a gymeradwywyd yn unfrydol yn ein cynhadledd ym mis Mawrth y llynedd—o blaid datganoli'r system cyfiawnder troseddol fel y nodwyd yn adroddiad comisiwn Thomas—cyn…
23 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae arweinydd Plaid Cymru yn gwneud nifer o bwyntiau pwysig yn y fan yna. Hoffwn gymryd eiliad, os caf i, Llywydd, i fynd drwy rhan fach o hanes hyn. Yn ôl ar ddechrau Gorffennaf 2022 daeth Gweinidog yr Economi a minnau i Barc Cathays ar fore Sadwrn…
23 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, dwi'n siŵr, os ydym ni yn mynd i gael pontio teg i'r dyfodol, bydd yn rhaid i ni gael mwy o arian ar y bwrdd i helpu yn y broses yna. Mae gan y Blaid Lafur—. Mae cynllun gyda ni: £3 biliwn yn nyfodol dur yma yn y Deyrnas Unedig. Dyna pam, pan…
23 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, nid wyf i'n credu bod llawer iawn yn gwahanu arweinydd yr wrthblaid a'r sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eu gwneud. Rwy'n ei wahodd ef, yn sicr, i gyfleu'r safbwyntiau hynny gyda ni i'w gydweithwyr yn Llywodraeth y DU, oherwydd nid…
23 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, yn gyntaf oll a gaf i groesawu'r hyn y mae arweinydd yr wrthblaid wedi ei ddweud am ei gefnogaeth i barhad ffwrnais chwyth Rhif 4? Rwy'n credu bod pawb yn derbyn—mae'r undebau llafur yn derbyn—y bydd ffwrnais chwyth Rhif 5 yn cael ei…
23 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno ag arweinydd yr wrthblaid ei fod yn newyddion trychinebus i'r economi leol honno. Ond mae'n fwy na hynny; mae'n newyddion trychinebus, rwy'n credu, i'r Deyrnas Unedig gyfan, oherwydd ni fydd unrhyw gapasiti cynhyrchu dur cynhenid yn…
23 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno â John Griffiths bod awdurdodau lleol yn y de-ddwyrain, sy'n rhan o ardal twf cenedlaethol de-ddwyrain Cymru, sy'n uchelgeisiol ac yn flaengar o ran bod eisiau darparu tai ar gyfer eu poblogaethau lleol. Llywydd, yn fy etholaeth i…
23 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, rwy'n credu bod hwnna yn gynnig mwyaf hurt, Llywydd. Dyma gyngor, yn Wrecsam, sydd ei hun yn hyrwyddo CDLl, yn ei roi drwy'r holl brosesau, yn cael cymeradwyaeth iddo gan yr holl wahanol grwpiau y mae'n rhaid iddyn nhw wneud sylwadau ar CDLl, ac, ar y…
23 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, rwy'n croesawu penderfyniad Rhondda Cynon Taf i ddechrau ymgynghoriad ar strategaeth a ffefrir ar gyfer CDLl newydd. Mae'n bwysig iawn bod gan awdurdodau lleol yng Nghymru gynlluniau datblygu lleol a bod y cynlluniau datblygu hynny'n gyfredol…
23 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae llawlyfr cynllun datblygu Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cyngor manwl ar sut i baratoi cynllun datblygu lleol. Mae'n nodi'r materion allweddol y dylid mynd i'r afael â nhw a lefel y dystiolaeth sydd ei hangen i gyflawni CDLl mabwysiedig.
23 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, diolch i Jack Sargeant am hynna, ac, wrth gwrs, rwy'n cytuno'n llwyr ag ef am y ffaith bod gennym ni gwrs therapi lleferydd ac iaith newydd sbon ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam—ei dderbyniad cyntaf ym mis Medi 2022. Rydym ni'n gwybod bod pobl yn…
23 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, yn gyntaf oll, i fod yn eglur, bu cynnydd o 11 y cant i leoedd hyfforddi yn ystod tymor y Senedd hon. Ond rwy'n cydnabod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud ynglŷn â'r twf yn y galw am therapyddion lleferydd ac iaith, ac rydym ni'n gwybod bod…
23 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, diolch i Laura Anne Jones am y cwestiwn yna. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn datblygu ac yn cyflwyno cynllun hyfforddi blynyddol yn seiliedig ar wybodaeth gan bartneriaid ac ymgysylltu â sefydliadau rhanddeiliaid y GIG. Mae'r cynllun hwnnw yn…
16 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, rwyf i wedi deall ers tro fod perthynas uniongyrchol ar lawr y Senedd rhwng y sŵn y mae'r grŵp Ceidwadol yn ei wneud ac ansawdd eu dadl. Y gwannaf eu dadl, yr uchaf eu cloch, ac yn sicr, rydych chi wedi clywed hynny y prynhawn yma. [Torri ar…
16 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Bydd Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn creu Senedd fwy effeithiol, gyda mwy o allu a chapasiti i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, gan hefyd adlewyrchu'r ychwanegiadau sylweddol yn swyddogaeth a chyfrifoldebau'r ddeddfwrfa hon ers 1999.
16 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Ond dyma ni eto, Llywydd, ar ôl clywed y galw am wario mwy o arian ar ardrethi annomestig, gofynnir am fwy o arian nawr ar gyfer meddygon yng Nghymru. Pe byddem ni mewn sefyllfa i wneud hynny, wrth gwrs, rydyn ni eisiau gweld gweision cyhoeddus yng Nghymru yn…
16 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, wrth gwrs, mae beth mae'r Aelod yn ei ddweud yn wir, bydd y streic yn cael effaith ar y gwasanaeth sydd ar gael i gleifion yma yng Nghymru. Ond dwi'n deall, mae'r Llywodraeth yn deall pam fod pobl yn teimlo mor gryf ar ôl cyfnod hir o gyni.
16 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae cynnydd yn cael ei wneud. Mae amseroedd aros dros ddwy flynedd wedi gostwng 53 y cant yn ystod y flwyddyn diwethaf ac maen nhw bellach ar eu hisaf ers mis Awst 2021. Mae gwelliannau pellach ar y gweill, gan adlewyrchu ymroddiad ac ymrwymiad staff…
16 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn atodol yna, Llywydd, ac, wrth gwrs, mae e'n gywir mai'r unig ffordd y gallwn ni ddarparu'r brechlyn hynod effeithiol hwn yw trwy bartneriaeth rhwng y GIG a llywodraeth leol. Os ydych chi'n ystyried y cwestiwn…
16 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae Pen-y-bont ar Ogwr yn gyngor Llafur oherwydd bod pobl Pen-y-bont ar Ogwr wedi pleidleisio dros gynghorwyr Llafur. Dyna'r hyn y ceisiais i ei egluro i'r Aelod yn fy ateb gwreiddiol: bod awdurdodau lleol yn gyfrifol i'w hetholwyr lleol a bydd yn…
16 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae awdurdodau lleol yn atebol i'w cymunedau eu hunain am y penderfyniadau y maen nhw'n eu gwneud. Maen nhw'n cael eu monitro gan Archwilio Cymru, yr arolygiaethau a'u prosesau craffu mewnol eu hunain. Pan fo Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i…
16 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Jack Sargeant am hynna, Llywydd. Mae ef yn llygad ei le: mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gefnogol i ymgyrch Hillsborough Law Now. Ac roeddwn i'n falch iawn o weld Syr Keir Starmer yn ailddatgan ymrwymiad y Blaid Lafur i ddiwygio dim ond yr wythnos…
16 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, yn gyntaf oll, mae'r ddau gontract sy'n bodoli ar hyn o bryd yn eu misoedd olaf ac nid oes amheuaeth y byddan nhw'n cael eu hadolygu wrth i'r contractau ddod i ben. Rwy'n credu bod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud ar ddiwedd ei chwestiwn yn…
16 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, bydd Gweinidogion Cymru yn manteisio ar bob cyfle sydd gennym ni i barhau i godi hyn gyda Gweinidogion y DU, ond nid ydym ni'n ei wneud am y tro cyntaf. Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn cyfarfod â chyd-Weinidogion ar draws y Deyrnas Unedig yn…