30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru
Diolch yn fawr i Rhun ap Iorwerth. Dwi'n cytuno, wrth gwrs, bod natur y gwaith, y ffordd roedd y comisiwn wedi mynd ati, yn sefyll y tu ôl i'r adroddiad i gyd, gan roi pŵer i bopeth rŷn ni'n gallu ei ddarllen yn y fersiwn terfynol.
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru
Mae arweinydd yr wrthblaid a minnau o'r un farn gadarnhaol ynglŷn â chomisiwn Silk. Rwy'n credu mai hwnnw oedd y cyfrwng cywir i wneud y gwaith y gofynnwyd iddo ei wneud. Ond mae hwn yn waith gwahanol iawn ac roedd angen cyfrwng gwahanol iawn. I gymryd ei…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru
Os mai dim ond un bennod o'r adroddiad y mae cydweithwyr yn darllen, tu hwnt i'r crynodeb a'i argymhellion, dwi'n awgrymu i chi ddarllen pennod 3, 'cryfhau democratiaeth yng Nghymru'. I unrhyw un sy'n gweithio ar linell flaen democratiaeth, dyma syniadau y…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru
Llywydd, fe ddylwn i ddiolch hefyd i'r uwch aelodau hynny o bob un o'r pleidiau a gynrychiolir yn y Senedd hon am eu cymorth gyda nodi'r comisiynwyr hynny a wnaeth gyfrannu'r safbwyntiau gwleidyddol sy'n saernïo dadl gyfansoddiadol ein cenedl. Teyrnged…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru
Lywydd, diolch yn fawr. Roedd cyhoeddi adroddiad terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, 10 diwrnod yn ôl, yn ddigwyddiad pwysig yn hanes byr datganoli yng Nghymru. Fy swydd gyntaf y prynhawn yma yw talu teyrnged i’r 11 aelod o’r…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, diolch i Jack Sargeant am hynny. Rwyf i hefyd yn falch o ddatgan fy aelodaeth o Uno'r Undeb ac i gymeradwyo'r gwaith y mae wedi'i wneud yn y maes hwn. Pan welais i'r cwestiwn dros y penwythnos, Llywydd, cefais i fy atgoffa o ddywediad enwog gan…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, does dim amheuaeth bod gorelwa wedi ychwanegu at bwysau chwyddiant ar gyllidebau aelwydydd Cymru. I roi un enghraifft yn unig, daeth yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i'r casgliad ym mis Tachwedd bod gwneuthurwyr rhai brandiau bwyd…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, a gaf fi ddiolch i'r Aelodau eraill am y tawelwch cymharol wrth i'r cwestiwn gael ei ofyn? Doedd hi ddim yn hawdd ei ddilyn, ond rwy'n credu fy mod i wedi gallu deall hanfod allweddol yr hyn a ddywedodd Rhianon Passmore. Gofynnodd i mi ar y diwedd pa…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rydyn ni'n ymdrechu'n gyson i wella gwasanaethau ar gyfer etholaeth yr Aelod, fel y dangoswyd yr wythnos diwethaf, pan agorodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ganolfan iechyd a lles newydd gwerth £19 miliwn. Bydd trigolion Islwyn hefyd yn elwa…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, nid wyf i'n anghytuno bod cyfyng-gyngor i'w ddatrys yno, gyda nifer y llythyrau yn lleihau a natur y busnes yn newid. Dyna pam mae Ofcom ei hun wedi cyflwyno ei gynigion. Byddwn ni'n ymgysylltu â'r cynigion hynny, wrth gwrs; fel y dywedais i…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, mae Carolyn Thomas yn gwneud pwynt pwysig iawn ar ddiwedd ei chwestiwn atodol. Fe ddywedais i yn fy ateb gwreiddiol mai un o'r ddau bwynt allweddol y bydd y Dirprwy Weinidog yn eu cyfleu yr wythnos nesaf fydd anghenion cyffredinol Cymru—. Ac mae…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Nid gwasanaeth sydd wedi'i gyfyngu i ddim ond tri diwrnod yr wythnos yw'r ffordd orau o ddatrys yr heriau sy'n wynebu'r Post Brenhinol. Bydd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn cwrdd ag Ofcom yr wythnos nesaf i'w gwneud yn glir bod yn rhaid i…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, fe wnes i ddeall, yn y pen draw, y pwynt yr oedd yr Aelod yn ei wneud. Mae gan y Gweinidog amrywiaeth o bynciau y bydd yn eu hystyried yn ystod y 12 mis nesaf mewn perthynas â hawliau o ran datblygu a ganiateir. Bydd hynny'n cynnwys pympiau…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae hawliau o ran datblygu a ganiateir yn galluogi datblygiad gydag effeithiau cynllunio cyfyngedig i fynd rhagddo heb fod angen cais cynllunio. Caiff y rhain eu hadolygu'n barhaus mewn ymgynghoriad ag awdurdodau cynllunio, busnesau a sefydliadau eraill sydd…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Roedd cwmnïau cydweithredol Robert Owen ar raddfa sylweddol, on'd oedden nhw? Roedd New Lanark yn dref gyfan a neilltuwyd i'r ffordd gydweithredol o wneud pethau. Gofynnwyd cwestiwn i mi, fel y dywedodd yr Aelod, yn gynharach yn y flwyddyn ynghylch busnesau…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, diolch i Paul Davies am y ddau bwynt hynny. Dim ond ychydig wythnosau yn ôl yr oeddwn gyda'i gyd-Aelod Darren Millar mewn siop gymunedol yn ei etholaeth, a dywedodd y person y gwnaethom gyfarfod ag ef, sef y person sy'n gyfrifol amdani, wrthyf yn…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Vikki Howells am dynnu sylw at yr adroddiad. Mae'n adroddiad ardderchog, os nad yw cyd-Aelodau wedi cael cyfle i'w ddarllen. Yr hyn sy'n dod â'r adroddiad yn fyw yn fy marn i yw'r astudiaethau achos sydd wedi'u cynnwys drwyddo, sy'n dangos y ffordd y…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rwy'n diolch i Vikki Howells am hynny. Mae mentrau cymdeithasol a mentrau cydweithredol dan arweiniad y gymuned yn rhan bwysig o'r dirwedd gymdeithasol ac economaidd yng Nghymru. Mae cymorth pwrpasol i helpu i dyfu'r sector ar gael drwy Busnes Cymru…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rwy'n ymwybodol o system CHAIN, a heb os mae llawer o rinweddau iddi mewn dinas maint a graddfa Llundain, ond nid wyf yn credu bod yr anhawster a wynebir mewn gwasanaethau digartrefedd yng Nghymru yn un o ddiffyg gwybodaeth. Mae gennym adroddiadau…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fel y mae Cyngor Caerdydd ei hun wedi dweud, roedd ei benderfyniad i ddefnyddio Toys 'R' Us yn benderfyniad a wnaed o dan y pwysau enfawr y mae'r ddinas yn ei wynebu. Yn y cyfnod cyn y Nadolig, mae Caerdydd yn dod yn fagned i bobl sy'n dod i'r ddinas, sy'n…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddod â digartrefedd i ben. Eleni yn unig, mae mwy na £210 miliwn wedi cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau sy'n atal a chefnogi digartrefedd. Mae'r cyllid yma wedi cael ei ddiogelu dros 2024-25, er gwaethaf y sefyllfa…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wrth gwrs rwy'n cydnabod, pan fydd newid yn digwydd, bod yn rhaid i chi fod yn siŵr eich bod yn ceisio mynd â'ch poblogaeth leol gyda chi ar y daith honno. Mae'r gwasanaeth iechyd wedi newid o'r diwrnod cyntaf y cafodd ei sefydlu yn 1948, a bydd yn parhau i…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r gwasanaeth ambiwlans awyr yn bodoli 24 awr y dydd, a rhan o'r rheswm pam y cynigir diwygio yw y gall fod ar gael yn fwy ledled Cymru. Mae'n anodd i mi ddeall yn llawn y pwyntiau y mae arweinydd Plaid Cymru yn eu gwneud. Mae ef eisiau beirniadu…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Yr egwyddorion a nodwyd ganddyn nhw yn y dechrau, Llywydd, oedd na ddylai'r gwasanaeth fod yn waeth i unrhyw un a rhaid i'r gwasanaeth fod o fantais i bobl newydd. Gallai dau neu dri o bobl bob diwrnod nad ydyn nhw'n derbyn y gwasanaeth hwn ar hyn o bryd…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wrth gwrs dwi'n cydnabod y ffaith fod pobl leol yn pryderu am ddyfodol y gwasanaeth, ond mae hwn yn digwydd ble bynnag mae pethau'n cael eu haildrefnu. A dyna beth sydd wedi digwydd yn y fan hon. Mae'r bobl sy'n gyfrifol am y gwasanaeth wedi bod mas yn siarad…