20 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwyf i wedi clywed tair darlith y prynhawn yma gan yr Aelod yn honni eu bod nhw'n gwestiynau. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r dros 3,000 o ffermwyr sydd wedi cymryd rhan yn y 10 digwyddiad ymgynghori yr ydym ni wedi eu cynnal ar y cynigion diweddaraf yn ystod yr…
20 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Nid yw dyfynnu'n ddetholus o faniffestos yn ein cael ni'n bell iawn. Rwyf i wedi edrych ar faniffesto Llafur; nid yw'n gwneud unrhyw gyfeiriad o gwbl at dalu'r cyflog byw gwirioneddol yn y cyd-destun y mae newydd ei ddisgrifio. Yr hyn y mae'n ymrwymo iddo yw…
20 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydym ni'n cael y cwestiwn hwn wythnos ar ôl wythnos ar ôl wythnos, lle mae'r Aelod eisiau gofyn cwestiynau i rywun nad yw yn y Senedd ynglŷn â chyfrifoldebau nad ydyn nhw'n cael eu harfer yn y Senedd. Rwyf i wedi dweud wrtho o'r blaen bod lle gallai e ofyn y…
20 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig fy mod i'n atgoffa arweinydd yr wrthblaid pam ein bod ni yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi: mae oherwydd bod ffermwyr yng Nghymru wedi cymryd ei gyngor ac wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. Dyna pam mae hynny—[Torri ar…
20 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Yn gyntaf oll, i ymdrin â'r pwynt a wnaeth yr Aelod am y dadansoddiad ariannol a gyhoeddwyd, o leiaf mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dadansoddiad ariannol. Fe wnaethom ni ddarganfod heddiw bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod cyhoeddi dadansoddiad ariannol…
20 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i gefnogi ffermwyr a'r economi wledig. Dyna pam rydym ni wedi cynnal y cyfanswm yr ydym ni'n ei gyfrannu at y cynllun taliadau sylfaenol yn llawn yma yng Nghymru—cyferbyniad enfawr â'r ffordd y mae…
20 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, diolch i Huw Irranca-Davies am hynna. Wrth gwrs, gall y sefydliadau hynny sydd â statws o'r fath yng nghymunedau Cymru ac ym mywyd cyhoeddus Cymru wneud cymaint i annog a pherswadio pobl i weithredu yn y ffyrdd y byddai pawb yn y Siambr hon yn dymuno eu…
20 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, unwaith eto, Llywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae'n tynnu sylw at yr un cyfyng-gyngor a oedd yno yn y cwestiwn gwreiddiol. Diben ein rhaglenni yng Nghymru yw perswadio mwy o bobl i ddod ymlaen a riportio digwyddiadau o drais domestig pan fydd…
20 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, diolch i Mabon ap Gwynfor am y cwestiwn yna. Dwi'n ymwybodol o'r gwaith y mae Gorwel yn ei wneud, wrth gwrs. O ran y ffigurau y mae'r Aelod wedi cyfeirio atynt, mae'n beth anodd eu clywed nhw. Ond un o'r rhesymau pam y mae ffigurau fel yna gyda ni yw…
20 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae'r camau ymarferol mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo iddyn nhw i ddelio gyda thrais domestig ar gael yn ein strategaeth genedlaethol. Partneriaid ar draws y sectorau preifat, cyhoeddus ac arbenigol sy’n cyflawni’r camau yma. Mae gwasanaethau…
20 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, diolch i Russell George am hynny, Llywydd, ac, wrth gwrs, rwy'n llongyfarch y bobl ifanc y mae wedi cyfeirio atyn nhw. Mae'n wych clywed am gwmni sydd â 12 y cant o'i weithlu fel prentisiaethau, gan mai nhw, fel y dywedodd, fydd y bobl ifanc a fydd yn…
20 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, diolch i Russell George am y cwestiwn yna. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud buddsoddiad sylweddol mewn prentisiaethau ledled Cymru. Mae creu cyfleoedd newydd yn y canolbarth yn dibynnu ar hyrwyddo manteision llwybrau prentisiaeth o ansawdd i…
6 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, rwy'n credu mai un o'r pethau mwyaf trawiadol dros y chwe mis diwethaf oedd ymweliad Gweinidog yr Economi â Birmingham, Alabama, i helpu i nodi chwe deg mlynedd ers y digwyddiadau ofnadwy pan fomiwyd Eglwys y Bedyddwyr ar Sixteenth Street, a lle…
6 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, Llywydd, dwi'n cytuno gyda'r Aelod am bwysigrwydd gwneud gwaith ledled y byd. Ble bynnag rŷch chi'n cwrdd â phobl o Gymru ar draws y byd, maen nhw mor frwdfrydig i gynrychioli Cymru ac i gyfrannu at lwyddiant Cymru yn y dyfodol. Clywais fod yr Aelod wedi…
6 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Llywydd, mae’r Cymry ar wasgar, y rhai sydd wedi astudio yng Nghymru, a chyfeillion Cymru sy’n byw ac yn gweithio dramor yn chwarae rôl bwysig i hyrwyddo ein gwlad. Maen nhw’n cynrychioli y gorau o ddiwylliant Cymru, ac maen nhw’n annog cysylltiadau busnes ac…
6 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, allaf i ddim cytuno gyda'r Aelod, achos beth dwi wedi'i weld yw bod dau egwyddor gyda'r bobl a'r arbenigwyr yn y maes sydd wedi gwneud y gwaith i weld a allwn ni dynnu mwy o wasanaeth mas o bopeth sydd gyda ni ar hyn o bryd. A'r egwyddor gyntaf oedd: os…
6 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn annibynnol. Mae'n cael ei ariannu gan bobl Cymru ac nid yw'n atebol i Lywodraeth Cymru. Mae'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys, sy'n gweithio gyda'r elusen i ddarparu gwasanaethau gofal critigol arbenigol, yn…
6 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i Darren Millar am y pwyntiau pwysig hynny, yr wyf i'n eu cymryd o ddifrif. Rwy'n ymwybodol o'r cwynion sydd wedi'u gwneud am wasanaeth tîm iechyd meddwl cymunedol Nant y Glyn yn ei etholaeth ef. Rwy'n ymwybodol mai un o'r rhesymau pam y cynhaliodd…
6 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Mae ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghonwy a sir Ddinbych yn cael eu hasesu mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd, gan gynnwys drwy'r bwrdd iechyd lleol ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Cafodd adroddiad blynyddol…
6 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau pwysig hyn. Maen nhw'n adleisio pwyntiau a gafodd eu gwneud i mi yn ddiweddar gan yr Aelod dros Orllewin Casnewydd ar ran ei hetholwyr hi. Dyma enghraifft o ffatri bwysig iawn, sy'n bwysig i dde Cymru ond sy'n bwysig ymhell y…
6 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydyn ni'n parhau i weithio gydag awdurdodau lleol ar draws prifddinas-ranbarth Caerdydd i gynyddu ffyniant economaidd. Mae gan dde-ddwyrain Cymru gryfderau economaidd sylweddol, er enghraifft mewn lled-ddargludyddion, seiber a thechnoleg ariannol. Mae ein…
6 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae Vikki Howells newydd ei ddweud. Roedd ei dyfyniad gan y cyn-Ysgrifennydd Cartref yn datgelu barn y Llywodraeth honno. Dyma'r person a oedd yn gyfrifol am y Bil hwnnw, ac roedd yn warthus, yn hollol warthus, i ddisgrifio pobl…
6 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch i'r Aelod am nodi mor fyw effaith y polisïau y mae ei Llywodraeth hi wedi'u gweithredu ar Gymru. Dyma ganlyniad dros ddegawd o gyni ym mywydau pobl yma yng Nghymru. Dyma effaith drychinebus prifweinidogaeth Liz Truss a'r effaith ar gost morgeisi pobl…
6 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae Llywodraeth Cymru yn dal i fod wedi ymrwymo i'n huchelgais i ddod â digartrefedd i ben. Rydyn ni'n buddsoddi dros £210 miliwn eleni yn unig mewn gwasanaethau atal a chymorth digartrefedd. Mae hynny wedi'i ddiogelu, er gwaethaf y sefyllfa gyllidebol hynod…
6 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, diolch i Ken Skates am y cwestiwn yna, Llywydd. Gofynnodd yr Aelod gwestiwn i mi am CDLl Wrecsam dim ond wythnos neu ddwy yn ôl, ac rwy'n cofio dweud, bryd hynny, fy mod i'n gobeithio, nawr, bod pen y mwdwl yn cael ei gau ar y stori druenus hon, ac, o'r…