13 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Wel, Llywydd, diolch yn fawr i Heledd Fychan am y cwestiwn atodol yna. Rŷch chi'n iawn—mae arweinwyr cynghorau lleol yn sôn bob tro rwy'n cwrdd â nhw am y pwysau y maen nhw'n ei wynebu yn y maes gofal cymdeithasol, ond ar draws eu cyfrifoldebau nhw i gyd…
13 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Wel, Llywydd, rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â holl gyd-weithwyr y Cabinet, yn unigol ac ar y cyd, yn ystod y broses o osod cyllideb ddrafft. Mynychais yr is-grŵp cyllid gydag Ysgrifennydd y Cabinet ar 22 Hydref, i glywed gan awdurdodau lleol yn uniongyrchol am…
12 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2023-24
Diolch i bob un sydd wedi cyfrannu at y ddadl, a diolch am yr ysbryd adeiladol sydd wedi bod o ran y cyfraniadau i gyd. Diolch i Tom Giffard am beth y dywedodd e am y gwaith rhyngwladol y mae e wedi'i weld yn mynd ymlaen. Roedd Llywydd Llydaw wedi bod yma yn…
12 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2023-24
Dwi’n siŵr y bydd gan Aelodau yma ddiddordeb yng ngwaith rhyngwladol y comisiynydd. Rydym, yn briodol, yn canolbwyntio ar y camau sydd eu hangen i gefnogi’r Gymraeg a sicrhau ei dyfodol, ond rydym weithiau’n anghofio ei bod yn cael ei hystyried fel llwyddiant…
12 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2023-24
Llywydd, mae'r comisiynydd wedi adolygu ei ffyrdd o weithio i wneud yn siŵr bod y gwaith rheoleiddio'n cael yr effaith fwyaf. Dwi'n croesawu ei bod wedi cyflwyno ffordd fwy rhagweithiol o gydreoleiddio yn ystod 2024. Mae'r dull hwn yn torri tir newydd ac yn…
12 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2023-24
Mae cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac felly mae sicrhau bod cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd yn bwysig i ni. Mae'r adroddiad blynyddol yn cofnodi llwyddiant ymgyrch Defnyddia dy Gymraeg y…
12 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2023-24
Diolch yn fawr, Llywydd. Pleser yw agor y ddadl yma heddiw a gofyn ichi nodi adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24. Dyma ail adroddiad Efa Gruffudd Jones fel comisiynydd, a chefais y pleser o drafod yr adroddiad gyda hi…
6 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymateb Llywodraeth Cymru i gyllideb Llywodraeth y DU
Gadewch i mi ddod i ben, felly, Ddirprwy Lywydd. Roedd hon yn gyllideb nad oedd byth yn mynd i ddatrys pob problem, llenwi pob twll, cywiro pob camgymeriad. Ond yr hyn y mae wedi'i wneud yw gosod economi a rhagolygon y Deyrnas Unedig yma yng Nghymru ar lwybr…
6 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymateb Llywodraeth Cymru i gyllideb Llywodraeth y DU
Rwy'n credu bod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi dweud ddoe gerbron pwyllgor dethol Tŷ'r Cyffredin y gallai'r Llywodraeth Geidwadol fod wedi torri'r gyfraith drwy gelu—[Torri ar draws.] Y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol—y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol…
6 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymateb Llywodraeth Cymru i gyllideb Llywodraeth y DU
Wrth gwrs.
6 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymateb Llywodraeth Cymru i gyllideb Llywodraeth y DU
Wel, dyma ymgais eithaf arwrol i ailysgrifennu hanes, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ofni na fyddai George Osborne ei hun yn cytuno â'r hyn y mae'r Aelod wedi'i ddweud, oherwydd fe aeth ati, fel y dywedodd ar y pryd, i leihau cwmpas y wladwriaeth, ac ymhen tair…
6 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymateb Llywodraeth Cymru i gyllideb Llywodraeth y DU
Peidiwch â dweud wrth eich ffrindiau. [Chwerthin.]
6 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymateb Llywodraeth Cymru i gyllideb Llywodraeth y DU
Na wnaf, wir. Roedd Alistair Darling yn ymateb i'r amgylchiadau economaidd a wynebai. Roedd George Osborne—[Torri ar draws.]. Na, na, na—[Torri ar draws.] Byddwch yn dawel. Byddwch yn dawel. Byddwch yn dawel. Dechreuodd George Osborne ar bolisi o gyni fel…
6 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymateb Llywodraeth Cymru i gyllideb Llywodraeth y DU
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Y Prif Weinidog Disraeli a ddywedodd fod y Blaid Geidwadol yn rhagrith trefnus, ac mae'r cynnig o flaen y Senedd heddiw yn cloddio'n ddwfn i'r traddodiad cyfoethog hwnnw. Mae cyfres o gyd-Aelodau yma wedi amlygu sail y cyngor a…
6 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymateb Llywodraeth Cymru i gyllideb Llywodraeth y DU
Symud.
5 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Cyllideb y DU
Mae Joyce Watson yn hollol gywir bod llawer iawn i'w ddathlu yn y gyllideb hon, ac mae llawer iawn i'w ddathlu yn y gyllideb ar gyfer yr ardal y mae'n ei chynrychioli, nid yn unig y buddsoddiad hydrogen yn Aberdaugleddau, ond y ffaith bod arian yn y gyllideb…
5 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Cyllideb y DU
Y polisïau gofal plant a ddilynir yng Nghymru yw'r polisïau y cytunwyd arnyn nhw rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth Lafur. Maen nhw yno yn y cytundeb cydweithio, a dyna beth rydym ni wedi bod yn ei weithredu. Rwy'n credu y bu'r polisïau hynny yn llwyddiant…
5 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Cyllideb y DU
Wel, Dirprwy Lywydd, y weledigaeth hirdymor yw un lle mae partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn buddsoddi yn yr amodau sy'n creu twf economaidd. Yr hyn y mae'r Blaid Geidwadol, ac rwy'n clywed sylwadau o'r meinciau hynny, bob amser wedi…
5 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Cyllideb y DU
Gadewch i mi ymdrin â mater diogelwch tomenni glo, gan mai dyna'r un pwynt y clywais gwestiwn arno yn yr hyn yr oedd gan Janet Finch-Saunders i'w ddweud. Y ffigur o £600 miliwn yw'r hyn sydd ei angen dros gyfnod o 10 i 15 mlynedd. Mae Llywodraeth Cymru eisoes…
5 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Cyllideb y DU
Wel, Dirprwy Lywydd, wn i ddim lle i ddechrau. Wrth gwrs, yn sicr wnaethon ni ddim etifeddu'r economi oedd yn tyfu gyflymaf; fe wnaethon ni etifeddu economi oedd ar ei gliniau o ganlyniad i newyn yn sgil 14 mlynedd o gyni. Gadewch i mi ymdrin yn syml â'r…
5 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Cyllideb y DU
Wel, diolch i Alun Davies am y ddau bwynt yna, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cytuno ag ef am y fframwaith ariannol. Mae yno ym maniffesto Llafur, nid yw'n costio dim i'r Trysorlys mewn gwirionedd, mae'n golygu ein bod ni'n gallu defnyddio'r arian sydd gennym yn well…
5 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Cyllideb y DU
Rwy'n credu i mi geisio ei ateb pan ofynnodd Peter Fox y cwestiwn hwnnw, Dirprwy Lywydd. Rhoddaf gynnig arall arni. Mae'r Trysorlys wedi dweud heddiw y bydd cyllid ychwanegol ar gyfer gweithwyr y sector cyhoeddus i dalu costau cyfraniadau yswiriant gwladol…
5 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Cyllideb y DU
Dirprwy Lywydd, rwy'n hapus iawn i gadarnhau bod y £25 miliwn y tu allan i Barnett. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru achos i'r Trysorlys am gyllid tair blynedd ar gyfer diogelwch tomenni glo. Fe fethais i ateb y pwynt a wnaeth Heledd Fychan ar hyn, felly fe wnaf…
5 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Cyllideb y DU
Diolch i James Evans am y pwyntiau pwysig hynny. Maen nhw yn bwyntiau pwysig. Rwy'n rhoi sicrwydd i chi y byddan nhw'n cael eu trafod yn y Cabinet wrth i ni ddod i ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael i ni, ac rwyf wedi clywed yn glir iawn y pwyntiau y mae…
5 Tachwedd 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Cyllideb y DU
Dirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i Hannah Blythyn am hynny. Fe ddywedais i wrth agor na fyddwn i'n delio â'r ffordd y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r adnoddau sy'n dod ein ffordd y prynhawn yma, ond rwy'n clywed yn glir yr hyn a ddywedodd am ofal…