13 Gorffennaf 2022 , Local Government and Housing Committee
Ymchwiliad i asedau cymunedol—sesiwn dystiolaeth 4: Y Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Diolch. Dwi'n mynd i gyfrannu yn Gymraeg, os ydy hynny'n iawn gyda chi.
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: 'Adnewyddu Rhaglen Ddileu TB Buchol Cymru'
Wel, mae'n amhosib gorbwysleisio pwysigrwydd y diwydiant ffermio i Gymru wledig. Busnesau ffermio yng Nghymru ydy asgwrn cefn economi wledig Cymru, yr echel y mae cymunedau gwledig yn troi o'i chwmpas. Mae cynhwysion crai sydd yn cael eu cynhyrchu yma yn…
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Incwm Sylfaenol a'r newid i economi ddi-garbon
A ydych yn cytuno y byddai hyn, incwm sylfaenol cyffredinol, yn dilyn yn nhraddodiad balch Cymru, a gyflwynwyd yn ôl ym 1909, pan gyflwynodd David Lloyd George Ddeddf Pensiynau’r Henoed—un o feibion gorau Dwyfor, a Rhyddfrydwr gwych yn ei amser hefyd?
12 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
, 8. & 9. Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Tenantiaethau Cymdeithas Dai: Darpariaethau Sylfaenol) 2022; Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2022 a Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio) 2022
Daw'r drafodaeth hon ar adeg pan fo'r argyfwng tai yn gwaethygu, o ddydd i ddydd. Mae rhentwyr a landlordiaid fel ei gilydd yn poeni am yr argyfwng cynyddol hwn, gyda landlordiaid yn ofni y bydd llawer yn gwerthu ac yn rhoi'r gorau i rentu cartrefi oherwydd y…
12 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
, 8. & 9. Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Tenantiaethau Cymdeithas Dai: Darpariaethau Sylfaenol) 2022; Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2022 a Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio) 2022
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a dwi am ddatgan buddiant sydd ar y record gyhoeddus hefyd.
12 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch am yr ateb hynny, Brif Weinidog. Pe bai'r bobl gyntaf ddaru adael cyfandir Affrica 80,000 o flynyddoedd yn ôl wedi cloddio am wraniwm a datblygu ynni niwclear, yna mi fyddem ni'n parhau i ddelio efo'r gwastraff heddiw, oherwydd mae gan thoriwm-230…
12 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
2. Sut mae'r Llywodraeth yn cysoni gwaith Cwmni Egino ar ddatblygu gorsafoedd pŵer niwclear â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? OQ58372
7 Gorffennaf 2022 , Local Government and Housing Committee
Ymchwiliad i asedau cymunedol: sesiwn dystiolaeth 3
Yes, absolutely. Diolch yn fawr iawn. Thank you very much.
7 Gorffennaf 2022 , Local Government and Housing Committee
Ymchwiliad i asedau cymunedol: sesiwn dystiolaeth 3
Diolch yn fawr iawn. Byddaf i'n siarad yn Gymraeg. Gawn ni wirio bod y cyfieithu'n gweithio? Wnewch chi ddangos? Ydy, iawn, ardderchog. Diolch ichi i gyd am droi i fyny a rhannu eich gwybodaeth eang chi. Tom Chance, os byth wyt ti ym Mhen Llŷn eto, yna dyro…
7 Gorffennaf 2022 , Local Government and Housing Committee
Ymchwiliad i asedau cymunedol: sesiwn dystiolaeth 2
Jon Rae.
7 Gorffennaf 2022 , Local Government and Housing Committee
Ymchwiliad i asedau cymunedol: sesiwn dystiolaeth 2
Felly, mae'r ddau ohonoch chi hyd yma wedi sôn am yr amser mae'n ei gymryd i fudiad cymunedol ddod ynghyd a llunio cynllun busnes, casglu'r pres ac yn y blaen. Dŷch chi'n meddwl dylid bod yna ryw fath o ddeddfwriaeth mewn lle neu reoliadau mewn lle er mwyn…
7 Gorffennaf 2022 , Local Government and Housing Committee
Ymchwiliad i asedau cymunedol: sesiwn dystiolaeth 2
Diolch yn fawr iawn, Gadeirydd. Dwi am holi'n Gymraeg, felly gaf i wirio bod pawb efo'r offer cyfieithu'n gweithio? Os medrwch chi gadarnhau—dyna ni, ardderchog, diolch. Dŷn ni wedi sôn hyd yma, yn naturiol, oherwydd y bobl sydd yn bresennol, yn benodol am…
7 Gorffennaf 2022 , Local Government and Housing Committee
Ymchwiliad i asedau cymunedol: sesiwn dystiolaeth 1
Os caf i holi un cwestiwn arall, os gwelwch yn dda, Gadeirydd; dwi'n gwybod bod amser yn brin. Rydych chi wedi cyffwrdd arno fo. Rydyn ni wedi sôn yn barod—rydych chi wedi sôn—am yr angen i roi cymorth ariannol; rydych chi'n sôn am ddeddfwriaeth er mwyn rhoi…
7 Gorffennaf 2022 , Local Government and Housing Committee
Ymchwiliad i asedau cymunedol: sesiwn dystiolaeth 1
Helo a bore da. Diolch yn fawr iawn i chi i gyd am ddod ger ein bron ni. Mae wedi bod yn sgwrs ddifyr iawn hyd yma. Gawn ni wirio bod y cyfieithu'n gweithio? Mae'r cyfieithu'n gweithio, ydy? Penigamp. Iawn. Dwi'n ffodus iawn yn fy nghymuned i, yn yr ardal…
6 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Ailymuno â'r farchnad sengl
A ydych yn credu y bydd y cytundeb masnach â Seland Newydd ac Awstralia o fudd i'n cymunedau gwledig a'n ffermwyr?
6 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Ailymuno â'r farchnad sengl
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
6 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Cynllun cymorth tanwydd y gaeaf
Felly, mae prisiau ynni wedi codi i lefelau digynsail dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn sgil y cynnydd yn y cap ar brisiau ym mis Ebrill, gwelwyd cynnydd cyfartalog yn y bil nwy a thrydan i dros £2,000 y flwyddyn, cynnydd o £700. Yn ystod y 18 mis diwethaf yn…
6 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Cynllun cymorth tanwydd y gaeaf
Diolch yn fawr iawn, Llywydd.
6 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cynnig i ddirymu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022
Onid ydych yn derbyn y bydd y cynllun trwyddedu yn helpu'r sector mewn gwirionedd, y sector cynhenid sydd wedi bod yn gweithio ers degawdau yn ein cymunedau, a hefyd mai'r broblem fwyaf sy'n wynebu'r sector hwnnw yw'r cynnydd enfawr mewn Airbnbs, a dyna'r…
6 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cynnig i ddirymu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022
Diolch am y cyfraniad yna. Na, dydw i ddim yn derbyn hynny. Mae'r polisi yma ar gyfer cau'r loophole; dyna ydy'r pwynt. Bwriad y Gorchymyn hwn yr ydych chi fel Ceidwadwyr yn ceisio ei ddiddymu heddiw ydy cau'r bwlch, neu'r loophole, fel rydw i'n sôn, sydd yn…
6 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cynnig i ddirymu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022
Wrth gwrs.
6 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cynnig i ddirymu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022
Mae'n siomedig, ond nid yn annisgwyl, hwyrach, gweld y Ceidwadwyr yn neidio ar y cyfle cyntaf sydd ganddyn nhw i geisio datgymalu un o'r camau cyntaf o'r pecyn o fesurau sydd wedi eu cyhoeddi i fynd i'r afael â'r argyfwng tai—yn benodol, yr argyfwng ail dai…
6 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch i Sam Kurtz am gyflwyno'r cwestiwn yma heddiw. Ac ystyriwch lle roedden ni ryw bedair mlynedd yn ôl efo 'Brexit a'n tir'; mae yna sifft sylweddol wedi bod fan yma efo'r ieithwedd a'r dôn, ac mae hwnna i'w groesawu. Dwi'n falch hefyd o weld bod y…
6 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch yn fawr iawn i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ymateb. Does yna ddim amheuaeth fod yna gynnydd yn y niferoedd sydd yn cefnogi annibyniaeth i Gymru, ac mae llanast San Steffan yn amlygu'n ddyddiol pam na allwn ni barhau i fod yn yr undeb llwgr yma sy'n…
6 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
4. Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o oblygiadau datganiad Llywodraeth yr Alban ei bod am gynnal refferendwm annibyniaeth ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru? OQ58311