5 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Ail Gartrefi
Dwi innau’n datgan buddiant, yr hyn sydd ar y record gyhoeddus, hefyd. Gyfeillion, dwi’n falch iawn o gael cyfrannu at y drafodaeth yma. Roedd hi’n bleser cael bod yn rhan o’r ymgynghoriad, a diolch i’r Cadeirydd am ei arweinyddiaeth yn ystod yr ymgynghoriad…
5 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Effaith meigryn ar blant a phobl ifanc
Diolch i Mark Isherwood am y cyflwyniad yna i'r cynnig. Wrth gwrs, chwarae teg iddo fe—yn ddyn gwybodus iawn; rydyn ni wedi clywed nifer fawr o ystadegau am bobl sydd yn dioddef o feigryn. Ond mae yna wyneb tu ôl i bob un o'r ystadegau hynny. Mae yna fywydau…
5 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch yn fawr iawn i'r Cwnsler am yr ymateb. Bydd y Cwnsler yn ymwybodol o'r achos yn y Goruchaf Lys ynghylch cynlluniau datblygu hanesyddol yn Aberdyfi yn Nwyfor Meirionnydd. Rŵan, dwi'n deall mai nifer fach o achosion o Gymru sydd yn cyrraedd y Goruchaf…
5 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
7. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad ar rôl y Goruchaf Lys wrth weinyddu cyfiawnder yng Nghymru? OQ58498
5 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Diolch yn fawr iawn i'r Cwnsler am yr ymateb yna. Yn ei hymgyrch ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol, fe ddywedodd y Prif Weinidog presennol y byddai hi'n dwyn rheolau llym i fewn ar undebau llafur, gan ymestyn y cyfnod notice, er enghraifft, ar gyfer…
5 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
5. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Weinidogion Cymru ynghylch eu gallu i warchod hawliau undebau llafur? OQ58497
4 Hydref 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip: Treftadaeth y Byd yn y Gogledd-orllewin
Diolch i’r Dirprwy Weinidog am y cyhoeddiad yma. Mae hyn yn newyddion arbennig o dda, onid ydy? Mae’n rhoi statws, mae'n cydnabod pwysigrwydd ardal, tirlun, technoleg a phobl yr ardal yna o Gymru, nid yn unig i hanes Cymru, ond i hanes y byd, ac mae’n dangos…
29 Medi 2022 , Local Government and Housing Committee
Papurau i'w nodi
Diolch yn fawr iawn. O ran ymateb y Llywodraeth i'n papur ni, neu'n ymchwiliad ni, ar ail gartrefi, ar dudalen pecyn 46, ar argymhelliad 8, mae'r Llywodraeth yn ymateb ac yn dweud eu bod nhw'n derbyn mewn egwyddor. Dŷn ni'n gwybod bod 'derbyn mewn egwyddor'…
29 Medi 2022 , Local Government and Housing Committee
Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog – Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Diolch yn fawr iawn. Diolch, Gadeirydd.
29 Medi 2022 , Local Government and Housing Committee
Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog – Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Diolch yn fawr iawn. Buasai diddordeb gen i i weld beth ydy'r diweddaraf ar hynny. Ac yn olaf—diolch i'r Cadeirydd am ei amynedd—rwy'n awyddus i glywed beth rydych chi'n mynd i'w wneud i gynorthwyo awdurdodau lleol yn benodol pan ei fod o'n dod i gronfeydd…
29 Medi 2022 , Local Government and Housing Committee
Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog – Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Gaf i gyflwyno un syniad, felly? Oni fuasai fo'n syniad i drafod efo'r aelodau hynny sydd yn rheoli'r potiau pensiwn yma yr angen i fuddsoddi'r pres yna i mewn i adeiladu tai ac i mewn i awdurdodau lleol sydd yn adeiladu tai, neu i'r sector tai cyhoeddus…
29 Medi 2022 , Local Government and Housing Committee
Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog – Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Wel, hwyrach bydd yn rhaid. Mae'r pwysau yna yn eithafol rŵan ac mae'n mynd hyd yn oed yn waeth, felly efallai bydd yn rhaid edrych ar dapio i mewn iddi. Ond ar lefel wahanol, os dwi'n cofio'n iawn, roedd Papur Gwyn lefelu i fyny Llywodraeth San Steffan yn…
29 Medi 2022 , Local Government and Housing Committee
Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog – Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Diolch yn fawr iawn, Gadeirydd, a diolch i'r Gweinidog a'i swyddogion am fynychu'r cyfarfod. Mae'n flin gen i fy mod i'n methu bod yna efo chi. Weinidog, ddaru chi sôn yn eich llythyr i'r pwyllgor yma eich bod chi wedi neilltuo rhyw gronfa ddarbodus, a'i bod…
29 Medi 2022 , Local Government and Housing Committee
Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog - Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch. Ac ar y pwynt yna, dyna lle mae'r landlordiaid cymdeithasol yn chwilio am sicrwydd o ran y trafodaethau yna roedd Emma'n sôn amdanyn nhw rŵan. Maen nhw'n chwilio i weld lle ydych chi arni a phryd fyddan nhw'n cael gwybod am beth fydd yn cael ei osod…
29 Medi 2022 , Local Government and Housing Committee
Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog - Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Ocê. Buaswn i'n ddiolchgar ar lefel bersonol, a dwi ddim yn siŵr os ydw i'n siarad ar ran y pwyllgor, i dderbyn y papur yna oeddech chi'n sôn yn esbonio ar sut mae hynny'n cael ei osod, er mwyn i ni ddatblygu'n dealltwriaeth ni. Yn olaf, Gadeirydd, os caf…
29 Medi 2022 , Local Government and Housing Committee
Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog - Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Tri y cant. Mae'n flin gen i. Diolch. Lle ydych chi ar drafodaethau efo'r sector yna, o ran rhoi cyfyngiad y tu hwnt i fis Mawrth ar lle fydd eu rhenti nhw, fel eu bod nhw'n medru paratoi a chyllido, yn edrych ymlaen i'r dyfodol, achos maen nhw, dwi'n gwybod…
29 Medi 2022 , Local Government and Housing Committee
Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog - Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Gaf i ofyn felly, ar ochr arall y glorian, wrth gwrs, ydy cymdeithasau tai a thai cymdeithasol ac maen nhw'n ei chael hi'n anos oherwydd mae disgwyliadau arnyn nhw i gyrraedd y safon tai Cymreig newydd—y Welsh housing quality standard—newydd sydd yn dod i…
29 Medi 2022 , Local Government and Housing Committee
Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog - Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch i chi, Weinidog, am yr ateb. Yn sydyn iawn, serch hynny, dwi'n gwerthfawrogi'r hyn rydych chi'n ei ddweud a'ch bod chi'n edrych ar y pethau yma, ond byddwch chi hefyd yn gwerthfawrogi bod amser yn brin iawn, iawn. Felly, o ran y gwaith rydych chi'n ei…
29 Medi 2022 , Local Government and Housing Committee
Sesiwn graffu ar waith y Gweinidog - Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Bore da. Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am fynychu, a'i swyddogion. Mae'n dda iawn eich cael chi'n bresennol oherwydd rydyn ni wedi cael mwy o gig ar yr asgwrn pan fod hi'n dod i rewi rhent y bore yma nag yr ydyn ni wedi ei gael dros yr wythnos diwethaf…
28 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am yr ateb. Dwi am droi fy sylw rŵan i'r mater o blannu coed ar ffermydd. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o achos fferm Tyn y Mynydd ar Ynys Môn a'r ffaith i adran goedwigaeth y Llywodraeth brynu tir âr da yno at ddibenion…
28 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Eisiau cychwyn efo'r diciâu oeddwn i. Mae'r ystadegau diweddaraf am niferoedd yr haint yng Nghymru i'w croesawu. Mae'r niferoedd absoliwt yn lleihau ac rydyn ni wedi gweld yr haint yn haneru yn ei niferoedd yma dros y 12 mlynedd ddiwethaf. Ond, y newyddion…
28 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Ardderchog. Diolch.
28 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Os cawn ni wirio ei fod yn gweithio.
28 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Gwnaf. Dim problem.
28 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch yn fawr iawn. Dwi am gychwyn efo cwestiwn am y diciâu, Llywydd. Mae'r ystadegau diweddaraf am niferoedd—