17 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl)
Bydd llawer sydd yn clywed am y Bil arfaethedig am y tro cyntaf yn pryderu mai'r bwriad ydy i alluogi GM, fel rydyn ni wedi clywed y Gweinidog yn dweud, sef addasu genetaidd. Ond, nid dyna ydy ystyr 'golygu genetaidd' o gwbl. Ar hyn o bryd, mae’r gallu golygu…
17 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl)
Dwi'n gresynu ein bod ni unwaith eto yn cael trafodaeth ar gynnig cydsyniad deddfwriaethol arall, deddfwriaeth sydd wedi'i llunio yn San Steffan ar gyfer Lloegr, heb y cyfle go iawn i ni yma ymgynghori yn ei chylch neu hyd yn oed ei chraffu yn drylwyr. Ond…
17 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Esgyll Siarcod
Rydyn ni'n cytuno, wrth gwrs, efo datganiad olaf Janet Finch-Saunders yn fanna. Dydyn ni ddim yn gwrthwynebu mewn egwyddor cynnwys y Bil. Yn wir, wrth ystyried record dda y Senedd yma wrth hyrwyddo'r argyfwng natur, roedd yna gyfle i ni arwain yn y maes yma…
12 Ionawr 2023 , Local Government and Housing Committee
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023 - 24 - sesiwn dystiolaeth 2: Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Diolch yn fawr iawn.
12 Ionawr 2023 , Local Government and Housing Committee
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023 - 24 - sesiwn dystiolaeth 2: Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Un cwestiwn terfynol ar hynny, os caf i. Roedd fy chwaer yn arfer gweithio yn y sector—roedd yn arfer gweithio mewn cartref gofal, flynyddoedd yn ôl. O siarad efo hi bryd hynny, ac yn sicr yn siarad â gweithwyr yn y sector yna heddiw a phobl sydd yn mynd…
12 Ionawr 2023 , Local Government and Housing Committee
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023 - 24 - sesiwn dystiolaeth 2: Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Diolch. Mae darn olaf eich ateb chi yn ddifyr, oherwydd mae'r dystiolaeth ddaru ni ei chael y bore yma gan lywodraeth leol yn dweud yn eithaf clir nad ydy o'n mynd i fod yn ddigonol er mwyn lleihau'r risg mae'r sector yna yn ei wynebu. Felly, eto, yn mynd nôl…
12 Ionawr 2023 , Local Government and Housing Committee
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023 - 24 - sesiwn dystiolaeth 2: Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Ocê. Diolch. Os caf i edrych ychydig ar y gweithlu gofal cymdeithasol, fedrwch chi ymhelaethu jest ychydig ar eich meddwl chi y tu ôl i'r setliad o ran rhoi cyflog byw go iawn ac effaith hwnnw ar y sector a'r gweithlu yna, os gwelwch yn dda?
12 Ionawr 2023 , Local Government and Housing Committee
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023 - 24 - sesiwn dystiolaeth 2: Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
A gaf i—? Jest er mwyn ymhelaethu—a dwi'n deall eich bod chi'n dweud bod Gweinidog yr amgylchedd yn mynd i fod yn ymateb—ydych chi'n hyderus, fel y deiliad portffolio cyllid, fod hwn yn setliad teg?
12 Ionawr 2023 , Local Government and Housing Committee
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023 - 24 - sesiwn dystiolaeth 2: Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Felly, mae yna werth cyllidol i'r Llywodraeth yn y grant yma, mae yna werth o ran lles iechyd i'r grant, ac mae yna, yn amlwg, werth cymdeithasol iddo fo. Yn naratif y gyllideb ddrafft ddaru chi ei gyflwyno ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, mae sôn ynddo fo am…
12 Ionawr 2023 , Local Government and Housing Committee
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023 - 24 - sesiwn dystiolaeth 2: Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Gwych. Diolch. Fe ddaru chi sôn ar y cychwyn am y grant cefnogi cartrefi—yr housing support grant—a sut roedd o'n dod â budd ac arbedion ariannol, a'i werth o yn gyllidol. Allwch chi jest ymhelaethu ychydig ar hynny, os gwelwch chi'n dda, i gychwyn?
12 Ionawr 2023 , Local Government and Housing Committee
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023 - 24 - sesiwn dystiolaeth 2: Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Ydy o'n gweithio rŵan? Fe wnawn ni wirio bod yr offer technegol yn gweithio.
12 Ionawr 2023 , Local Government and Housing Committee
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023 - 24 - sesiwn dystiolaeth 2: Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Diolch, Cadeirydd. Os caf i fynd at un pwynt ddaru chi sôn amdano ar y cychwyn, fe ddaru chi, Weinidog, sôn yn eich cyflwyniad am yr housing support grant—
12 Ionawr 2023 , Local Government and Housing Committee
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 - sesiwn dystiolaeth 1: llywodraeth leol
Os caf i ofyn un cwestiwn arall, os gwelwch yn dda. Os caf i jest fynd at un adran wahanol, fwy penodol, o fewn eich awdurdodau lleol, a hynny ydy tai a digartrefedd yn benodol. Y tu hwnt i'ch cyllidebau chi, wrth gwrs, rydyn ni'n gweld bod yr housing support…
12 Ionawr 2023 , Local Government and Housing Committee
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 - sesiwn dystiolaeth 1: llywodraeth leol
Diolch am yr ateb yna. Mae'r pwynt olaf yna yn dod â fi at fy nghwestiwn nesaf. Rydyn ni wedi sôn am yr angen i ddangos parch i'r gweithlu yn y sector gofal cymdeithasol, ac, wrth gwrs, mae'r cyflog byw go iawn yn mynd i fod yn rhan o hyn rŵan. Ydy'r cyflog…
12 Ionawr 2023 , Local Government and Housing Committee
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 - sesiwn dystiolaeth 1: llywodraeth leol
Diolch yn fawr iawn. Dwi'n meddwl bod y neges yna yn reit glir o'r heriau sydd o'ch blaen, a gobeithio fydd o'n cyfoethogi ein dealltwriaeth ni a'r cyhoedd, o leiaf. O fynd ymlaen at wasanaethau oedolion a phlant, yn gyffredinol o edrych ar Gymru ar hyn o…
12 Ionawr 2023 , Local Government and Housing Committee
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 - sesiwn dystiolaeth 1: llywodraeth leol
Diolch.
12 Ionawr 2023 , Local Government and Housing Committee
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 - sesiwn dystiolaeth 1: llywodraeth leol
Diolch yn fawr iawn, Gadeirydd. Bore da. Diolch ichi am fynychu. Gaf i gychwyn—? O ran fframio'r drafodaeth yma, rydych chi wedi sôn am y gwasanaethau sydd yn angenrheidiol. Rydyn ni'n gwybod bod yna wasanaethau sydd yn statudol y mae'n rhaid i awdurdodau…
11 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ad-drefnu canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru
Diolch i Russell George am gyflwyno'r ddadl yma y prynhawn yma. Rŵan, ar y cychwn fan yma, dwi am bwysleisio ein bod ni ar y meinciau yma a, gwn, y meinciau draw hefyd yn gyfeillion i'r ambiwlans awyr. Mi ydyn ni'n dod at y mater yma fel critical friends, a'r…
11 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: 'Asedau Cymunedol'
A gaf i roi datganiad diddordeb, sef fy mod i'n gyfranddalwr mewn amryw fentrau cymunedol, sydd ar y record gyhoeddus? Diolch am y cyfle i gael siarad yn y ddadl yma heddiw. Fel y gwyddoch chi, fe wnes i gyflwyno cynnig cyn yr haf y llynedd ar rymuso…
10 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Datblygu Clystyrau Technolegol yng Nghymru—Cynhyrchu radioisotopau meddygol ac arbenigedd meddygaeth niwclear
Soniodd y Gweinidog am brosiect adweithydd pwll agored dŵr ysgafn Awstralia. Mewn gwirionedd rwyf wedi siarad â rhai o'r arbenigwyr yn Awstralia ym maes niwclear meddyginiaethol; rwyf wedi siarad ag arbenigwyr yng Nghanada hefyd, ac mae disgwyl i mi gael…
10 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Pwysau Gaeaf y GIG
Dwi am wneud dau bwynt a gofyn dau gwestiwn, os yn bosib. Fe ddaru'r Gweinidog ddweud ynghynt fod gan Gymru fwy o feddygon teulu yng Nghymru nag yn Lloegr. Dwi'n ofni bod hyn yn dangos diffyg dealltwriaeth, mewn gwirionedd, o'r sefyllfa rydyn ni'n wynebu…
10 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Gaf i ofyn i'r Gweinidog addysg a'r iaith Gymraeg ddod â datganiad ger ein bron ynghylch sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu sicrhau asesiadau cyfrwng Cymraeg amserol i blant sydd angen asesiad awtistiaeth? Mae gen i ambell i achos yn fy etholaeth o blant sydd…
14 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Peter Fox: Cyflwyno Bil Arfaethedig Aelod: Bil Bwyd (Cymru)
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A llongyfarchiadau i Peter Fox am lwyddo i ddod â'r Bil hwn mor bell, a hoffwn gymryd eiliad i fynegi fy nghefnogaeth gyffredinol i'r Bil hwn. Mae pandemig COVID-19 ac ymosodiad parhaus Rwsia ar Wcráin wedi dangos pa mor…
14 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch i'r Gweinidog am yr ateb. Mae nifer fawr o rieni a fferyllwyr, yn wir, wedi dod ataf i dros y dyddiau diwethaf yn pryderu nad ydyn nhw'n medru cael gafael ar penicillin, amoxicillin, clarithromycin ac erythromycin. Mae fferyllwyr yn methu rhoi…
14 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
1. Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r prinder gwrthfiotigau dros gyfnod y Nadolig? TQ699