15 Mehefin 2023 , Local Government and Housing Committee
Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol - Sesiwn Dystiolaeth 1
Diolch, Gadeirydd. Dwi jest eisiau edrych yn sydyn iawn ar rannu swyddi—job sharing. I ba raddau y mae job sharing, rhannu swyddi, yn cael ei hyrwyddo o fewn llywodraeth leol, ac yn meddwl am y gwaith yna, faint o ddata sy'n cael ei gasglu ynghylch hynny? Oes…
15 Mehefin 2023 , Local Government and Housing Committee
Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol - Sesiwn Dystiolaeth 1
Diolch am ddod y bore yma, a diolch am eich atebion chi. A gaf i ofyn yn syml ar gefn yr hyn rydych chi wedi'i ddweud, Nia a Lis yn fwy na'r ddau arall, yn eich barn fwy personol yn hytrach na phroffesiynol, pam fod yna dangynrychiolaeth gennym ni o fenywod…
14 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch i'r Gweinidog am yr ateb. Dwi am droi rŵan at Glastir. Mae Glastir, wrth gwrs, yn allweddol i nifer o ffermwyr Cymru—yn wir, mae'n gyfwerth â rhwng 10 y cant ac 20 y cant o drosiant nifer o'n ffermydd ni. Mae hi'n rhaglen bwysig, sy'n rhoi sicrwydd…
14 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch, Llywydd. Wel, mae’n ddiwrnod braf a phoeth arall gyda’r haul yn tywynnu fel y mae wedi bod yn gwneud ers tua chwe wythnos bellach. Mae’n gynnar yn y flwyddyn i fod yn siarad am sychder, ond y gwir amdani ydy bod y gwair yn barod yn crino a ffosydd yn…
14 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Dwi am droi y cwestiwn nesaf tuag at yr Undeb Ewropeaidd a'r pres sydd yn dod o'r Undeb Ewropeaidd. A dwi'n deall fod yna gyfanswm oddeutu £500 miliwn yn dal yn weddill i Gymru o ran y cyllid Undeb Ewropeaidd. Mae gennym ni tan ddiwedd y flwyddyn yma er mwyn…
14 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Diolch am eich ymateb. Wrth gwrs, ni sonioch chi am y cynnydd—[Anghlywadwy.]—roedd y gyllideb yn £139 miliwn yn ôl yn 2012, ac yn arian heddiw, mae hynny'n cyfateb i £186 miliwn. Felly, mewn termau real, dyna doriad o £20 miliwn y maent wedi'i gael dros 10…
14 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Diolch, Lywydd. Wel, Lywydd, rwy'n clywed pethau sy'n peri cryn bryder gan lywodraeth leol a'r sector digartrefedd ynglŷn â'u gallu i roi mesurau atal digartrefedd ar waith. Mae cynrychiolwyr o’r sector wedi dweud wrthyf fod llawer o gomisiynwyr a darparwyr…
13 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Y Bil Seilwaith (Cymru)
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad yma y prynhawn yma ac am y cyfle i ymateb iddo fo. Rŵan, fel egwyddor cyffredinol, mae'n dda gweld bod yna gamau ar droed i symleiddio'r broses ar gyfer rhoi caniatâd i ddatblygu isadeiledd o bwys cenedlaethol. Ond mae yna…
25 Mai 2023 , Health and Social Care Committee
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Diolch yn fawr iawn, Gadeirydd. Dwi jest eisiau datgan diddordeb. Mae fy ngwraig yn gweithio i elusen sydd yn eirioli i blant a phobl ifanc sy'n cael eu heffeithio gan y ddeddfwriaeth rydym ni'n ei thrafod heddiw. Diolch.
24 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Bwyd (Cymru)
Dwi am gychwyn fy nghyfraniad trwy longyfarch Peter Fox am lwyddo i ddod â'r Bil hwn i'r pwynt yma ar ei daith, a dwi am gymryd eiliad i fynegi ein cefnogaeth gyffredinol i'r Bil hwn unwaith eto. Mae Plaid Cymru eisiau gweld Cymru lle mae gan bawb fynediad…
18 Mai 2023 , Public Accounts and Public Administration Committee
Adfywio Canol Trefi: Sesiwn dystiolaeth
Diolch. Dwi wedi cymryd digon o'ch amser chi. Dwi'n gwybod bod Natasha yn cymryd diddordeb penodol yn y pwynt yna. Dwi'n gweld llaw Natasha i fyny, Gadeirydd, os caf i drosglwyddo i Natasha.
18 Mai 2023 , Public Accounts and Public Administration Committee
Adfywio Canol Trefi: Sesiwn dystiolaeth
Diolch. Ond, o ran gweledigaeth, dwi wedi cael y pleser a'r fraint o deithio o amgylch ambell wlad yn Ewrop dros y rhai blynyddoedd diwethaf, ac mae ganddyn nhw, o'r trefi lleiaf i'r dinasoedd mwy, trams—light rail—yn cysylltu cymunedau, yn mynd trwy'r…
18 Mai 2023 , Public Accounts and Public Administration Committee
Adfywio Canol Trefi: Sesiwn dystiolaeth
Diolch. Felly, mae camau ar y gweill. Fedrwch chi ymhelaethu ychydig ar y rôl rydych chi'n meddwl sydd gan drafnidiaeth yn hyn—trafnidiaeth gyhoeddus yn benodol? Rydyn ni wedi gweld llai o bres yn mynd mewn i fysiau oherwydd bod llai o bres cyhoeddus ar gael…
18 Mai 2023 , Public Accounts and Public Administration Committee
Adfywio Canol Trefi: Sesiwn dystiolaeth
Yr un peth, mae'n rhaid i mi gyfaddef, dwi'n stryglo efo'n aml iawn, efo sesiynau fel yma, yn enwedig efo swyddogion y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus, ydy ei bod hi'n amlwg bod yna broblem, mae'n amlwg nad ydy pethau'n gweithio fel mae o, ond yna mae'r…
18 Mai 2023 , Public Accounts and Public Administration Committee
Adfywio Canol Trefi: Sesiwn dystiolaeth
Ymhellach i hynny, rydym ni wedi gweld—. Ddaru'r Cadeirydd gyfeirio ynghynt at y ffaith bod yna ddatblygiadau tu allan i drefi wedi bod yn digwydd dros yr 20 mlynedd diwethaf, neu ychydig mwy, hwyrach. A ydych chi'n meddwl bod cynlluniau datblygu lleol, a'r…
18 Mai 2023 , Public Accounts and Public Administration Committee
Adfywio Canol Trefi: Sesiwn dystiolaeth
Diolch, Gadeirydd, a diolch i'r tystion am ddod i mewn y bore yma. Jest i gyffwrdd ychydig ar yr hyn sydd wedi cael ei ddweud eisoes—cwestiwn blaenorol gan Rhianon, o ran gallu awdurdodau lleol. Rydym ni wedi cyffwrdd ychydig ar y capasiti; mae hynna yn…
18 Mai 2023 , Public Accounts and Public Administration Committee
Penodiadau Cyhoeddus: Sesiwn dystiolaeth
Not now. I'm afraid I'm going to have to leave now, sorry, Chair.
18 Mai 2023 , Public Accounts and Public Administration Committee
Penodiadau Cyhoeddus: Sesiwn dystiolaeth
Diolch yn fawr iawn. Diolch, Gadeirydd.
18 Mai 2023 , Public Accounts and Public Administration Committee
Penodiadau Cyhoeddus: Sesiwn dystiolaeth
Diolch. A Dr Atewologun.
18 Mai 2023 , Public Accounts and Public Administration Committee
Penodiadau Cyhoeddus: Sesiwn dystiolaeth
Diolch yn fawr iawn ichi. Mae hynny'n ddefnyddiol iawn ac yn dweud lot am yr uned a sut mae angen ei hyrwyddo, hwyrach, a’r gwaith yna. Ar lefel wahanol, o'm profiad i, dwi’n gwybod pan oeddwn i wedi rhoi fy enw ymlaen i fod yn llywodraethwr ysgol, er…
18 Mai 2023 , Public Accounts and Public Administration Committee
Penodiadau Cyhoeddus: Sesiwn dystiolaeth
Diolch yn fawr iawn. Felly, mae'r broses anffurfiol yna yn mynd ymlaen, p'un ai ydyn ni'n licio fo neu beidio. Wrth gwrs, mae gennym ni yn y fan yma yr uned cyrff cyhoeddus ac mae'r uned cyrff cyhoeddus yma i fod i ddarparu hyfforddiant neu gymorth er mwyn…
18 Mai 2023 , Public Accounts and Public Administration Committee
Penodiadau Cyhoeddus: Sesiwn dystiolaeth
Diolch. Yn yr un modd, Dr Atewologun, oes yna ymchwil yn dangos bod y cylchoedd anffurfiol yna y mae pobl yn byw ynddyn nhw yn dylanwadu ar apwyntiadau?
18 Mai 2023 , Public Accounts and Public Administration Committee
Penodiadau Cyhoeddus: Sesiwn dystiolaeth
Diolch. Ar y pwynt yna, roeddech chi'n awgrymu bod rhai prosesau lle rydych chi'n gwybod o flaen llaw, i bob pwrpas, pwy sy'n mynd i gael apwyntiad. Rydyn ni wedi clywed efo cyn gadeirydd y BBC ei fod o'n gyfaill efo'r Prif Weinidog a hwyrach fod yna ran yn…
18 Mai 2023 , Public Accounts and Public Administration Committee
Penodiadau Cyhoeddus: Sesiwn dystiolaeth
Diolch, ac rwy'n siŵr bod y wybodaeth yna'n ddefnyddiol iawn i ni, fel pwyllgor, wrth ein bod ni'n astudio'r pwnc yma. Dyna adborth. Yn meddwl am y broses cyn yr apwyntiad, mewn rhai achosion mae yna ddisgwyl i bobl fynd i wrandawiad cyn penodi. Yn enwedig yn…
18 Mai 2023 , Public Accounts and Public Administration Committee
Penodiadau Cyhoeddus: Sesiwn dystiolaeth
Diolch. Doyin.