7 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: Gweithio gyda llywodraeth leol i ddarparu mwy o dai fforddiadwy
Yn gyntaf, rhaid imi fynegi siom ynghylch diffyg mentrau neu strategaethau newydd a amlinellir yn y datganiad. Mae'n ymddangos ei bod yn ailadrodd ymrwymiadau presennol heb gynnig unrhyw ddulliau arloesol i fynd i'r afael â'r argyfwng fforddiadwyedd tai…
7 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Blaenoriaethau ar gyfer newid hinsawdd a materion gwledig
Very quickly, yn fyr iawn, hoffwn godi mater dolur rhydd firol buchol, os gwelwch yn dda. Mae'n glefyd ofnadwy i'r anifeiliaid hynny, ac fe wnaed datganiad yn ôl ym mis Ionawr 2023, gan y Gweinidog blaenorol bryd hynny, yn dweud y byddai'n edrych ar gyflwyno…
7 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
A gaf i ofyn am ddatganiad ar lawr y Siambr yma, os gwelwch yn dda, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd am gynlluniau'r Llywodraeth i fynd i'r afael â'r pwysau anferthol sydd ar adrannau brys yn ein hysbytai ni? Heddiw, rydyn ni wedi clywed fod bwrdd…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Gaza—Ymateb Cymreig
Diolch yn fawr iawn i ti, Peredur, am dy agoriad rhagorol a phwerus iawn i'r cyfraniad yma. Mae'r rhai hynny sydd yn amddiffyn gweithredoedd gwladwriaeth Israel yn dweud mai amddiffyn eu hunain mae'r wladwriaeth honno, ond nid gweithred amddiffynnol ydy lladd…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Uchafswm ar roddion gwleidyddol
Rydych chi'n dweud na wnaed unrhyw beth camweddus, ac rwy'n derbyn, yn ôl y rheolau, na wnaed unrhyw beth camweddus. Mae eich cyd-Aelodau wedi dweud na fyddent wedi derbyn yr arian; mae Jeremy Miles, er enghraifft, wedi dweud hynny. A fyddech chi wedi derbyn…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Uchafswm ar roddion gwleidyddol
A wnewch chi ildio?
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet mewn cyfweliad gydag asiantaeth newyddion PA yn ddiweddar, 'Yr hyn y buom yn ceisio ei wneud yw canolbwyntio ar y rhai sydd wedi bod yn aros hiraf.' A ddylai fod yn canolbwyntio ar y rhai sydd wedi bod yn aros hiraf neu a…
25 Ebrill 2024 , Health and Social Care Committee
Gwrandawiad cyn penodi ar gyfer rôl Cadeirydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda: sesiwn dystiolaeth gyda'r ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru
Diolch yn fawr iawn. Diolch, Gadeirydd.
25 Ebrill 2024 , Health and Social Care Committee
Gwrandawiad cyn penodi ar gyfer rôl Cadeirydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda: sesiwn dystiolaeth gyda'r ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru
Diolch am yr ateb hynny. Os felly, gan ddilyn ychydig o'r hyn dŷch chi wedi ei ddweud, dwi'n dod o'r ardal fy hun—ces i fy magu yn wreiddiol yn sir Gaerfyrddin ac yng Ngheredigion, mae fy nheulu yn dal i fyw yno—y rhan helaethaf ohonyn nhw—ac maen nhw i gyd…
25 Ebrill 2024 , Health and Social Care Committee
Gwrandawiad cyn penodi ar gyfer rôl Cadeirydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda: sesiwn dystiolaeth gyda'r ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru
Diolch, Gadeirydd, a diolch yn fawr iawn, Neil, am ddod i'r cyfweliad yma a chyflwyno'ch syniadau chi. Dwi'n mynd i ddilyn trywydd rhywbeth roedd Mark wedi'i godi ynghynt o ran y gymuned. Wrth gwrs, mewn unrhyw sefydliad a chorff mawr, cyhoeddus, fel Bwrdd…
24 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch am yr ateb yna. Mae'r penderfyniad a gymerwyd ddoe yn un hynod ddadleuol am sawl rheswm, ac mae trigolion gogledd orllewin a chanolbarth Cymru yn syfrdan. Mae yna ddau ranbarth iechyd yn benodol am gael eu heffeithio yn sgil y penderfyniadau yma…
24 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
1. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar ganlyniad terfynol adolygiad y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys i ddarparu gwasanaethau ambiwlans awyr yng Nghymru yn y dyfodol? TQ1050
24 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol
Diolch am yr ateb yna. Wrth gwrs, mae angen inni weld y Llywodraeth yma’n gweithio yn drawsadrannol. Felly, fel man cychwyn, dwi am wybod faint o gydweithio sydd, neu fydd, rhwng eich adran chi â’r adran addysg, er mwyn sicrhau bod gan ddisgyblion ysgol…
24 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol
9. Beth yw gweledigaeth y Llywodraeth ar gyfer hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol Cymru? OQ60976
23 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth: Blaenoriaethau ar gyfer Trafnidiaeth: Gwrando, partneriaeth, gwneud newid
Mae yna argraff glir yng nghefn gwlad Cymru erbyn hyn fod y Llywodraeth yma wedi cefni ar Gymru wledig. Yn fy etholaeth i, rydyn ni wedi gweld gwasanaethau bysiau y T2, y T3, y T19, gwasanaeth y 32, ac eraill, yn crebachu. Canlyniad hyn, wrth gwrs, ydy bod…
23 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Creu Cenhedlaeth ddi-fwg a mynd i’r afael â fepio ymhlith pobl ifanc
Fel rwyf wedi sôn sawl gwaith, mae'r agenda ataliol yn ganolog i ddyfodol hirdymor y GIG yng Nghymru, ac ychydig iawn o faterion mwy brys sydd i'r agenda hon fynd i'r afael â nhw na smygu, sy'n parhau i orfodi costau cymdeithasol ac economaidd annioddefol o…
23 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
A gaf i alw am ddatganiad am drafnidiaeth gyhoeddus yn ein cymunedau gwledig, os gwelwch yn dda? Yr wythnos diwethaf, cawsom ni ddealltwriaeth bod Trafnidiaeth Cymru yn bwriadu torri gwasanaethau trên llinell y Cambrian, fel dŷn ni wedi ei glywed. Bydd pedwar…
17 Ebrill 2024 , Health and Social Care Committee
Cefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig: sesiwn dystiolaeth gyda Phrif Swyddog Meddygol Cymru
Diolch.
17 Ebrill 2024 , Health and Social Care Committee
Cefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig: sesiwn dystiolaeth gyda Phrif Swyddog Meddygol Cymru
Diolch. Mae prif swyddogion meddygol cenhedloedd y Deyrnas Gyfunol wedi ysgrifennu am ddiffyg mesurau ataliol eilaidd, yn enwedig ar ôl cyfnod y pandemig. Allwch chi ymhelaethu ar hyn, os gwelwch yn dda? Pa gamau dŷch chi'n meddwl y dylid eu cymryd er mwyn…
17 Ebrill 2024 , Health and Social Care Committee
Cefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig: sesiwn dystiolaeth gyda Phrif Swyddog Meddygol Cymru
Diolch yn fawr iawn. Mae yna un cwestiwn arall, os oes amser a'r Cadeirydd yn caniatáu.
17 Ebrill 2024 , Health and Social Care Committee
Cefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig: sesiwn dystiolaeth gyda Phrif Swyddog Meddygol Cymru
Ar hynny, os caf i'n sydyn, dŷch chi'n sôn am ofal cynradd, ac wrth gwrs mae amser yn gyfyngedig iawn efo meddyg efo'i glaf, felly hwyrach dyw'r amser ddim yna ar gyfer yr elfen ataliol yn llwyr. Dŷch chi'n sôn am ofal eilaidd, ac eto mae'r cyfle i feddygon…
17 Ebrill 2024 , Health and Social Care Committee
Cefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig: sesiwn dystiolaeth gyda Phrif Swyddog Meddygol Cymru
Diolch yn fawr iawn. O ran gofal ataliol, yr elfen ataliol yna, ydych chi'n meddwl bod gan y gweithlu iechyd presennol y gallu er mwyn gwneud y gwaith ataliol yna, ac nid yn unig y gallu, ond y cymhelliant a'r cyfle i wneud y gwaith ataliol angenrheidiol? Ac…
17 Ebrill 2024 , Health and Social Care Committee
Cefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig: sesiwn dystiolaeth gyda Phrif Swyddog Meddygol Cymru
A gaf i ddilyn ar y pwynt olaf yna ddaru chi wneud—rhywbeth ddaru Joyce Watson godi ynghynt? Dŷch chi'n sôn am lywodraeth leol: ydych chi'n meddwl bod aliniad llywodraeth leol a byrddau iechyd, neu'r diffyg aliniad rhyngddyn nhw, yn dal yn ôl unrhyw ymyrraeth…
17 Ebrill 2024 , Health and Social Care Committee
Cefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig: sesiwn dystiolaeth gyda Phrif Swyddog Meddygol Cymru
Gallaf. O ran targedu, beth ydych chi'n credu sydd angen ei wneud o ran targedu ymyriadau ataliol yn strategol er mwyn hyrwyddo iechyd yn effeithiol a lleihau anghydraddoldebau ar draws y boblogaeth gyfan?
17 Ebrill 2024 , Health and Social Care Committee
Cefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig: sesiwn dystiolaeth gyda Phrif Swyddog Meddygol Cymru
Diolch, Gadeirydd. Dwi'n mynd i ofyn yn Gymraeg. O ran mesurau ataliol sylfaenol, sut ydych chi'n meddwl y gellir targedu ymyriadau ataliol yn strategol er mwyn hyrwyddo iechyd yn effeithiol a lleihau anghydraddoldebau iechyd ar draws y boblogaeth, hynny ydy…