22 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Therapyddion lleferydd ac iaith
Rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt teg am sicrwydd ynglŷn â chyllid. Mae eich plaid chi mewn Llywodraeth yn y DU nawr, felly gallant roi'r sicrwydd, a gallant sicrhau ein bod yn cael y cyllid cywir. Felly, a wnewch chi agor trafodaethau gyda Keir Starmer ar…
22 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Therapyddion lleferydd ac iaith
A wnewch chi dderbyn ymyriad ar hynny?
22 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Therapyddion lleferydd ac iaith
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i Mark Isherwood am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, ac rwy'n ei ganmol am ddadlau'n angerddol dros yr achos penodol hwn dros y blynyddoedd. Fel y clywsom eisoes yn ystod y ddadl hon, cynyddodd y galw am wasanaethau therapi…
22 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwasanaethau canser
Rwy’n gwerthfawrogi’r gwaith sydd wedi bod yn mynd rhagddo gyda'r Felindre newydd, ac mae’n bwysig inni gael canolfan o safon fyd-eang, ond gan ei bod yn ysbyty annibynnol, onid ydych chi'n credu bod hwn yn gyfle a gollwyd i gael canolfan ganser newydd wedi'i…
22 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwasanaethau canser
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Fel dwi wedi sôn sawl gwaith, ac fel nifer ohonoch chi yma heddiw, mae unrhyw ddadl am ganser yn un sy’n agos iawn at fy nghalon i. 'I have skin in the game', ys dywed yr hen ddihareb Saesneg, oherwydd bod fy nhad yn…
22 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Dadl: 'Achos dros Newid' Cyfoeth Naturiol Cymru
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn i bawb am gyfrannu at y drafodaeth bwysig yma'r prynhawn yma. Diolch yn arbennig i Sam am gyd-noddi'r cynnig a siarad mor huawdl. Wrth gwrs, rydym ni i gyd yn ymwybodol o'r gwaith mae Sam yn ei wneud…
22 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Dadl: 'Achos dros Newid' Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae’r cynnig o’n blaenau ni heddiw yn un eithaf syml yn ei hanfod. Y cyfan mae’r cynnig yma yn galw amdano ydy i Gyfoeth Naturiol Cymru ymgysylltu’n rhagweithiol gyda chymunedau a sefydliadau lleol er mwyn cyflymu’r broses o sicrhau parhad y canolfannau yng…
22 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Dadl: 'Achos dros Newid' Cyfoeth Naturiol Cymru
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch ar y dechrau i'r Pwyllgor Busnes am roi'r amser i drafod y mater yma heddiw? A hefyd, gaf i ddymuno 'pen-blwydd hapus' i'r Dirprwy Brif Weinidog?
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Mynediad at Wasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol
Mae gofal sylfaenol yn gyfrifol am dros 90 y cant o gysylltiad cleifion â'r system iechyd, ond eto mae’n parhau i gael ei dangyllido, ac mae'r canran o arian sy’n mynd at ofal sylfaenol wedi crebachu’n sylweddol dros yr 20 mlynedd diwethaf. Fel dwi wedi sôn…
21 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad os gwelwch yn dda? Yn gyntaf, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Cwnsler Cyffredinol ar barodrwydd y Llywodraeth ar gyfer effaith debygol Mesur Aelod preifat yr Aelod Seneddol Kim Leadbeater ar oedolion â salwch terfynol ar…
16 Ionawr 2025 , Health and Social Care Committee
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26
Ôce. Diolch. Dyna’r cyfan, diolch yn fawr.
16 Ionawr 2025 , Health and Social Care Committee
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26
Un sydyn iawn. Eglurhad, os gwelwch yn dda, i fynd nôl un cam. Mi ddaru chi sôn am gostau asiantaeth; ddaru chi ddweud eu bod nhw wedi haneru. Mae'r ffigurau cyhoeddus diwethaf sydd gennym ni'n dangos mai traean sydd wedi mynd i lawr o 2022-23, o £325 miliwn…
16 Ionawr 2025 , Health and Social Care Committee
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26
Diolch.
16 Ionawr 2025 , Health and Social Care Committee
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26
Un pwynt yn benodol, os caf i, os gwelwch chi'n dda. Mi ddaru chi ddweud bod y Grange, o dan arweiniad Aneurin Bevan, mewn mesurau arbennig am A&E, rwy'n credu y dywedoch chi, neu'r adran frys. Sut mae’n bosib i ysbyty newydd sydd wedi cael ei lunio a’i…
16 Ionawr 2025 , Health and Social Care Committee
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26
Dyna fo. Iawn. Diolch.
16 Ionawr 2025 , Health and Social Care Committee
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26
Felly, i gael eglurhad, trafodaeth fyw ydy hi; does yna ddim penderfyniad wedi cael ei wneud.
16 Ionawr 2025 , Health and Social Care Committee
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26
Os caf i ofyn dau gwestiwn arall. I ddilyn ar hynny, ydyn ni felly yn gallu disgwyl gweld cyllideb ddigideiddio ar bob elfen o'r digidoli sydd yn digwydd? Achos mae yna sawl rhaglen meddalwedd ac yn y blaen yn cael eu datblygu. Ydyn ni'n gweld y pennawd yna…
16 Ionawr 2025 , Health and Social Care Committee
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26
Mae hwnna'n addawol, yn gadarnhaol, onid ydy, i glywed, ond wrth gwrs, rhan o'r gwariant cyfalaf ydy'r ystâd, a rhan arall, wrth gwrs, yw offer diagnostig. Y rhan lle dŷn ni fwyaf tu ôl hi ydy digidoli a'r elfen ddigidol yna er mwyn sicrhau bod pob elfen o…
16 Ionawr 2025 , Health and Social Care Committee
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26
Os rŷn ni'n edrych ar yr ystâd ar hyn o bryd, rŷch chi'n edrych ar Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, rŷch chi'n edrych ar Glangwili, rŷch chi'n edrych ar yr ysbytai yma sydd efo dŵr yn dod drwy'r to ac yn y blaen, y RAAC yn ymddangos yn rhai…
16 Ionawr 2025 , Health and Social Care Committee
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26
Diolch. Dwi eisiau jest edrych ychydig ar gyfalaf, os gwelwch yn dda. I ddechrau, roeddech chi'n dweud ar ben y drafodaeth yma heddiw fod yna gynnydd wedi bod yn y gyllideb gyfalaf o ryw £135 miliwn, dwi'n meddwl, neu rywbeth fel yna, ac mae'r gyllideb…
16 Ionawr 2025 , Health and Social Care Committee
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26
Diolch yn fawr iawn.
16 Ionawr 2025 , Health and Social Care Committee
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26
Dwi'n gwerthfawrogi hynny, ond mae hospices yn dweud wrthym ni'n unigol ac fel pwyllgor fod hwnna'n dal yn annigonol. Mi fydd nifer ohonyn nhw'n ei weld o'n amhosib cynnal lefel y gwasanaethau maen nhw'n ei ddarparu ar hyn o bryd. Felly, oes yna asesiad o…
16 Ionawr 2025 , Health and Social Care Committee
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26
Ocê. Felly, os ydych chi'n credu, yn y cyd-destun ariannol presennol, na fyddwch chi'n gallu llenwi'r bwlch yna o ran Llywodraeth Cymru, gan dderbyn wedyn y bydd rhai hospices, er enghraifft, rhai elusennau, yn gorfod tynnu'n ôl o ddarparu gwasanaethau, mi…
16 Ionawr 2025 , Health and Social Care Committee
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26
Wrth gwrs. Dwi'n parchu hwnna.
16 Ionawr 2025 , Health and Social Care Committee
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26
Os caf i amharu arnoch chi fanna am eiliad, sori, sut mae dweud hynny'n cysoni gyda'ch brawddeg gyntaf chi mai bwriad cynyddu'r dreth yma oedd i gynnal gwasanaethau cyhoeddus? Ond yn ôl eich cyfaddefiad chi rŵan, mae hyn yn mynd i effeithio ar wasanaethau…