10 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Diolch yn fawr iawn, Rhianon, ac yn amlwg rwy'n ymwybodol o'ch ymrwymiad cryf yn y maes hwn ac rwy'n hapus iawn i gyfarfod â chi cyn diwedd y tymor i drafod hyn. Fel y dywedais wrth Julie Morgan, mae yna broses ar y gweill a bydd y coleg brenhinol yn gwneud…
10 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Diolch yn fawr, Gareth, ac yn wir, roedd hwnnw'n un o'r materion a drafodais gyda'r pennaeth. Os ydym yn sôn am ysgol gerddoriaeth genedlaethol, mae angen iddo fod yn wasanaeth cenedlaethol, ac mae'r coleg yn ymwybodol iawn o hynny, ac er eu bod yn mynd…
10 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn atodol, Julie. Gwn y bydd y cynigion i gau'r adran iau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi peri pryder i bawb dan sylw. Mae'n bwysig cofio bod y coleg yn gorff annibynnol sy'n gyfrifol am ei faterion academaidd ei…
10 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Mae Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru yn galluogi pob plentyn a pherson ifanc, rhwng tair ac 16 oed, i elwa ar gyfleoedd i chwarae offeryn cerddorol, gan gynnwys drwy raglenni ysgolion fel Profiadau Cyntaf a Llwybrau Cerddoriaeth.
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Diogelu'r croen: Rôl ysgolion wrth atal canser y croen
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn darparu ystod o gyfleoedd datblygu'r gweithlu er mwyn i gydgysylltwyr ysgolion lleol sy'n hybu iechyd a llesiant gael yr wybodaeth ddiweddaraf am faterion cyfredol sy'n ymwneud â diogelwch rhag yr haul, y gallant eu…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Diogelu'r croen: Rôl ysgolion wrth atal canser y croen
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Ac a gaf i ddiolch i Sioned am gyflwyno'r ddadl hon, sydd wedi bod yn addysgiadol iawn ac sydd wedi ysgogi'r meddwl yn fawr? Fel y nododd Sioned, canser y croen yw'r canser mwyaf cyffredin yng Nghymru o bell ffordd. Cofnodwyd…
2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Y cynnydd o ran diwygio’r cwricwlwm a'r camau nesaf
Diolch yn fawr iawn, Carolyn, am y sylwadau cadarnhaol yna. Fel y dywedais i wrth Joel a Cefin, mae heriau cadw a recriwtio yn rhai go iawn, a dyna pam rydyn ni'n rhoi cymaint o bwyslais ar fod â chwricwlwm mor gyffrous a chefnogi iechyd meddwl ein gweithlu…
2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Y cynnydd o ran diwygio’r cwricwlwm a'r camau nesaf
Diolch, Jenny, ac rwy'n credu bod eich cydnabyddiaeth bod pob plentyn yn unigryw yn bwysig iawn oherwydd bod ein cwricwlwm wedi'i gynllunio i ganolbwyntio ar yr unigolyn a chanolbwyntio ar y gymuned, ac yn seiliedig ar y cynefin y mae plant a phobl ifanc yn…
2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Y cynnydd o ran diwygio’r cwricwlwm a'r camau nesaf
Diolch yn fawr iawn, Cefin, a diolch yn arbennig am eich croeso a'ch cefnogaeth i'r cwricwlwm newydd, ac am eich datganiad o gefnogaeth Plaid Cymru. Does dim byd pwysicach na gweithio gyda'n gilydd i hybu plant a phobl ifanc yng Nghymru, felly rwy'n…
2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Y cynnydd o ran diwygio’r cwricwlwm a'r camau nesaf
Diolch yn fawr iawn, Joel, am y sylwadau yna. Fe wnaf fy ngorau i ateb yr hyn a oedd yn ystod eithaf eang o sylwadau. Os caf ddechrau drwy ddweud ein bod ni i gyd, yn amlwg, eisiau i'n holl ysgolion fod yn fannau diogel a chroesawgar i bob plentyn a pherson…
2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Y cynnydd o ran diwygio’r cwricwlwm a'r camau nesaf
Rwy'n benderfynol y bydd pob plentyn yn elwa ar y cyfleoedd helaeth a gynigir gan y cwricwlwm hwn. Dros weddill tymor y Senedd, bydd y Llywodraeth hon, mewn cydweithrediad â phartneriaid a'r sector, yn rhoi pecyn cymorth cenedlaethol ar waith ar gyfer y…
2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Y cynnydd o ran diwygio’r cwricwlwm a'r camau nesaf
Diolch, Llywydd. Ers dod yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, cefais y fraint o ymweld â nifer o ysgolion a gweld y Cwricwlwm i Gymru ar waith. Mae mwy a mwy o'n harweinwyr a'n hathrawon yn manteisio ar y cyfle hwn i ddatblygu dysgu gyda phwrpas clir, sy'n…
18 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Awdurdodau Cymreig Datganoledig) (Diwygio) 2024
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei gyfraniad i'r ddadl? A gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r Gorchymyn.
18 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Awdurdodau Cymreig Datganoledig) (Diwygio) 2024
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 yn darparu ar gyfer sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil—y comisiwn—a diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru neu CCAUC. Y comisiwn fydd y corff…
12 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Diolch, Paul. Llongyfarchiadau i'r ysgol yn Aberdaugleddau am y gwaith a wnânt yn y maes hwn; mae'n faes pwysig iawn i weithio ynddo. Mae gofalwyr ifanc yn wynebu llawer iawn o heriau, ac mae gwir angen codi ymwybyddiaeth. Mae cefnogi gofalwyr ifanc wedi bod…
12 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Fis diwethaf, nodais fy mlaenoriaethau ar gyfer system addysg Cymru. Yn ganolog iddi, mae ymrwymiad parhaus i’n diwygiadau addysg, gyda ffocws ar wella safonau addysgol ledled Cymru, gan flaenoriaethu tegwch, cynhwysiant a llesiant.
12 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
A gaf i ddiolch i Alun Davies am ei gwestiwn a chadarnhau, yn wir, fod ADY yn flaenoriaeth bwysig i mi, fel y dywedais sawl gwaith yn y Siambr eisoes? Nid wyf yn cytuno â’ch asesiad braidd yn llwm o hynt y diwygiadau. Credaf fy mod wedi bod yn onest iawn yn y…
12 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Mae fy mlaenoriaethau ar gyfer ysgolion ym Mlaenau Gwent yn cynnwys codi lefelau cyrhaeddiad a chau’r bwlch ar gyfer ein dysgwyr tlotaf.
12 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Wel, diolch am dynnu sylw at yr adroddiad hefyd, Llyr, a gallais siarad yn y lansiad, a oedd yn brofiad cadarnhaol iawn, a chredwn fod gwerth cymdeithasol ymhlyg yn holl weithgareddau colegau addysg bellach a'u bod, drwy eu gwaith, yn dod â nodau llesiant…
12 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Ariannodd Llywodraeth Cymru adroddiad diweddar gan ColegauCymru, 'Dangos Gwerth Cymdeithasol Colegau Addysg Bellach yng Nghymru'. Mae’r adroddiad yn cydnabod effaith economaidd sylweddol a gwerth cymdeithasol y sector addysg bellach yng Nghymru, ac yn dangos…
12 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
A gaf i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i chi am godi hynny ac i gydnabod yr hyn sy’n swnio fel cyflawniad gwych gan ysgol Maenorbŷr, ac i ddiolch i Sharon Davies? Mae'n gamp enfawr i wneud hynny pan fyddwch yn ymdopi â chanlyniad tân, a byddwn yn ddiolchgar…
12 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Diolch yn fawr iawn, Joyce, a diolch am dynnu sylw at gynllun peilot y pencampwyr cyrhaeddiad. Roeddwn yn ffodus i allu cyfarfod â rhai o’r arweinwyr ysgolion sy'n cymryd rhan yn y cynllun peilot hwnnw ychydig wythnosau yn ôl, ac mae wedi bod yn llwyddiant…
12 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Rydym yn canolbwyntio ar sicrhau gwelliant parhaus mewn cyrhaeddiad addysgol fel y gall pob dysgwr gyflawni eu potensial. Byddwn yn cyflawni hyn drwy ddiwygio a gwella gyda’r nod o greu system gyfan sy’n gweithio i bob dysgwr, a chau’r bwlch cyrhaeddiad a…
12 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Diolch am eich cwestiwn atodol. A gaf i ddweud fy mod eisiau i’n hysgolion fod yn lleoedd cynhwysol, croesawgar i bob plentyn ac unigolyn ifanc? Credaf y dylai hynny fod yn fan cychwyn i bawb yn y Siambr hon, gan eich cynnwys chi, Laura. Rydym wedi bod yn…
12 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Nid addysg yw ffocws adolygiad Cass, er fy mod yn cydnabod y bydd egwyddorion a thystiolaeth o’r adolygiad yn bwysig i ysgolion. Rydym yn parhau â’n dadansoddiad o adolygiad Cass ac unrhyw oblygiadau i wasanaethau addysg yng Nghymru.