12 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Wel, Tom, dylech wybod popeth am dyllau duon, o ystyried bod gennym dwll du o £700 miliwn yn ein cyllideb o ganlyniad i'r ffaith ein bod wedi cael ein twyllo gan Lywodraeth Geidwadol y DU. Felly, dyna'r math o ffigurau rydym yn ymgiprys â nhw, nid y £18…
12 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Wel, mae'n amlwg nad ydych wedi bod yn talu sylw, Tom, oherwydd pwrpas y polisi hwn yw rhyddhau cyllid mawr ei angen i fuddsoddi yn ein hysgolion. Ac mae gennym addewid yn yr etholiad cyffredinol i ddefnyddio'r cyllid hwnnw i gynyddu niferoedd yr athrawon…
12 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Wel, mae'n dda eich gweld chi'n talu cymaint o sylw â hyn i faniffesto Plaid Lafur y DU. Rwy'n falch iawn fod gennym blaid sydd wedi ymrwymo i ymgyrchu dros addysg a buddsoddi mewn addysg. Fe fyddwch yn ymwybodol nad yw'r cynlluniau ar gyfer TAW wedi'u…
12 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Diolch am y cwestiwn atodol, Janet, a diolch i chi am eich cydnabyddiaeth o'r ffaith eich bod chi yn eich etholaeth wedi elwa o'n buddsoddiad cyfalaf sylweddol iawn yng Nghymru. Mae Conwy wedi elwa o fuddsoddiad o £41.8 miliwn mewn ysgolion ers i'r rhaglen…
12 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Mae ein rhaglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu yn trawsnewid i'n rhaglen dreigl newydd ar hyn o bryd. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyflwyno eu cynllun buddsoddi naw mlynedd, sy'n cael ei adolygu gan swyddogion ar hyn o bryd, ac rwy'n disgwyl…
12 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Diolch yn fawr, Russell. Rwyf eisiau i'n holl bobl ifanc, ni waeth lle maent yn byw yng Nghymru, gael cyfle i ddilyn y cyrsiau y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt. Fe fyddwch yn ymwybodol, ar hyn o bryd, fod gennym un ysgol ddeintyddol, a all olygu bod y bobl…
12 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
A gaf i ddiolch i Siân Gwenllian am y cwestiwn atodol hwnnw a'i sicrhau bod Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i gynyddu lleoedd hyfforddi ar gyfer holl aelodau'r tîm deintyddol, ond mae hyn wrth gwrs yn anodd iawn i'w gyflawni yn yr hinsawdd ariannol…
12 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Rwy'n croesawu'r ymrwymiadau yn y cynllun gweithlu strategol ar gyfer deintyddiaeth sy'n ymwneud ag addysg uwch, megis cynyddu nifer y lleoliadau therapi deintyddol BSc a chomisiynu rhaglen gyfnewid lefel 5 i 6. Bydd y rhain yn cael eu harwain gan AaGIC a…
4 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ymgynghoriad ar y Flwyddyn Ysgol
A gaf i ddiolch i Mark Drakeford am ei sylwadau? Rwy'n difaru naws rhai o'r sylwadau hynny, yr wyf yn teimlo eu bod yn cwestiynu fy ymrwymiad fy hun i blant a phobl ifanc, sef yr unig reswm pam fy mod i'n gwneud y swydd hon, a'r rheswm pam rwyf wedi gwneud…
4 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ymgynghoriad ar y Flwyddyn Ysgol
Diolch yn fawr iawn, Hefin. Yn wir, daeth y materion hynny i'r amlwg drwy'r ymgynghoriad: pryderon am bethau fel gwresogi eich cartref yn ystod hanner tymor estynedig ym mis Hydref a'r ffaith ei bod yn anoddach dod o hyd i weithgareddau i'w gwneud yn rhad ac…
4 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ymgynghoriad ar y Flwyddyn Ysgol
Diolch yn fawr iawn, Rhianon, am y croeso hwnnw i'r cyhoeddiad heddiw, sy'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Rwy'n hapus iawn i roi'r sicrwydd i chi fod presenoldeb yn gwbl hanfodol. Dydy plant ddim yn mynd i ddysgu a ffynnu os nad ydyn nhw yn yr ysgol, ac rydym…
4 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ymgynghoriad ar y Flwyddyn Ysgol
Diolch yn fawr iawn, Llyr. Fel y dywedwch chi, fe gafodd y Sioe Frenhinol a'r Eisteddfod eu cynnwys yn yr ymgynghoriad ac mae trafodaethau wedi bod gyda sefydliadau perthnasol mewn perthynas â hynny. Rwyf am fod yn glir iawn, serch hynny, fy mod i'n credu bod…
4 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ymgynghoriad ar y Flwyddyn Ysgol
A gaf i ddiolch i Vikki Howells am ei sylwadau ac am ei chefnogaeth? Rwy'n croesawu'n arbennig y ffaith eich bod chi wedi tynnu ar eich profiad fel athro a'r gydnabyddiaeth honno o ran faint o waith diwygio yr ydym yn gofyn i ysgolion ei reoli ar hyn o bryd…
4 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ymgynghoriad ar y Flwyddyn Ysgol
Diolch yn fawr iawn, Heledd. Fel y sonioch chi, roedd y gwaith hwn yn rhan o'n cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Roeddwn i'n ddiolchgar iawn am y gwaith a wnaethom gyda'n gilydd arno, yn enwedig y berthynas adeiladol iawn yr oedd gennyf â Siân Gwenllian ar…
4 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ymgynghoriad ar y Flwyddyn Ysgol
A gaf i ddiolch i Tom Giffard am ei sylwadau? Fe ddechreuodd mor gadarnhaol, onid oedd e, ac fe aeth popeth i lawr yr allt o'r fan yna, ond dyna ni. Dydw i ddim yn ystyried bod hyn wedi cael ei wthio o'r neilltu. Fel yr ydych wedi nodi, Tom, mae'r sylfaen…
4 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ymgynghoriad ar y Flwyddyn Ysgol
Fel y gŵyr yr Aelodau, ymrwymodd y Llywodraeth yn y rhaglen lywodraethu i archwilio diwygio'r flwyddyn ysgol, a hoffwn ddiolch i fy rhagflaenydd, Jeremy Miles, am ei holl ymdrechion yn y gwaith hwnnw. Hoffwn ddiolch hefyd i Siân Gwenllian am ei hymdrechion…
4 Mehefin 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ymgynghoriad ar y Flwyddyn Ysgol
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dair wythnos yn ôl, roeddwn i'n falch o ddod i'r Siambr hon a siarad â'r Aelodau am fy mlaenoriaethau ar gyfer y system addysg yng Nghymru. Rwyf bob amser wedi hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc, ac yn y datganiad hwnnw fe nodais yn…
22 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil addysg wleidyddol
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i Sioned Williams am gyflwyno’r ddadl hon ar addysg wleidyddol? Mae paratoi ein plant a’n pobl ifanc i gymryd rhan weithredol mewn cymdeithas yn hynod bwysig i iechyd ein democratiaeth. Hoffwn weld ein holl blant a…
14 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ein cenhadaeth genedlaethol—cyflawni blaenoriaethau addysg Cymru
Diolch yn fawr iawn, Adam. A gaf i ddweud eto faint rwy'n canmol y ffordd y gwnaeth Ysgol Dyffryn Aman a'r awdurdod lleol a'r gwasanaethau brys lleol ymateb i'r sefyllfa hynod anodd honno? Rwyf wir yn cydnabod yr effaith y bydd hynny wedi'i chael ar bawb dan…
14 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ein cenhadaeth genedlaethol—cyflawni blaenoriaethau addysg Cymru
Diolch yn fawr iawn i chi, Rhianon. Roedd hi'n bleser mawr bod yn eich etholaeth chi ar gyfer agor yr ysgol hyfryd honno—gwych iawn gweld ffrwyth y buddsoddiad enfawr hwnnw. Ac rydym ni wedi buddsoddi ymhell dros £2 biliwn yn adeiladau ein hysgolion yng…
14 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ein cenhadaeth genedlaethol—cyflawni blaenoriaethau addysg Cymru
Diolch yn fawr iawn i chi, Luke, ac fe wn i eich bod chi'n frwdfrydig iawn ynglŷn â'r maes hwn. Rwy'n siŵr na fyddech chi wedi disgwyl i mi nodi'r manylion i gyd yn y datganiad. Rwyf i wedi bod yn eglur iawn mai un o'r materion yr wyf i'n pryderu fwyaf amdano…
14 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ein cenhadaeth genedlaethol—cyflawni blaenoriaethau addysg Cymru
Diolch yn fawr iawn i chi, Jenny. Rwy'n gwybod eich bod chi'n frwdfrydig iawn am fynd i'r afael â gordewdra ac rwy'n credu bod llawer o gyfleoedd i mi gysylltu'r gwaith a wnes i yn fy swydd flaenorol gyda'r Gweinidog iechyd, sydd wedi ysgwyddo'r cyfrifoldeb…
14 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ein cenhadaeth genedlaethol—cyflawni blaenoriaethau addysg Cymru
Oeddwn, yn sicr. Rwy'n cydnabod hynny. Yr hyn yr wyf i'n ei ddweud wrthych chi yw fy mod i'n cymryd y peth o ddifrif; rwyf i am fynd ag ef ac ystyried beth arall y gallem ni ei wneud. Yn amlwg, fe wnaeth fy rhagflaenydd i adolygu'r canllawiau, ond rwy'n deall…
14 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ein cenhadaeth genedlaethol—cyflawni blaenoriaethau addysg Cymru
Diolch yn fawr iawn i chi, Sioned, am y pwyntiau pwysig iawn yna. Yn amlwg, ychydig iawn o amser a oedd gennyf i yn y datganiad, ac fe geisiais i ymdrin â chymaint â phosibl, ond rwy'n cydnabod pa mor hanfodol yw'r cysylltiadau hynny rhwng tlodi a phrofiadau…
14 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ein cenhadaeth genedlaethol—cyflawni blaenoriaethau addysg Cymru
A gaf i ddiolch i Alun Davies am ei gwestiynau? Yn wir, rwy'n cofio pan wnaethoch chi ddwyn y ddeddfwriaeth drwodd. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig inni gofio mai diwygiad cymhleth yw hwn, system o ddim hyd 25 sy'n darparu cynllun unedig ar gyfer plant a phobl…