13 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Rwy'n credu eich bod chi wedi amlinellu'n glir iawn y mathau niferus o niwed a all gael eu hachosi gan dorasgwrn—nid y toriad ei hun yn unig, ond y materion sy'n newid bywyd sy'n gallu dilyn yn aml, yn enwedig toriadau cymhleth iawn. Rwy'n credu bod y…
13 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn awyddus iawn i ddenu graddedigion tramor ac, yn wir, deintyddion rhyngwladol i weithio yma yng Nghymru. Mae'r deintyddion hynny sydd â gradd gyntaf o'r Undeb Ewropeaidd, neu'r Ardal Economaidd…
13 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Mae'r Gweinidog yn adolygu'r rheoliadau ynghylch caniatâd cynllunio ôl-weithredol ar hyn o bryd. Rwy'n credu bod yr hyn yr ydych chi'n ei ofyn yn benodol iawn, iawn ac mae'r Gweinidog yn ei lle ac wedi'ch clywed chi. Rwy'n credu y byddai'n well pe…
13 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
6 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch i chi. Fel gŵyr yr Aelod, rwy'n gwneud datganiad llafar bob blwyddyn ar ddileu TB a'n rhaglen dileu TB a'n cynllun cyflawni ni. Fe wnes i ddatganiad llafar heb fod ymhell iawn yn ôl, felly yn hytrach nag aros am un arall, y byddaf i'n ei wneud yn ôl…
6 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch i chi. Ni chefais i gyfle i weld y rhaglen Panorama a ddarlledwyd neithiwr, ond yn sicr fe wnaf i hynny. Rhoddodd y pwyllgor cynghori gwyddonol ar faetheg ystyriaeth i fwydydd wedi'u prosesu'n eithafol ym mis Mehefin y llynedd, ac maen nhw'n cynnal…
6 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
O ran eich ail gwestiwn, mae'r adroddiad rydych chi'n cyfeirio ato yn cael ei ystyried ar hyn o bryd, ac, fel y dywedwch chi, o ran gofal plant, mae hwnnw wedi'i ehangu'n sylweddol oherwydd y cytundeb cydweithio rhwng ein dwy blaid. Fe wnaf i ofyn i'r…
6 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Nid wyf i'n ymwybodol o'r chwarel yr ydych chi'n cyfeirio ati, ond rydych chi'n sicr yn siarad am gryn amrywiaeth o bartneriaid. Nid wyf i'n credu mai'r ffordd orau o ymdrin â hyn yw drwy ddatganiad llafar. Rwy'n credu y byddai'n well petaech chi'n…
6 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn. Fel y dywedwch chi, mae'n hanfodol bod mynd i'r afael â thlodi plant yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae'n thema drawsbynciol hefyd wrth gynllunio'r gyllideb. Mae gan bob Gweinidog gyfrifoldeb o…
6 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Mae cysylltedd digidol yr un mor bwysig â chynhwysiant digidol. Byddwch chi'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi bod â strategaeth ddigidol nawr ers tua 12 mlynedd, ac mae wedi bod yn dda iawn gweld y gwelliant sydd wedi'i wneud ym mhob iteriad o'r…
6 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Mae'n bwysig iawn bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu manteisio ar y rhain. Fel y dywedwch chi, mae llawer mwy o apiau yn ymddangos, ac mae angen i bobl allu eu defnyddio. Rwy'n credu bod y grŵp oedran y gwnaethoch chi gyfeirio ato yn amlwg yn grŵp…
6 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch, Llywydd. Mae tri newid i fusnes yr wythnos hon. Yn gyntaf, mae'r datganiad ar ymateb y Llywodraeth i ail gam cyd-ddylunio'r cynllun ffermio cynaliadwy wedi'i ohirio tan 11 Gorffennaf. Yn ail, mae angen atal y Rheolau Sefydlog i'n galluogi i drafod…
24 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Bwyd (Cymru)
Wrth ystyried y cynnig sydd gerbron y Senedd heddiw, fodd bynnag, credaf mai'r ffordd orau o adeiladu ar y momentwm hwnnw yw peidio â rhoi ystyriaeth bellach i'r Bil hwn. Rwy'n cefnogi amcanion cyffredinol y Bil, fel nifer ar draws y Siambr hon, a chredaf fod…
24 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Bwyd (Cymru)
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'n fawr y cyfle i ymateb i adroddiadau'r pwyllgor a chyflwyno safbwynt Llywodraeth Cymru ar egwyddorion cyffredinol y Bil Bwyd (Cymru). Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i Peter Fox a diolch iddo am ei…
24 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.45 i ystyried rhagor o welliannau i'r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn y Cyfnod Adrodd
Diolch. Wel, do, fel y gŵyr Sam Kurtz yn iawn, yn dilyn y ddadl yng Nghyfnod 3, mewnosodwyd gwelliant 55, ac felly, gosodwyd darpariaeth newydd yn adran 9, paragraff 3, 'Darpariaeth bellach ynghylch cymorth o dan adran 8', yn y Bil. Mae’n achosi ac yn creu…
24 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.45 i ystyried rhagor o welliannau i'r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn y Cyfnod Adrodd
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.45, gofynnir i’r Senedd gytuno i ystyried gwelliannau pellach i’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn y Cyfnod Adrodd, ac rwy'n gwneud y cynnig yn ffurfiol.
23 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Cryfhau ein cysylltiadau ag Iwerddon a Gogledd-Orllewin Lloegr
Felly, rwy'n credu bod Sam Kurtz wedi ateb ei gwestiwn ei hun, mewn gwirionedd. Dyma oedd is-bwyllgor Cabinet gogledd Cymru, roedd hyn yn ymwneud â gogledd Cymru, roedd hyn yn ymwneud â'n cysylltiadau o ogledd Cymru i ogledd-orllewin Lloegr a chyda'n…
23 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Cryfhau ein cysylltiadau ag Iwerddon a Gogledd-Orllewin Lloegr
Diolch yn fawr iawn. Yn sicr, mae Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy yn bartneriaid pwysig iawn i ni, ac mae Llywodraeth Cymru yn un o sylfaenwyr hirsefydlog y gynghrair honno. Mae'n bwysig iawn, unwaith eto, fel rwy'n dweud, ein bod ni'n gweithio ar draws ffiniau…
23 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Cryfhau ein cysylltiadau ag Iwerddon a Gogledd-Orllewin Lloegr
Diolch. Nid wyf yn credu bod hynny'n wir, yn anffodus. Ond mae'n dda iawn clywed bod y ddwy Senedd hefyd yn cydweithio'n agos iawn. Credaf mai un o'r teithiau cyntaf un y gwnes i erioed pan oeddwn i ar y meinciau cefn oedd mynd i Iwerddon i weld beth oedden…
23 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Cryfhau ein cysylltiadau ag Iwerddon a Gogledd-Orllewin Lloegr
Diolch, Rhun, am eich cwestiynau a'ch sylwadau. Rwy'n credu ei bod hi'n dda gweld y cysylltiadau hynny'n cael eu hadeiladu, ac mae'n ddiddorol iawn, oherwydd ar ôl i ni gyfarfod fel Cabinet brynhawn Iau, cynhaliwyd cynhadledd i'r wasg. Alla i ddim cofio pa…
23 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Cryfhau ein cysylltiadau ag Iwerddon a Gogledd-Orllewin Lloegr
Yn eich un chi, ydy o? Mae'n ddrwg gen i, Hannah. [Chwerthin.] Ydy, wrth gwrs—mae'n rhan o Delyn. Dyma'r tro cyntaf i mi ymweld a'r fan honno. Mae'n anhygoel gweld yr hanes yno, ac wrth gwrs, roedd Jim O'Toole, sy'n Gyfarwyddwr-reolwr yno, ac sy'n adnabyddus…
23 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Cryfhau ein cysylltiadau ag Iwerddon a Gogledd-Orllewin Lloegr
Diolch, Darren Millar, am y gyfres honno o gwestiynau. Felly, rwy'n credu eich bod chi'n drysu dau beth, mewn gwirionedd. Felly, pan oeddech chi'n sôn am awdurdodau lleol, felly, yn amlwg, yr wythnos diwethaf oedd is-bwyllgor Cabinet gogledd Cymru, a dyma'r…
23 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Cryfhau ein cysylltiadau ag Iwerddon a Gogledd-Orllewin Lloegr
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Gan mai fi yw Gweinidog Gogledd Cymru ac rwy'n byw yn y gogledd, rwy'n ymwybodol iawn o'r cysylltiadau agos a dwfn sydd gennym gyda'n cymdogion agosaf i'r dwyrain, yng ngogledd-orllewin Lloegr, ac i'r gorllewin, yn ynys…
23 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Wel, mae'n swnio i mi fel petai'r mater y mae Natasha Asghar yn ei godi yn fater gweithredol i ysbyty'r Faenor, felly rwy'n credu y byddai'n fwy priodol ysgrifennu at y bwrdd iechyd.
23 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Nid oes penderfyniad wedi ei wneud eto ar gynllun Ysbyty Brenhinol Alexandra, felly nid yw'n briodol cael datganiad llafar ar hyn o bryd.