6 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Er fy mod yn croesawu'r ffaith bod camau'n cael eu cymryd o'r diwedd gan Lywodraeth y DU, fel y dywedais, rwyf hefyd wedi dweud yn glir iawn nad oeddem yn rhan o'r trafodaethau hynny ychydig cyn cyhoeddiad y Prif Weinidog. Cyfarfûm ag Ysgrifennydd…
6 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Er fy mod yn croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i weithredu o'r diwedd, mae angen inni sicrhau nad oes unrhyw newidiadau'n digwydd a fydd yn niweidiol i'r cyhoedd yng Nghymru a'r rhai sy'n darparu cymorth, yn enwedig ein canolfannau achub a thimau…
6 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Wel, unwaith eto, rydych chi'n damcaniaethu, ac mae angen i bawb ohonom fod yn amyneddgar nes bod y gyllideb ddrafft yn cael ei chyhoeddi. Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwch am yr argyfyngau hinsawdd a natur. Rydym i gyd yn gorfod gwneud mwy—pob un ohonom—i…
6 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Wel, yn anffodus, oherwydd y sefyllfa ariannol ddifrifol a'r sefyllfa ariannol enbyd iawn a wynebwn, rydym i gyd wedi gorfod gwneud penderfyniadau nad aeth yr un ohonom i mewn i wleidyddiaeth i'w gwneud. Fe fyddwch yn ymwybodol fod y Cabinet yn blaenoriaethu…
6 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Ydw. Rwyf wedi colli cyfrif ar nifer y ffermwyr sy'n dweud wrthyf eu bod yn falch iawn eu bod yng Nghymru ac nid yn Lloegr. Mae angen i'r Aelod fod ychydig yn fwy amyneddgar, am wythnos neu ddwy eto, cyn i'r gyllideb ddrafft gael ei gosod, er mwyn cael yr…
6 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Wel, fe fyddwch wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud na allwn ddiogelu unrhyw gyllideb yn Llywodraeth Cymru, ac rwy'n deall yn iawn ei fod yn gyfnod o ansicrwydd mawr i'r sector amaethyddol, yn union fel unrhyw sector arall. Mae pawb yn wynebu heriau…
6 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Os gallaf fynd at eich cwestiwn ynghylch ffermio organig yn gyntaf, ymrwymais i ddarparu potiau bach o gyllid ar gyfer ffermio organig. Pan fydd cyllideb ddrafft 2024 wedi'i gosod, byddaf yn gallu cyflwyno ffigurau bryd hynny. Ar gynllun Cynefin Cymru, fe…
6 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Gallaf, yn sicr. Rwyf wedi sicrhau bod cyllid ar gael yn gyson dros nifer o flynyddoedd i wella rheoli maethynnau ar ffermydd. Yn 2022 fe wnaethom gynnig cyllideb gyfunol o £18 miliwn ar gyfer dau gynllun a oedd yn cefnogi buddsoddiadau seilwaith ar y fferm…
6 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Rydym wedi talu mwy na £30 miliwn o ragdaliadau cynllun y taliad sylfaenol 2023 i dros 96 y cant o hawlwyr yn sir Gaerfyrddin a sir Benfro ers 12 Hydref. Gall ffermwyr wneud cais i gynlluniau grant eraill hefyd wrth iddynt ddod ar gael. Yn ogystal, mae…
6 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Ni allaf ateb y cwestiynau hynny eto gan mai dim ond ar 10 Tachwedd y caeodd y cyfnod ymgeisio ar gyfer cynllun Cynefin Cymru. Rydym yn gwneud yr holl wiriadau gweinyddol ar hyn o bryd, ac yna bydd contractau'n cael eu dyfarnu.
6 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Mae'r cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig yn cynnwys gofyniad i o leiaf 10 y cant o dir ar ffermydd yn y cynllun gael ei reoli fel cynefin er budd bioamrywiaeth yn rhan o'r broses barhaus o gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. Edrychaf ymlaen at lansio'r cynllun…
5 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2023
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i Adam Price am ei sylwadau a'i gwestiynau. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud, wyddoch chi, mai gwelliannau technegol yw'r rhain ac nid oes unrhyw newidiadau polisi. Mae'n sefyllfa anarferol iawn, oherwydd…
5 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2023
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig cymeradwyo'r offeryn statudol ar gyfer Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2023. Mae hwn yn offeryn statudol technegol heb unrhyw oblygiadau polisi. Mae'r…
5 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Wel, mae hwn yn fater lle mae'n rhaid i ni weithio mewn partneriaeth. Gallwn ni ddim ei adael i awdurdodau lleol na Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos iawn gyda'n holl bartneriaid o ran gwaith adfer ac yn amlwg i sicrhau…
5 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Rwy'n credu eich bod chi wedi codi pwynt pwysig iawn. Yn sicr, rydyn ni wedi gweld nifer sylweddol o fanciau'n cau, ar draws ein cymunedau yma yng Nghymru. Yn amlwg, mae'n fater a gedwir yn ôl, ond, yn amlwg, mae'n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn…
5 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu eich bod chi'n iawn, roedd hi'n sicr yn bleidlais bwysig iawn. Gwnaeth i mi feddwl am yr holl waith a wnaeth Julie Morgan mewn bywyd blaenorol, pan oedd hi'n AS, a'r trafodaethau y cawson ni nôl yn gynnar yn y degawd diwethaf…
5 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Mae'r Gweinidog wedi bod yn glir iawn gyda'r byrddau iechyd ynghylch ei disgwyliad am well perfformiad trosglwyddo ambiwlansys i ryddhau capasiti ambiwlansys, ac mae hi'n buddsoddi mewn gofal argyfwng yr un diwrnod a gwelyau cymunedol ychwanegol, yn…
5 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Wel, fel y cyfeirioch chi, oherwydd cynnydd yn y galw byd-eang a materion gweithgynhyrchu, mae tarfu ar y cyflenwad o nifer o feddyginiaethau sy'n cael eu defnyddio i drin ADHD ar hyn o bryd. Mae'n effeithio ar bob rhan o'r DU, ac mae disgwyl i'r…
5 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Rwy'n gwerthfawrogi'n llwyr yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud, i lawer o deuluoedd, mae £1 y dydd yn swm sylweddol o gyllid. Ac fel y dywedwch chi, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y clybiau brecwast at ddiben penodol iawn, ac maen nhw wedi bod yn…
5 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Fel y gwyddoch chi, mae gan Lywodraeth Cymru strategaeth iechyd meddwl ac mae'r Gweinidog yn amlwg yn rhoi cyllid i bob bwrdd iechyd lleol, sydd wedyn yn gyfrifol am sicrhau bod y gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu ar gyfer salwch iechyd meddwl yn…
5 Rhagfyr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r datganiad deddfwriaethol ar Fil Senedd Cymru (rhestrau ymgeiswyr etholiadol) wedi cael ei dynnu'n ôl. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad…
28 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch i chi. Penderfyniad ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ddinbych a pherchnogion y SeaQuarium oedd y penderfyniad i'w gau. Nid oedd rhan i Lywodraeth Cymru yn y broses benderfynu. Fe wnaethpwyd darpariaeth yng nghyllideb cynllun amddiffyn yr arfordir ar gyfer y…
28 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Ydw, rwy'n gwbl hapus i barhau â fy nghefnogaeth i'r elusennau anhygoel sydd gennym ni yn y sector amaethyddol. Gwnes i gyfarfod â Grŵp Cymorth Ffermydd Cymru ddoe yn y ffair aeaf. Rydw i bob tro'n ceisio cyfarfod â nhw'n rheolaidd, ac yn amlwg yn y ffair…
28 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Wel, bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn absenoldeb y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, yn cael y trafodaethau hyn gyda gwasanaethau bysiau. Byddwch chi wedi clywed y ddau Weinidog yn dweud droeon yn y Siambr hon nad ydyn ni wedi gweld y gefnogaeth yn…
28 Tachwedd 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Roeddwn i'n ymwybodol o'r dystiolaeth a roddodd Trafnidiaeth Cymru i'ch pwyllgor yr wythnos diwethaf. Rwy'n credu eu bod nhw wedi dweud nad ydyn nhw wedi canolbwyntio ar bêl-droed yn yr un ffordd ag oedden nhw ar rygbi. Mae'n rhaid i mi ddweud, gan…