6 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Wel, mae'r Gweinidog yn ei lle ac fe glywodd eich cwestiwn. Rwy'n credu y byddai hi'n well pe byddech chi'n ysgrifennu yn uniongyrchol ati hi.
6 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch i chi. Rwy'n credu eich bod chi'n codi dau bwynt pwysig iawn, ond mae'r un olaf, yn fy marn i, yn un pwysig tu hwnt. Yn sicr, yn rhinwedd fy swydd o ran y gogledd, roeddwn i yn yr Eisteddfod yr haf y llynedd, pan gwrddais i ag ymwelwyr iechyd o Fwrdd…
6 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch i chi. Wel, yn amlwg, mae pob cyllideb wedi gorfod wynebu toriadau ar draws Llywodraeth Cymru, ac mae Gweinidog yr Economi, ac mae hwnnw, wrth gwrs yn bortffolio'r Dirprwy Weinidog hefyd, wedi gweld toriadau sylweddol y bu'n rhaid, wedyn, yn anffodus…
6 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Rwy'n ymwybodol eich bod chi wedi ysgrifennu ataf i, ac wrth gwrs fe fyddaf i'n ymateb i chi'r wythnos hon. Gydag NFU Cymru y bydd fy nghyfarfod nesaf i, yn union ar ôl i mi ymadael â'r Siambr wedi'r datganiad busnes hwn. Rydym ni wedi mynd allan i…
6 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch, Llywydd. Mae yna dri newid i agenda heddiw. Yn gyntaf, bydd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn gwneud datganiad ar adolygiad Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru o ddiwylliant a gwerthoedd—y camau nesaf. Yn ail, rwyf i wedi gohirio'r ddadl ar…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: BlasCymru
Diolch yn fawr, Ken, am y sylwadau a'r cwestiynau yna. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi, ac unwaith eto, wrth fynd yn ôl at y gwobrau coginio lle yr oeddwn i ddydd Mercher diwethaf, a oedd yn cael eu cynnal gan un o'r darparwyr sgiliau yma yng Nghymru, dywedodd…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: BlasCymru
Diolch am hwnna. Un o'r pethau roeddwn i wir eisiau ei wneud gyda BlasCymru y tro cyntaf nôl yn 2017 oedd dod â'r byd i Gymru, ac rwy'n meddwl ein bod ni wedi gwneud hynny. Gwnaeth y tîm o swyddogion sy'n gweithio ar hyn waith gwych, ac maent newydd adeiladu…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: BlasCymru
Diolch. Felly, fe godoch chi ychydig o gwestiynau a phwyntiau yna; fe geisiaf ateb pob un ohonyn nhw. Rwy'n credu eich bod chi'n iawn am optimistiaeth, mae'n anodd iawn. Mae cymaint o heriau, ac mae'n ymddangos bod yr heriau wedi digwydd un ar ôl y llall…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: BlasCymru
Wel, byddwn yn sicr yn cytuno â'r pwynt olaf yna, a gallaf eich sicrhau nad yw hynny'n mynd i ddigwydd. Hynny yw, mae'r dadansoddiad y gwnaethoch gyfeirio ato—a chefais sgwrs gydag NFU Cymru yn ei gylch—fel y dywedais i, yn hen ddata, a bydd dadansoddiad…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: BlasCymru
Diolch yn fawr, Cadeirydd. Mae'n bleser gennyf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd ar BlasCymru/TasteWales 2023. Lansiodd Llywodraeth Cymru y digwyddiad yn ôl yn 2017 ac mae wedi cael ei gynnal bob dwy flynedd ers hynny, hyd yn oed yn ystod…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch i chi. Mae'r ddau Weinidog wedi cytuno i gyflwyno datganiadau ysgrifenedig. Diolch.
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. O ran yr asesiadau o effaith economaidd ar y dadansoddiad economaidd cyn yr ymgynghoriad ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy, nid wyf yn credu y byddaf yn gwneud datganiad llafar ynghylch hynny. Rwyf wedi'i gwneud hi'n glir iawn bod y data hwn yn…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. O ran eich cais cyntaf, yn amlwg, mae'r ddwy sefyllfa y gwnaethoch chi eu hamlinellu yn annerbyniol, ac rwyf innau hefyd yn anfon fy nghydymdeimlad at y teulu sy'n gysylltiedig â'r ail enghraifft y gwnaethoch chi ei rhoi. Os ydyn ni'n edrych ar ein…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Wel, dydw i ddim yn credu bod gen i unrhyw beth mwy i'w ychwanegu, mewn gwirionedd, at yr ateb a roddais i Laura Anne Jones. Nid mater i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yw hwn; mater i Aneurin Bevan ydyw, felly rydych chi wedi gwneud y peth…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Wel, nid mater i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yw hwn; mae hwn yn amlwg yn fater gweithredol o fewn Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Fy nealltwriaeth i yw mai dim ond un claf y nos oedd yn mynd yno, ar gyfartaledd. Ac unwaith eto, mater…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Wel, yr hyn a wnaf yw gofyn i'r Gweinidog gynnwys eich materion chi hefyd yn y datganiad ysgrifenedig. Mae'n bwysig iawn bod gan ein cymunedau gwledig fynediad at fand eang yn y ffordd y mae gan ardaloedd trefol hefyd, ar gyfer busnes ac, yn amlwg, ar…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch. Yn sicr, gwnaf ofyn i'r Gweinidog priodol roi'r wybodaeth ddiweddaraf drwy ddatganiad ysgrifenedig.
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Wel, yn amlwg, rydyn ni'n croesawu myfyrwyr tramor i'n prifysgolion yng Nghymru, ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn ofalus iawn. Rwy'n gwybod bod Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn siarad ag is-gangellorion yn gyffredinol ar hyn o bryd ynghylch myfyrwyr…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Fe wnaf i gytuno i ddatganiad ar eich cwestiwn cyntaf, ond nid eich ail.
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch, Llywydd. Mae dau newid i fusnes y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon. Bydd dadl y pwyllgor yfory ar yr heriau sy'n wynebu gweithlu'r diwydiant creadigol yng Nghymru, a gafodd ei gohirio o'r wythnos diwethaf. Felly, mae'r ddadl ar adroddiad blynyddol y…
24 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Wrth gwrs, yn sicr, fe siaradaf â’r Gweinidog Newid Hinsawdd gan fod hyn yn rhan o’i phortffolio. Gwn fod ei swyddogion wrthi'n adolygu'r holl geisiadau a ddaeth i law gan awdurdodau rheoli risg, a bydd yn cyhoeddi rhaglen y flwyddyn nesaf ym mis Mawrth…
24 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Ar draws Llywodraeth Cymru, rydym yn gweithio’n agos gyda’n hawdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru fel yr awdurdodau rheoli perygl llifogydd arweiniol. Rydym yn annog awdurdodau rheoli risg i gyflwyno cynlluniau arfaethedig ar gyfer cyllid o dan ein…
24 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Diolch. Yn sicr, mae’r clybiau ffermwyr ifanc, fel y dywedwch, yn chwarae rôl hanfodol, a chredaf ichi grybwyll gwaith rhagorol yn fy sesiwn gwestiynau llafar ddiwethaf—ni allaf gofio ai esgidiau ymarfer neu esgidiau ydoedd—a oedd yn cael ei wneud yn un o'ch…
24 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Mae ffermwyr yn sir Benfro wedi cael bron i £18 miliwn o daliadau drwy gynllun y taliad sylfaenol ers mis Hydref, sef dros 99.9 y cant o hawlwyr. Mae’r cymorth hwn yn ychwanegol at ein gwasanaeth Cyswllt Ffermio, sy’n parhau i ddarparu cymorth a chyngor…
24 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Rydym wedi sicrhau bod £1.5 miliwn ar gael i gynllun môr a physgodfeydd Cymru ar gyfer 2023-24. Bu tri chylch ariannu, ac yn anffodus—yn amlwg, mae'n gynllun sy'n cael ei arwain gan alw—mae wedi bod yn siomedig, y nifer sydd wedi manteisio ar y cyllid hwnnw…