7 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog
Yn ffurfiol.
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Gaza—Ymateb Cymreig
Ni allaf dderbyn rhagor, mae'n ddrwg gennyf. Mae'n amlwg fod sicrwydd ynghylch yr hawl i ddychwelyd i unrhyw un sy'n gadael Gaza y tu hwnt i'n rheolaeth ni. Fodd bynnag, mae angen dod o hyd i atebion os ydym am allu cefnogi aduno yng Nghymru. Nid ydym wedi…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Gaza—Ymateb Cymreig
Yn hollol. Fel y dywedwch, mae'r bobl hynny'n mynd i'r gwledydd hyn i gadw pobl eraill yn ddiogel, ac mae'n erchyll eu bod yn cael eu rhoi yn y sefyllfa honno. Mae Llywodraeth Cymru yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â'r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Gaza—Ymateb Cymreig
A gaf i wneud peth cynnydd, os gwelwch yn dda? Nid ydym wedi gallu gwneud hyn i leddfu peth o'r dioddefaint yn Gaza, oherwydd nid yw'r Pwyllgor Argyfyngau Brys wedi gallu lansio ymgyrch. Ar hyn o bryd, mae'r Pwyllgor Argyfyngau Brys yn credu mai dim ond…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Gaza—Ymateb Cymreig
Fe edrychaf ar hynny i chi, ac yn amlwg fe ysgrifennaf atoch i roi gwybod i chi. Rydym wedi bod yn monitro unrhyw densiynau cymunedol sy'n ymwneud â'r gwrthdaro drwy ein rhaglen cydlyniant cymunedol, ac yn monitro unrhyw gynnydd mewn digwyddiadau casineb drwy…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Gaza—Ymateb Cymreig
'Nid wyf yn gwybod' yw'r ateb gonest.
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Gaza—Ymateb Cymreig
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Peredur Owen Griffiths, am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Mae pob un ohonom o amgylch y Siambr hon wedi cael ein dychryn gan y trais parhaus yn Israel, Palesteina a'r rhanbarth ehangach. Er nad yw materion polisi…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau, 'Gaeaf cynhesach: P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru'
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru godi pryderon am y system ragdalu a'r ffaith ei bod yn gwneud cam â'r bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas cyn i'r sgandal dorri yn gynnar yn 2023. Ysgrifennodd fy rhagflaenydd, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip, Jane…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau, 'Gaeaf cynhesach: P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru'
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A hoffwn ddiolch yn fawr iawn i aelodau'r Pwyllgor Deisebau am eu hadroddiad ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru ac am y cyfle i siarad ar ran y Llywodraeth y prynhawn yma. Gwnaeth yr adroddiad sawl argymhelliad…
24 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol
Diolch, a diolch am gyfarfod â mi ddoe. Fel y soniais wrthych, gwn fy mod i fod i gyfarfod â chadeirydd a phrif weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru—rwy'n credu bod hynny ddydd Llun, nawr—i drafod sefyllfa bresennol sector y celfyddydau yng Nghymru. Bydd…
24 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol
Diolch. Un o'r pethau a ddysgais ddoe pan oeddwn yn yr amgueddfa genedlaethol oedd mai dyma'r darparwr addysg mwyaf y tu allan i ysgolion yng Nghymru. Felly, gallwch weld pwysigrwydd yr amgueddfa genedlaethol o safbwynt arall. Pan ddychwelais, fe ddeuthum ar…
24 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod treftadaeth hanesyddol a diwylliannol yn cael ei phrofi a'i mwynhau gan bobl Cymru a'n hymwelwyr. Bydd ein blaenoriaethau newydd ar gyfer diwylliant yn annog dathlu a hyrwyddo ein treftadaeth…
24 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol
Wel, fel y dywedais, roedd ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i ddatblygu cynlluniau ar gyfer amgueddfa gogledd Cymru. Nid wyf yn meddwl bod ymrwymiad erioed, oni bai eich bod am fy nghywiro—. O edrych ar ymrwymiad y rhaglen lywodraethu, nid wyf yn credu bod…
24 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol
Wel, rwy'n credu bod ychydig o bwyntiau y mae angen imi eu pwysleisio i'r Aelod. Ymrwymiad y rhaglen lywodraethu yw datblygu cynlluniau ar gyfer amgueddfa gogledd Cymru. Rwy'n credu ei bod yn iawn ein bod yn rhoi amser i sicrhau bod hynny'n gywir. Fe fyddwch…
24 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol
Diolch. Yn yr hinsawdd ariannol anodd sydd ohoni, rwy'n falch ein bod wedi parhau i fuddsoddi yn amgueddfeydd gogledd Cymru, gan gefnogi datblygiad arwyddocaol Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis a sefydlu'r amgueddfa bêl-droed yn Wrecsam. Rydym hefyd wedi…
24 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol
Diolch. Credaf fod yr Aelod yn nodi pwyntiau pwysig iawn. Braille ar ganllawiau—mae hynny'n rhywbeth eithaf syml sy'n amlwg yn gallu helpu pobl. Rydym yn gwneud cryn dipyn o waith i sicrhau bod pobl yn gallu teithio ar ein rhwydwaith trafnidiaeth. Ddoe…
24 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol
Diolch. Edrychaf ymlaen at barhau â'r trafodaethau a gynhaliwyd gan ein rhagflaenwyr ynghylch gwaith y tasglu hawliau pobl anabl. Ac rwyf i fod i gyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth ddydd Llun. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn…
24 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol
Diolch. Mae gennyf ddyddiad yn y dyddiadur ar gyfer cyfarfod â chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, ond nid wyf wedi gwneud hynny eto. Fel y gallwch ddychmygu, mae gennyf restr hir iawn o bobl i'w cyfarfod mewn portffolio estynedig iawn, ond gyda chomisiynydd…
24 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol
Fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol i chi, Delyth, maent yn fy sicrhau nad oes unrhyw gynlluniau i gau unrhyw safleoedd. Felly, mae hynny'n ateb eich pwynt olaf. Mae'n amlwg eu bod wedi symud llawer o'r casgliad o gwmpas i sicrhau nad yw'n cael ei effeithio…
24 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol
Diolch. Ar hyn o bryd nid oes gan Amgueddfa Cymru unrhyw gynlluniau i gau unrhyw un o'i safleoedd. Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yw'r flaenoriaeth frys, ac rydym yn gweithio gyda nhw i ddatblygu cynllun busnes i fynd i'r afael â'r ôl-groniad sylweddol o…
24 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol
Yn sicr. Roeddwn i'n meddwl am fy ymweliad cyntaf, rwy'n credu, â'r llyfrgell genedlaethol, tua 16 mlynedd yn ôl, mae'n debyg, pan gefais fy ethol gyntaf, a chefais wahoddiad i fynd fel yr Aelod Cynulliad dros Wrecsam ar y pryd. Rwy'n eu cofio'n dweud wrthyf…
24 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol
Diolch. Nid wyf wedi cael cyfle i ymweld â'r llyfrgell genedlaethol yn ystod y mis diwethaf, ond gallaf eich sicrhau yn bendant ei bod ar fy rhestr o ymweliadau yn ystod yr wythnosau nesaf. Nid wyf yn siŵr os caf ddangos tuedd, ond mae'n sicr yn un o fy hoff…
24 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'r casgliadau y mae'n gofalu amdanynt yn rhan annatod o'n treftadaeth a'n cymdeithas. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r llyfrgell i'w chefnogi i wasanaethu pobl Cymru a sicrhau bod y casgliadau cenedlaethol yn cael eu diogelu…
24 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol
Diolch. Nid wyf wedi darllen adroddiad Simon Thurley, ond byddaf yn sicr yn ei ychwanegu at y pentwr mawr o waith darllen y mae angen imi ei wneud. Yn sicr fe wnaeth argraff arnaf fore ddoe—euthum i'r amgueddfa yn gynnar iawn, ac roeddwn i'n teimlo gymaint yn…
24 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol
Ni allaf ond ailadrodd yr hyn a ddywedodd y prif weithredwr, Jane Richardson, wrthyf yr wythnos diwethaf, sef na fydd yr amgueddfa genedlaethol yng Nghaerdydd yn cau. Soniais yn fy ateb cynharach i Laura Anne Jones am y gwaith y mae fy swyddogion yn ei wneud…