5 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Nawr, mae ein rhaglen teithio llesol yn amlwg yn cynnwys ardaloedd gwledig, ac mae awdurdodau lleol yn gallu dangos ar eu mapiau teithio llesol unrhyw ardaloedd yr hoffent eu nodi ar gyfer gwelliannau, ac ymrwymo'r cyllid hwnnw yn y blynyddoedd i ddod…
5 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch am y cwestiwn.
5 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i alluogi mwy o blant i gerdded, mynd ar eu sgwteri a beicio i’r ysgol. Rydym yn darparu cyllid grant i awdurdodau lleol bob blwyddyn er mwyn gwella llwybrau teithio llesol gerllaw ysgolion i gyflawni’r nod hwn…
5 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Rwy'n credu mai'r peth i'w gofio am yr arbediad o'r adolygiad ffyrdd yw nad oes unrhyw arbediad ar unwaith, oherwydd rydym yn parhau i adeiladu'r ffyrdd a oedd eisoes ar y gweill. Er enghraifft, mae pont afon Dyfrdwy yn mynd i gael ei chwblhau yn ddiweddarach…
5 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Mae'n llygad ei le fod patrwm defnyddio bysiau mewn ardaloedd gwledig yn anoddach. Rydym wedi ceisio blaenoriaethu yn y gwaith y buom yn ei wneud gyda'r sgrymiau rhanbarthol, fel rydym yn eu galw—yr awdurdodau lleol sy'n gweithio ar ôl troed rhanbarthol—yn…
5 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch am y cwestiwn.
5 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Yn gyntaf oll, ynglŷn â chost teithio ar fysiau, byddwn yn cytuno â Sam Rowlands fod llawer o docynnau bws wedi mynd yn uchel iawn, ac mae hynny—i fod yn glir—yn ganlyniad uniongyrchol i breifateiddio. Ers preifateiddio, mae prisiau bysiau wedi codi'n llawer…
5 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch. Ar y pwynt olaf, rydym yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a Trafnidiaeth Cymru i gael darlun cywir o'r llwybrau y mae cwmnïau'n dal i fod yn barod i'w rhedeg yng ngoleuni'r cymorth ychwanegol rydym wedi'i roi ar waith. Rydym yn gwneud cynnydd…
5 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch yn fawr, Carolyn. Mae'n hanfodol ein bod yn cael pobl yn ôl i'r arfer o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r defnydd wedi gostwng ar draws y byd ers y pandemig. Mae trafodaethau'n cael eu cynnal gyda Trafnidiaeth Cymru, partneriaid yn y diwydiant a…
5 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch, ac unwaith eto, rwy'n cydymdeimlo â theulu Ashley Rogers am ei farwolaeth gynamserol, y mae'n flin gan bob un ohonom amdani. Mae gormod o farwolaethau ar y ffyrdd yng Nghymru, oddeutu 80 y flwyddyn, sy'n rhywbeth rydym wedi arfer ag ef, ac ni ddylem…
5 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch. Rydym yn gweithio'n agos gyda chynghorau sir Gaerfyrddin a sir Benfro, yr awdurdodau priffyrdd sy'n gyfrifol am ddiogelwch ar y ffyrdd yn eu siroedd. Ers 2019, maent wedi cael dros £5 miliwn o gyllid ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd. Eleni, byddant yn…
5 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Rwyf wedi gofyn i'r Aelod o'r blaen am ei hawgrymiadau peirianyddol o sut arall rydym yn mynd i ailwampio'r rheilffordd yn llwyr heb ei chau. Nid wyf wedi cael unrhyw atebion, ond mae amser i gyflwyno'r syniadau hynny o hyd. Mae arnaf ofn fod hyn yn anochel…
5 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Nid wyf yn cytuno â hynny, gan fod y dystiolaeth yn dangos eu bod yn dal i ddod i Gaerdydd a’u bod yn dal i gael eu gwerthfawrogi gan lawer iawn o bobl. Pan fydd gennych 70,000 o bobl mewn un lle, i gyd yn ceisio gadael ar yr un pryd, mae'n ffaith ffisegol y…
5 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Nid yw’n bolisi cyffredinol.
5 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch. Yn y pedair blynedd hynny, nid yw'r seilwaith rheilffyrdd wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cymru i'r graddau y byddem wedi hoffi. Rydym wedi cymryd camau i ariannu camau cyntaf y gwaith o ddatblygu achos busnes er mwyn diogelu ein dyhead ar gyfer…
5 Gorffennaf 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch. Rydym yn gweithio'n galed i wella cysylltedd rheilffyrdd yng ngogledd Cymru drwy fuddsoddi lle mae gennym gyfrifoldeb datganoledig, gan gynnwys mewn trenau newydd. Mae'r seilwaith rheilffyrdd a gwasanaethau i Lundain yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i…
28 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Pobl hŷn ac agored i niwed sy'n berchen ar dai ac yn byw mewn cartrefi sy'n anaddas i bobl fyw ynddynt
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu, a Mabon ap Gwynfor am gyflwyno hyn i'r Senedd allu trafod y pwnc pwysig hwn, oherwydd mae diogelwch, urddas, ac annibyniaeth hen bobl yn eu cartrefi eu hunain yn fater o bwys enfawr i bob…
28 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar ddeiseb P-06-1340, 'Atal newid y terfynau cyflymder i 20mya ar 17eg Medi'
Bydd hwn yn bolisi anodd, nid oes dwywaith amdani. Dyma'r newid mwyaf ym maes diogelwch ar y ffyrdd ac iechyd y cyhoedd ers i'r Senedd ddod i fodolaeth. Mae'n newid mawr mewn ymddygiad i bobl sydd wedi'u hyfforddi ac sydd wedi treulio'u bywydau'n gyrru ar…
28 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar ddeiseb P-06-1340, 'Atal newid y terfynau cyflymder i 20mya ar 17eg Medi'
Diolch yn fawr iawn, Joyce. Rwy'n cydnabod yr arweinyddiaeth rydych wedi'i dangos ac y mae John Griffiths wedi'i dangos dros nifer o flynyddoedd ar y mater hwn. Ond gadewch imi ddyfynnu un ystadegyn i'r Senedd: yn y pellter y mae'n ei gymryd i gar sy'n…
28 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar ddeiseb P-06-1340, 'Atal newid y terfynau cyflymder i 20mya ar 17eg Medi'
—pan fydd cefnogi ymgyrchoedd lleol o fudd iddynt, rydym yn eu gweld yn y Siambr hon yn cefnogi egwyddor y mesur, rydym yn gweld cynghorau Ceidwadol yn cefnogi hyn, a nawr, maent yn nodi safbwynt eu plaid heddiw, gyda phawb yn dweud bod hwn yn waharddiad…
28 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar ddeiseb P-06-1340, 'Atal newid y terfynau cyflymder i 20mya ar 17eg Medi'
Hoffwn eich annog i ddarllen yr hyn a ddywedoch chi dair blynedd yn ôl, Janet, gan ichi gymeradwyo, yn benodol, yr argymhelliad diofyn yn adroddiad Phil Jones. A dweud y gwir, rwyf wedi clywed honiadau rhai o'r meinciau fod hwn yn bolisi gwrth-geir…
28 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar ddeiseb P-06-1340, 'Atal newid y terfynau cyflymder i 20mya ar 17eg Medi'
Iawn, wel, hoffwn eich annog—
28 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar ddeiseb P-06-1340, 'Atal newid y terfynau cyflymder i 20mya ar 17eg Medi'
Wrth gwrs.
28 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar ddeiseb P-06-1340, 'Atal newid y terfynau cyflymder i 20mya ar 17eg Medi'
Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl, ac i’r deisebwyr. Cytunaf â’r sylwadau ei bod yn iach iawn, pan fo mater yn codi y ceir teimladau cryf yn ei gylch, fod yna fecanwaith yn bodoli ar gyfer dod â'r mater hwnnw gerbron y Senedd inni gael dadl arno…
21 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch, ac mae'r Aelod yn gwneud pwynt cryf. Mae cynnwys gwydr yn arferol mewn cynlluniau ledled y byd, ac mae hynny'n dangos ei bod yn ffordd lawer mwy effeithiol o'i wneud. Trwy fabwysiadu ymagwedd gynhwysfawr, mae'n llawer cliriach i'r defnyddiwr, mae'n…